a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    Wedi 100 munud o chwarae, torcalon i Gymru.

    Yn dilyn diweddglo hollol ryfeddol,  cliciwch yma i ddarllen adroddiad y gêm .

    Dyna ddiwedd y llif byw, diolch am eich cwmni.

  2. Pawb a'i farn

    Twitter

    "Twyll" meddai Deiniol Jones ar S4C o eilyddio Atonio, oedd yn dweud ei fod wedi anafu, ac nid ef yw'r unig un:

    View more on twitter
  3. 'Balch' ond 'siomedig'

    Alun Wyn Jones yn teimlo bod Cymru wedi gwneud digon i ennill heddiw, ac yn dweud bod ambell i gwestiwn technegol sydd angen eu gofyn i'r dyfarnwyr.

    Ond yn "falch" o berfformiad Cymru, er yn "siomedig" gyda'r canlyniad.

    Cymru
  4. Un o'r gemau mwyaf rhyfedd

    Wedi un o'r gemau mwyaf rhyfedd erioed yn hanes y Chwe Gwlad, mae Cymru wedi colli.

    Sgrym ar ôl sgrym gan Ffrainc, a rhai yn teimlo bod eilyddio annheg wedi digwydd.

    Diwedd siomedig i'r bencampwriaeth i Gymru yn sicr.

  5. 'Diwedd anhygoel'

    Nathan Brew

    Cyn-asgellwr Cymru

    "Anlwcus Cymru! Perfformiad llawn calon nes y diwedd!

    "Wedi ymroi yn llwyr ond pan mae'r meddiant i gyd gyda'r gwrthwynebwyr mae e'n anodd creu digon o gyfleoedd. Diwedd anhygoel!!"

  6. Torcalon i Gymru

    Wedi bron 100 munud o chwarae mae pwysau Ffrainc yn ormod i Gymru.

    Ergyd greulon wedi i Gymru ddal ymlaen am 20 ar eu llinnell gais eu hunain.

    Chat yn croesi a Lopez yn ychwanegu'r trosiad i ennill y gêm.

    Ffrainc 20-18 Cymru.

  7. Sgrym arall

    Nicky Smith ymlaen, a sgrym fyth eto i Ffrainc.

  8. Oes rhywun wedi brathu North?

    Mantais i Ffrainc, sgrym eto!

    10 munud Lee yn y gell gosb ar ben, 15 ar y cae i Gymru.

    Ond oedi wrth i'r dyfarnwr edrych os oes rhywun wedi brathu George North...

    Dim tystiolaeth. Cic gosb i Ffrainc. Sgrym.

  9. Sgrym arall!

    Y sgrym yn methu sawl tro, cic gosb sydyn gan Picamoles, ond dim mantais i Ffrainc.

    Sgrym arall...!

  10. Chydig o ddryswch ar y cae!

    Francis yn gorfod dychwelyd wrth i Ffrainc ddewis sgrym. 'Chydig o ddryswch ar y cae!

  11. Melyn i Samson Lee

    Ffrainc yn mynd am sgrym, a Slimani yn dod i'r cae ar ei gyfer.

    Cerdyn melyn i Samson Lee a bydd Cymru'n gorffen y gêm efo 14 dyn...

  12. Ffrainc o fewn pum metr...

    Ffrainc yn ennill sgrym ac yn mynd drwy'r cymalau.

    Y dorf yn sgrechian, o fewn pum metr, ond amddiffyn Cymru yn dal.

    Cic gosb i Ffrainc. Llai na munud yn weddill.

  13. Cyfle i Ffrainc

    Ffrainc yn ymosod yn gyflym, ond Nakaitaci yn colli'r bêl!

    Cymru wedi eu hachub, Biggar yn clirio.

  14. Ffrainc 13-18 Cymru

    Cymru yn pwyso, a Barnes yn rhoi cic gosb am dacl uchel ar Ken Owens.

    Halfpenny eto o flaen y pyst... Ac mae'n sgorio!

    Mae'n debyg nad yw Barnes wedi gwneud llawer o ffrindiau yn Ffrainc heddiw...

    Barnes
  15. 'Angen cadw disgyblaeth'

    Nathan Brew

    Cyn-asgellwr Cymru

    "15 munud i fynd, hollbwysig cadw disgyblaeth a 'ware yn 22 Ffrainc! Gorfodi nhw i wneud y camgymeriadau!"

  16. Ffrainc 13-15

    Lopez yn ei gwneud hi'n gêm agos iawn o gic gosb!

  17. Ffrainc 10-15 Cymru

    Mae cicio Halfpenny wedi bod yn berffaith hyd yma heddiw, ac mae'n ychwanegu triphwynt arall i rhoi Cymru ymhellach ar y blaen.

    HP
  18. Amddiffyn da gan Dulin

    Pas wych gan Rob Evans i Liam Williams sy'n rasio i lawr yr asgell.

    Dim ond traed chwim Dulin i Ffrainc sy'n gallu ei stopio.

    Ffrainc yn clirio, ond Wayne Barnes yn rhoi cic gosb arall i Gymru. Cyfle i Halfpenny...

  19. Ball a Francis i ffwrdd

    Francis i ffwrdd, gyda Samson Lee yn dod ymlaen, ond mae na newid anghyffredin yn lle Jake Ball, gyda Scott Baldwin yn gorfod mynd i'r ail reng gan nad oes unrhyw un arall ar y fainc.