Roedd gweinidogion wedi cael eu beirniadu am ddod â chynllun FyNgherdynTeithio i ben.
Ond mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd yn parhau nes i gynllun newydd gael ei gyflwyno yn ei le.
Eye ImageryCopyright: Eye Imagery
Cynnig gwobr i ddod o hyd i ddyn
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Taclo'r Taclau yn cynnig gwobr o hyd at £2,000 i'w helpu dod o hyd i ddyn y mae'r heddlu eisiau siarad ag o yn dilyn ymgais i ddwyn o ddwy siop yn Wrecsam.
Mae'r heddlu eisoes wedi arestio dau ddyn mewn cysylltiad â'r digwyddiadau, ond maen nhw'n parhau i chwilio am Aaron McKenzie.
Fe wnaeth tri dyn dargedu siopau gyda morthwyl a chyllell ar 12 Chwefror yn y digwyddiadau dan sylw.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Aaron McKenzie gysylltu â Thaclo'r Taclau ar 0800 555 111.
Heddlu Gogledd CymruCopyright: Heddlu Gogledd Cymru
Selby i gwffio o'r diwedd
Bydd Lee Selby yn wynebu Andoni Gago yn Llundain fis nesaf - ond ddim am bencampwriaeth y byd.
Cafodd gornest rhwng Selby a Jonathan Victor Barros yn Las Vegas ei chanslo fis diwethaf, ychydig dros 24 awr cyn yr oedd yr ornest i fod i ddechrau.
Meddwl am wyliau'r haf yn barod? Yn ôl gwefan WalesOnline mae cynlluniau ar droed i groesawu gŵyl hufen iâ i Gaerdydd am y tro cyntaf erioed eleni. Iâ, wir...
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn!
BBC Cymru Fyw
Mae'r llif byw wedi dod i ben am y diwrnod. Fe fyddwn ni 'nôl am 08:00 bore 'fory, ond bydd y diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.
Deiseb yn erbyn cau’r profiad Doctor Who
Golwg 360
Mae mwy na 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn y penderfyniad i gau profiad rhyngweithiol y gyfres Doctor Who yng Nghaerdydd.
Symudodd y Doctor Who Experience o Lundain i Gaerdydd yn 2012, a’r bwriad oedd ei gadw ar agor am bum mlynedd yn unig.
Ond mae cefnogwyr y gyfres boblogaidd wedi galw am ei gadw ar agor.
Disgwyl cymeradwyo cyfleuster gwastraff
Daily Post
Mae'r Daily Post yn adrodd bod cynlluniau diwygiedig ar gyfer cyfleuster rheoli gwastraff yn Sir y Fflint yn debygol o gael eu cymeradwyo.
Mae'r datblygwyr, Brock PLC yn ailgyflwyno cais llawer llai ar gyfer safle ym mhentref Alltami wedi i gais blaenorol gael ei wrthod yn 2013.
Byddai'r cyfleuster newydd ar safle 3.8 erw - llawer yn llai na'r safle 13.6 erw oedd yn y cais gwreiddiol.
Trydarwr o fri
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda'r dyn sydd wedi'i goroni yn drydarwr mwyaf cynhyrchiol y Gymraeg.
Yn ôl gwefanfalseIndigenous Tweets, sy'n mesur trydariadau mewn gwahanol ieithoedd brodorol, Ant Evans (@Ant1988) yw'r person sydd wedi trydar y nifer fwyaf o negeseuon yn Gymraeg ar wefan Twitter.
Mae wedi 'sgrifennu 34,499 o negeseuon yn yr iaith hyd yma - sy'n fwy na Dyl Mei a Rhys Mwyn gyda'i gilydd!
Paratoi am law Caeredin...
BBC: £8.5m ar raglenni Saesneg i Gymru
BBC Cymru Fyw
Mae'r BBC wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £8.5m yn rhagor ar rhaglenni teledu Saesneg i Gymru.
Daw yn dilyn ymgyrch i gynyddu gwariant yn y maes, gyda gwleidyddion a lobïwyr yn galw am £30m yn ychwanegol.
Dywedodd y BBC bod y buddsoddiad newydd yn gynnydd o 50%, ac y byddai'n ariannu cynnwys comedi, adloniant, drama, ffeithiol a diwylliant.
Bydd sianel newydd iPlayer BBC Cymru hefyd yn cael ei lansio, gyda'r nod o gynyddu amlygrwydd rhaglenni i gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Cwpl o Gymru wedi'u lladd yn Ne Affrica
BBC Cymru Fyw
Mae cwpl o dde Cymru wedi cael eu llofruddio yn Ne Affrica.
Dywedodd yr heddlu bod corff Christine Solik, 57 oed o Aberpennar, wedi'i ddarganfod 50 milltir o'i chartref yn nhalaith Kwazulu-Natal.
Cafodd corff ei gŵr, Roger, 66, ei ddarganfod gerllaw ddydd Llun.
Mae'r heddlu yn Ne Affrica yn credu i'r ddau gael eu herwgipio o'u cartref yn ystod lladrad ddydd Gwener.
Adfer cynllun, fis ar ôl cael ei ddiddymu
BBC Wales News
Mae cynllun £15m oedd yn cynnig gostyngiad yng nghost teithio i bobl ifanc wedi cael ei adfer, fis un unig ar ôl cyhoeddiad y byddai'n cael ei ddiddymu.
Roedd gweinidogion wedi cael eu beirniadu am ddod â chynllun FyNgherdynTeithio i ben.
Ond mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd yn parhau nes i gynllun newydd gael ei gyflwyno yn ei le.
Cynnig gwobr i ddod o hyd i ddyn
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Taclo'r Taclau yn cynnig gwobr o hyd at £2,000 i'w helpu dod o hyd i ddyn y mae'r heddlu eisiau siarad ag o yn dilyn ymgais i ddwyn o ddwy siop yn Wrecsam.
Mae'r heddlu eisoes wedi arestio dau ddyn mewn cysylltiad â'r digwyddiadau, ond maen nhw'n parhau i chwilio am Aaron McKenzie.
Fe wnaeth tri dyn dargedu siopau gyda morthwyl a chyllell ar 12 Chwefror yn y digwyddiadau dan sylw.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Aaron McKenzie gysylltu â Thaclo'r Taclau ar 0800 555 111.
Selby i gwffio o'r diwedd
Bydd Lee Selby yn wynebu Andoni Gago yn Llundain fis nesaf - ond ddim am bencampwriaeth y byd.
Cafodd gornest rhwng Selby a Jonathan Victor Barros yn Las Vegas ei chanslo fis diwethaf, ychydig dros 24 awr cyn yr oedd yr ornest i fod i ddechrau.
Gŵyl hufen iâ
Wales Online
Meddwl am wyliau'r haf yn barod? Yn ôl gwefan WalesOnline mae cynlluniau ar droed i groesawu gŵyl hufen iâ i Gaerdydd am y tro cyntaf erioed eleni. Iâ, wir...
Barod, Bale?
Siop goffi arall i Gaerdydd
Nottingham Post
Bydd cwmni rhostwyr coffi o Nottingham yn buddsoddi £250,000 i adnewyddu adeilad yng Nghaerdydd er mwyn agor caffi yno.
Mae'r Nottingham Post yn dweud y bydd cwmni annibynnol 200 Degrees yn agor siop goffi ar Heol y Frenhines yn hwyrach yn y gwanwyn.
Oes croeso i Gylchffordd Cymru?
South Wales Argus
Mae'r ddadl dros ddyfodol Cylchffordd Cymru yn rhygnu 'mlaen - ond oes croeso i'r trac rasio ymysg y trigolion lleol?
Aeth papur newydd y South Wales Argus ati i edrych ar farn pobl Glyn Ebwy ynglŷn â'r cynllun £425m.
Dedfrydu ymgynghorydd diogelwch tân
BBC Wales News
Mae ymgynghorydd diogelwch tân wedi cael ei ddedfrydu am fethu â chynnal archwiliadau digonol mewn nifer o siopau elusennol.
Fe wnaeth Brian Fakir, 59 oed, bledio'n euog i 13 o gyhuddiadau'n ymwneud ag archwiliadau gafodd eu cynnal mewn siopau St David's yn ne Cymru.
Cafodd ddau o'r siopau yr oedd Fakir i fod wedi eu harchwilio eu dinistrio gan danau.
Fe gafodd ei ddedfrydu i chwe mis o garchar wedi'i ohirio a 180 awr o waith cymunedol.
North yn ôl yn ymarfer i Gymru
Trafodaethau'n dechrau i ethol esgob newydd
Golwg 360
Mae Golwg360 yn dweud bod y trafodaethau cyn ethol Esgob newydd i Landaf wedi dechrau.
Fe wnaeth Dr Barry Morgan adael y swydd diwedd Ionawr.
Faletau: Cystadleuaeth yn uchel
BBC Sport Wales
Mae wythwr Cymru, Taulupe Faletau yn dweud ei fod yn wynebu her i adennill ei le yn y rheng-ôl cyn y gêm yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn.
Ers symud i Gaerfaddon ar ddechrau'r tymor, mae Faletau wedi dioddef sawl anaf ac mae Ross Moriarty wedi serennu yn ei absenoldeb.
"Mae hi lan i'r hyfforddwyr pa dîm maen nhw'n ddewis," meddai Faletau.
GIG Cymru 'yr un mor dda' a gweddill y DU
BBC Wales News
Mae Cymru yn gwneud yr un mor dda, ac mewn rhai ardaloedd yn well, na gwledydd eraill y DU mewn cyfres o ddangosyddion safon iechyd.
Mae ffigyrau'n cymharu'r GIG ym mhedair cenedl y DU wedi cael eu rhyddhau am y tro cyntaf.
Mae cyfradd goroesi strôc a thriniaeth ysbyty ar gyfer asthma yn enwedig yn galonogol i Gymru.
Llafur yn ymchwilio i ymddygiad aelod
BBC Cymru Fyw
Mae'r blaid Lafur wedi lansio ymchwiliad yn dilyn cwynion am ymddygiad aelodau'r blaid sydd ynghlwm â'r ffrae dros Ysgol Llangennech.
Daw ar ôl i flogiwr gyhoeddi lluniau oedd yn awgrymu bod cynghorydd Llafur yn rhannu deunydd ar-lein gan grŵp asgell dde eithafol.
Roedd y post yn dweud: "Pan mae ci yn ymosod ar blentyn mae'n cael ei ddifa. A ddylwn ni wneud yr un peth gyda throseddwyr rhyw?"
Mae'r cynghorydd, Tegwen Devichand wedi dweud nad yw'n cofio rhannu'r deunydd, a'i bod yn gwrthwynebu'r gosb eithaf.