Os ydych chi yn y Sioe Frenhinol, yna mwynhewch eich noson a'r tywydd braf yn Llanelwedd!
Fe fyddan ni'n ôl yn y bore gyda'r diweddara' o'r sioe, ynghyd â gweddill newyddion a chwaraeon Cymru.
Hwyl am y tro!
BBCCopyright: BBC
Elliot a Jacob o Llanelwedd yn joio mas draw ar faes y sioeImage caption: Elliot a Jacob o Llanelwedd yn joio mas draw ar faes y sioe
Undeb Amaethwyr yn beirniadu 'diffyg cyfathrebu'
Sioe Frenhinol Cymru
Wrth i wleidyddion dyrru i Lanelwedd heddiw, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am gynhadledd rhynglywodraethol i ddelio â Brexit.
Yn ôl llywydd yr undeb, Glyn Roberts, mae "cynnydd wedi bod yn araf ar faterion allweddol oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng llywodraethau'r DU a Chymru."
"Mae cynhadledd amaethyddol rhynglywodraethol yn hanfodol i sicrhau cynnydd ar y materion cyfansoddiadol pwysig sy'n rhaid delio â nhw cyn bod grymoedd yn dod yn ôl i Frwsel o Lundain."
Brwydro canser a'r Sioe Fawr
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae un ffermwr ifanc o Gaernarfon wedi dweud wrth adran Gylchgrawn Cymru Fyw bod "isio i ffarmwrs fod yn fwy parod i fynd at y doctor."
Yr wythnos ddiwetha', wrth adrodd ei hanes yn brwydro leukemia, dywedodd Bryn Roberts sy'n 23 oed: "Byswn i'n dweud 'gwnewch amser i'ch iechyd, dwi 'di dysgu does dim pwynt gweithio'n rhy galed."
BBCCopyright: BBC
Bryn Roberts gyda nyrsus Ysbyty GwyneddImage caption: Bryn Roberts gyda nyrsus Ysbyty Gwynedd
Noson sych
Tywydd, BBC Cymru
Mae disgwyl noson sych heno, gyda'r tymheredd ddim is na 10C.
Diwrnod braf arall fory gydag ysbeidiau heulog ond posibilrwydd o gawodydd yn y prynhawn. Tymheredd uchaf 22C.
Dim lle i Georgia yn yr wyth olaf
Chwaraeon BBC Cymru
Ym Mhencampwriaethau Nofio'r Byd yn Budapest, mae Georgia Davies wedi methu â'i gwneud hi i'r rownd derfynol y dull cefn 100m.
Fe orffennodd hi'n pedwerydd yn y rownd gyn-derfynol, ond doedd ei hamser - 59.94 eiliad - ddim yn ddigon i fynnu lle yn yr wyth olaf.
Cludo person i'r ysbyty
Sioe Frenhinol Cymru
Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cadarnhau bod person wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad ar faes y Sioe Frenhinol.
Mae Comisiynydd Heddlu'r Gogledd wedi croesawu penderfyniad i stopio gyrru heddweision o ogledd Cymru i brotest gwrth-ffracio yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Fydd Heddlu'r Gogledd ddim yn gyrru swyddogion i helpu Heddlu Lancashire yn y brotest ar safle Cuadrilla ger Preston o hyn ymlaen.
Yn ôl yr heddlu, pwysau ar y llu yng ngogledd Cymru sy'n gyfrifol am y penderfyniad. Dywedodd y Comisiynydd, Arfon Jones, y dylen nhw "dalu am eu diogelwch eu hunain".
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Mae Heddlu'r Gogledd wedi helpu heddweision lleol i ddelio â phrotestwyr sy'n gwrthwynebu ffracio yng ngogledd-orllewin LloegrImage caption: Mae Heddlu'r Gogledd wedi helpu heddweision lleol i ddelio â phrotestwyr sy'n gwrthwynebu ffracio yng ngogledd-orllewin Lloegr
Hanner Marathon Caerdydd yn llawn
BBC Cymru Fyw
Does dim mwy o lefydd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd.
Mae 25,000 o redwyr wedi cofrestru, sy'n fwy nag erioed o'r blaen.
Mae'r hanner marathon - sy'n digwydd ar 1 Hydref - yn cael ei chynnal am y 14eg tro.
Aneurin a Susan James o'r Fenni gyda'u hŵyr, Harry, 7 oedImage caption: Aneurin a Susan James o'r Fenni gyda'u hŵyr, Harry, 7 oed
Teleri'n cipio Ysgoloriaeth Llyndy Isaf
Sioe Frenhinol Cymru
Teleri Fielden o'r canolbarth sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn y sioe y p'nawn 'ma.
Mae'r ysgoloriaeth yn cael ei rhoi gan y Clwb Ffermwyr Ifanc, ac mae'r ffermwr ifanc buddugol yn cael y cyfle i redeg fferm 614 erw Llyndy Isaf ger Beddgelert ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
A dyna'r oll gan griw'r llif byw am heddiw.
Os ydych chi yn y Sioe Frenhinol, yna mwynhewch eich noson a'r tywydd braf yn Llanelwedd!
Fe fyddan ni'n ôl yn y bore gyda'r diweddara' o'r sioe, ynghyd â gweddill newyddion a chwaraeon Cymru.
Hwyl am y tro!
Undeb Amaethwyr yn beirniadu 'diffyg cyfathrebu'
Sioe Frenhinol Cymru
Wrth i wleidyddion dyrru i Lanelwedd heddiw, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am gynhadledd rhynglywodraethol i ddelio â Brexit.
Yn ôl llywydd yr undeb, Glyn Roberts, mae "cynnydd wedi bod yn araf ar faterion allweddol oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng llywodraethau'r DU a Chymru."
"Mae cynhadledd amaethyddol rhynglywodraethol yn hanfodol i sicrhau cynnydd ar y materion cyfansoddiadol pwysig sy'n rhaid delio â nhw cyn bod grymoedd yn dod yn ôl i Frwsel o Lundain."
Brwydro canser a'r Sioe Fawr
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae un ffermwr ifanc o Gaernarfon wedi dweud wrth adran Gylchgrawn Cymru Fyw bod "isio i ffarmwrs fod yn fwy parod i fynd at y doctor."
Yr wythnos ddiwetha', wrth adrodd ei hanes yn brwydro leukemia, dywedodd Bryn Roberts sy'n 23 oed: "Byswn i'n dweud 'gwnewch amser i'ch iechyd, dwi 'di dysgu does dim pwynt gweithio'n rhy galed."
Noson sych
Tywydd, BBC Cymru
Mae disgwyl noson sych heno, gyda'r tymheredd ddim is na 10C.
Diwrnod braf arall fory gydag ysbeidiau heulog ond posibilrwydd o gawodydd yn y prynhawn. Tymheredd uchaf 22C.
Dim lle i Georgia yn yr wyth olaf
Chwaraeon BBC Cymru
Ym Mhencampwriaethau Nofio'r Byd yn Budapest, mae Georgia Davies wedi methu â'i gwneud hi i'r rownd derfynol y dull cefn 100m.
Fe orffennodd hi'n pedwerydd yn y rownd gyn-derfynol, ond doedd ei hamser - 59.94 eiliad - ddim yn ddigon i fynnu lle yn yr wyth olaf.
Cludo person i'r ysbyty
Sioe Frenhinol Cymru
Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cadarnhau bod person wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad ar faes y Sioe Frenhinol.
Cafodd un person ei anafu ar ôl i un o'r atyniadau adloniant, Kangaroo Kid, syrthio oddi ar ei quad yn gynharach.
Adroddiad trosedd gwledig
Sioe Frenhinol Cymru
Mae NFU Cymru a Thîm Troseddau Gwledig Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi adroddiad i drosedd yng nghefn gwlad.
Yn ôl Hedd Pugh o'r undeb, roedd cost troseddau gwledig dros £42m yn 2015.
Ychwanegodd bod angen mwy o gydweithio gan yr heddlu, awdurdodau lleol a llywodraethau i sicrhau bod ffermwyr ddim yn "darged meddal i droseddwyr".
Dyn yn pledio'n euog i glwyfo
BBC Cymru Fyw
Mae dyn 31 oed wedi pledio'n euog i glwyfo dyn arall yn yr Wyddgrug fis Ionawr y llynedd.
Roedd Michael Cullen o Lerpwl yn wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio Christopher Hall, 40, ond derbyniodd yr erlyniad ei ble ar y cyhuddiad o glwyfo.
Bydd dyn arall o Lerpwl - Steven Crowney, 32 - yn cael ei ddedfrydu fory wedi iddo gyfadde' iddo achosi niwed corfforol fel rhan o'r un digwyddiad.
Gwartheg a gwisgoedd gwallgo'
Sioe Frenhinol Cymru
Ar y dydd hwn...
Y Bywgraffiadur Cymreig
Heddiw mae'r Bywgraffiadur yn nodi genedigaeth John Parry, wnaeth arwain gwrthryfel yn erbyn y degwm yn y gogledd-ddwyrain.
Yn ôl englyn deyrnged, "Tra byw efe, nid lle llon / I ormes fydd Llanarmon". Dweud mawr!
Caniatâd cynllunio i orsaf nwy £300m
BBC Cymru Fyw
Mae cwmni wedi cael caniatâd i adeiladu gorsaf ynni nwy gwerth £300m yn Wrecsam.
Daw wedi ymgynghoriad cyhoeddus wnaeth bara am dair blynedd.
Fe gafodd y cynlluniau gwreiddiol i godi peilonau a gwifrau trydan eu rhoi i un ochr yn dilyn gwrthwynebiad yn lleol.
Mae disgwyl i'r datblygiad greu dros 500 o swyddi adeiladu a 30 o swyddi medrus unwaith y bydd yr orsaf wedi'i chodi.
Angharad James yn arwyddo i Everton
BBC Camp Lawn
Gove: Ffermio Cymru yn 'fodel'
Sioe Frenhinol Cymru
Mae ein gohebydd amgylchedd wedi bod yn siarad gyda Michael Gove, Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, y p'nawn 'ma ar faes y sioe.
Pedlo i greu swigod yn y Sioe
Sioe Frenhinol Cymru
Stopio gyrru heddlu o'r gogledd i Preston
BBC Cymru Fyw
Mae Comisiynydd Heddlu'r Gogledd wedi croesawu penderfyniad i stopio gyrru heddweision o ogledd Cymru i brotest gwrth-ffracio yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Fydd Heddlu'r Gogledd ddim yn gyrru swyddogion i helpu Heddlu Lancashire yn y brotest ar safle Cuadrilla ger Preston o hyn ymlaen.
Yn ôl yr heddlu, pwysau ar y llu yng ngogledd Cymru sy'n gyfrifol am y penderfyniad. Dywedodd y Comisiynydd, Arfon Jones, y dylen nhw "dalu am eu diogelwch eu hunain".
Hanner Marathon Caerdydd yn llawn
BBC Cymru Fyw
Does dim mwy o lefydd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd.
Mae 25,000 o redwyr wedi cofrestru, sy'n fwy nag erioed o'r blaen.
Mae'r hanner marathon - sy'n digwydd ar 1 Hydref - yn cael ei chynnal am y 14eg tro.
Gyrrwr cwad wedi ei anafu
Sioe Frenhinol Cymru
Yr hen a'r ifanc yn mwynhau!
Sioe Frenhinol Cymru
Teleri'n cipio Ysgoloriaeth Llyndy Isaf
Sioe Frenhinol Cymru
Teleri Fielden o'r canolbarth sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn y sioe y p'nawn 'ma.
Mae'r ysgoloriaeth yn cael ei rhoi gan y Clwb Ffermwyr Ifanc, ac mae'r ffermwr ifanc buddugol yn cael y cyfle i redeg fferm 614 erw Llyndy Isaf ger Beddgelert ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri.
Bwyellwyr yn cystadlu yn Llanelwedd
Sioe Frenhinol Cymru