a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. 

    Y Senedd
  2. Croesawu 'gwarant gydol oes'

    Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn croesawu cadarnhad y Canghellor "y bydd y Trysorlys yn darparu gwarant gydol oes ar gyfer pob prosiect strwythurol a prosiectau buddsoddi fydd yn cael eu cymeradwyo cyn y bydd y DU yn gadael yr UE."  

  3. 'Methu amlinellu mesurau'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gresynu "nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd." 

     Mae hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "methu amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru."   

  4. 'Ddim yn ennyn hyder'

    Mae Andrew RT Davies yn ôl yn y Siambr ar ol rhoi blas gwahanol ar fater Brexit yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham yn gynharach.

    Mae'n dweud nad yw'r Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol "yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru."

    Andrew RT Davies
  5. 'Casgliad uchelgeisiol o flaenoriaethau'

    Mae Carwyn Jones yn dweud bod y rhaglen yn "gasgliad uchelgeisiol o flaenoriaethau" ac mae'n ychwanegu bod pobl Cymru wedi cefnogi hyn yn etholiad mis Mai.

    Mae'n derbyn yr angen i sicrhau bod digon o amser ar gael ar gyfer craffu mesurau yn y Cynulliad.

  6. Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

    Am yr awr nesa mae'r aelodau yn cael dadl ar Flaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol. 

    Symud Cymru Ymlaen yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. 

    Yn ôl y Llywodraeth mae Symud Cymru Ymlaen yn gosod rhaglen y Llywodraeth i wella economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan arwain at wlad sy'n ffyniannus a diogel, yn iach ac egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig a chysylltiedig. 

    Wrth gyhoeddi ei gynlluniau yn y Senedd ym mis Mehefin fe ddywedodd y Prif Weinidog y byddai ei lywodraeth yn cyflwyno chwe Mesur dros y flwyddyn nesaf - yn amrywio o sefydlu trethi datganoledig newydd i Gymru i sicrhau gwelliannau ym maes iechyd y cyhoedd, gan sicrhau cyflenwad digonol o dai cymdeithasol drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu, a diwygio'r system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

  7. Anghytundeb ynglŷn ag amseroedd agor meddygfeydd

    Wedi'r anghytundeb yn gynharach yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog ynglŷn â meddygfeydd teulu ar agor ar ôl 6pm, mae'r Ceidwadwyr yn dweud iddyn nhw gael y ffigyrau gan wasanaeth ymchwil y Cynulliad.

    Roedd Paul Davies wedi dweud mai dim ond 29% o feddygfeydd yng Nghymru sy'n cynnig apwyntiadau ar ôl 6pm   

    Meddygfa
  8. 'Effaith ddofn a chadarnhaol'

    Mae Mr Gething yn dweud bod pob grŵp gweithredu "wedi cael effaith ddofn a chadarnhaol gyda'u cynlluniau dosbarthu ac rydw i'n disgwyl i bob cynllun dosbarthu ar ei newydd wedd barhau i wneud hyn."

    Vaughan Gething
  9. Gwella Gofal i Afiechydon Difrifol

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Gwella Gofal i Afiechydon Difrifol.

    Mewn datganiad blaenorol fe gyhoeddodd sut y mae'r £1m gafodd ei ddyrannu i bob un o'r 10 o gynlluniau cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer afiechydon difrifol, wedi'i ddefnyddio i wella gwasanaethau i bobl Cymru. 

    Mae Mr Gething yn dweud bod yr arian wedi gwella gwasanaethau ar gyfer clefyd y galon, strôc, gofal critigol, ac iechyd meddwl. 

    Mae gofal ar gyfer clefyd yr afu, gofal niwrolegol a gofal diwedd bywyd hefyd wedi elwa.

    Nyrs
  10. Allan o drefn

    Mae'r Dirpwy Lywydd yn dyfarnu bod Rhianon Passmore allan o drefn am siarad am "gelwyddau y pleidiau gyferbyn" ynghylch cyllid i Gymru.

    Rhianon Passmore
  11. 'Peryg o greu rhagor o fiwrocratiaeth'

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod yna beryg o greu rhagor o fiwrocratiaeth, a thaliadau diswyddo gormodol i uwch swyddogion.

    Gareth Bennett
  12. 'Tro pedol ar fiasco'

    Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud roedd angen i Lywodraeth Cymru "wneud tro pedol ar fiasco dros y tair blynedd ddiwethaf."

    Mae'n dweud bod yna beryg y gallen ni gael ein gadael gyda 22 "cragen o awdurdodau lleol."

    Janet Finch-Saunders
  13. Rôl cynghorydd lleol yn dod yn 'fwy pwysig'

    Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd dosbarthiad gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn seiliedig ar ffiniau saith bwrdd iechyd Cymru, tra y bydd datblygu economaidd a thrafnidiaeth yn cael eu trefnu ar sail dinas-ranbarth.  

    Mae'n ychwanegu y bydd rôl cynghorydd lleol yn dod yn fwy pwysig.

  14. 'Gwasanaeth diwnïad i gleifion'

    Mae Sian Gwenllian yn dweud bod Plaid Cymru wastad wedi galw am gadw'r 22 awdurdod lleol, ac "rydw i'n falch bod y llywodraeth nawr yn cefnogi'r farn hon."

    Mae'n dweud "nad yw cynlluniau’r llywodraeth ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn eglur. Mae Plaid Cymru eisiau eu gweld yn datblygu ymhellach er mwyn cyflwyno gwasanaeth diwnïad i gleifion."

    Sian Gwenllian
  15. 'Haen ddemocrataidd' o lywodraeth leol

    Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd y 22 o gynghorau yng Nghymru yn parhau fel "haen ddemocrataidd" llywodraeth leol gyda chydweithrediad rhanbarthol ar ben hynny.

    Mark Drakeford
  16. 'Cyd-weithio i wella gwasanaethau cyhoeddus'

    O dan gynlluniau Mr Drakeford bydd gofyn i gynghorau Cymru weithio gyda'i gilydd mewn partneriaethau rhanbarthol i wella gwasanaethau cyhoeddus. 

    Mae'r cynllun yn cael ei weld fel ymdrech sylweddol i integreiddio gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar hyd yr un ffiniau a chael awdurdodau'n gweithio gyda'i gilydd ar drafnidiaeth, datblygiad economaidd a chynllunio.

    Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyflwyno cynlluniau mwy pendant erbyn diwedd y flwyddyn yn dilyn trafodaethau gyda chynghorau.

    O dan y cynlluniau, ni fyddai unrhyw newid i'r 22 o gynghorau presennol ond byddai awdurdodau yn cael eu hannog i uno yn wirfoddol. 

    Cynghorau
  17. Y Diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol

    Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford ar y diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol.   

    Daw hyn wedi iddo roi'r gorau i'r cynlluniau i dorri nifer y cynghorau o 22 i wyth neu naw. 

    Roedd cynlluniau i leihau'r 22 o awdurdodau lleol i wyth neu naw
  18. Gallai ffordd liniaru'r M4 'fod ar agor erbyn Hydref 2021'

    Mae Mr Skates yn dweud ei fod yn gobeithio y gallai'r darn newydd o ffordd fod ar agor erbyn Hydref 2021 os y bydd yn mynd yn ei flaen wedi'r ymchwiliad i opsiynau ar gyfer llwybr. 

  19. Oedi gyda'r ymchwiliad cyhoeddus yn 'anffodus'

    Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud ei bod hi'n "anffodus" bod yna oedi wedi i ddyddiad yr ymchwiliad gael ei gyhoeddi gyntaf ym mis Gorffennaf.

    Mae'n cyhuddo Llywodraeth y DU o beidio cysylltu â nhw ynghylch y gwelliannau i'w rhagolyon traffig ond dridiau cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno.

    Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y newidiadau i ragolygon traffig wedi cael eu cyflwyno dros naw wythnos yn ôl.

    Ken Skates
  20. Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd

    Nesa datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gorfod gohirio ymchwiliad cyhoeddus ar welliannau i'r M4 nes y flwyddyn nesaf.

    Mae Ken Skates wedi dweud bod hynny oherwydd i'r Weinidogaeth Drafnidiaeth yn San Steffan newid y ffordd maen nhw'n mesur newidiadau mewn traffig, a hynny heb ddweud wrth wleidyddion Caerdydd.

    Roedd disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus ddechrau ar 1 Tachwedd, ond fe fydd nawr yn digwydd yn y flwyddyn newydd.

    Yr M4