Bydd staff y papur yn symud i Fae Colwyn yn hwyrach yn y flwyddyn ar ôl 16 mlynedd yn ei safle presennol yng Nghyffordd Llandudno.
Ond doedd y mwyafrif o'r gweithwyr ddim wedi cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn symud, nes i'r datganiad gan Lidl gyrraedd eu desgiau.
GoogleCopyright: Google
'Noson sych ar y cyfan'
Tywydd, BBC Cymru
Robin Owain Jones sydd â'r tywydd ar gyfer heno: "Bydd 'na rai cawodydd
yn parhau am gyfnod wedi iddi nosi, gydag eira ar y bryniau a’r mynyddoedd, cyn troi'n noson sych ar y cyfan.
"Bydd y gwynt yn gostegu dros nos hefyd, ac efo cyfnodau
clir yn datblygu erbyn yr oriau man, bydd rhywfaint o farrug mewn mannau.
"Ond ni fydd hi mor oer â’r nosweithiau diwethaf, y tymheredd yn 2C ar ei isaf."
Mae’r gystadleuaeth yn ddathliad o gyfraniad Alun ‘Sbardun’ Huws i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Cymru fel un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf.
Daw ei sylwadau mewn adroddiad, gafodd ei gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad naw mis.
ThinkstockCopyright: Thinkstock
Holi'r Prif Weinidog: Dadansoddiad Vaughan
BBC Cymru Fyw
Galw am gyfreithloni canabis i drin cyflwr meddygol, a ffrae Ysgol Llangennech oedd dau o'r pynciau gafodd eu trafod yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog heddiw.
Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, sy'n dadansoddi.
Video content
Video caption: Holi'r Prif Weinidog: Dadansoddiad VaughanHoli'r Prif Weinidog: Dadansoddiad Vaughan
Mae pysgotwyr cwrwgl yng ngorllewin Cymru'n dathlu, yn ôl y Carmarthen Journal, wedi i eog sydd wedi'u dal gan bysgotwyr cwrwgl yng ngorllewin Cymru dderbyn statws bwyd arbennig gan Gomisiwn Ewrop.
Dywedodd yr heddlu bod y damweiniau wedi digwydd ar rannau o'r A48, yr A4226 a'r B4270.
Mae'r ffyrdd bellach wedi cael eu graeanu.
BBCCopyright: BBC
'Gwerth y byd yw Bale'
Twitter
Mae Gareth Bale ar dudalen flaen y rhifyn diweddara' o'r Radio Times yng Nghymru, ac mae'r bardd Ifor ap Glyn wedi trydar bod cyfweliad gyda'r chwaraewr byd-enwog i gyd-fynd efo rhyddhau'r ffilm Don't Take Me Home.
Cafodd Huw Aled Jones, 44, hefyd ddedfryd ohiriedig o 16 wythnos o garchar.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod gan Jones anifeiliaid oedd yn marw ar ei dir ar Fferm Ffrainc yn Rhydtalog, Sir y Fflint.
Bygwth eithrio disgyblion i wneud lle i fwy
Daily Post
Yn ôl y Daily Post mae prifathro Ysgol Rhuthun, Toby Belfield, wedi e-bostio staff i ddweud y bydd yn chwilio am reswm i daflu 25 o ddisgyblion allan o'r ysgol breifat cyn dechrau'r flwyddyn addysgol nesaf.
Fe ddywed yr erthygl fod hyn am fod yr ysgol wedi derbyn mwy o ddisgyblion newydd nag sydd ganddyn nhw o lefydd gwag, a bod y disgyblion yna wedi talu o flaen llaw.
Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad, dywedodd yr arolygydd Bill Wadrup y byddai'r ymchwiliad cyhoeddus yn clywed am 22 llwybr posib ar wahân i'r un y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio.
Mae'r llywodraeth eisiau adeiladu ffordd chwe lôn gwerth £1.1bn rhwng Magwyr a Chas-bach i ddelio â'r tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas.
Cafodd Cyngerdd Gŵyl Ddewi ei ddangos ar y sianel nos Sul, ond doedd dim isdeitlau Cymraeg na Saesneg ar y caneuon.
Dywedodd y Daily Post bod ysgrifennydd Cyngor Darlledu Byddar Cymru, Cedric Moon wedi cyhuddo'r darlledwr o "anffafriaeth bwriadol" yn erbyn gwylwyr byddar.
BBCCopyright: BBC
Mwy o bobl ifanc yn marw ar y ffyrdd
BBC Cymru Fyw
Mae nifer y bobl ifanc sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru wedi codi 15% ers 2012.
Bydd mwy ar y stori yma ar Week In Week Out: Too Young, Too Fast, Too Soon? ar BBC One Wales am 22:40 heno.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Cylchgrawn: 'Marw' i gael tatŵ
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Ar S4C ar 1 Mawrth mae rhaglen yn dilyn y digrifwr a'r canwr, Dewi Pws sydd ar daith arbennig i sgwrsio gyda nifer o bobl sydd â rhesymau gwahanol dros gael tatŵs.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn!
BBC Cymru Fyw
Mae'r llif byw wedi dod i ben am y diwrnod. Fe fyddwn ni 'nôl am 08:00 bore 'fory, ond bydd y diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.
Y Daily Post yn symud swyddfa... medd Lidl
Press Gazette
Mae'r Press Gazette yn adrodd bod newyddiadurwyr papur newydd y Daily Post wedi darganfod bod eu swyddfa yn cau, wrth iddyn nhw dderbyn e-bost gan archfarchnad Lidl yn dweud eu bod am ailddatblygu'r safle .
Bydd staff y papur yn symud i Fae Colwyn yn hwyrach yn y flwyddyn ar ôl 16 mlynedd yn ei safle presennol yng Nghyffordd Llandudno.
Ond doedd y mwyafrif o'r gweithwyr ddim wedi cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn symud, nes i'r datganiad gan Lidl gyrraedd eu desgiau.
'Noson sych ar y cyfan'
Tywydd, BBC Cymru
Robin Owain Jones sydd â'r tywydd ar gyfer heno: "Bydd 'na rai cawodydd yn parhau am gyfnod wedi iddi nosi, gydag eira ar y bryniau a’r mynyddoedd, cyn troi'n noson sych ar y cyfan.
"Bydd y gwynt yn gostegu dros nos hefyd, ac efo cyfnodau clir yn datblygu erbyn yr oriau man, bydd rhywfaint o farrug mewn mannau.
"Ond ni fydd hi mor oer â’r nosweithiau diwethaf, y tymheredd yn 2C ar ei isaf."
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan dywydd BBC .
Cynnal cystadleuaeth Tlws Sbardun eto eleni
Y Cymro
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cystadleuaeth eto eleni i wobrwyo cân werinol acwstig, gyda Thlws Sbardun a £500 yn wobr i’r enillydd .
Mae’r gystadleuaeth yn ddathliad o gyfraniad Alun ‘Sbardun’ Huws i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Cymru fel un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf.
Cerddor ifanc o ardal Caernarfon, Elidyr Glyn oedd enillydd cyntaf y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau y llynedd .
Pryder am fynediad pobl hŷn at feddygon
BBC Wales News
Mae'r henoed yng Nghymru yn wynebu amrywiaeth "sylweddol ac annerbyniol" wrth geisio gweld meddygon teulu, yn ôl y Comisiynydd Pobl Hŷn.
Dywedodd Sarah Rochira bod "pryder gwirioneddol" y gallai rhwystrau ynglŷn â gweld meddygon ychwanegu "pwysau diangen" ar rannau eraill o'r GIG.
Daw ei sylwadau mewn adroddiad, gafodd ei gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad naw mis.
Holi'r Prif Weinidog: Dadansoddiad Vaughan
BBC Cymru Fyw
Galw am gyfreithloni canabis i drin cyflwr meddygol, a ffrae Ysgol Llangennech oedd dau o'r pynciau gafodd eu trafod yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog heddiw.
Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, sy'n dadansoddi.
Video content
Prop y Dreigiau'n gadael am Gaerfaddon
South Wales Argus
Yn ôl y South Wales Argus mae prop y Dreigiau, Shaun Knight, yn gadael y rhanbarth .
Fe chwaraeodd y gŵr o Gaerloyw 21 o weithiau dros y Dreigiau y tymor diwethaf, cyn ymuno dros dro gyda Chaerfaddon.
Ond mae bellach wedi arwyddo cytundeb parhaol sy'n ei gadw gyda chlwb y Recreation Ground nes diwedd 2018.
Carcharu dyn am achosi ffrwydrad
BBC Cymru Fyw
Mae dyn wedi'i garcharu am bedair blynedd a chwe mis yn Llys y Goron Caerdydd am achosi ffrwydrad yn ei gartref ei hun .
Cafodd William Flindell, 50, orchymyn hefyd gan y barnwr i gael ei drosglwyddo i ysbyty yn y 28 diwrnod nesaf.
Fe wnaeth Flindell ddioddef llosgiadau difrifol yn y digwyddiad ac achosodd gwerth £220,000 o ddifrod yn ystod y digwyddiad ym mis Ebrill y llynedd.
Crimp am grempog!
Cylchgrawn, Cymru Fyw
A hithau'n Ddydd Mawrth Crempog, mae adran gylchgrawn Cymru Fyw wedi cysylltu â'r cogyddion Elliw Gwawr, Gareth Richards a Beca Lyne-Pirkis er mwyn cael ambell i syniad gwahanol am sut i ddathlu'r diwrnod mewn steil !
Statws arbennig i eog y gorllewin
Twitter
Mae pysgotwyr cwrwgl yng ngorllewin Cymru'n dathlu, yn ôl y Carmarthen Journal, wedi i eog sydd wedi'u dal gan bysgotwyr cwrwgl yng ngorllewin Cymru dderbyn statws bwyd arbennig gan Gomisiwn Ewrop.
Rhew yn achosi gwrthdrawiadau
BBC Wales News
Fe wnaeth rhew achosi o leiaf chwe gwrthdrawiad ar un o'r prif ffyrdd i mewn i Gaerdydd o Fro Morgannwg fore heddiw.
Dywedodd yr heddlu bod y damweiniau wedi digwydd ar rannau o'r A48, yr A4226 a'r B4270.
Mae'r ffyrdd bellach wedi cael eu graeanu.
'Gwerth y byd yw Bale'
Twitter
Mae Gareth Bale ar dudalen flaen y rhifyn diweddara' o'r Radio Times yng Nghymru, ac mae'r bardd Ifor ap Glyn wedi trydar bod cyfweliad gyda'r chwaraewr byd-enwog i gyd-fynd efo rhyddhau'r ffilm Don't Take Me Home.
Cyfraddau ailgylchu wedi gwella
BBC Wales News
Mae cyfraddau ailgylchu cynghorau Cymru wedi gwella yn y flwyddyn ddiwethaf , yn ôl ffigyrau dros dro, medd BBC Wales News.
Ledled Cymru, cafodd 62% o wastraff ei ailgylchu yn y 12 mis at Medi y llynedd, o'i gymharu â 58% y flwyddyn flaenorol.
Ceredigion yw'r awdurdod sy'n perfformio orau (70%), a Blaenau Gwent oedd waethaf (52%).
Teulu golwr yn agor arddangosfa
Twitter
Gwahardd ffermwr rhag cadw anifeiliaid
BBC Cymru Fyw
Mae ffermwr o ardal Yr Wyddgrug wedi cael gwaharddiad rhag gofalu am anifeiliaid am chwe blynedd .
Cafodd Huw Aled Jones, 44, hefyd ddedfryd ohiriedig o 16 wythnos o garchar.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod gan Jones anifeiliaid oedd yn marw ar ei dir ar Fferm Ffrainc yn Rhydtalog, Sir y Fflint.
Bygwth eithrio disgyblion i wneud lle i fwy
Daily Post
Yn ôl y Daily Post mae prifathro Ysgol Rhuthun, Toby Belfield, wedi e-bostio staff i ddweud y bydd yn chwilio am reswm i daflu 25 o ddisgyblion allan o'r ysgol breifat cyn dechrau'r flwyddyn addysgol nesaf.
Fe ddywed yr erthygl fod hyn am fod yr ysgol wedi derbyn mwy o ddisgyblion newydd nag sydd ganddyn nhw o lefydd gwag, a bod y disgyblion yna wedi talu o flaen llaw.
Trafod cynllun twnnel i'r M4 ger Casnewydd
BBC Cymru Fyw
Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i gynllun i adeiladu rhan newydd o'r M4 i'r de o Gasnewydd yn clywed am argymhelliad i leoli llwybr y ffordd newydd mewn twnnel .
Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad, dywedodd yr arolygydd Bill Wadrup y byddai'r ymchwiliad cyhoeddus yn clywed am 22 llwybr posib ar wahân i'r un y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio.
Mae'r llywodraeth eisiau adeiladu ffordd chwe lôn gwerth £1.1bn rhwng Magwyr a Chas-bach i ddelio â'r tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas.
Cyhuddo S4C o 'anffafriaeth bwriadol'
Daily Post
Mae S4C wedi cael ei gyhuddo o "anffafriaeth bwriadol" am ei fethiant i gynnwys isdeitlau ar gyngerdd Bryn Terfel gafodd ei ddarlledu ar y sianel .
Cafodd Cyngerdd Gŵyl Ddewi ei ddangos ar y sianel nos Sul, ond doedd dim isdeitlau Cymraeg na Saesneg ar y caneuon.
Dywedodd y Daily Post bod ysgrifennydd Cyngor Darlledu Byddar Cymru, Cedric Moon wedi cyhuddo'r darlledwr o "anffafriaeth bwriadol" yn erbyn gwylwyr byddar.
Mwy o bobl ifanc yn marw ar y ffyrdd
BBC Cymru Fyw
Mae nifer y bobl ifanc sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru wedi codi 15% ers 2012.
Yn ôl yr elusen foduro Sefydliad RAC, mae gan Gymru gyfradd uwch o ddamweiniau rhwng gyrwyr ifanc nac unman arall yn y DU .
Bydd mwy ar y stori yma ar Week In Week Out: Too Young, Too Fast, Too Soon? ar BBC One Wales am 22:40 heno.
Cylchgrawn: 'Marw' i gael tatŵ
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Ar S4C ar 1 Mawrth mae rhaglen yn dilyn y digrifwr a'r canwr, Dewi Pws sydd ar daith arbennig i sgwrsio gyda nifer o bobl sydd â rhesymau gwahanol dros gael tatŵs.
Un o'r rhai fydd yn ymddangos ar y rhaglen Taith Tatŵ Dewi Pws ydy Sarah Tyler Davies o Gaernarfon, ac bu hi'n siarad gyda Cymru Fyw i drafod y diwrnod wnaeth arwain at ei phenderfyniad i gael tatŵ .