Chwaraewr rhyngwladol Cymru Andy King yn edrych ymlaen wrth i Gaerlŷr wynebu Athletico Madrid yn Sbaen yng nghystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr heno.
Bydd heno'n noson gymylog i'r mwyafrif, gyda pheth glaw ysgafn. Bydd ambell gyfnod clir, gyda'r tymheredd yn disgyn i 5C mewn ambell fan gwledig, felly llwydrew'n bosib.
Fe fydd ysmygu'n cael ei wahardd ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dywed trefnwyr yr ŵyl ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr y bydd hynny'n golygu'r maes cyfan am chwe diwrnod.
IRFON BENNETTCopyright: IRFON BENNETT
Heddlu Dyfed-Powys: Galw am welliannau
BBC Cymru Fyw
Mae angen i un o luoedd heddlu Cymru wneud mwy o welliannau o ran cadw pobl yn ddiogel a gostwng lefelau torcyfraith yn ôl y corff sy'n eu hadolygu.
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaid Ei Mawrhydi yn dweud yn ei asesiad blynyddol bod angen gwella ar Heddlu Dyfed-Powys, sy'n un o ddau lu heddlu yng Nghymru a Lloegr sydd yn y categori gwaethaf ar bob mesur.
BBCCopyright: BBC
Symud preswylwyr cartref gofal
Cyngor Sir y Fflint
Mae preswylwyr cartref gofal yn Sir y Fflint wedi eu symud i "leoliad saff a diogel" gan swyddogion y cyngor.
Fe ddaw ar ôl adroddiad beirniadol am Gartref Gofal Allerton Lodge ym Mrynffordd, ger Treffynnon gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint bod eu cytundeb wedi dod i ben ac mae'r 15 o bobl wedi eu symud am nad oedd 'na ddigon o welliant wedi ei wneud ers yr adroddiad.
GoogleCopyright: Google
Carcharu 'lleidr penigamp'
BBC Cymru Fyw
Mae dyn o Fro Morgannwg wnaeth ymffrostio ar wefan Facebook ei fod yn lleidr banc penigamp wedi ei garcharu am wyth mlynedd am ddwyn.
Clywodd y llys fod Daniel Jones, 34 oed, o Benarth wedi ei ddal ar ôl dwyn £10,000 o bum gwahanol lleoliad dros gyfnod o bum diwrnod.
Wales News ServiceCopyright: Wales News Service
Gwahardd pensiynwraig rhag gyrru
BBC Cymru Fyw
Mae pensiynwraig 70 oed o Fôn wedi ei gwahardd rhag gyrru oherwydd pryder am ei diogelwch.
Yn wreiddiol roedd ynadon wedi anfon Elizabeth Jones o Rosneigr ar gwrs i wella ei gyrru ar ôl iddi fod mewn gwrthdrawiad.
Clywodd y llys fod hyfforddwr y cwrs yn poeni am ei diogelwch a'i fod wedi rhoi'r gorau i'r wers.
Penderfynodd ynadon i'w gwahardd rhag gyrru tan iddi basio prawf gyrru.
Yn ychwanegol cafodd ddirwy a chostau o £195 a chwe phwynt ar ei thrwydded.
Ymestyn dedfryd troseddwr rhyw
BBC Cymru Fyw
Mae Llys Apêl wedi ymestyn dedfryd carchar dyn 41 oed o Gwmbrân wnaeth feithrin plant ar gyfer dibenion rhyw.
Ym mis Ionawr cafodd Michael David McCauley ei garcharu am 15 mlynedd am gyfres o droseddau yn erbyn plant mor ifanc â chwech oed.
Penderfynodd barnwyr i gynyddu ei gyfnod yn y carchar o 15 i 20 mlynedd am droseddau yn cynnwys chwe achos o dreisio.
Cafodd mynydd uchaf Cymru ei ddewis o flaen atyniadau adnabyddus eraill gan gynnwys Loch Ness yn yr Alban, Côr y Cewri yn Wiltshire a Phalas Westminster yn Llundain.
Mae Huw Brassington wedi ymweld â phob un o'r deg uchaf o lefydd ar y rhestr, a bu'n siarad â Gaynor Davies ar BBC Radio Cymru y bore yma.
Video content
Video caption: Yn ol Huw Brassington mae angen tri peth ar gyfer golygfa dda; "Mor, mynydd a tawelwch!"Yn ol Huw Brassington mae angen tri peth ar gyfer golygfa dda; "Mor, mynydd a tawelwch!"
Chwe mlynedd o garchar am achosi marwolaeth bachgen
BBC Cymru Fyw
Mae dyn wedi ei garcharu am chwe blynedd am achosi marwolaeth bachgen pump oed drwy yrru'n beryglus yng Nghaerdydd.
Bu farw Joseph Smith yn y gwrthdrawiad ar Rodfa'r Gorllewin yn y ddinas ym mis Medi 2015.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod gan lystad y bachgen, Dean Collins, 24, gocên yn ei waed pan darodd gerbydau eraill.
Roedd Collins wedi ei gael yn euog ddydd Mawrth o achosi marwolaeth Joseph a phedwar cyhuddiad arall o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Cafodd Collins ei ddedfrydu i dair blynedd am achosi anafiadau difrifol hefyd, ac fe fydd y ddedfryd honno'n cyd-redeg gyda'r ddedfryd o chwe blynedd.
Mae wedi ei wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd a nes y bydd wedi cymryd prawf gyrru estynedig.
Wales News ServiceCopyright: Wales News Service
Prynhawn cymylog ond sych
Tywydd, BBC Cymru
Mi fydd hi’n brynhawn cymylog ond sych ar y cyfan i rannau helaeth o’r wlad, ond mi fydd ‘na law mân mewn mannau, er y bydd yn troi’n gawodydd mwy ynysig yn ystod y dydd.
Bydd y cymylau'n teneuo yn y gogledd yn hwyrach yn y prynhawn, gyda rhai ysbeidiau heulog yn debygol. Y tymheredd yn 13C ar ei uchaf.
Mae cynllun dadleuol i adeiladu 133 o dai yng Ngallt Melyd, Sir Ddinbych wedi cael ei wrthod gan bwyllgor cynllunio'r cyngor sir.
Roedd y cynllun gan Penrhyn Homes Ltd wedi wynebu gwrthwynebiad gan Gyngor Tref Prestatyn o achos eu pryder am faint y datblygiad a'r effaith ar ddiogelwch ffyrdd a llifogydd yn yr ardal.
Oedi mawr ar yr M4 wedi gwrthdrawiad
Teithio BBC Cymru
Mae oedi mawr ar yr M4 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar car yn gynharach. Mae cerbydau'n teithio'n araf iawn rhwng cyffordd 27 B4591 (Highcross) a chyffordd 28 A48 / A467, (Parc Tredegar).
Mae na oedi hyd at gyffordd 24 ar hyn o bryd.
Apêl wedi lladrad
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau llun o fan wen maen nhw'n yn awyddus i ddod o hyd iddi yn sgil lladrad offer gwerth £24,000 o swyddfeydd Cyngor Torfaen.
Cafodd peiriannau garddio eu cymryd o du allan i'r swyddfeydd yn New Inn ger Pont-y-pŵl rhywbryd rhwng 23:00 11 Ebrill a 02:00 ar 12 Ebrill.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.
Heddlu GwentCopyright: Heddlu Gwent
Lle da i syllu ar y sêr
BBC Cymru Fyw
Mae prosiect newydd yn tynnu sylw at dri Pharc Cenedlaethol Cymru fel lleoliadau awyr dywyll arbennig iawn, gyda chyfleoedd i fwynhau gweithgareddau fel syllu ar y sêr a seryddiaeth.
Mae gwefan Profi'r Tywyllwch Cymru wedi cael ei llunio gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl fawr
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan am y tro.
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd bore fory am 08:00.
Dedfrydu dyn am osod weiren bigog
BBC Cymru Fyw
Mae dyn wnaeth osod weiren bigog ar draws llwybr seiclo mewn coedwig yn Sir Ddinbych wedi derbyn gorchymyn llys 12 mis a'i osod dan amodau cyrffyw.
Fe wnaeth David Roberts, 50 oed, o Drefnant ger Dinbych bleidio’n euog i geisio ymosod gan achosi niwed corfforol.
Clywodd ynadon yn Llandudno ei fod wedi gosod weiren bigog deg troedfedd o hyd rhwng dwy goeden a thua pum troedfedd o uchder yng nghoedwig Clocaenog.
Clywodd y llys iddo osod y weiren ar ôl ffrae gyda gyrrwr beic modur oedd yn defnyddio'r llwybr.
Plac glas i Gymro yn China
Twitter
China yn cofio cyfraniad Cymro wrth sefydlu ysbyty y Wuhan.
Andy yn methu aros
Twitter
Chwaraewr rhyngwladol Cymru Andy King yn edrych ymlaen wrth i Gaerlŷr wynebu Athletico Madrid yn Sbaen yng nghystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr heno.
Disgwyl noson gymylog
Tywydd, BBC Cymru
Bydd heno'n noson gymylog i'r mwyafrif, gyda pheth glaw ysgafn. Bydd ambell gyfnod clir, gyda'r tymheredd yn disgyn i 5C mewn ambell fan gwledig, felly llwydrew'n bosib.
Am y rhagolygon yn llawn i'ch ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC.
Urdd yn gwahardd ysmygu
Eisteddfod yr Urdd
Fe fydd ysmygu'n cael ei wahardd ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dywed trefnwyr yr ŵyl ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr y bydd hynny'n golygu'r maes cyfan am chwe diwrnod.
Heddlu Dyfed-Powys: Galw am welliannau
BBC Cymru Fyw
Mae angen i un o luoedd heddlu Cymru wneud mwy o welliannau o ran cadw pobl yn ddiogel a gostwng lefelau torcyfraith yn ôl y corff sy'n eu hadolygu.
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaid Ei Mawrhydi yn dweud yn ei asesiad blynyddol bod angen gwella ar Heddlu Dyfed-Powys, sy'n un o ddau lu heddlu yng Nghymru a Lloegr sydd yn y categori gwaethaf ar bob mesur.
Symud preswylwyr cartref gofal
Cyngor Sir y Fflint
Mae preswylwyr cartref gofal yn Sir y Fflint wedi eu symud i "leoliad saff a diogel" gan swyddogion y cyngor.
Fe ddaw ar ôl adroddiad beirniadol am Gartref Gofal Allerton Lodge ym Mrynffordd, ger Treffynnon gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint bod eu cytundeb wedi dod i ben ac mae'r 15 o bobl wedi eu symud am nad oedd 'na ddigon o welliant wedi ei wneud ers yr adroddiad.
Carcharu 'lleidr penigamp'
BBC Cymru Fyw
Mae dyn o Fro Morgannwg wnaeth ymffrostio ar wefan Facebook ei fod yn lleidr banc penigamp wedi ei garcharu am wyth mlynedd am ddwyn.
Clywodd y llys fod Daniel Jones, 34 oed, o Benarth wedi ei ddal ar ôl dwyn £10,000 o bum gwahanol lleoliad dros gyfnod o bum diwrnod.
Gwahardd pensiynwraig rhag gyrru
BBC Cymru Fyw
Mae pensiynwraig 70 oed o Fôn wedi ei gwahardd rhag gyrru oherwydd pryder am ei diogelwch.
Yn wreiddiol roedd ynadon wedi anfon Elizabeth Jones o Rosneigr ar gwrs i wella ei gyrru ar ôl iddi fod mewn gwrthdrawiad.
Clywodd y llys fod hyfforddwr y cwrs yn poeni am ei diogelwch a'i fod wedi rhoi'r gorau i'r wers.
Penderfynodd ynadon i'w gwahardd rhag gyrru tan iddi basio prawf gyrru. Yn ychwanegol cafodd ddirwy a chostau o £195 a chwe phwynt ar ei thrwydded.
Ymestyn dedfryd troseddwr rhyw
BBC Cymru Fyw
Mae Llys Apêl wedi ymestyn dedfryd carchar dyn 41 oed o Gwmbrân wnaeth feithrin plant ar gyfer dibenion rhyw.
Ym mis Ionawr cafodd Michael David McCauley ei garcharu am 15 mlynedd am gyfres o droseddau yn erbyn plant mor ifanc â chwech oed.
Penderfynodd barnwyr i gynyddu ei gyfnod yn y carchar o 15 i 20 mlynedd am droseddau yn cynnwys chwe achos o dreisio.
"Môr, mynydd a thawelwch!"
BBC Radio Cymru
Ddydd Mawrth, cyhoeddwyd mai'r olygfa o gopa'r Wyddfa ddaeth i'r brig mewn arolwg i ddod o hyd i'r olygfa orau yn y DU.
Cafodd mynydd uchaf Cymru ei ddewis o flaen atyniadau adnabyddus eraill gan gynnwys Loch Ness yn yr Alban, Côr y Cewri yn Wiltshire a Phalas Westminster yn Llundain.
Mae Huw Brassington wedi ymweld â phob un o'r deg uchaf o lefydd ar y rhestr, a bu'n siarad â Gaynor Davies ar BBC Radio Cymru y bore yma.
Video content
Chwe mlynedd o garchar am achosi marwolaeth bachgen
BBC Cymru Fyw
Mae dyn wedi ei garcharu am chwe blynedd am achosi marwolaeth bachgen pump oed drwy yrru'n beryglus yng Nghaerdydd.
Bu farw Joseph Smith yn y gwrthdrawiad ar Rodfa'r Gorllewin yn y ddinas ym mis Medi 2015. Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod gan lystad y bachgen, Dean Collins, 24, gocên yn ei waed pan darodd gerbydau eraill.
Roedd Collins wedi ei gael yn euog ddydd Mawrth o achosi marwolaeth Joseph a phedwar cyhuddiad arall o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Cafodd Collins ei ddedfrydu i dair blynedd am achosi anafiadau difrifol hefyd, ac fe fydd y ddedfryd honno'n cyd-redeg gyda'r ddedfryd o chwe blynedd.
Mae wedi ei wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd a nes y bydd wedi cymryd prawf gyrru estynedig.
Prynhawn cymylog ond sych
Tywydd, BBC Cymru
Mi fydd hi’n brynhawn cymylog ond sych ar y cyfan i rannau helaeth o’r wlad, ond mi fydd ‘na law mân mewn mannau, er y bydd yn troi’n gawodydd mwy ynysig yn ystod y dydd.
Bydd y cymylau'n teneuo yn y gogledd yn hwyrach yn y prynhawn, gyda rhai ysbeidiau heulog yn debygol. Y tymheredd yn 13C ar ei uchaf.
Am y rhagolygon yn llawn yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC.
Gwrthod cais am 133 o dai yng Ngallt Melyd
BBC Cymru Fyw
Mae cynllun dadleuol i adeiladu 133 o dai yng Ngallt Melyd, Sir Ddinbych wedi cael ei wrthod gan bwyllgor cynllunio'r cyngor sir.
Roedd y cynllun gan Penrhyn Homes Ltd wedi wynebu gwrthwynebiad gan Gyngor Tref Prestatyn o achos eu pryder am faint y datblygiad a'r effaith ar ddiogelwch ffyrdd a llifogydd yn yr ardal.
Oedi mawr ar yr M4 wedi gwrthdrawiad
Teithio BBC Cymru
Mae oedi mawr ar yr M4 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar car yn gynharach. Mae cerbydau'n teithio'n araf iawn rhwng cyffordd 27 B4591 (Highcross) a chyffordd 28 A48 / A467, (Parc Tredegar).
Mae na oedi hyd at gyffordd 24 ar hyn o bryd.
Apêl wedi lladrad
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau llun o fan wen maen nhw'n yn awyddus i ddod o hyd iddi yn sgil lladrad offer gwerth £24,000 o swyddfeydd Cyngor Torfaen.
Cafodd peiriannau garddio eu cymryd o du allan i'r swyddfeydd yn New Inn ger Pont-y-pŵl rhywbryd rhwng 23:00 11 Ebrill a 02:00 ar 12 Ebrill.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.
Lle da i syllu ar y sêr
BBC Cymru Fyw
Mae prosiect newydd yn tynnu sylw at dri Pharc Cenedlaethol Cymru fel lleoliadau awyr dywyll arbennig iawn, gyda chyfleoedd i fwynhau gweithgareddau fel syllu ar y sêr a seryddiaeth.
Mae gwefan Profi'r Tywyllwch Cymru wedi cael ei llunio gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri.
Beicio trac: Medal i Elinor Barker
Olrhain hanes gwraig 007
BBC Cymru Fyw
Heddiw, am 12:30 ar BBC Radio Cymru, mae rhaglen arbennig o Stiwdio gyda Nia Roberts yn edrych ar fywyd y gantores Dorothy Squires.
Mewn erthygl ar wefan Cylchgrawn BBC Cymru, mae Johnny Tudor a oedd yn ffrind agos i Dorothy Squires, yn sôn am fywyd tymhestlog y gantores a oedd yn gyn-wraig i'r actor Roger Moore.