a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar Y Fframwaith Cyllidol
  4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Cymru
  5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2017-18

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Y Senedd
BBC

Setliad Llywodraeth Leol 2017-18 wedi ei basio

Mae Setliad Llywodraeth Leol 2017-18 wedi ei basio.

Roedd 36 o blaid, 9 yn erbyn a 10 wedi ymatal.

y bleidlais
BBC

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Cymru wedi ei basio

Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Cymru wedi ei basio. 

Roedd 38 o blaid, 17 yn erbyn, neb wedi ymatal.

Y bleidlais
BBC

Setliad 'rhesymol'

Mae Gareth Bennett yn dweud y bydd UKIP yn cefnogi'r setliad "rhesymol".

Mae'n mynegi pryder ynghylch y defnydd o gardiau caffaeliad, cyflogau uwch swyddogion a gostyngiad yn nifer y gwasanaethau.

Setliad llywodraeth leol 'anodd arall'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn cyhuddo'r llywodraeth o gynhyrchu setliad llywodraeth leol "anodd arall" i gynghorau Cymru.

Mae'n dweud bod cyllidebau cynghorau wedi cael eu distrywio ar draws Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Janet Finch-Saunders
BBC

Na i'r 'ideoleg o lymder'

Mae Sian Gwenllian yn dweud bod Plaid Cymru yn gwrthod yr "ideoleg o lymder", ac yn canmol y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru i basio'r cynlluniau gwariant gwerth £15bn.

Fe wnaeth y ddwy blaid gynnal trafodaethau ar gyllideb mewn cytundeb wedi'r etholiad, lle gwnaeth Plaid Cymru gefnogi Carwyn Jones i gael ei ail-ethol yn Brif Weinidog.

Sian Gwenllian
BBC

Manylion y Setliad

Cynnydd yn yr arian i gynghorau lleol

Mae Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd awdurdodau lleol yn derbyn £4.107bn ar gyfer y 2017-18.

Mae'n rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac mae'n golygu cynnydd o £3.8m o'i gymharu â 2016-17.

Dyma'r cynnydd cyntaf i awdurdodau lleol ers 2013-14.

Unwaith mae chwyddiant yn cael ei ystyried mae'n golygu toriad mewn termau real. 

Setliad Llywodraeth Leol 2017-18

Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar Setliad Llywodraeth Leol 2017-18.  

Llywodraeth Leol
BBC

Cyflawni cydraddoldeb gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud nad oes angen refferendwm i ddatganoli rhan o'r system drethi.

Mae'n dweud y dylid ystyried y Mesur a'r Fframwaith Cyllidol "fel pecyn", a bod hwn yn fater o gael cydraddoldeb gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, a gwneud y DU yn "bartneriaeth wirioneddol". 

Cefndir: Confensiwn gwleidyddol rhwng y Cynulliad a San Steffan

Yn sgil confensiwn gwleidyddol rhwng y Cynulliad a San Steffan, mae angen i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Cymru gael ei basio yn y Cynulliad cyn y gall ddod yn ddeddf.

Mae hyn oherwydd bod Mesur Cymru yn ymwneud â materion datganoledig.

Does gan y confensiwn ddim grym cyfreithiol, ond mae'r gweinidog yn Swyddfa Cymru, Arglwydd Bourne, wedi dweud na fydd y mesur yn dod yn ddeddf os na fydd y Cynulliad yn ei gymeradwyo.  

'Ar gyfer myfyrwyr gwleidyddiaeth y dyfodol'

Mae Simon Thomas yn gosod achos Plaid Cymru ar gyfer Mesur Cymru, er bod y blaid yn mynd i bleidleisio yn erbyn y mesur, "o na bai ar gyfer myfyrwyr gwleidyddiaeth y dyfodol".

Dylai gwleidyddion 'weithio gyda'i gilydd i greu newid'

Mae'r aelod Annibynnol Dafydd Elis-Thomas yn dweud y dylai gwleidyddion weithio gyda'i gilydd yn adeiladol i greu newid. Mae'n dweud y bydd e, yn wahanol i'w gyn-blaid, Plaid Cymru, yn cefnogi Mesur Cymru. 

Mae'n ychwanegu na fydd dadleuon Plaid Cymru ac UKIP yn "argyhoeddi pobl Cymru".

Dafydd Elis-Thomas
BBC

'Rhwystr ffordd' i ragor o ddatganoli?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn mynnu nad yw'n "rhwystr ffordd" i ragor o ddatganoli, sy'n procio Leanne Wood i brotestio ei fod e'n rhwystr.

Mae wedyn yn ychwanegu ei fod wedi gwrthwynebu datganoli'r system gyfiawnder a phlismona.

'Maen nhw'n gwybod y byddan nhw'n colli'

Mae Mark Reckless UKIP yn dweud mai'r rheswm pam na fydd refferendwm ar ddatganoli pwerau treth incwm yw oherwydd "eu bod yn gwybod y byddan nhw'n colli".

Mark Reckless
BBC

'Torri ymddiriedaeth pobl Cymru'

Mae Neil Hamilton yn dweud mai'r unig reswm pam y bydd UKIP yn pleidleisio yn erbyn y mesur yw oherwydd bod y blaid yn gwrthwynebu datganoli pwerau treth incwm heb refferendwm, rhywbeth y mae e'n ei ddisgrifio'n "torri ymddiriedaeth pobl Cymru".

Mae'n ychwanegu bod datganoli pwerau treth incwm heb bleidlais yn "ddiffyg cyfansoddiadol na ddylen ni ei anwybyddu."  

Pwerau a pharhauster

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn canmol ymdrechion Ysgrifennydd Cymru a'i dîm yn Swyddfa Cymru yn arwain ar gynhyrchu Mesur Cymru. 

Mae Mr Melding, sy'n gyn-Ddirpwy Lywydd, yn dweud y bydd y mesur yn cynnig mwy o bwerau i'r Cynulliad a pharhauster, gwell atebolrwydd a sefydlogrwydd cyllidol.  

David Melding
BBC

Pleidleisio yn erbyn Mesur Cymru gyda 'chalon drom'

Mae Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn Mesur Cymru gyda "chalon drom" medd Leanne Wood wrth aelodau'r Cynulliad.

"Dydyn ni fyth eisiau gweld Cymru yn cael ei gwthio i gornel eto."

'Ddim eisiau derbyn briwsion o fwrdd San Steffan'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud y bydd ei phlaid hi yn pleidleisio yn erbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Cymru oherwydd ofnau y bydd y Cynulliad yn colli pwerau.

"Dydyn ni ddim eisiau derbyn briwsion o fwrdd San Steffan," meddai.

San Steffan a'r Senedd
BBC

Y Mesur 'ddim yn cyflawni setliad parhaol a chadarn'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies, yn siarad am adroddiad y pwyllgor, sy'n dod i'r casgliad bod y "Mesur yn ddarn cymhleth ac anhylaw o gyfraith gyfansoddiadol na fydd yn cyflawni'r setliad parhaol a chadarn a ddisgwylir gan bobl Cymru. Fodd bynnag, mae'r Mesur yn cynnwys elfennau i'w croesawu:

 y datganiad am barhauster Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru; 

 y symud o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau."

Huw Irranca-Davies
BBC

'Er budd Cymru'

Er gwaethaf ei amheuon ynghylch Mesur Cymru, mae'r Prif Weinidog yn dweud ei bod hi o fudd i Gymru i gymryd yr hyn sy'n cael ei gynnig.

Sefydlu comisiwn ar ddyfodol y system gyfiawnder

Er y bydd Llafur yn cefnogi Mesur Cymru, mae'r Prif Weinidog yn dweud nad ywa'r model galluoedd neilltuedig ynddo "yn addas i bwrpas am yr hir dymor".

Mae'n ychwanegu y bydd comisiwn yn cael ei sefydlu ar ddyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru.bod 

'Dim popeth fydden ni wedi ei eisiau'

"Dydw i ddim yn mynd i esgus i'r Siambr hon bod y mesur yn bopeth fydden ni ei eisiau," medd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth aelodau'r Cynulliad.  

Cam nesaf datganoli?

Mae'r ddadl yn y Siambr nawr cyn i'r aelodau benderfynu os ydyn nhw am gefnogi cam nesaf datganoli, sy'n cael ei amlinellu ym Mesur Cymru.

Mae'r mesur yn addo pwerau newydd i Gymru, ond mae rhai wedi ei feirniadu am leihau datganoli ar rai pynciau.

Fe wnaeth Llafur - plaid fwyaf y Cynulliad gyda 29 o'r 60 sedd - bleidleisio ddydd Llun i gefnogi'r mesur.

Mae Mesur Cymru yn cynnig ymestyn pwerau datganoledig ar dreth, ynni, trafnidiaeth a materion y Cynulliad ei hun.

Mesur Cymru
BBC

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Cymru

Am yr awr a hanner nesaf mae'r aelodau yn trafod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Cymru. 

Mae Carwyn Jones yn cynnig bod y Cynulliad yn cytuno y "dylai darpariaethau ym Mesur Cymru, i'r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU." 

'Fframwaith yn hanfodol bwysig i Gymru'

Cymru i gael yr hawl i amrywio treth incwm yn 2019

Fe allai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i amrywio treth incwm o Ebrill 2019.

Fe ddatgelwyd y gallai'r llywodraeth gael yr hawliau i amrywio treth incwm bryd hynny mewn cytundeb a rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru.

Ebrill 2019 yw'r dyddiad cyntaf lle byddai gan Lywodraeth Cymru yr hawl i amrywio trethi incwm, petai yn dymuno gwneud hynny.

Mae'r cytundeb ehangach yn amlinellu trefniadau cyllidol newydd rhwng y Llywodraeth yng Nghaerdydd a'r Trysorlys.

Mae'r trefniadau newydd yn dod i rym gan fod Llywodraeth Cymru, o Ebrill 2018 ymlaen, yn dechrau casglu trethi ar dir ac ar wastraff.

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn dweud bod cytundeb ar y Fframwaith Cyllidol yn gwaranu "cyllido teg" i Gymru. 

Mark Drakeford
BBC

'Carreg filltir bwysig'

Yn ôl Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU:

"Mae’r cytundeb hwn yn garreg filltir bwysig i Gymru. Gan ddilyn yr argymhellion gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), mae Deddf Cymru 2014 wedi darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer datganoli pwerau trethu a benthyca i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r pwerau hyn yn rhoi offer ychwanegol i Lywodraeth Cymru i dyfu economi Cymru ac amrywio lefel trethi a gwariant yng Nghymru, gan ei gwneud yn fwy atebol i bobl Cymru. "

Y Fframwaith Cyllidol

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford ar Y Fframwaith Cyllidol. 

Arian
BBC

'Angen gweithredu ar frys' i gryfhau amddiffynfeydd morol

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud bod angen gweithredu ar frys i gryfhau amddiffynfeydd morol er mwyn gwarchod prif lein rheilffordd y gogledd ger yr A55 ym Mae Colwyn, neu meddai, gallai bywydau gael eu colli.

Mae'n dweud i'r arfordir gael ei ddifrodi ymhellach gan dywydd drwg yr wythnos ddiwethaf, ac mae bellach "mewn cyflwr difrifol iawn".  

Mae AC Gorllewion Clwyd yn dweud ei fod yn "bryderus iawn" ac mae'n rhybuddio bod pob storm yn gwneud niwed i'r promenâd.

Stormydd diweddar wedi difrodi amddiffynfeydd morol Hen Golwyn
Cyngor Conwy
Stormydd diweddar wedi difrodi amddiffynfeydd morol Hen Golwyn

Llygredd Afon Teifi

Mae Simon Thomas yn galw am ddadl ar gynlluniau ar gyfer lagŵn gwerth £1.3bn ym Mae Abertawe, ac am ddatganiad ar y llygredd laddodd eogiaid a siwin yn Afon Teifi yng Ngheredigion.

Simon Thomas
BBC

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Nesa y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

Jane Hutt
BBC

Dyled Pontydd Hafren

Mae Ken Skates yn dweud ei fod yn siomedig "nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried dileu'r ddyled, sydd oddeutu £36 miliwn, fel y gwnaethon nhw ddileu'r ddyled ar gyfer Croesfan Humber."

Ken Skates
BBC

Cwestiwn Brys 2 - Dyfodol tollau ar Bontydd Hafren

Mae'r ail gwestiwn brys i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Mae Mark Reckless yn gofyn i'r Ysgrifennydd wneud datganiad am ddyfodol tollau ar Bontydd Hafren.

Dim ond £3 fydd angen i geir, faniau a bysiau bychain ei dalu mewn tollau ar bontydd Hafren pan fydd y tollau'n trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus tua 2018, yn ôl cynlluniau Llywodraeth y DU.  

Tollau ar Bont Hafren
BBC

Cwestiwn Brys 1 - Cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan

Mae cwestiwn brys cyntaf heddiw i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Mae Bethan Jenkins yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am atal cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan?

Fe gafodd cyllid i'r elusen adfywio cymunedol ym Mhort Talbot ei atal oherwydd honiadau o gamddefnyddio arian cyhoeddus.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau ei bod wedi atal yr arian i NSA Afan yn ardal Sandfields.

Mae dynes 35 oed o'r ardal wedi cael ei harestio a'i rhyddhau ar fechniaeth at amheuaeth o ddwyn.

Mewn llythr i gynghorwyr fe wnaeth Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddweud y gallai atal yr arian gael effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau Cymunedau'n Gyntaf yn yr ardal.

NSA Afan
BBC

'Eidion llawn hormonau' yn dod i farchnad y DU

Mae'r Prif Weinidog yn awgrymu y gallai cytundeb masnach gyda Trump arwain at "eidion yn llawn hormonau" yn dod i farchnad y DU.

Cystadlu i fod yn 'Jeremeia Cymru'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn cyhuddo Carwyn Jones o gystadlu gyda Leanne Wood i fod yn "Jeremeia Cymru".

Mae'r Prif Weinidog yn gofyn i Mr Hamilton sut allwch chi reoli mewnfudo gyda'r ffin ar y tir ar Ynys Iwerddon.

Mae Mr Hamilton yn dweud nad oes rheswm pam na all hynny gael ei ddatrys.

Neil Hamilton
BBC

'Dim i atal y Cynulliad rhag gweithredu cyfarwyddyd Ewropeaidd'

Mae Leanne Wood yn dweud bod llawer o'r buddsoddiad o'r tu allan i Ewrop yng Nghymru wedi cael eu denu yma oherwydd ein safle ni yn y Farchnad Sengl.

Mae Mae Jones yn dweud nad oes unrhyw beth i atal y Cynulliad rhag gweithredu cyfarwyddyd Ewropeaidd os yw'n dymuno.

Mae'n ychwanegu y byddai'n rhaid cael pleidlais yn y Cynulliad cyn i aelodau seneddol neu Arglwyddi bleidleisio ar y cytundeb Brexit terfynol.

'Gadael y Farchnad Sengl - Dydw i ddim yn cytuno â hynny'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod hi o fudd cenedlaethol i Gymru i barhau i fod yn rhan o'r Farchnad Sengl.

Mae Mr Jones yn dweud bod "rhan" o araith Prif Weinidog Prydain Theresa May y bore 'ma i'w chroesawu.

Ond mae'n ychwanegu "Dydw i ddim yn cytuno gyda gadael y Farchnad Sengl."

Leanne Wood
BBC

'Sefyll dros weithwyr Cymru'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn cyhuddo'r Prif Weinidog o flaenoriaethu'r mesur undebau llafur ar draul mesurau ar awtistiaeth.

Mae Mr Jones yn ateb drwy ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn "sefyll dros weithwyr Cymru".

Andrew RT Davies
BBC