Dywedoedd y grŵp Pryderu Am Glyn Rhonwy wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru bod glanhau'r ardal yn ormod o waith i gwmni preifat, a'i bod yn hanfodol iddo gael ei wneud yn iawn rhag llygru un o lynoedd mwyaf adnabyddus Cymru.
Cwmni Snowdonia Pumped Hydro sy'n gobeithio datblygu cynllun ynni dŵr storfa bwmp yn hen chwarel Glyn Rhonwy ger Llanberis.
Ond mae Safonau Masnach yn rhybuddio bod y nifer o bobl sydd wedi eu heffeithio yn debygol o fod 10 neu 20 gwaith yn uwch na'r ffigwr yma, gan nad yw llawer yn dweud wrth yr awdurdodau.
Collodd un unigolyn o ogledd Cymru dros £100,000 o'i gynilion trwy dri chynllun buddsoddi gwahanol.
Roedd pob cyngor oni bai am un â ffoaduriaid o'r wlad ar ddechrau'r flwyddyn.
Mae'r ffigyrau'n dangos bod cyfanswm o 5,454 o ffoaduriaid o Syria bellach wedi ymgartrefu yn y DU.
Lindsay CardwellCopyright: Lindsay Cardwell
Mae ffoaduriaid gafodd eu cartrefu yn Aberystwyth wedi diolch i'r gymuned am y croeso
Image caption:
Mae ffoaduriaid gafodd eu cartrefu yn Aberystwyth wedi diolch i'r gymuned am y croeso
Storm Doris: Yr A5 ar gau rhwng yr Amwythig a'r Waen
Mae pump o
enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint ar fin teithio i Disneyland Paris i gymryd rhan yn eu penwythnos Cymreig i
ddathlu Gŵyl Ddewi rhwng 3 – 5 Mawrth.
Y pump fydd
yn teithio i Baris eleni fydd Beca o'r Wyddgrug, Rhys o Lanrwst, Alaw o Bontyberem, Siwan o Lanfairpwll a Daniel o Gaerdydd. Yn ymuno gyda nhw allan yno bydd Côr Aelwyd Waun
Ddyfal, Caerdydd.
Urdd Gobaith CymruCopyright: Urdd Gobaith Cymru
Daniel, Alaw a Beca gyda chynrychiolydd o Disneyland ParisImage caption: Daniel, Alaw a Beca gyda chynrychiolydd o Disneyland Paris
Cân mewn awr
Twitter
Rydyn ni wedi clywed am sesiynau unnos ond mae'r perfformwyr Hywel Pitts a'r Welsh Whisperer ar fin ceisio creu cân mewn awr. Pob lwc i'r ddau!
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn!
BBC Cymru Fyw
Mae'r llif byw wedi dod i ben am y diwrnod. Fe fyddwn ni 'nôl am 08:00 bore 'fory, ond bydd y diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.
Cythruddo'r Cymry
Cylchgrawn, Cymru Fyw
"Pam bod rhai pobl fyddai'n casáu cael eu galw yn hiliol yn meddwl ei bod hi'n iawn i wneud sylwadau gwrth-Gymreig ffiaidd?"
Dyna gwestiwn ofynnodd Robert Peston, Golygydd Gwleidyddol Newyddion ITV, ar Twitter heddiw.
Dywedodd y newyddiadurwr, gafodd ei addysg ym mhrifysgol Aberystwyth, ei fod yn casáu'r arferiad.
Yn aml iawn, rhai newyddiadurwyr a cholofnwyr blaenllaw sydd ar flaen y gad pan mae hi'n dod i godi gwrychyn y Cymry, ac mae adran gylchgrawn Cymru Fyw wedi casglu cyfres o enghreifftiau .
Gwynt a glaw yn cilio
Tywydd, BBC Cymru
Er bod y rhybudd oren o wynt mewn grym nes 20:00 heno bydd y gwynt yn gostegu wrth i storm Doris symud i'r dwyrain a bydd y glaw yn cilio heno hefyd.
Bydd ambell gawod eira yn syrthio ar y bryniau heno a gallai rewi ar rai ffyrdd gwledig uchel.
Am ragolygon pellach ewch i'r wefan dywydd.
Teyrnged Rhys Ifans i'w gyn athro
Twitter
Mae'r actor Rhys Ifans wedi talu teyrnged i'w gyn athro celf yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, Alan Victor-Jones.
Mae hefyd yn ymddiheuro i'r holl athrawon eraill wnaeth ei ddysgu!
Ydych chi wedi ennill £1m?
BBC Wales News
Bydd person sydd wedi ennill £1m ar y loteri yn colli'r arian oni bai eu bod yn gwneud cais amdano cyn hanner nos heno .
Cafodd y tocyn ei brynu ym Merthyr Tudful neu Rhondda Cynon Taf cyn y loteri ar 27 Awst y llynedd.
Os nad yw'r person sydd â'r tocyn buddugol yn gwneud cais amdano, bydd yr arian yn mynd at achosion da.
Dim penderfyniad ar esgob nesaf Llandaf
Twitter
Galw am ddiogelu cyn-safle bomiau
BBC Cymru Fyw
Mae ymgyrchwyr sy'n protestio yn erbyn datblygiad ynni yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddiogelu cyn-safle bomiau , gan ddweud fod y Weinyddiaeth wedi cadarnhau fod arfau cemegol wedi eu darganfod yno yn y gorffenol.
Dywedoedd y grŵp Pryderu Am Glyn Rhonwy wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru bod glanhau'r ardal yn ormod o waith i gwmni preifat, a'i bod yn hanfodol iddo gael ei wneud yn iawn rhag llygru un o lynoedd mwyaf adnabyddus Cymru.
Cwmni Snowdonia Pumped Hydro sy'n gobeithio datblygu cynllun ynni dŵr storfa bwmp yn hen chwarel Glyn Rhonwy ger Llanberis.
Gallwch wrando 'nôl ar y rhaglen ar wefan Radio Cymru.
Storm Doris: 12,000 yn parhau heb bŵer
Scottish Power
Mae Scottish Power yn dweud bod 12,000 o gartrefi yng Nghymru yn parhau heb drydan o ganlyniad i storm Doris.
Mae 40,000 o gartrefi wedi bod hwb gyflenwad am o leiaf cyfnod o'r diwrnod.
Mae'r llefydd sy'n parhau i gael eu heffeithio yn cynnwys rhannau o Wynedd, Ynys Môn a'r canolbarth.
Gwynedd: Nant y Garth ar gau nes yfory
Twitter
Angen herio Doris cyn wynebu'r Alban...
Twitter
Dioddefwyr twyll 'wedi colli £2.6m'
BBC Cymru Fyw
Mae dioddefwyr yng Nghymru wedi colli mwy na £2.6m trwy dwyll yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf , yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Action Fraud.
Ond mae Safonau Masnach yn rhybuddio bod y nifer o bobl sydd wedi eu heffeithio yn debygol o fod 10 neu 20 gwaith yn uwch na'r ffigwr yma, gan nad yw llawer yn dweud wrth yr awdurdodau.
Collodd un unigolyn o ogledd Cymru dros £100,000 o'i gynilion trwy dri chynllun buddsoddi gwahanol.
Siom i dîm dan-18 Cymru yn erbyn Iwerddon
Twitter
£53,000 i wahardd prif weithredwr iechyd
BBC Cymru Fyw
Mae gwahardd prif weithredwr bwrdd iechyd cymunedol wedi costio dros £53,000 mewn taliadau cyflog ychwanegol .
Cafodd Tony Rucinski ei wahardd fel pennaeth Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru ym mis Chwefror 2016.
Yn y cyfamser mae dau uwch swyddog yn gweithredu fel prif weithredwyr.
Mae Dr Rucinski yn parhau i fod ar gyflog llawn o £90,000 y flwyddyn.
Ffordd ar gau yn Sir Ddinbych
Twitter
400 o ffoaduriaid o Syria yng Nghymru
BBC Wales News
Mae o leiaf 397 o ffoaduriaid o Syria wedi ymgartrefu yng Nghymru bellach, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref .
Roedd pob cyngor oni bai am un â ffoaduriaid o'r wlad ar ddechrau'r flwyddyn.
Mae'r ffigyrau'n dangos bod cyfanswm o 5,454 o ffoaduriaid o Syria bellach wedi ymgartrefu yn y DU.
Storm Doris: Yr A5 ar gau rhwng yr Amwythig a'r Waen
Twitter
Gwynt yn gostegu
Tywydd, BBC Cymru
"Ar ôl bore o broblemau yn sgil storm Doris, fe fydd hi’n parhau’n wyntog iawn yn ystod y prynhawn, ond ddim cynddrwg," meddai Gwennan Evans.
"Bydd rhai cawodydd, ambell un aeafol ar dir uchel, ambell lygedyn o heulwen a bydd hi’n teimlo’n oerach na’r bore. Y tymheredd uchaf yn 10C."
Cadwch lygad ar y rhagolygon ar ein gwefan dywydd.
Enillwyr yr Urdd ar eu ffordd i Disneyland
Eisteddfod yr Urdd
Mae pump o enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint ar fin teithio i Disneyland Paris i gymryd rhan yn eu penwythnos Cymreig i ddathlu Gŵyl Ddewi rhwng 3 – 5 Mawrth.
Y pump fydd yn teithio i Baris eleni fydd Beca o'r Wyddgrug, Rhys o Lanrwst, Alaw o Bontyberem, Siwan o Lanfairpwll a Daniel o Gaerdydd. Yn ymuno gyda nhw allan yno bydd Côr Aelwyd Waun Ddyfal, Caerdydd.
Cân mewn awr
Twitter
Rydyn ni wedi clywed am sesiynau unnos ond mae'r perfformwyr Hywel Pitts a'r Welsh Whisperer ar fin ceisio creu cân mewn awr. Pob lwc i'r ddau!
Canslo digwyddiad oherwydd problemau trên
Twitter
Mae digwyddiad BAFTA Kids yn Galeri, Caernarfon, wedi cael ei ganslo p'nawn 'ma oherwydd problemau ar y trenau rhwng Llundain a Bangor.
Dywed y ganolfan eu bod yn ceisio aildrefnu'r digwyddiad.