a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn tan yn hwyr heno
  2. Prif seremonïau'r dydd yw seremoni wobrwyo'r Priflenor Rhyddiaith am 16:30 a Thlws y Cerddor am 19:05
  3. Mae cystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd dros 19 oed a Gwobr Richard Burton hefyd yn rhan o'r sesiwn gystadlu hwyr
  4. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Da bo am ddiwrnod arall...

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    A dyna ni ar ddiwedd diwrnod prysur arall o'r Maes a mwy.

    Cofiwch bod y cystadlu'n parhau yn y pafiliwn heno, a gallwch wylio'r cyfan yn fyw drwy glicio yma neu ar y ddolen 'Gwyliwch y cystadlu'n fyw o'r Pafiliwn' uchod.

    Hefyd, mae modd i chi gael holl ganlyniadau'r dydd ar ein gwefan.

    Tan fory felly, hwyl i chi.

    Sonia Edwards
  2. Heddiw mewn hanes...

    Twitter

    Pur anaml mae son am bêl-fâs ar y llif byw, ond mae Ted Williams yn eithriad!

    Yn un o arwyr hanes clwb y Boston Red Sox, roedd tad Ted Williams yn hanu o Gymru, a 57 mlynedd yn ddiweddarach mae'n dal ar frig rhestr y tîm am nifer yr 'home runs'.

    View more on twitter
  3. Brwydr y Bandiau: Pwy aiff â hi?

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau wedi dechrau ar lwyfan y maes ym Modedern.

    Fe welwch y chwech sy'n mynd amdani isod.

    Pwy aiff a hi tybed?

    View more on twitter
  4. Sonia a'i chyfrol yn ei llaw...

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Sonia Edwards yn wen o glust i glust yn dilyn y seremoni, a chopi o Rhannu Ambarél yn ei llaw.

    Sonia Edwards
  5. Y Fedal Ryddiaith: Cloi'r seremoni

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Archdderwydd yn dirwyn y seremoni i ben wrth i'r gynullelidfa yn y Pafiliwn godi ar ei thraed i gyd-ganu Hen wlad Fy Nhadau.

    hen
    Image caption: Cefin yn arwain y canu - 'Hen Wlad Fy Nhadau'
  6. Y Fedal Ryddiaith: Y ddawns a'r Corn Hirlas

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r ddawns er anrhydedd i’r Priflenor yn cael ei chyflwyno gan ddawnswyr Clocswyr Garmon, Dawnswyr Delyn a Dawnswyr Tanat.

    Maen nhw wedi cael eu hyfforddi gan Meinir Siencyn, Frances Jones a Rhian Davies.

    Mae'r Corn Hirlas yn cael ei gyflwyno gan Mared Wyn Hughes. Macwyaid y llys wrth ei hochr yw Bradley Richard Jones a Rhodri Morris Williams.

    Eurgain Sara Lloyd sy'n cyflwyno'r Flodeuged. Mae hi yn cael ei chynorthwyo gan ddwy forwyn y Llys, Elliw Mair Huws a Greta Fflur Keen.

    dawnsio
  7. Y Fedal Ryddiaith: Cyfarchiad Priflenor y llynedd

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Y Prif Lenor Eurig, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod y Fenni, sy'n cyfarch y llenor buddugol.

    Fe enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni am ei nofel 'Cai'.

    ffon
    Image caption: Y dechnoleg newydd ar waith yn y seremoni!
  8. Y Fedal Ryddiaith: Cyfarch y Priflenor

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dafydd Wyn ,Glantwymyn sy'n cyfarch y Priflenor gyda Cywydd y Priflenor. Cafodd y geiriau eu cyfansoddi gan Emrys Roberts.

    glantwymyn
  9. Y Fedal Ryddiaith: A oes Heddwch?

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Archdderwydd yn llongyfarch Sonia Edwards gan ddweud ei bod wedi ailadrodd camp arbennig.

    Mae'r cleddyf yn cael ei godi uwch ei phen, a'r Archdderwydd, yn ôl y traddodiad. yn gofyn a oes Heddwch.

    Mae'n cyflwyno'r Fedal Ryddaith iddi.

    medaln
  10. Y Fedal Ryddiaith: Y Priflenor yw Sonia Edwards

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Archdderwydd Geraint Llifon yn cyhoeddi mai Sonia Edwards yw Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

    Yn wreiddiol o Gemaes, Ynys Môn, cafodd ei haddysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a Phrifysgol Bangor.

    Bu'n athrawes Gymraeg cyn ymddeol yn gynnar i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Mae'n fam i Rhys, sy'n athro ac yn brif leisydd y grŵp Fleur de Lys, ac yn byw yn Llangefni.

    son
  11. Y Fedal Ryddiaith: Merch sydd ar ei thraed

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r enillydd yn cael ei thywys i'r llwyfan i gymeradwyaeth gynnes.

    enillydd
  12. Y Fedal Ryddiaith: DAIWA SR3 yw'r enillydd

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Gerwyn Williams yn dweud fod y safon dweud bod yna enillydd, a'i ffugenw DAIWA SR3, sy'n wialen bysgota!

  13. Y Fedal Ryddiaith: 20 cyfrol wedi eu cyflwyno

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Gerwyn Williams sy'n traddodi'r feirniadaeth, ac yn dweud ei bod yn fraint cael beirniadu'r gystadleuaeth eleni.

    Mae'n dweud bod 18 mlynedd ers iddo feirniadu ddiwetha - y tro hynny yn Eisteddfod 1999.

    Mae'n dweud bod y safon yn "cymharu'n ffafriol".

    20 cyfrol sydd wedi eu cyflwyno eleni

    ger
  14. Y Fedal Ryddiaith: Y Feirniadaeth

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Archdderwydd Geraint Llifon yn croesawu'r beirniaid eleni yw Gerwyn Williams, Francesca Rhydderch a Lleucu Roberts. Y Prifardd Gerwyn Williams sy'n traddodi'r feirniadaeth. Mae o'n bennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994.