a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Adolygiad o'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Cyfradd Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau – y camau nesaf
  5. Datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: Menter Ymchwil Busnesau Bach
  6. Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017
  7. Dadl: Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

    Y Senedd
  2. Cytuno ar yr egwyddorion

    Mae'r aelodau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru.

    Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cylllid a Llywodraeth Leol
    Image caption: Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cylllid a Llywodraeth Leol
  3. 'Pryder ynghylch pwerau Harri'r VIII helaeth'

    Mae Huw Irranca-Davies yn cyflwyno adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

    Mae'n mynegi "pryder ynghylch y pwerau Harri'r VIII helaeth yn y mesur".

    Pwerau Harri’r VIII yw’r enw a roddir ar ddarpariaethau mewn Mesur sy’n galluogi diwygio neu ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol drwy is-ddeddfwriaeth (boed gyda neu heb ragor o graffu Seneddol).

    Harri'r VIII
  4. Cyfraddau treth arfaethedig

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Simon Thomas yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sy'n cynnwys 24 o argymhellion.

    Dylai deddfwriaeth gynnwys rhagor o wybodaeth ynghylch sut y byddai'r system yn gweithio, medd y pwyllgor.

    Dylai manylion fel cyfraddau treth arfaethedig fod wedi cael eu darparu yn y mesur, medd Mr Thomas ar ran y pwyllgor.

    Simon Thomas
  5. Dadl ar Fesur Treth Gwarediadau Tirlenwi

    Mae'r aelodau nawr yn cael dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). 

    Mae Mark Drakeford yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). 

    Bydd y mesur yn sefydlu treth newydd ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi a fydd yn disodli'r dreth dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018.

    Y mesur hwn yw'r trydydd mesur i sefydlu trefniadau trethi datganoledig yng Nghymru. 

    Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn sicrhau bod y refeniw a geir o'r dreth dirlenwi yn parhau i gael ei gasglu a'i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Tirlenwi
  6. Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol 2017

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd .

  7. 'Rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud'

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud ei fod yn falch "bod yna rywfaint o gynnydd wedi ei wneud yn cynorthwyo i ddatblygu rhai atebion i rai o'r problemau, yn arbennig mewn gwasanaethau cyhoeddus".

    Darren Millar
  8. 'Wrth galon nid yn unig caffaeliad cyhoeddus ond hefyd polisi cyhoeddus'

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud ei fod yn "cymeradwyo'r agwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddilyn yn rhoi arloesedd wrth galon nid yn unig caffaeliad cyhoeddus ond hefyd polisi cyhoeddus".

    Adam Price
  9. Menter Ymchwil Busnesau Bach

    Nesaf yn y Siambr datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James ar Fenter Ymchwil Busnesau Bach.

    Mae'n dweud bod cystadleuaeth yn null Dragons Den, sy'n cynnig cyfle i arloeswyr yng Nghymru wneud cais am gyllid i'w helpu nhw i ddod o hyd i atebion newydd i rai o'r problemau mwyaf cymhleth sy'n wynebu'r sector cyhoeddus yng Nghymru, wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.

    Yn ôl Julie James mae Menter Ymchwil Busnesau Bach, sy'n cael ei chefnogi gan dros £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cael ei rhedeg ar y cyd ag Innovate UK, wedi ennyn diddordeb gwledydd datganoledig eraill y DU, yn ogystal â dal sylw yn Iwerddon, Sweden ac Awstralia. 

    Cafodd y fenter ei lansio yng Nghymru yn 2013, ac mae'n cynnig cyfleoedd i fusnesau - gan gynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig (SMEs) - wneud ceisiadau am gyllid ymchwil a datblygu, i ddatblygu atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg er mwyn datrys heriau penodol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu.

    Hyd yn hyn, mae 14 o gystadlaethau wedi cael eu rhedeg yng Nghymru gan Fenter Ymchwil Busnesau Bach, gan arwain at ddyfarnu 66 o gytundebau gwerth tua £5 miliwn i gwmnïau, er mwyn "datblygu atebion ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru".

    Dragons' Den
  10. 'Cydymdeimlo gyda phryderon preswylwyr'

    Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP yn "cydymdeimlo gyda phryderon preswylwyr cartrefi mewn parciau".

    Gareth Bennett
  11. Galwad i ddiddymu'r ardoll cartrefi mewn parciau o 10%

    Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn galw am ddiddymu'r ardoll cartrefi mewn parciau o 10%.

  12. 'Mae'r comisiwn o 10% yn annheg'

    Mae Bethan Jenkins yn dweud "rydyn ni ym Mhlaid Cymru ar ochr perchnogion cartrefi mewn parciau ac nid landlordiaid yn yr achos hwn. Mae'r comisiwn o 10% yn annheg". 

    Bethan Jenkins
  13. 'Gallai fod yna sail i ostwng lefel y comisiwn neu hyd yn oed ei ddiddymu'

    Mae Carl Sargeant yn dweud "o ystyried y sylwadau cryf iawn rwyf wedi’u cael ar y mater, rwyf o’r farn ar hyn o bryd y gallai fod yna sail i ostwng lefel y comisiwn neu hyd yn oed ei ddiddymu. Byddaf wrth reswm am roi ystyriaeth lawn i’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyn penderfynu’n derfynol ar y mater".

  14. Ymgynghoriad ar leihau neu ddiddymu ffioedd comisiwn

    Mae perchnogion cartrefi symudol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar reolau "gwbl gythreulig" ynghylch gwerthu eu heiddo.

    O dan y system bresennol, mae'n ofynnol i berson sy'n prynu cartref symudol i dalu hyd at 10% o gomisiwn i berchennog y safle.

    Roedd nifer o breswylwyr cartrefi symudol yn protestio y tu allan i'r Senedd heddiw er mwyn ceisio lobïo gweinidogion.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod am gynnal ymgynghoriad ar leihau neu ddiddymu ffioedd comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau.

    Cafodd  deddf i roi mwy o hawliau i breswylwyr cartrefi symudol yng Nghymru ei basio  yn y Cynulliad yn 2013.  

    Cartrefi symudol
  15. Cyfradd Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: Cyfradd Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau - y camau nesaf.

    Carl Sargeant
  16. 'Newyddion gwych'

    Mae Caroline Jones UKIP yn dweud ei fod yn "newyddion gwych" y bydd yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu erbyn mis Medi.

  17. 'Adroddiad cytbwys iawn'

    Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn dweud ei fod yn "adroddiad cytbwys iawn" ac mae hi'n croesawu y gwelliannau arfaethedig. 

    Fodd bynnag, mae ganddi rai pryderon am y cyfnod o chwe mis y bydd yn cymryd i fyrddau iechyd i weithredu'r newidiadau.

    Angela Burns
  18. 'Adolygiad trylwyr a fydd yn gwella bywydau cleifion'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn llongyfarch y panel ar "adolygiad trylwyr a fydd yn gwella bywydau cleifion". Mae'n dweud bod yr adolygiad yn "gonsesiwn allweddol enillodd Plaid Cymru gan y Blaid Lafur y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn etholiad y cynulliad".

    Mae'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i weithredu'r argymhellion.

    Rhun ap Iorwerth
  19. Adolygiad o'r drefn

    Yn dilyn cytundeb gyda Plaid Cymru ar ôl etholiad y Cynulliad y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y byddai'r drefn yn cael ei adolygu.

    Yn ôl yr adolygiad: "Roedd yna gleifion oedd yn flin neu'n rhwystredig, neu'n teimlo eu bod wedi cael tro gwael gan broses IPFR, ac nid oeddent yn deall sut yr oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud, neu'n teimlo bod penderfyniadau yn annheg, neu wedi'u hysbysu'n wael, neu'n anghyson."

    Edrychodd y panel ar y meini prawf sy'n cael eu defnyddio i benderfynu os oedd achos yn un "eithriadol" neu beidio.

    Ychwanegodd yr adolygiad bod hwn yn fater oedd yn poeni pobl fwy nag unrhyw beth arall.

    Mae'r adroddiad yn dweud bod cleifion yn aml yn teimlo nad oedden nhw yn deall ar ba sail yr oedd y penderfyniad yn cael ei wneud a bod diffinio'r gair "eithriadol" yn anodd.

    Vaughan Gething