a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni ddiwedd y llif byw am heddiw.

    Ond cofiwch am y llif byw arbennig ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 'fory. Mae'r cyfan yn dechrau am 13:55.

  2. Coeden o Gymru'n dod i'r brig?

    The Guardian

    Mae gan y Guardian erthygl am gystadleuaeth i ganfod Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn .

    Yn ddiweddar, fe gafodd llwybr ffordd osgoi'r Drenewydd ei newid er mwyn gwarchod Derwen Brimmon, ac fe ddywed y papur bod gan y goeden hynafol yma obaith o ddod i'r brig yn y gystadleuaeth.

    derwen brimmon
  3. Cytundeb Dinas Ranbarth yn 'dipyn o lanast'

    South Wales Evening Post

    Mae'r South Wales Evening Post yn dweud bod y AS Gŵyr, Byron Davies, yn teimlo bod Cytundeb Dinas Ranbarth Abertawe yn "dipyn o lanast" .

    Bwriad y buddsoddiad £1.3bn yw creu swyddi a gwella isadeiledd yn yr ardal.

  4. Nofiwr cryf wedi marw'n ddamweiniol

    BBC Cymru Fyw

    Mae cwest wedi cofnodi bod dyn o Lanrwst wedi marw'n ddamweiniol tra ar wyliau yn yr Unol Daleithiau.

    Roedd Stephen Thomas Turner, 62 oed, yn nofiwr cryf ond aeth i drafferthion yn nhalaith Washington ar 15 Gorffennaf y llynedd.

    Dangosodd archwiliad post mortem ei bod yn debygol ei fod wedi cael trawiad ar y galon tra'n nofio mewn llyn. Roedd cwest arall yn America wedi dweud iddo foddi, ond dywedodd crwner gogledd orllewin Cymru ei bod am addasu'r rheithfarn yna.

  5. Cymylog gyda chawodydd heno

    Tywydd, BBC Cymru

    Bydd hi'n gymylog gyda chawodydd yn lledu o'r gorllewin heno, ond bydd y cawodydd yn troi'n fwy ynysig erbyn y bore.

    Digon gwyntog dros nos, a'r tymheredd yn 6C ar ei isaf cyn penwythnos ansefydlog i'r rhan fwyaf.

    Am y manylion yn eich ardal chi, cliciwch yma .

  6. Disgwyl i Mutaji chwarae i'r Gweilch

    South Wales Evening Post

    Wrth i dîm Cymru herio'r Alban, mae'r rhanbarthau hefyd yn chwarae.

    Dywed y South Wales Evening Post bod disgwyl i Brian Mujati wneud ei ymddangosiad cyntaf dros y Gweilch yn erbyn Glasgow brynhawn Sul. 

    Mae'r prop wedi ennill 12 cap dros Dde Affrica, ac fe ymunodd gyda'r Gweilch o Sale Sharks yn gynharach y mis yma.

    mutaji
  7. 1,100 yn dal heb drydan yng Nghymru

    Scottish Power

    Mae Scottish Power yn dweud bod 1,100 o dai a busnesau yng ngogledd Cymru yn dal i fod heb drydan yn dilyn y tywydd garw ddoe.

    Dywedodd y cwmni bod tua 700 o beirianwyr yn gweithio i drwsio cyflenwadau ar Ynys Môn, Gwynedd, Wrecsam a rhannau gwledig o'r canolbarth.

    Mae'r cwmni'n gobeithio trwsio cysylltiadau erbyn diwedd y dydd.

  8. Yr Alban v Cymru: Pwyntiau trafod

    Sky Sports

    Mae gwefan Sky Sports wedi cyhoeddi erthygl am bum pwynt trafod ynglŷn â'r gêm yn Murrayfield brynhawn yfor y.

    Dyw Cymru heb golli i'r Alban ers 2007, ond a fydd dynion Rob Howley yn gallu parhau gyda'r rhediad da?

    Cofiwch y gallwch chi ddilyn y gêm yn fyw ar ein llif byw o 13:55.

    north
    Image caption: Mae George North nôl yn y garfan wedi iddo gael ei anafu yn y gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal
  9. Arestio chwech ar amheuaeth o ddefnyddio arian ffug

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio chwech o ddynion o ardal Bradford ar amheuaeth o dwyll.

    Fe ddywedodd yr heddlu eu bod yn amau bod y dynion wedi ceisio defnyddio papurau £20 ffug ar draws siroedd Conwy a Dinbych.

  10. Codi tâl cynghorwyr

    BBC Cymru Fyw

    Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, o dan ei Gadeirydd, John Bader, wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol terfynol, a ddaw i rym o fis Mai 2017.

    Mae'r Panel wedi penderfynu i ddarparu cynnydd cymharol fach i’r cyflog sylfaenol blynyddol i gynghorwyr o £100; mae hyn yn cyfateb i tua 0.75%.

    Nid oes cynnydd ar gyfer cyflogau uwch ond bydd y deiliaid swyddi yn derbyn y cynnydd yn y cyflog sylfaenol.

  11. Carchar am fygwth gyda chyllell

    Rhyl, Prestatyn & Abergele Journal

    Mae gan y Rhyl Journal stori am ddyn 21 oed o Brestatyn sydd wedi cael ei ddedfrydu i 28 mis o garchar. Roedd Kyle Crompton wedi cael ei daflu allan o dafarn ym Mhrestatyn, ond fe wnaeth ddychwelyd yn gwisgo balaclava ac yn chwifio cyllell.

    View more on twitter
  12. Dim cyhuddiad wedi marwolaeth bachgen

    BBC Cymru Fyw

    Ni fydd mam bachgen pedair oed fu farw mewn tân yn Alltwen ger Pontardawe y llynedd yn wynebu cyhuddiadau.

    Bu farw Jac Evan Davies yn dilyn tân yn ei gartref yn oriau man 27 Gorffennaf.

    Fe wnaeth Heddlu De Cymru arestio dynes 28 oed ar amheuaeth o esgeulustod, ond dywedodd y llu na fydd hi'n wynebu unrhyw gamau pellach.

    Alltwen
  13. Cais i Ofcom ymchwilio i gytundeb

    Wales Online

    Mae corff rheoleiddio'r diwydiant cyfathrebu, Ofcom, wedi cael cais i ymchwilio sut y gwnaeth ei gangen Gymreig roi cytundeb i gwmni oedd â dau o'i gyfarwyddwyr ar bwyllgor ymgynghori Ofcom yng Nghymru , yn ôl WalesOnline.

    Yn yr erthygl dywedodd AC Plaid Cymru Neil McEvoy fod y mater y niweidiol i enw da'r corff nad oedd cwmni Deryn Consultin wedi gorfod mynd drwy broses dendro am y cytundeb i fonitro'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. 

    Mae un o ddau gyfarwyddwr Deryn, Nerys Evans, yn aelod o bwyllgor ymgynghorol Ofcom Cymru yn ogystal â chadeirydd y cwmni Huw Roberts.

  14. Cannoedd o bysgod wedi marw oherwydd llygredd

    BBC Cymru Fyw

    Mae cannoedd o bysgod wedi eu lladd gan lygredd yn Afon Gwili yn Sir Gaerfyrddin.

    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio ar ôl adroddiadau o'r llygredd ger Llanpumsaint.

    Yn ôl CNC, mae'r llygredd wedi dod o fferm agos.

    Pysgodyn
  15. Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddio ei ferch fach

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn 31 oed wedi pledio yn ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd i gyhuddiad o lofruddio ei ferch 18 mis oed .

    Cafodd Elsie Scully Hicks, oedd wedi ei mabwysiadu, ei darganfod yn farw ar 29 Mai y llynedd.

    Mae disgwyl i Matthew Scully Hicks wynebu achos llys ym mis Mehefin.

    Llys Caerdydd
  16. Carchar am fygwth gweithwyr siop

    Daily Post

    Yn ôl y Daily Post mae dyn o'r Wyddgrug wedi cael ei garcharu wedi iddo fygwth gweithwyr wrth ddwyn o siop.

    Fe geisiodd Carl Hayes - sy'n gaeth i gyffuriau - ddwyn potel o fodca o siop, a phan ddaeth gweithwyr i geisio'i rhwystro fe wnaeth ue bygwth gyda chwistrell.

  17. Galw am dro pedol ar ad-drefnu chweched dosbarth Torfaen

    BBC Cymru Fyw

    Mae rhieni, disgyblion ac athrawon wedi galw ar Gyngor Torfaen i ailystyried cynlluniau i ad-drefnu addysg chweched dosbarth yn y sir.

    Bwriad y cyngor yw symud addysg ôl-16 i safle newydd yng Nghwmbrân o fis Medi 2019.

    Fel rhan o'r cynlluniau fe fydden nhw'n cael gwared ar y chweched dosbarth yn nhair o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg y sir - St Albans, Croesyceiliog a Chwmbrân.

    chweched
  18. Carchar am werthu ceir oedd wedi'u dwyn

    Heddlu De Cymru

    Fe ddywed Heddlu'r De bod dau ddyn wedi cael eu carcharu am werthu ceir oedd wedi'u dwyn.

    Cafodd Dean Cronin a Daniel Gordon o Gaerdydd eu harestio wedi iddyn nhw werthu ceir oedd yn werth £110,000 am ychydig llai na £5,400 - ond roedd y prynwyr yn blismyn oedd yn gweithio fel rhan o ymgyrch gudd i ddal y ddau.

    ceir
    Image caption: Rhai o'r ceir gafodd eu dwyn a'u gwerthu i blismyn