a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Canlyniad: Awstria 2-2 Cymru - canlyniad da wedi noson anodd i chwaraewyr Chris Coleman yn Fienna

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Awstria 2-2 Cymru: Nos da a diolch am ddarllen

    Cwpan y Byd 2018

    A dyna ni - mae'r llif byw wedi dod i ben - ymlaen i Gaerdydd ddydd Sul yn erbyn Georgia!

    Pwynt pwysig yn Fienna heno - ac mae pob un yn cyfrif!

    Nos da i chi.

  2. Marciau llawn i Marcel Koller?

    Cwpan y Byd 2018

    Roedd hyfforddwr Awstria Marcel Koller wedi dweud mai lwc oedd yn gyfrifol am lwyddiant Cymru yn Euro 2016 mewn cynhadledd i'r wasg ddoe.

    Mae'n deg dweud ei fod yn llygad ei le ar adegau heno - wrth i lwc chwarae ei ran i Gymru yn y canlyniad.

  3. Hapus gyda'r canlyniad

    Marc Lloyd Williams

    Dim y perfformiad gorau gan Gymru heno ond mi fuasai pawb wedi bod yn hapus i ddod adref gyda phwynt ar ddechrau'r noson. 

    Mi fydd Awstria yn siomedig eu bod heb fanteisio i gipio'r tri phwynt, ond da ni dal ar frig y grŵp ac ymlaen nawr i Gaerdydd nos Sul a Georgia.

    Tan hynny -  nos da gen i - a siwrne saff i chi gyd yn ôl o Awstria ag i lawr i Gaerdydd y penwythnos 'ma.

  4. Canlyniadau eraill Grŵp D

    Cwpan y Byd 2018

    Gweriniaeth Iwerddon 1-0 Georgia

    Moldofa 0 - 3 Serbia

  5. CANLYNIAD: Awstria 2-2 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    Cic rydd i Awstria yn ddwfn yn eu hanner eu hunain - cyn i'r chwiban chwythu!! Pwynt i Gymru!

  6. Awstria 2-2 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    Cymru'n cadw'r meddiant yn yr eiliadau olaf....

  7. Awstria 2-2 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    Eiliadau'n unig yn weddill - C'MON CYMRU!!

  8. Cerdyn i Janko

    Cerdyn Melyn

    am drosedd yn erbyn Gunter.

    Cic rydd i Gymru....ond Awstria'n clirio.

  9. Awstria'n pwyso

    Marc Lloyd Williams

    Awstria yn pwyso i chwilio am y gôl i ennill y gêm -  mi fydda nhw yn meddwl eu bod nhw wedi colli cyfle i gipio'r tri phwynt yma heno.

  10. Emyr Huws ymlaen

    Eilyddio

    90:00 + 1

    A Neil Taylor yn gadael y cae

  11. 5 munud o amser am anafiadau

    Cwpan y Byd 2018

  12. Schaub ymlaen yn lle Arnautovic

    Eilyddio

    84:00 MUNUD

  13. Awstria 2-2 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    83:00 MUNUD

    Cic gornel i Gymru - Ledley yn ei chymryd ond Awstria yn clirio - am gic gornel arall.

    Hon eto'n cael ei chlirio - a trydydd cic gornel i Gymru.

    Y dyfarnwr yn gweld trosedd - a chic rydd felly i Awstria.

  14. Pwynt yn ddigon?

    Marc Lloyd Williams

    Deg munud pwysig i Gymru rwan, fel mae hi'n sefyll mae pwynt yn Fienna yn bwynt arbennig o dda o ystyried pa mor dda mae Awstria wedi chwarae heno.

  15. Awstria 2-2 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    81:00 MUNUD

    Cyfle ARALL i Arnautovic! Cic o du allan i gwrt cosbi Cymru - ond methu o drwch blewyn.

  16. Awstria 2-2 Cymru

    Cwpan y Byd 2018

    78:00 MUNUD

    Tafliad hir arall gan Bale i'r cwrt cosbi - ond Awstria yn clirio gan wthio i lawr yr asgell.

  17. Schopf ymlaen i Awstria

    Eilyddio

    Junuzovic yn cael ei eilyddio gyda 12 munud i fynd.