Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud "rydw i'n credu bod neges yr adroddiad interim yn eglur - allwn ni ddim gwneud y gwelliant mewn ansawdd a phrofiad yr ydyn ni i gyd eisiau heb weld newid yn y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithio".
Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn cwestiynu pam bod rhai o'r meysydd gweithredu ar atal pobl rhag ysmygu o bosib ddim yn dechrau tan fis Mawrth 2018.
BBCCopyright: BBC
'Nifer o dargedau uchelgeisiol'
Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn croesawu'r cynllun gweithredu, ac yn dweud ei bod yn "falch ei fod yn parhau i osod nifer o dargedau uchelgeisiol".
Mae'r cynllun yn anelu at leihau nifer y bobl sy'n ysmygu yng Nghymru.
Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol 2016/17 yn dangos bod 19% o oedolion Cymru yn smygu.
Mae’r cynllun yn gosod nifer o fesurau i leihau cyfraddau smygu ymhellach ac atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf.
Nod y llywodraeth yn y pen draw yw gweld Cymru ddi-fwg, gan ddileu’r holl niwed mae tybaco yn ei wneud.
BBCCopyright: BBC
'Y polisi mewnfudo presennol yn un hiliol'
"Nid fi yw'r un sy'n hiliol.
"Mae'r polisi mewnfudo presennol sydd ganddon ni yn un hiliol, oherwydd rydyn ni'n gosod cyfyngiadau ar y rheini sydd â wynebau lliw, rhywbeth dydyn ni ddim yn ei osod ar bobl sy'n wyn," medd Neil Hamilton.
'Llywodraeth Prydain yn darganfod ei hunain mewn shambls'
Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn dweud "dim ond 18 mis cyn y diwrnod gwahanu, mae Llywodraeth Prydain yn darganfod ei hunain mewn shambls".
Ar y diwrnod hwnnw, mae'n rhybuddio y gallai llywodraeth y DU fod "mor daer i gadw Dinas Llundain ar wyneb y dŵr fel canolfan ariannol fyd eang.. y bydd yn caniatáu statws arbennig i Lundain o fewn y DU, ond nunlle arall".
BBCCopyright: BBC
Cynigion cychwynol ar gyfer system fewnfudo newydd
Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn atgoffa ACau o fwriad llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion cychwynol ar gyfer system fewnfudo newydd yn yr Hydref.
'Ffordd hyblyg – ond dan reolaeth – o edrych ar fudo'
Yn ôl Mark Drakeford mae "buddiannau Cymru’n cael eu diwallu orau drwy fynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl.
"Yn unol â hyn, rydym yn annog ffordd hyblyg – ond dan reolaeth – o edrych ar fudo, yn gysylltiedig â chyflogaeth.
"Rhaid cyplysu hyn â chamau cadarn i atal camfanteisio ar weithwyr a fydd, yn ein barn ni, yn gwella cyflogau ac amodau gwaith i bawb."
'Sicrhau’r canlyniad cywir'
Mae llywodraeth Cymru yn dweud bod y "ffordd y bydd Llywodraeth
y DU yn delio â mudo i mewn
ac allan o’r Undeb Ewropeaidd
(UE) yn hanfodol wrth geisio
sicrhau’r canlyniad cywir i
negodiadau’r DU ar gyfer
ymadael â’r UE – canlyniad
priodol i bob rhan o’r DU,
sy’n adlewyrchu’r gwahanol
anghenion penodol ar draws
y gwledydd datganoledig a
rhanbarthau Lloegr.
"Dangosodd canlyniad yr
Etholiad Cyffredinol yn glir
nad oes gan Lywodraeth y
DU unrhyw fandad ar gyfer
‘Brexit caled’ lle byddai’n
heconomi yn cael ei haberthu
a’n gwasanaethau cyhoeddus
yn cael eu niweidio i sicrhau
cyfyngiadau mympwyol,
hunan-niweidiol ar fudo.
"Yn fwy
nag erioed, mae angen datblygu
consensws eang sydd er budd
Cymru a’r DU yn gyfan.
Ar yr un pryd, rydym yn
cydnabod bod pryderon
ynghylch mudo wedi bod yn
nodwedd amlwg o’r drafodaeth
yn arwain at y refferendwm
ynghylch aelodaeth y DU o’r UE,
a bod gormod o bobl Cymru’n
teimlo dan fygythiad neu wedi’u hecsbloetio."
Mae Neil Hamilton yn galw ar ACau i "gofleidio ail-fywiocâd Senedd San Steffan".
'Atal crafangu grym gan San Steffan'
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod yn rhaid "amddiffyn budd cenedlaethol Cymru" ac y bydd ASau Plaid Cymru a'r Arglwydd Wigley yn "defnyddio pob cyfle i wthio gwelliannau fydd yn atal "crafangu grym gan San Steffan".
BBCCopyright: BBC
Y Mesur yn 'dechnegol yn ei natur'
Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn dweud bod y mesur "yn dechnegol yn ei natur".
Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud bod yna 64 o ardaloedd polisi sydd ar hyn o bryd o dan reolaeth yr UE allai fynd i Lywodraeth Cymru a 111 i Lywodraeth yr Alban.
Mae Carwyn Jones yn dweud nad yw'r mesur presennol "yn addas i bwrpas".
Mae'n egluro ei fod e a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi gwelliannau ar y cyd i Fesur yr EU (Ymadael) "a fyddai'n caniatáu i'r llywodraethau symud ymlaen mewn ffordd sy'n parchu'r setliadau datganoli y gweithiwyd mor galed i'w sicrhau."
Mae'n galw am Fesur fyddai'n "gweithio gyda'r broses ddatganoli, nid yn ei herbyn".
BBCCopyright: BBC
Nicola SturgeonImage caption: Nicola Sturgeon
Crynodeb o'r Mesur
Mae'r Nodiadau Esboniadol yn nodi barn Llywodraeth y DU fod y Mesur yn
cyflawni pedair prif swyddogaeth.
Mae:
yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
yn trosi cyfraith yr UE fel y saif adeg ymadael yn gyfraith ddomestig
cyn i'r DU ymadael â'r UE;
yn creu pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys pwerau dros
dro i alluogi i gywiriadau gael eu gwneud i'r cyfreithiau na fyddent
bellach yn gweithredu'n briodol fel arall ar ôl i'r DU ymadael â'r UE ac i
roi cytundeb ymadael ar waith; ac
yn cadw cwmpas presennol pwerau datganoledig ar gyfer gwneud
penderfyniadau mewn meysydd a lywodraethir gan gyfraith yr UE ar
hyn o bryd.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl
A dyna ni am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Pen ar y bloc - barn Vaughan Roderick
'Neges yr adroddiad interim yn eglur'
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud "rydw i'n credu bod neges yr adroddiad interim yn eglur - allwn ni ddim gwneud y gwelliant mewn ansawdd a phrofiad yr ydyn ni i gyd eisiau heb weld newid yn y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithio".
Mwy ar wasanaethau iechyd a gofal
Dadl: Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ac yn olaf heddiw mae'r aelodau yn cael dadl ar adroddiad interim yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Atal pobl rhag ysmygu
Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn cwestiynu pam bod rhai o'r meysydd gweithredu ar atal pobl rhag ysmygu o bosib ddim yn dechrau tan fis Mawrth 2018.
'Nifer o dargedau uchelgeisiol'
Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn croesawu'r cynllun gweithredu, ac yn dweud ei bod yn "falch ei fod yn parhau i osod nifer o dargedau uchelgeisiol".
Rheoli tybaco
Mae'r datganiad nesaf gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans ar Gynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco 2017-2020.
Mae'r cynllun yn anelu at leihau nifer y bobl sy'n ysmygu yng Nghymru.
Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol 2016/17 yn dangos bod 19% o oedolion Cymru yn smygu.
Mae’r cynllun yn gosod nifer o fesurau i leihau cyfraddau smygu ymhellach ac atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf.
Nod y llywodraeth yn y pen draw yw gweld Cymru ddi-fwg, gan ddileu’r holl niwed mae tybaco yn ei wneud.
'Y polisi mewnfudo presennol yn un hiliol'
"Nid fi yw'r un sy'n hiliol.
"Mae'r polisi mewnfudo presennol sydd ganddon ni yn un hiliol, oherwydd rydyn ni'n gosod cyfyngiadau ar y rheini sydd â wynebau lliw, rhywbeth dydyn ni ddim yn ei osod ar bobl sy'n wyn," medd Neil Hamilton.
'Llywodraeth Prydain yn darganfod ei hunain mewn shambls'
Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn dweud "dim ond 18 mis cyn y diwrnod gwahanu, mae Llywodraeth Prydain yn darganfod ei hunain mewn shambls".
Ar y diwrnod hwnnw, mae'n rhybuddio y gallai llywodraeth y DU fod "mor daer i gadw Dinas Llundain ar wyneb y dŵr fel canolfan ariannol fyd eang.. y bydd yn caniatáu statws arbennig i Lundain o fewn y DU, ond nunlle arall".
Cynigion cychwynol ar gyfer system fewnfudo newydd
Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn atgoffa ACau o fwriad llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion cychwynol ar gyfer system fewnfudo newydd yn yr Hydref.
'Ffordd hyblyg – ond dan reolaeth – o edrych ar fudo'
Yn ôl Mark Drakeford mae "buddiannau Cymru’n cael eu diwallu orau drwy fynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl.
"Yn unol â hyn, rydym yn annog ffordd hyblyg – ond dan reolaeth – o edrych ar fudo, yn gysylltiedig â chyflogaeth.
"Rhaid cyplysu hyn â chamau cadarn i atal camfanteisio ar weithwyr a fydd, yn ein barn ni, yn gwella cyflogau ac amodau gwaith i bawb."
'Sicrhau’r canlyniad cywir'
Mae llywodraeth Cymru yn dweud bod y "ffordd y bydd Llywodraeth y DU yn delio â mudo i mewn ac allan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn hanfodol wrth geisio sicrhau’r canlyniad cywir i negodiadau’r DU ar gyfer ymadael â’r UE – canlyniad priodol i bob rhan o’r DU, sy’n adlewyrchu’r gwahanol anghenion penodol ar draws y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
"Dangosodd canlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn glir nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw fandad ar gyfer ‘Brexit caled’ lle byddai’n heconomi yn cael ei haberthu a’n gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu niweidio i sicrhau cyfyngiadau mympwyol, hunan-niweidiol ar fudo.
"Yn fwy nag erioed, mae angen datblygu consensws eang sydd er budd Cymru a’r DU yn gyfan. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod pryderon ynghylch mudo wedi bod yn nodwedd amlwg o’r drafodaeth yn arwain at y refferendwm ynghylch aelodaeth y DU o’r UE, a bod gormod o bobl Cymru’n teimlo dan fygythiad neu wedi’u hecsbloetio."
Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl
Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford: Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl.
'Cofleidio ail-fywiocâd Senedd San Steffan'
Mae Neil Hamilton yn galw ar ACau i "gofleidio ail-fywiocâd Senedd San Steffan".
'Atal crafangu grym gan San Steffan'
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod yn rhaid "amddiffyn budd cenedlaethol Cymru" ac y bydd ASau Plaid Cymru a'r Arglwydd Wigley yn "defnyddio pob cyfle i wthio gwelliannau fydd yn atal "crafangu grym gan San Steffan".
Y Mesur yn 'dechnegol yn ei natur'
Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn dweud bod y mesur "yn dechnegol yn ei natur".
Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud bod yna 64 o ardaloedd polisi sydd ar hyn o bryd o dan reolaeth yr UE allai fynd i Lywodraeth Cymru a 111 i Lywodraeth yr Alban.
Beth mae'n ei olygu i Gymru?
Gwelliannau ar y cyd i Fesur yr EU (Ymadael)
Mae Carwyn Jones yn dweud nad yw'r mesur presennol "yn addas i bwrpas".
Mae'n egluro ei fod e a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi gwelliannau ar y cyd i Fesur yr EU (Ymadael) "a fyddai'n caniatáu i'r llywodraethau symud ymlaen mewn ffordd sy'n parchu'r setliadau datganoli y gweithiwyd mor galed i'w sicrhau."
Mae'n galw am Fesur fyddai'n "gweithio gyda'r broses ddatganoli, nid yn ei herbyn".
Crynodeb o'r Mesur
Mae'r Nodiadau Esboniadol yn nodi barn Llywodraeth y DU fod y Mesur yn cyflawni pedair prif swyddogaeth.
Mae:
yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
yn trosi cyfraith yr UE fel y saif adeg ymadael yn gyfraith ddomestig cyn i'r DU ymadael â'r UE;
yn creu pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys pwerau dros dro i alluogi i gywiriadau gael eu gwneud i'r cyfreithiau na fyddent bellach yn gweithredu'n briodol fel arall ar ôl i'r DU ymadael â'r UE ac i roi cytundeb ymadael ar waith; ac
yn cadw cwmpas presennol pwerau datganoledig ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn meysydd a lywodraethir gan gyfraith yr UE ar hyn o bryd.