a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
  4. Dadl: Yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

    View more on twitter
  2. 'Egwyddorion ein hunain yma yng Nghymru'

    "Nid fy adroddiad i yw e," pwysleisia Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

    Wrth gyfeirio at y pwynt nad yw'r adroddiad yn rhoi sylw i Egwyddor Sandford, rhywbeth gafodd ei godi gan sawl ACau, mae hi'n dweud "mae ganddon ni ein egwyddorion ein hunain yma yng Nghymru".

  3. 'Hynod esgeulus'

    Mae David Rowlands UKIP yn dweud mae'n "hynod esgeulus" nad yw'r adroddiad yn sôn am Egwyddor Sandford 1974, wnaeth gyflwyno'r syniad o reoli tirweddau gwarchodedig y DU, yn bennaf cadwraeth yr amgylchedd naturiol a mynediad i'r cyhoedd.

    David Rowlands
  4. 'Tirweddau Dyfodol: Cyflawni dros Gymru’

    'Tirweddau Dyfodol: Cyflawni dros Gymru’ yw canlyniad yr adolygiad o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru.

    Adroddodd yr Adolygiad Annibynnol o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ystod Haf 2015. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion sy'n cwmpasu cyfres o gynigion ac arsylwadau ar ddibenion, egwyddorion, gweledigaeth, modelau llywodraethu, cynllunio ac ariannu.

    Yn dilyn yr adroddiad hwn, sefydlwyd Gweithgor Tirweddau'r Dyfodol Cymru, gadeiriwyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC. Eu pwrpas oedd archwilio argymhellion Marsden a'r achos dros newid ac i adrodd eu canfyddiadau. Roedd y gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Parciau Cenedlaethol, AHNE, grwpiau buddiant a busnesau.Ar 09 Mai 2017 cafodd Tirweddau Dyfodol: Darparu dros Gymru ei gyhoeddi. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y cynigion yn gosod y tirweddau dynodedig ar lwybr i wella’r rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol yn eu hardaloedd a gweithio tu hwnt i'w ffiniau presennol.

    "Mae'n elwa ar y cryfderau a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth bartneriaethau a chydweithio gwirioneddol. Wrth wneud hynny, mae'n hyrwyddo mwy o hyblygrwydd o safbwynt strwythurau fel y gellir diwallu anghenion lleoedd a chymunedau," medd y llywodraeth.

  5. 'Wedi setlo nerfau nifer o bobl'

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r adroddiad yn rhoi sylw i Egwyddor Sandford sy'n datgan mai prif bwrpas statudol parciau cenedlaethol yw i warchod a gwella harddwch neilltuol, bywyd gwyllt ac etifeddiaeth ddiwylliannol yr ardal.

    Mae'n dweud y byddai "wedi setlo nerfau nifer o bobl ar adeg o newid petai 'cadwraeth' wedi sylw uniongyrchol".

    David Melding
  6. 'Yr adroddiad ddim yn ymdrin ag Egwyddor Sandford'

    Mae Simon Thomas yn egluro gwelliannau Plaid Cymru.

    Yn gyntaf mae'n "gresynu nad yw'r adroddiad yn ymdrin ag Egwyddor Sandford fel y'i nodir yn Neddf yr Amgylchedd 1995".

    Yn ail, "y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol".

  7. 'Tirlun eiconig'

    Fe fydd Llywodraeth Cymru, a oedd â chynrychiolwyr ar y grŵp gwaith, nawr yn ystyried a oes angen newidiadu deddfwriaethol i gefnogi'r argymhellion.

    Mae'r Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn dweud ei bod hi "mor bwysig ein bod ni'n gwneud y mwya o'n tirlun eiconig".

    Lesley Griffiths
  8. Dadl ar yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru

    Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru.

    Mae chwarter tir Cymru wedi’i ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Barc Cenedlaethol.

    Mae Jane Hutt yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi'i gyhoeddi.

    2. Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol:

    a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy'n creu budd i'r cyhoedd a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a

    b) o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig bywiog.

    3. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y syniad o fro, sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r modd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol."

    Bannau Brycheiniog
    Image caption: Bannau Brycheiniog
  9. Gohirio penderfyniad ariannol mewn cysylltiad â'r Mesur

    Mae Alun Davies yn gohirio cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol mewn cysylltiad â'r Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

  10. Cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur

    Mae'r aelodau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

  11. 'Cysondeb ar draws yr holl awdurdodau lleol'

    Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP mewn egwyddor yn cefnogi'r mesur.

    Mae'n galw ar y llywodraeth i "sicrhau bod yna gysondeb ar draws yr holl awdurdodau lleol drwy ddefnyddio cynllun datblygu sydd â templed cyffredin".

    Gareth Bennett
  12. 'Rhai pryderon ynglŷn â hawliau dynol'

    Mae Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn cyflwyno eu hadroddiad sydd â 12 o argymhellion.

    Mae gan y pwyllgor "rai pryderon ynglŷn â hawliau dynol mewn perthynas â sut y gallai'r pŵer yn adran 45(2)(d) o'r Mesur gael ei ddefnyddio yn y dyfodol i eithrio grwpiau eraill o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) o addysg brif ffrwd".

    Huw Irranca-Davies
  13. 'Maint yr adolygiadau yn y cyfnod hwn o broses y mesur yn frawychus'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas, yn cyflwyno eu hadroddiad sydd â 10 o argymhellion.

    Mae'n dweud bod y costau wedi newid yn sylweddol a bod "maint yr adolygiadau yn y cyfnod hwn o broses y mesur yn frawychus".

    Simon Thomas
  14. 'Proses graffu Cyfnod 1 yn anos ei rheoli'

    Mae Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn cyflwyno'u hadroddiad sydd â 48 o argymhellion i gryfhau'r mesur.

    Roedd yn siomedig "nad oedd y Côd ar gael pan gyflwynwyd y Mesur. Oherwydd bod bwlch o ddau fis rhwng cyflwyno’r Mesur (12 Rhagfyr) a darparu’r Côd (14 Chwefror) roedd proses graffu Cyfnod 1 yn anos ei rheoli, ac arweiniodd at oedi er mwyn i’r rhanddeiliaid gael digon o amser i ystyried y Côd cyn rhoi tystiolaeth am y Mesur".

    Lynne Neagle
  15. Bron i chwarter disgyblion Cymru ag anghenion dysgu ychwanegol o ryw fath

    Mae'r Gweinidog Dysgu Gydol Oes Alun Davies yn dweud bod y mesur yn "rhan hanfodol o ddiwygio".

    Ym mis Medi fe ddywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod llawer o blant ag anghenion dysgu ddim yn cael chwarae teg yn yr ysgol.

    Dywedodd yr Athro Sally Holland bod deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru i geisio mynd i'r afael â'r mater yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth".

    Mae gan bron i chwarter disgyblion Cymru anghenion dysgu ychwanegol o ryw fath.

    Ond mae'r broses o asesu plant yn un hir a chymhleth, yn ôl yr Athro Holland, ac mae hi hefyd yn pryderu am y ddarpariaeth iaith Gymraeg.

    "Dydi hyn ddim i ddweud fod y sefyllfa yma i blant yng Nghymru yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd i blant ar draws y Deyrnas Unedig, ond yn amlwg dwi'n poeni fod rhai yng Nghymru ddim yn cael chwarae teg," meddai.

    Dywedodd yr Athro Holland y dylai'r system gael ei symleiddio a bod angen mwy o gynllunio hir dymor hefyd er mwyn sicrhau gweithlu sydd yn meddu ar y sgiliau priodol.

    Sally Holland yn dweud bod y ddeddfwriaeth newydd yn  "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth"
    Image caption: Sally Holland yn dweud bod y ddeddfwriaeth newydd yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth"
  16. Gallai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2019

    Bydd deddf newydd yn fodd o sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael canlyniadau academaidd gwell, yn ôl Gweinidog Dysgu Gydol Oes Cymru, Alun Davies.

    Petai'r mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Thribiwnlys Addysgol yn cael cefnogaeth aelodau'r Cynulliad, dywed Mr Davies y bydd yn trawsnewid y system bresennol yn llwyr.

    Fe allai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2019.

    Y llynedd 23% o ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol wnaeth sicrhau pump TGAU, o'i gymharu â 59% o holl ddisgyblion Cymru.

    Yn ôl y ddeddfwriaeth newydd byddai trefn newydd wrth asesu anghenion pobl hyd eu bod yn 25 oed.

    Ar hyn o bryd mae plant gydag anghenion dysgu yn cael 'datganiad', ond byddai hyn yn cael ei ddisodli gan Gynllun Datblygu Unigol.

    Bydd y ddeddf yn cyflwyno'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol' yn lle'r termau 'anghenion addysgol arbennig' ac 'anawsterau ac/neu anableddau dysgu'.

    Nodau cyffredinol y mesur yw creu:

    • fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag ADY mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach;
    • proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;
    • system deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor ac o ddatrys pryderon ac apeliadau.
    Dosbarth
  17. Dadl ar y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

    View more on twitter
  18. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos.

    Jane Hutt
  19. 'Llywodraeth y DU wedi colli diddordeb yn y diwydiant dur'

    Mae'r prif weinidog yn honni "mae Llywodraeth y DU wedi colli diddordeb yn y diwydiant dur yng Nghymru".

    Gwaith dur Port Talbot