a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Cyllid
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Diwygio Cyllidol - Gwersi gan yr Alban
  6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16
  7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Brexit
  8. Dadl Fer: Gamblo cymhellol yng Nghymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am y tymor gan y bydd y Cynulliad ar doriad yr Haf yr wythnos nesaf.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Medi 19.

    Haf gwych i chi!

    gwyliau
  2. 'Polisi cyhoeddus gwael gan sawl llywodraeth ar ôl y llall'

    Mae Darren Millar yn dweud "diolch i benderfyniadau polisi cyhoeddus gwael gan sawl llywodraeth ar ôl y llall o bob plaid, dyw gamblo erioed wedi bod yn haws nag yw heddiw".

    Mae'n dweud bod "argyfwng iechyd cyhoeddus yn bragu", a bod "gamblo ddim yn parchu pobl; mae'n gallu effeithio ar bobl o bob haen o gymdeithas".

    Darren Millar
  3. Ymchwiliad i effaith dibyniaeth gamblo ar iechyd

    Ym mis Mai fe gafodd ymchwiliad ei lansio i geisio deall effaith dibyniaeth gamblo ar iechyd pobl yng Nghymru.

    Mae gan tua 1.1% o boblogaeth Cymru broblem gamblo, yn ôl ffigurau diweddar gan y Comisiwn Hapchwarae.

    Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio bydd yr ymchwil yn arwain at well cefnogaeth ar gyfer y rhai sydd â dibyniaeth.

    Dywedodd yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod yn "bwysig deall y risgiau".

    Dywedodd yr Athro Bellis: "Mae datblygiadau yn y diwydiant hapchwarae a'r hysbysebu cysylltiedig yn golygu ei bod yn bwysig ein bod yn deall y risgiau i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ac mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb, yn enwedig y rhai mwyaf bregus, yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw niwed sy'n gysylltiedig a hyn."

    Gamblo
  4. Dadl Fer: Gamblo cymhellol yng Nghymru

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Darren Millar.

    A'r pwnc: Gamblo cymhellol yng Nghymru.

    Gamblo
  5. Derbyniadau Cymru o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd strwythurol

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Mark Drakeford yn atgoffa aelodau UKIP bod "derbyniadau Cymru o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, CAP, ac o gronfeydd strwythurol yn ffurfio rhan llawer mwy o ddosraniadau y DU na fydd ein cyfran Barnett fyth yn ei wneud".

    Mark Drakeford
  6. Gan UKIP 'ddiffyg ymwybyddiaeth o sut y mae'r UE yn gweithio'

    Mae Eluned Morgan yn dweud bod y ddadl wedi tanlinellu "diffyg ymwybyddiaeth UKIP o sut y mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio mewn gwirionedd".

    Wrth gyfeirio at bwynt UKIP ynghylch "technocratiaid anetholedig ym Mrwsel", mae hi'n dweud bod gan y "Comisiwn Ewropeaidd ond y pwerau i gynnig cyfreithiau. Y Cyngor - sef llywodraethau etholedig yr Undeb Ewropeaidd - dan oruchwyliaeth aelodau etholedig Senedd Ewrop - sy'n penderfynu a yw'r cyfreithiau hyn yn cael eu pasio".

    Eluned Morgan
  7. 'Peryglu'r rheolaeth sydd gan bobl Cymru dros eu bywydau'

    Mae Simon Thomas ar ran Plaid Cymru yn credu bod y dull gweithredu presennol o ran Brexit drwy Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn "rhwystro'r Cynulliad rhag arfer pwerau datganoledig ac yn peryglu'r rheolaeth sydd gan bobl yng Nghymru dros eu bywydau".

  8. 'Gadael yr UE yn cynnig y cyfle i ddatganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad'

    Mae'r aelod Ceidwadol Paul Davies (Preseli Sir Benfro)yn cynnig:

    Dileu popeth a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

    1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig y cyfle i ddatganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    2. Yn cydnabod y bydd cyfle i leihau faint o fiwrocratiaeth sy'n wynebu ffermwyr Cymru ac yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno fframwaith ôl-Brexit sy'n cefnogi ffermwyr Cymru.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi cymunedau gwledig ledled Cymru, drwy ddatblygu mwy o bolisïau wedi'u teilwra'n arbennig ym meysydd iechyd, addysg a thai.

    Paul Davies
  9. Dadl ar Brexit

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl gan UKIP ar Brexit.

    Mae Neil Hamilton yn cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

    1. Yn credu:

    a) bod Brexit yn galluogi pobl Cymru i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain drwy ddatganoli pwerau llywodraethol o dechnocrats anetholedig ym Mrwsel i Aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac Aelodau Seneddol yn San Steffan;

    b) y gall Brexit greu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth a'r economi wledig, drwy ddisodli'r CAP gan bolisi amaethyddol wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer anghenion penodol Cymru, gan gyfeirio'n arbennig at gadwraeth a diogelu'r amgylchedd yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol a achosi costau cymesur i drethdalwyr a busnesau gwledig.

    2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisïau eraill wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig o fewn agenda lleoliaeth sy'n grymuso pobl leol drwy:

    a) gwneud penderfyniadau cynllunio mawr gydag effaith andwyol sylweddol ar ansawdd bywyd, megis ffermydd gwynt ymwthiol, yn amodol ar refferenda lleol;

    b) gwneud newidiadau mawr i'r ddarpariaeth o ysgolion gwledig a gwasanaethau addysgol eraill yn amodol ar ymgynghori lleol dilys;

    c) hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy; a

    d) rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai.

    Baneri Cymru a'r UE
  10. Ymestyn penodiad Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

    Mae'r aelodau yn y Siambr yn cytuno i ymestyn penodiad Isobel Garner fel cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd arall.

    Isobel Garner
  11. Dim 'methiant systemaidd ehangach' yn CNC

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths yn dweud ei bod hi yn "falch" bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef o ystyried ôl-ddoethineb fe fydden nhw wedi gwneud pethau'n wahanol o ran y cytundeb coed, ond nad oedd "methiant systemaidd ehangach" o fewn y rheolydd amgylcheddol.

  12. 'Trahauster ehangach' arweinyddiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru

    Mae aelod Llanelli Lee Waters yn siarad am "drahauster ehangach" arweinyddiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, " yn hollol brin o wyleidd-dra".

  13. Y prif weithredwr 'mewn gwadiad'

    Roedd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Emyr Roberts, sydd yn gadael y swydd ym mis Hydref, "mewn gwadiad" medd Jenny Rathbone Llafur, sy'n cwestiynau a yw CNC yn addas ar gyfer ei rôl bwysig yn y diwydiant coed.

  14. 'Cwbl annerbyniol na chynhaliwyd proses ail-dendro lawn'

    Ymhlith casgliadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mae'r datganiad yma:

    "Nodwn honiad CNC mai’r gweithredwr melin lifio dan sylw oedd yr unig un a allai fodloni ei ofynion gweithredol. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod digon o dystiolaeth i gefnogi hyn, ac yn absenoldeb proses dendro arall nid oes sicrwydd pendant mai dim ond un gweithredwr a fyddai’n gallu bodloni gofynion CNC. O ystyried y symiau o arian cyhoeddus dan sylw, credwn ei bod hi’n gwbl annerbyniol na chynhaliwyd proses ail-dendro lawn, agored a theg".

  15. Llywodraeth Cymru naill ai yn 'anghymwys neu'n llwgr'

    Pan fo Neil McEvoy Plaid Cymru yn dweud bod Llywodraeth Cymru naill ai yn "anghymwys neu'n llwgr", mae'n cael rhybudd gan y Llywydd Elin Jones sy'n dweud wrtho fod ei amser ar ben ac mae ei feicroffon yn cael ei ddiffodd.

    Neil McEvoy
  16. Cytundeb £39m ond roedd y coed yn werth £72m

    Ym mis Ebrill eleni fe ddaeth cytundeb coed £39m Cyfoeth Naturiol Cymru i ben.

    Roedd y cwmni gafodd gytundeb gwerth £39m i brynu coed gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi methu â chyrraedd un o brif ofynion y fargen.

    Roedd y felin lifio wedi addo adeiladu llinell gynhyrchu newydd i dorri coed - a hynny ar ôl ennill cytundeb doedd yr un cwmni arall wedi gallu cynnig amdano.

    Ond dywedodd CNC nad oedd y cwmni wedi gwneud hyn erbyn y terfyn amser ym mis Mawrth.

    Ym mis Mawrth cafodd y cytundeb gyda'r felin lifio ei gwestiynu gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas wrth iddo edrych ar gyfrifon CNC.

    Dywedodd nad oedd y broses wedi bod yn un "dryloyw", gan godi amheuon a oedd y cytundeb wedi torri rheolau'r UE ar gymorth ariannol gan y wladwriaeth.

    Roedd hwn yn gytundeb gwerth £39m ond roedd y coed a werthwyd mewn gwirionedd yn werth £72m.

    Coed
  17. Tri argymhelliad

    Mae cadeirydd y pwyllgor Nick Ramsay yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sydd â thri o argymhellion. Yr argymhelliad cyntaf yw bod:

    "Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal gwerthusiad llawn o'i drefniadau llywodraethu mewn perthynas â phrosesau contractio, gan amlinellu’n glir y gwersi a ddysgwyd gan gyfeirio’n benodol at y contractau gwerthu pren dan sylw yn yr adroddiad hwn".

  18. Dadl ar Gyfoeth Naturiol Cymru

    Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16.

    Cyfoeth Naturiol Cymru
  19. Y Pwyllgor Cyllid mewn 'rôl mor ganolog a dylanwadol'

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud "Dyw Pwyllgor Cyllid y Cynulliad erioed yn ei hanes wedi bod mewn rôl mor ganolog a dylanwadol posib yn nhermau dyfnhau datganoli".

    Nick Ramsay
  20. 'Angen data penodol ac amserol ar lefel Cymru'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Simon Thomas yn dweud "un wers allweddol a ddaw o'r Alban yw bod angen darparu data penodol ac amserol ar lefel Cymru y tu hwnt i'r data a ddarperir ar lefel y Deyrnas Gyfunol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol".

    Simon Thomas