a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Mesur Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
  4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg – y ffordd ymlaen
  5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur yr Economi Ddigidol
  6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Da boch chi

    Dyna ddiwedd y trafodion heddiw yn y Siambr. 

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory ar gyfer y cyfarfod llawn.

    Senedd
  2. 'Syfrdanol'

    Dywed AC Canol Caerdydd Jenny Rathbone "ei fod yn ddim llai na syfrdanol bod un rhan o dair o fwyd a gynhyrchir byth yn cyrraedd y bwrdd neu y plât".

    Jenny Rathbone
  3. 'Economi fwy gylchol'

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar  yn galw am "sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ."  

  4. Mabwysiadu arfer gorau

    Ar ran Plaid Cymru, mae Simon Thomas yn argymell cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.

    Dywed bod angen i awdurdodau lleol "fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16".  

    Simon Thomas
  5. 'Cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol'

    Mae Gareth Bennett UKIP yn nodi "â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol".

    Mae'n "gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio".

    Mae UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.

  6. Y drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu

    Cymru yw'r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, yn ôl adroddiad.

    Mae'r adroddiad, sydd wedi cael ei gyhoeddi gan 'Resource', yn gosod Cymru y tu ôl i'r Almaen a Taiwan am ailgylchu trefol.

    Mae'r ffigurau chwarter a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn dangos bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU.

    Mae Cymru bellach yn ailgylchu ddwywaith cymaint nag yr oedd ddegawd yn ôl ac mae'n parhau i gael ei defnyddio fel enghraifft o arfer da i wledydd eraill y DU.

    ailgylchu
  7. Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu?

    Yr eitem olaf heddiw yw dadl ar wastraff trefol ac ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

    "Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:

    a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen

    b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu".

    Arferai Carl Sargeant ddweud mai Cymru oedd y ' Real Madrid o ran ailgylchu '. 

    ailgylchu
  8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei basio

    Mae'r cynnig yn cael ei basio heb wrthwynebiad.

  9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur yr Economi Ddigidol

    Mae Llywodraeth Cymru nawr yn cynnig bod y Cynulliad yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mesur yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

    Mae'r mesur yn: 

    • Cyflwyno "Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol" newydd i roi hawl i ddefnyddwyr gael isafswm o ran cyflymder band eang
    • diweddaru rheolau eiddo deallusol ar gyfer diwydiannau digidol 
    • Gwneud Ofcom yn gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau'r BBC ac yn rhoi pŵer i'r BBC gynnal neu gael gwared ar gonsesiynau ar drwyddedau teledu ar sail oedran. 
    • Cyflwyno rheolau gwirio oedran i wylio pornograffi ar-lein gyda chosbau am beidio â chydymffurfio 
    • Sefydlu cod statudol newydd ar gyfer marchnata uniongyrchol i gryfhau camau gorfodi.
    Economi Ddigidol
  10. 'Synnwyr cyffredin'

    Neil Hamilton UKIP yn cymeradwyo Alun Davies ar ei "synnwyr cyffredin a dull gweithredu realistig".

  11. 'Sylweddoli nad yw busnes fel arfer yn ddigon da'

    Dywed Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru bod y datganiad yn "rhoi mwy o hyder inni fod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb o safbwynt twf addysg Gymraeg o ddifrif, a bod y llywodraeth yn sylweddoli nad yw busnes fel arfer yn ddigon da".  

    Llyr Gruffydd
  12. 'Ddim mor effeithiol ag y mae angen iddyn nhw fod'

    Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau i Lywodraeth Cymru yn egluro sut y byddan nhw'n ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg, ond dywedodd y Gweinidog dros y Gymraeg, Alun Davies, bod y cynlluniau presennol "ddim mor effeithiol ag y mae angen iddyn nhw fod".  

  13. Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Alun Davies: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg – y ffordd ymlaen.  

    Mae cyn-Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, wedi cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i gadeirio adolygiad o gynlluniau cynghorau Cymru i ddarparu addysg Gymraeg. 

    Aled Roberts
    Image caption: Aled Roberts
  14. 'Nid ydym yn Lloegr eto'

    "Nid ydym yn Lloegr eto" meddai Carl Sargeant. "Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma."

    Carl Sargeant
  15. 'Anawsterau ymarferol'

    Dywed Gareth Bennett bod UKIP "yn fras yn cefnogi'r Hawl i Brynu, ond rydym hefyd yn cydnabod anawsterau ymarferol y polisi".

    Gareth Bennett
  16. Plaid Cymru yn cefnogi diddymu'r Hawl i Brynu

    Dywed Bethan Jenkins bod  Plaid Cymru yn cefnogi diddymu'r Hawl i Brynu, sy'n golygu ei bod yn annhebygol y bydd Llafur yn cael trafferth i basio'r ddeddf yn y Senedd. 

    Mae'r blaid hefyd wedi gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cymryd cyhyd i ddiddymu'r polisi.

    Bethan Jenkins
  17. 'Diwrnod trist iawn i Gymru'

    Mae'r cynlluniau yn cael eu beirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd yn dweud y bydd yn tanseilio "symudedd cymdeithasol".

    Dywed David Melding, llefarydd y blaid ar dai, bod hwn yn "ddiwrnod trist iawn i Gymru".

    Ychwanegodd mai'r rheswm am y diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru yw oherwydd nad yw Llafur wedi adeiladu digon ohonynt, nid oherwydd bod tenantiaid cyngor wedi cael y cyfle i brynu eu rhai nhw.

    David Melding
  18. Annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu mwy o dai

    Mae cynghorau Ynys Môn, Sir Gâr ac Abertawe eisoes wedi dod â'r polisi i ben, tra bod cynghorau Caerdydd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi cyflwyno cynlluniau tebyg i weinidogion.

    Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant mai'r bwriad oedd annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu mwy o dai, ac mae'r cynlluniau wedi eu croesawu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

    Fe allai gymryd o leiaf blwyddyn yn dilyn pasio'r ddeddf i'r trefniadau newydd ddod i rym.

    
          Teulu'r King ym Milton Keynes oedd ymhlith y cyntaf i dderbyn y gweithredoedd i'w tŷ cyngor
    Image caption: Teulu'r King ym Milton Keynes oedd ymhlith y cyntaf i dderbyn y gweithredoedd i'w tŷ cyngor
  19. Cynlluniau i ddiddymu cynllun Hawl i Brynu

    Nawr ceir Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant ar y Mesur Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddiddymu cynllun Hawl i Brynu ar draws y wlad.

    Cafodd addewid i wneud hynny ei wneud ym maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiad Cynulliad 2016, ac mae cynghorau unigol eisoes wedi cael y pŵer i atal y cynllun.

    Dywedodd y llywodraeth mai'r bwriad oedd amddiffyn stoc dai Cymru a sicrhau bod digon o gartrefi fforddiadwy i bobl sydd methu fforddio prynu neu rentu.

    Roedd y cynllun Hawl i Brynu, sydd yn caniatáu i denantiaid cartrefi cymdeithasol brynu eu heiddo ar ôl byw yno am bum mlynedd, yn un o'r polisïau amlycaf gafodd eu cyflwyno gan Margaret Thatcher pan oedd hi'n brif weinidog.

    
          Bwriad yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant yw amddiffyn y stoc dai
    Image caption: Bwriad yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant yw amddiffyn y stoc dai