a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Cylchffordd Cymru
  5. Dadl: Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus
  6. Dadl: Cyfnod 4 y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi
  7. Dadl Frys: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid y DUP

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

    Y Senedd
  2. 'Arddangosiad estynedig o rawnwyn sur'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn disgrifio safbwynt prif weinidog Cymru fel "arddangosiad estynedig o rawnwyn sur".

    Mae e hefyd yn gofyn "pam nad yw Plaid Cymru wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU er mwyn cael gwell cytundeb i Gymru?"

  3. 'Fformiwla Barnett wedi cael ei hosgoi yn llwyr'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod "Fformiwla Barnett wedi cael ei hosgoi yn llwyr, ar gost o tua £1.7biliwn i Gymru".

  4. 'Ar y ffôn gyda Downing Street'

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud wrth y prif weinidog, "Roeddwn i ar y ffôn gyda Downing Street ddoe tra yr oeddech chi ar y balconi yn siarad gyda'r BBC."

    Downing Street
  5. 'Prynu pleidleisiau'

    Dyw penderfyniad Theresa May i gynnig £1bn ychwanegol i Ogledd Iwerddon am gefnogaeth y DUP i'w llywodraeth yn ddim mwy na "phrynu pleidleisiau", yn ôl prif weinidog Cymru.

    Mae'r DUP wedi cytuno i roi cefnogaeth i lywodraeth Mrs May yn San Steffan, fydd yn golygu pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr ar achlysuron pwysig fel y gyllideb ac araith y Frenhines.

    Er hynny, nid oes clymblaid ffurfiol rhwng y ddwy blaid.

    Ddydd Llun, dywedodd Carwyn Jones bod y cytundeb yn "gwanhau'r DU" ac yn "lladd y syniad o gyllid teg i genhedloedd a rhanbarthau'r DU".

  6. Dadl Frys

    Yr eitem olaf heddiw yw Dadl Frys ar gytundeb ‘hyder a chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP).

    Arlene Foster a Theresa May
    Image caption: Arlene Foster a Theresa May
  7. Pasio Cyfnod 4 y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

    Mae ACau wedi pasio cyfnod ola y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

  8. Y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi newydd ar wyneb y Mesur

    Ar Fehefin 20 fe wnaeth yr aelodau basio gwelliant Llywodraeth Cymru yng Nghyfnod 3 y Mesur yn gosod y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi newydd ar wyneb y Mesur.

    Mae'r diwygiad yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi cynllun cymunedau a'i dargedu at weithgareddau sy'n hyrwyddo neu'n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol cymunedau sy'n agos at safleoedd tirlenwi a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff.

    Bydd y cynllun hwn yn cael ei ariannu drwy ddefnyddio rhywfaint o'r refeniw a godir drwy dreth gwarediadau tirlenwi. Bydd penderfyniad ynghylch y swm i'w ddyrannu yn cael ei wneud yn yr hydref.

    Mark Drakeford
  9. Proses pedwar cyfnod

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
    • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
  10. Cyfnod 4 y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

    Yr eitem nesa yn y Siambr yw dadl ar Gyfnod 4 y Mesur Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

    Cyfnod 4 yw'r cyfnod olaf.

    O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli’r Dreth Tirlenwi yng Nghymru.

    Fel y Dreth Dirlenwi, bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi a bydd yn cael ei chodi yn ôl pwysau. Gweithredwyr safleoedd tirlenwi fydd yn gyfrifol am dalu'r dreth, a byddan nhw'n trosglwyddo'r costau hyn i weithredwyr gwastraff trwy eu ffi glwyd.

    View more on twitter
  11. 'Mae ganddon ni yn UKIP ddiddordeb mewn materion amgylcheddol'

    "Mae ganddon ni yn UKIP ddiddordeb mewn materion amgylcheddol, yn arbennig mewn ansawdd aer" medd Gareth Bennett.

    Mae'r dweud bod ei blaid yn cefnogi galwad Plaid Cymru ar i Lywodraeth Cymru gynnwys mesuray i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd i ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.

    Gareth Bennett
  12. 'Lleihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio'

    Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    • sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o'i gylch gwaith.
    • i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.
    • i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.
    • i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.
    Simon Thomas
  13. 'Araf yw'r cynnydd' yn pennu Cyllideb Garbon

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud "mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud" yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020.

    Mae'n dweud bod y Ceidwadwyr yn credu "bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun".

    David Melding
  14. Dadl ar Ddatgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus

    Am yr awr nesa mae yna ddadl ar Ddatgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus.

    Mae Jane Hutt yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

    2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.

    3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.

    4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.

  15. 'Cwningen hwyr iawn allan o'r het'

    Mae Lynne Neagle, AC Torfaen, yn dweud "Mae yna gwestiynau difrifol sydd angen eu hateb" ynghylch Cylchffordd Cymru yn taro rhwystr mor hwyr yn y dydd.

    Mae'n disgrifio cynlluniau i adeiladu parc busnes ceir yng Nglyn Ebwy fel "cwningen hwyr iawn allan o'r het".

    Lynne Neagle
  16. 'Llaw farw llywodraeth'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y penderfyniad yn dangos "llaw farw llywodraeth".

    Mae'n ail-adrodd galwad gan Adam Price am gyhoeddi y diwydrwydd dyladwy.

    Mae Mr Skates yn dweud ei fod yn ceisio cael cytundeb gyda Chorfforaeth Ddatblygu Blaenau'r Cymoedd i gyhoeddi crynodeb o'r diwydrwydd dyladwy.

  17. 'Dim rhwystwyr' i'r Cylchffordd

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud bod Cymru nawr yn destun sbort yn rhyngwladol.

    Mae'n dweud bod uwch swyddog wedi dweud ar Fehefin 14, mewn ebyst y mae e wedi cael gafael arnyn nhw, bod "yna ddim rhwystwyr" i'r Cylchffordd.

    Felly mae'n mynnu cael gwybod pryd y gwnaeth Llywodraeth Cymru gael gwybod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Trysorlys y gallai £373m gael eu cafflo o gyllideb Lywodraeth Cymru gan Gylchffordd Cymru.

    Dyw ateb Mr Skates ddim yn cynnwys dyddiad ar gyfer cyngor yr ONS a'r Trysorlys, ond mae'r llywodraeth wedi dweud i'r cyngor hwnnw gyrraedd yn yr wythnosau diwethaf.

    Adam Price
  18. 'Anhygoel o siomedig'

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn dweud "mae'n anhygoel o siomedig ei bod hi wedi cymryd chwe blynedd a thros £9m o arian cyhoeddus i ysgrifennydd y cabinet wrthod y prosiect yma, fyddai wedi gallu bod yn fuddsoddiad arwyddocaol yng nghymoedd de Cymru".

    Mae'n ychwanegu bod yna "ddatgysylltu" rhwng datganiad Mr Skates a thystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gan James Price ddoe, " wnaeth honni bod y £55m sydd wedi ei wario hyd yma ar Gylchffordd Cymru wedi cynrychioli gwerth da am arian, ac wedi darparu prosiect arwyddocaol 'sy'n barod i gael ei weithredu' ".

    Russell George