a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Tan tro nesaf

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am eich cwmni gydol y dydd.

    Bydd y Llif Byw yn ôl bore fory am 8 ar ddiwrnod ola'r Sioe Frenhinol.

    Tan hynny, noswaith dda i chi.

  2. Llun y dydd...neu lun y flwyddyn!

    Twitter

    Cyfrif Twitter BBC Earth sydd wedi trydar llun anhygoel o'r Llwybr Llaethog uwchben Llanddwyn ar Ynys Môn... WAW!

    View more on twitter
  3. Llun o longddrylliad oddi ar Ynys Môn

    Daily Post

    Mae'r Daily Post wedi cyhoeddi lluniau o'r awyr o long a suddodd yn y môr oddi ar Ynys Môn bron i hanner canrif yn ôl.

    Suddodd yr Hoveringham II ym 1971, ac mae'n gorwedd ar ei ochr ger Ynys Seiriol.

    Cafodd drôn ei ddefnyddio i dynnu'r llun.

    llongddrylliad
    Image caption: Ynys Seiriol
  4. Aled Siôn Davies yw hoff bara-athletwr cefnogwyr Prydain

    Golwg 360

    Mae Golwg 360 yn adrodd fod Aled Siôn Davies wedi cael ei enwi’n ‘Athletwr Gorau Prydain’ ym Mhencampwriaethau Para-athletau’r Byd yn Llundain – a hynny gan gefnogwyr tim Prydain.

    Fe ddaeth i frig y rhestr fer oedd hefyd yn cynnwys y rhedwyr ar lafnau, Richard Whitehead a Jonnie Peacock.

    Aled Sion Davies
  5. Yr heddlu'n parhau â'r chwilio am James Corfield

    Heddlu Dyfed Powys

    Mewn cynhadledd i'r wasg ar faes y Sioe Frenhinol yn gynharach, diolchodd yr heddlu i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrechion i ddod o hyd i James Corfield, sydd wedi bod ar goll ers nos Lun.

    Apeliodd modryb James, Gill Corfield am wybodaeth, a gofynnodd yr Uwcharolygydd Huw Meredith i bobl barhau i fod ar eu gwyliadwraeth.

    Video content

    Video caption: Yr Uwcharolygydd Huw Meredith yn apelio am wybodaeth
  6. Ar garlam yn y prif gylch

    Sioe Frenhinol Cymru

    Ceffylau
  7. Ambell gawod heno ond yn sych i lawer...

    Tywydd, BBC Cymru

    Rhys Griffiths sy'n cymryd cipolwg ar y tywydd weddill y dydd:

    "Wedi bore digon diflas ma hi erbyn hyn wedi clirio’n sych ar draws y wlad a’r cymylau wedi clirio’n raddol yn ystod y pnawn.

    "Y tymheredd ar ei ucha’n 21C tra bo gwyntoedd ysgafn ar hyd y glannau yn golygu ei bod hi rhywfaint yn fwy ffres, 16C yn Aberdaron.

    "Heno, bydd ambell gawod ynysig ar dir uchel ond heblaw am hynny yn sych i rannau helaeth o’r wlad, a’r tymheredd yn ddeuddeg selsiws ar ei isa’."

    Gallwch gael y rhagolygon yn eich ardal chi yma.

  8. Tarw glan yw'r tarw gorau!

    Sioe Frenhinol Cymru

    tarw
  9. I ddod ar y Post Prynhawn...

    Post Prynhawn

    BBC Radio Cymru

    Y diweddara' ar y chwilio am James Corfield yn ardal Llanfair-ym-Muallt, dyfodol ceir petrol a disel a'r datblygiad diweddara am ffrae'r cylch haearn - hyn a mwy i ddod ar y Post Prynhawn yng nghwmni Dewi Llwyd rhwng 5 a 6.

  10. Marwolaeth drwy anffawd yn achos hwyliwr 'profiadol'

    BBC Cymru Fyw

    Clywodd cwest yn Aberystwyth sut y bu farw hwyliwr profiadol ger Gwbert ym Mae Ceredigion wedi i'w gwch droi drosodd mewn tywydd garw.

    Roedd Arthur Roy Taylor, 90 oed, ac yn hwyliwr cyson yn y bae ond iddo fynd i drafferthion mewn môr garw, ac na fyddai wedi gallu goroesi yn y dŵr oer am fwy na hanner awr.

    Cofnododd y crwner i Mr Taylor farw 'drwy anffawd'.

    cwest
  11. Apêl wedi gwrthdrawaid yng nghanol Caerdydd

    Heddlu De Cymru

    Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng nghanol Caerdydd.

    Cafodd cerddwr ei gludo i'r ysbyty ag aniafadau difrifol wedi iddo gael ei daro gan gar BMW ar Wood Street.

    Fe fethodd y car ag aros wedi'r gwrthdrawiad, a chafodd ei adael yn ardal Glanyrafon yn ddiweddarach.

    Mae'r heddlu yn chwilio am ddau unigolyn allai fod wedi bod yn y cerbyd ar adeg y gwrthdrawiad, ac yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth i ffonio 101.

    gwrthdrawiad
  12. Apêl gan deulu James Corfield

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae teulu James Corfield, sydd wedi bod ar goll o Lanfair-ym-Muallt ers nos Lun wedi apelio ar y cyhoedd i'w cynorthwyo i ddod o hyd iddo.

    Cafodd James ei weld ar faes y sioe yn Llanelwedd ac yn ddiweddarach yng ngwesty'r Ceffyl Gwyn tua hanner nos.

    Mewn datganiad, dywedodd Gill Corfield, modryb James: "Ry'n ni'n gofyn i bobl edrych ar luniau James a cheisio cofio ble maen nhw wedi ei weld. Y tro diwethaf iddo gael ei weld, roedd e'n gwisgo crys polo Abercrombie glas tywyll â logo gwyn, jîns glas tywyll ac esgidiau brown golau.

    "Ry'n ni'n dy garu di James, dere nôl yn saff."

    Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi bod yn chwilio am James ers 24 awr bellach a'u bod yn gynyddol bryderus amdano.

    James Corfield
  13. Marwolaeth Eifion Gwynne yn 'farwolaeth drwy anffawd'

    BBC Cymru Fyw

    Mae crwner wedi cofnodi achos o farwolaeth drwy anffawd yn achos Eifion Gwynne o Aberystwyth.

    Cafodd y trydanwr 41 oed ei ladd wrth geisio croesi'r ffordd i'w westy yn ne Sbaen fis Hydref y llynedd.

    Clywodd y cwest i Mr Gwynne farw o nifer o anafiadau difrifol i'w frest ar ôl cael ei daro gan gar yn Estepona.

    Eifion Gwynne
  14. Oedi ar godi cerflun y cylch haearn

    BBC Cymru Fyw

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am oedi cyn codi cerflun o 'gylch haearn' ger Castell y Fflint.

    Mae'r darn celf wedi hollti barn gan ei fod yn cyfeirio at y cestyll gafodd eu hadeiladu gan Loegr wrth iddyn nhw goncro Cymru.

    Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: "Rydym wedi gwrando, ac yn cydnabod pa mor gryf yw teimladau pobl ynghylch y gosodiad celf arfaethedig yng Nghastell Y Fflint.

    Cylch Haearn
  15. ...ond mae'n braf eto yn y Sioe

    Sioe Frenhinol Cymru

    Wedi glaw drwy'r bore mae hi nawr yn braf a chynnes ar faes y Sioe yn Llanelwedd.

    Braf
  16. Car = £2.2 miliwn...plat rhif = £10!

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae tipyn o sylw ar Twitter y bore 'ma i'r trydar yma gan uned blismona ffyrdd Heddlu'r Gogledd neithiwr. Fe wnaethon nhw stopio car Koenigsegg One:1 - sy'n werth £2.2 MILIWN - am nad oedd plat rhif cywir arno!

    View more on twitter
  17. Diwedd cyfnod wrth i bennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ymddeol

    Prifysgol Caerdydd

    Mae Pennaeth yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Sioned Davies yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth.

    Yr Athro Davies oedd y fenyw gyntaf erioed i ymgymryd â rôl Athro coleg ym mhwnc y Gymraeg.

    Mae wedi chwarae rôl hanfodol bwysig yn natblygiad y ddisgyblaeth yn ogystal â chyfrannu mewn ffyrdd arwyddocaol ym meysydd gwleidyddol, llenyddol a chymdeithasol yng Nghymru.

    Bydd yn cael ei holynu i'r swydd gan Dr Dylan Foster Evans

    Sioned Davies
    Image caption: Yr Athro Sioned Davies gyda'i holynydd, Dr Dylan Foster Evans
  18. Newydd dorriDatganiad am y cylch haearn

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

    "Rydym wedi gwrando, ac yn cydnabod pa mor gryf yw teimladau pobl ynghylch y gosodiad celf arfaethedig yng Nghastell Y Fflint.

    "Rydym yn teimlo ei fod yn iawn inni oedi bellach, ac ail-edrych ar y cynlluniau ar gyfer y cerflun.

    "Gan gydweithio’n agos â phartneriaid lleol, byddwn yn parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer datblygiadau yn Fflint, gan gynnwys edrych eto ar y cyfleusterau i ymwelwyr.”