a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant; y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol
  5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Gronfa Triniaethau Newydd - Adroddiad Cynnydd
  6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru
  7. Dadl: Ystyried yr achos dros drethi newydd yng Nghymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

    View more on twitter
  2. 'Yn gryf o blaid datganoli cynifer o drethi â phosib'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud "o siarad yn gyffredinol dydw i ddim o blaid cyflwyno trethi newydd er fy mod i'n gryf o blaid datganoli cynifer o drethi â phosib".

    Arian
  3. Y broses o greu treth newydd 'ddim yn syml' o gwbl

    Mae Mark Drakeford yn dweud wrth ACau nad yw'r broses o greu treth newydd yn "syml" o gwbl.

    Byddai’n rhaid i’r cynigion ar gyfer datblygu trethi newydd gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chan Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

    Mae Mr Drakeford yn dweud bod nifer o aelodau'r cyhoedd eisioes wedi ei e-bostio fe gyda syniadau.

    San Steffan
  4. 'Newid er lles newid cymdeithasol'

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud y byddai'n croesawu "newid er lles newid cymdeithasol".

    Mae'n croesawu yr "agwedd gadarnhaol i chwilota cyfleuoedd newydd".

    Adam Price
  5. 'Ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Nick Ramsay "yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, "ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid."

    Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny".

    Nick Ramsay
  6. Annog pobl a sefydliadau i gynnig syniadau

    Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cychwyn trafodaeth genedlaethol heddiw ynglŷn â syniadau am drethi newydd posibl yng Nghymru, ac yn annog pobl a sefydliadau i gynnig syniadau.

    Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cael pwerau dros dreth incwm, treth stamp a threth tirlenwi.

    Fe ddywed gweinidogion Cymru y bydd rhestr fer o syniadau ar gyfer trethi newydd i Gymru yn cael eu hystyried yn yr hydref.

    Bydd Treth Trafodion Tir (sy'n cymryd lle'r hen dreth stamp) a'r dreth ar dirlenwi yn dod o dan ofal Awdurdod Cyllid Cymru yn Ebrill 2018.

    O Ebrill 2019, fe fydd gan Gymru hefyd yr hawl i amrywio treth incwm, gyda gweinidogion â'r hawl i godi neu ostwng y dreth o 10c yn y bunt o fewn bob band treth.

    Mark Drakeford,
  7. Dadl: Ystyried yr achos dros drethi newydd yng Nghymru

    Ac yn olaf heddiw dadl: Ystyried yr achos dros drethi newydd yng Nghymru.

    Arian
  8. 'Cynllun cadarn' ebyn hydref 2017 ar gyfer datblygu’r gwasanaeth

    Mae Vaughan Gething yn croesawu "llwyddiant cyfnod peilot y gwasanaeth 111" ac yn comisiynu cynlluniau i ystyried sut y byddai modd datblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

    Cafodd y gwasanaeth, sy’n wahanol i fodeli eraill yn y DU oherwydd bod ganddo gyfran uwch o staff yn perthyn iddo, ei lansio fel peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ym mis Hydref 2016, a’i ymestyn i Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2017.

    Rhwng 4 Hydref 2016 a 30 Ebrill 2017 mae’r gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi ateb mwy na 73,000 o alwadau.

    Dywed Vaughan Gething: “Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan glinigwyr lleol, staff gweithredol ac, yn bwysicach na hynny, y cyhoedd sydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth 111 wedi bod yn bositif iawn. Mae hyn yn newyddion da iawn ac yn arwydd clir bod y peilot wedi bod yn llwyddiant hyd yma.

    “Rydw i wedi comisiynu gwerthusiad o’r peilot hyd yma er mwyn inni allu dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Rydw i hefyd wedi gofyn i’r Bwrdd Rhaglen 111 ddarparu cynllun cadarn imi erbyn hydref 2017 ar gyfer datblygu’r gwasanaeth. Rwy’n disgwyl i’r cynllun hwn amlinellu opsiynau ar gyfer sut y gallai’r gwasanaeth 111 weithredu ar i’r peilot ddod i ben, fel gwasanaeth cenedlaethol i gefnogi cleifion a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i drin cleifion sydd ag anghenion gofal brys yn fwy effeithiol".

  9. Gwasanaeth 111

    111 yw’r dull am ddim i gysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) o ffonau tir a rhai symudol.

    Mae’r gwasanaeth yn uniad o Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth y tu allan i oriau Meddygon Teulu.

    Mae’r gwasanaeth 111 ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth a chyngor iechyd ac i gael gofal brys.

    Fe gyflwynwyd gwasanaeth 111 yn Lloegr ym mis Ebrill 2013.

    Bryd hynny fe ddywedodd gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru ar y pryd Mark Drakeford ei fod am "gyflymu cyflwyno" y gwasanaeth yng Nghymru, gan ychwanegu y gallai'r cynllun ffonio yn gynta' helpu pobl i gael y gofal cywir yn y lle mwya' addas.

  10. Datganiad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething:

    Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru.

  11. 'Dryswch' ynghylch mynediad i driniaethau

    Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn dweud bod dryswch ynghylch a yw rhai triniaethau ar gael trwy'r Gronfa Triniaethau Newydd neu trwy Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol.

    Angela Burns
  12. Cymeradwyo cyffur canser y fron yng Nghymru

    Ym mis Mehefin, yn dilyn trafodaethau gyda'r gwneuthurwyr Roche, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y bydd y cyffur canser y fron, Kadcyla® ar gael fel mater o drefn drwy GIG Cymru.

    Mae Roche bellach wedi cytuno i'r un telerau mynediad masnachol i GIG Cymru â GIG Lloegr. Golyga hyn y bydd modd i gleifion o Gymru sydd â rhai mathau o ganser datblygedig y fron fanteisio ar y driniaeth.

    Kadcyla®
  13. Cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud

    Mae Vaughan Gething yn cydnabod "yn ystod y deufis cyntaf, gwelwyd rhywfaint o amrywiaeth yng nghydymffurfiaeth byrddau iechyd gyda'r gofynion i sicrhau bod meddyginiaethau a oedd yn cael eu hargymell ar gael. Rwy'n falch iawn o weld bod hyn bellach wedi'i gywiro, a bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud fel y gall pobl Cymru fanteisio ar y polisi hwn, a all newid bywydau.

    "Mae'n dda gweld ein bod ni'n symud ymlaen, ond rwy'n disgwyl gweld hyn yn parhau dros gyfnod pum mlynedd y gronfa".

  14. 17 o feddyginiaethau perthnasol ar gael

    Dan y system newydd, rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan NICE neu AWMSG ar gael o fewn deufis i ddyddiad cyhoeddi'r canllawiau terfynol, gan fyrhau'r cyfnod gofynnol o draean.

    Ar 9 Mehefin, roedd 17 o feddyginiaethau perthnasol ar gael dan y Gronfa Triniaethau Newydd.

    Mae chwe bwrdd iechyd wedi sicrhau bod pob un o'r 17 meddyginiaeth ar gael. Llwyddodd un bwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, i sicrhau bod 15 o'r 17 meddyginiaeth ar gael o fewn deufis, ond mae pob un o'r 17 bellach ar gael.

  15. Cyflymu mynediad at y meddyginiaethau diweddaraf

    Fe gafodd cronfa triniaethau newydd Llywodraeth Cymru ei lansio ym mis Ionawr gydag £80 miliwn yn mynd i fod ar gael dros dymor y llywodraeth hon, gyda'r addewid, medd Vaughan Gething, o gyflymu mynediad at y meddyginiaethau diweddaraf un.

    Vaughan Gething
  16. Y Gronfa Triniaethau Newydd

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Y Gronfa Triniaethau Newydd - Adroddiad Cynnydd.

    Tabledi
  17. Amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol

    Mae AC Plaid Cymru, Dai Lloyd yn cyfeirio at y mesur yr oedd e wedi ceisio ei gyflwyno i amddiffyn enwau tai, ffermydd, caeau, a nodweddion corfforol a thirweddol hanesyddol.

    Ym mis Mawrth, fe bleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn erbyn cynnig fyddai wedi amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol Cymreig mewn deddfau cynllunio.

    Daeth cynnig Dai Lloyd yn dilyn sawl ffrae dros newid enwau lleoedd, gan gynnwys ymgais i enwi Plas Glynllifon ger Caernarfon yn Wynnborn Mansionar gyfer ymdrech farchnata ar-lein.

    Ym mis Mai fe gafodd cofrestr statudol ar gyfer enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru ei lansio am y tro cyntaf.

    Mae tua 350,000 o enwau eisoes wedi eu cofnodi ar y wefan ar-lein - y cyntaf o'i fath yn y DU.

    Dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates mai'r gobaith yw ceisio "cadw'r enwau arbennig hyn yn fyw".

    Dai Lloyd
    Image caption: Dai Lloyd
  18. 'Cymru yn rheng flaen gwledydd y DU'

    Mae Ken Skates yn dweud bod Deddf 2016 wedi "gosod Cymru yn rheng flaen gwledydd y DU o ran amddiffyn a rheoli amgylchedd hanesyddol".

    Ken Skates