a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Carchar i ddyn o Gaerdydd am droseddau terfysgol
  2. Plant i wneud profion ysgol ar-lein
  3. Diffyg ymgeiswyr etholiad yn "drychineb"

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ddilyn y llif byw heddiw.

    Fe fydd y llif yn dychwelyd am 08:00 fore Mercher.

  2. Tawel Fan: 'Safon gofal' yn cyfrannu at farwolaethau?

    BBC Cymru Fyw

    Mae BBC Cymru'n deall bod safon y gofal ar ward cleifion dementia Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd wedi gallu cyfrannu at o leiaf saith marwolaeth.

    Cafodd y ward ei chau dros dair blynedd yn ôl ac fe ddywedodd adroddiad ar gyflwr y ward fod rhai cleifion wedi cael eu trin fel anifeiliaid.

    Roedd Adroddiad Ockenden yn 2015 yn hynod feirniadol o'r "camdriniaeth sefydliadol" oedd yn bodoli ar ward Tawel Fan.

    Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd yn gyfrifol am y ward eu bod yn cydnabod y gallai safon y gofal oedd wedi ei roi fod yn ffactor oedd wedi cyfrannu at farwolaeth rhai cleifion, a bod ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal i bob achos ar hyn o bryd.

    tawel fan
  3. Y cyplau mwyaf cyfoethog yng Nghymru

    Wales Online

    Mae dau gwpl priod o Gymru ar restr cyplau mwyaf cyfoethog y DU, medd Wales Online.

    Mae Syr Michael Moritz o Gaerdydd, a'i wraig o America, Harriet Heyman werth £2.629bn, ac yn bumed ar restr y Sunday Times Rich List, tra bod sylfaenwyr Specsavers, Douglas Perking o Gaerfyrddin, a Dame Mary Perkins yn yr wythfed safle.

    Arian
  4. 'Disgwyl rhai cawodydd weddol ysgafn'

    Tywydd, BBC Cymru

    Llŷr Griffiths-Davies sydd efo rhagalygon y tywydd ar gyfer heno:

    "Erbyn heno ma disgwyl rhai cawodydd weddol ysgafn, wrth i ffrynt symud dros y wlad tua'r de-ddwyrain. I'r mwyafrif neith hi bara'n gymylog, 'da rhai cyfnode clir, ond sdim disgwl rhew heno, gan y bydd hi'n codi ychydig yn fwy gwyntog- y tymheredd isa'n rhyw 5c." 

    Am fwy o wybodaeth ewch i wean dywydd y BBC.

  5. Gweithio i wella cae Helo Sardis

    North Wales News

    Mae gwefan y North Wales News yn adrodd bod Clwb Rygbi Pontypridd yn trio datrys y problemau maent wedi bod yn cael gyda'r cae yn Heol Sardis. 

    Roedd aelodau o garfan Merthyr yn dweud bod y cae 3G wedi achosi llosgiadau, a does dim rygbi wedi'w chwarae yno ers y gem rhwng Pontypridd a Merthyr ar ddiwedd mis Mawrth.

    Bydd Pontypridd yn croesawu Rygbi Gogledd Cymru i Heol Sardis brynhawn Sadwrn, 6 Mai.

    Sadis
    Image caption: Cae 3G Heol Sardis, Pontypridd
  6. Chwilio am wirfoddolwyr i 'Steddfod yr Urdd

    Eisteddfod yr Urdd

    Gyda llai na mis tan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont, Taf ac Elai, mae na alw am wirfoddolwyr...

    View more on twitter
  7. Ar y diwrnod hwn ym 1984...

    Twitter

    Ydych chi'n cofio'r gôl yma? Y gyntaf o 16 i Mark Hughes dros ei wlad.  

    View more on twitter
  8. Cwis: Newyddion ffug

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Bydd y ddarlledwraig Bethan Rhys Roberts yn mynd ar drywydd 'fake news' mewn rhaglen arbennig i S4C ddydd Mawrth, 2 Mai.

    Ond ydych chi'n gallu gwahaniaethu rhwng y straeon sydd wedi digwydd a'r rhai sydd wedi'u creu gan Cymru Fyw?

    llun
  9. Pa un o gyflwynwyr Radio Cymru fydd â'r nionyn trymaf?

    BBC Radio Cymru

    Ar bwy mae'ch nionyn/wynwynsyn chi?!

    View more on twitter
  10. Disgyblion Rhosgadfan i ddychwelyd i'r ysgol wedi storm

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn adrodd fod disgyblion ysgol gynradd yng Ngwynedd wedi dychwelyd i'w hadeilad heddiw yn dilyn difrod sylweddol i do'r ysgol mewn storm dros gyfnod y Nadolig. 

    Roedd disgyblion Ysgol Rhosgadfan yn dychwelyd i'w hadeilad arferol fore Mawrth, ar ôl i waith atgyweirio sylweddol gael ei gwblhau i ddifrod gafodd ei achosi gan storm Barbara. 

    Cafodd disgyblion eu haddysgu mewn adeiladau cymunedol yn y pentref dros dro.

  11. 'Siom' na fydd cloddio yn Llys Rhosyr

    Taro'r Post

    BBC Radio Cymru

    Clywodd rhaglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru dydd Mawrth fod trigolion ym mhentref Niwbwrch ar Ynys Mon yn siomedig bod eu cais i gynnal ymchwiliad bellach ar safle Llys Rhosyr, cartref tywysogion olaf Gwynedd, wedi methu. 

    Dyma oedd canolfan weinyddol tywysogion Cymru yn yr oesoedd canol. 

    Dywedodd llefarydd ar ran CADW, er nad oedden nhw'n teimlo ei bod hi'n briodol cloddio yn Llys Rhosyr eleni, eu bod wedi cytuno i roi nawdd i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd i gynnal rhaglen ehangach o gloddio, ymchwilio a chonfodi yn ardaloedd Niwbwrch ac Aberffraw.

    Llys Rhosyr
  12. Cais i bobl Caergybi fod yn wyliadwrus

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i gymunedau yn ardal Caergybi i fod yn wyliadwrus ac i adrodd am unrhyw ymddygiad amheus, wedi i ladron dargedu naw o siediau gardd yn y dref. 

     Fe ddigwyddodd y lladradau dros nos rhwng dydd Sul 30 Ebrill a Dydd Llun 1 Mai, gyda'r lladron yn targedu petrol yn benodol.

  13. Damwain lori yn Alltwalis

    Teithio BBC Cymru

    Mae lori wyth olwyn wedi methu dal y tro cas ar y ffordd i mewn i bentref Alltwalis yn Sir Gaerfyrddin.

    Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi gorfod cau un lôn o'r A485 wrth iddyn nhw geisio codi'r lori.

    lori
    lori
  14. Brawd yn osgoi carchar yn dilyn negeseuon sarhaus

    BBC Wales News

    Mae dyn a anfonodd negeseuon sarhaus at ferched yr oedd e'n credu oedd wedi bwlio ei chwaer, wedi osgoi carchar.

    Dywedodd barnwr fod Jordan Clements yn ymddwyn yn "afresymol oherwydd galar", wedi i'w chwaer 14 oed, Nyah James gael ei chanfod yn farw yn ei chartref ym Mlaenymaes, Abertawe ym mis Chwefror.

    Clywodd llys ynadon Abertawe fod Clements, 20 oed, yna wedi targedu pedair merch.

    Fe blediodd yn euog i ddau gyhuddiad o aflonyddu a dau o anfon negeseuon sarhaus.

    Achos Jordan Clements
  15. Sut fydd ceir yn cael eu defnyddio yn y dyfodol?

    Click on Wales

    Ar wefan Sefydliad Materion Cymreig mae erthygl gan Yr Athro Mark Barry o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd. Mae'r Athro Barry yn trafod beth fydd y dyfodol ceir yn ein dinasoedd, gan ystyried ffactorau amyglcheddol a chylfeustod.

    ceir
    Image caption: A fydd ceir trydanol yn dod fwyfwy cyffredin dros y blynyddoedd nesaf?