a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad: Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  4. Datganiad: Sefyll arholiadau TGAU yn gynnar
  5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig)
  6. Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
  7. Dadl: Yr Economi Gylchol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Bore fory bydd Senedd Fyw yn darlledu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    Senedd
  2. Crynodeb a chanlyniadau

    Ceir crynodeb o'r sesiwn a chanlyniad y pleidleisiau yng nghofnod y trafodion

  3. Angen targedu cwmnïau

    Mae David Rowlands yn dweud fod UKIP yn "cefnogi ac yn canmol strategaethau Llywodraeth Cymru ar ailgylchu, ac mae'n cydnabod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma".

    Gan fod y cyhoedd mor gefnogol i ailgylchu mae'n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru nawr "ganolbwyntio ar y cwmnïau sy'n cynhyrchu deunydd sydd ddim yn ailgylchadwy".

    David Rowlands
  4. Ernes am boteli?

    Mae'r Ceidwadwr David Melding yn tynnu sylw at "yr effaith arwyddocaol y gallai cynllun talu ernes am ddychwelyd poteli ei gael ar ymdrechion Cymru i gyrraedd y nod."

    David Melding
  5. Llongyfarch y Cardis

    Simon Thomas o Blaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth i fod yn fwy uchelgeisiol ac i osod "targed o dim gwastraff o gwbl erbyn 2030". Mae e hefyd yn llongyfarch Cyngor Ceredigion fel cyngor sy'n perfformio'n dda ym maes ailgylchu.

    Mae e hefyd yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal.

    Hefyd mae e'n cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio a na ellir eu hailgylchu.

    Simon Thomas
  6. Cymru yn arwain ym maes 'ailgylchu trefol'

    Mae dadl olaf y diwrnod yn ymwneud â'r 'economi gylchol'.

    Yn ôl yr Ysgrifennydd Amgylchedd Lesley Griffiths Cymru mae Cymru yn arwain y maes o fewn y DU a hi yw y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol.

    Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried:

    a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; a

    b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%.

    ailgylchu
  7. Hiliaeth ar gynnydd

    AC Llafur Dwyrain Casnewydd, John Griffiths yn dweud bod tensiynau hiliol wedi gwaethygu yn y misoedd a'r blynyddoedd diweddaraf.

  8. 'Wedi torri fy nhrwyn'

    Mae Neil Hamilton o UKIP yn dweud ei fod e unwaith wedi dioddef trosedd casineb wrth i labystiau homoffobig ymosod arno wedi iddo helpu ffrind hoyw.

    Mae'n dweud ei fod yn cefnogi fframwaith y Llywodraeth i ddelio â throsedd casineb.

  9. 'Angen i'r cwrs ymarfer dysgu roi hyfforddiant'

    Mae Bethan Jenkins yn cydnabod y gellid fod wedi geirio gwelliant cyntaf Plaid Cymru - yn galw ar Lywodraeth Cymru "i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde" - yn fwy gofalus.

    Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr ac ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno "hyfforddiant i athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb mewn ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag cadw hyn yn gudd".

    Yn ogystal mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wella "cydlyniant cymunedol yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu".

    Bethan Jenkins
  10. 'Angen annog dioddefwyr i siarad'

    Dywed Mark Isherwood er bod cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad.

    Mae'n croesawu côd ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol "a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol".

    Mae'n galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb ac hefyd ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu trosedd casineb i'r Strategaeth Awtistiaeth ddiwygiedig.

    Mark Isherwood
  11. Fframwaith i ddelio â throsedd casineb

    Mae dadl gyntaf y dydd yn ymwneud â thaclo troseddau casineb

    Cafodd Fframwaith Trosedd Casineb Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi ym Mai 2014.

    Wedi pleidlais Brexit roedd yna gynnydd o droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr.

    Dangosodd ffigurau fis diwethaf fod pobl LGBT yng Nghymru wedi dioddef 82% yn fwy o droseddau yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

    Baner yr enfys
  12. Rhyddhad ardrethi annomestig i seilwaith ffeibr llawn newydd

    Mae'r aelodau yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig), sy'n ymwneud â rhyddhad ardrethi annomestig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Amcan polisi datganedig Llywodraeth y DU yw cefnogi buddsoddiad mewn seilwaith band eang ffeibr newydd a chyfathrebu 5G yn y dyfodol drwy gynnig rhyddhad ardrethi annomestig newydd o 100 y cant ar gyfer seilwaith ffeibr llawn newydd. Caiff y rhyddhad hwn ei ddarparu am gyfnod o bum mlynedd o 1 Ebrill 2017 ymlaen. Mae modd ôl-ddyddio'r rhyddhad i 1 Ebrill 2017 ar gyfer seilwaith cymwys.

    band eang
  13. 'Ddim yn mynd i wraidd pethau'

    Mae Michelle Brown o UKIP yn croesawu argymhellion Cymwysterau Cymru ond yn dweud nad ydynt yn "delio â gwreiddyn y broblem sef diffyg gweledigaeth, dadansoddi a chynllunio gan Llywodraeth Cymru".

    Michelle Brown
  14. Beth am lais pobl ifanc?

    Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru yn croesawu bod y Llywodraeth yn mynd i gyhoeddi canllawiau ond yn gofyn am elfen gyfyngedig yr ymchwil - mae'n poeni nad yw llais pobl ifanc wedi cael ei glywed. "Mae hynny", meddai, "yn wendid yn y broses" ac felly mae'n gofyn "a yw'r dystiolaeth gyfan wedi'i chlywed".

    Llyr Gruffydd
  15. Pam yr oedi?

    Mae Paul Davies, AC Preseli Penfro, yn gofyn pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser i fynd i'r afael â'r pryderon y gallai addysg nifer o ddisgyblion sydd yn sefyll eu harholiadau TGAU yn gynnar fod yn y fantol.

    Mae hefyd am gael adroddiadau cyson ar y datblygiadau sydd i fod i ddod i rym yn 2019.

    Dywed yr ysgrifennydd addysg na all hi ateb ar ran ei rhagflaenwyr ond ei bod yn ymateb mor gyflym â phosib wedi adroddiad Cymwysterau Cymru.

    Mae'n dweud fod yna bwysau wedi bod ar rhai ysgolion i gynnwys plant o flwyddyn 10 am fod ysgolion eraill yn gwneud hynny.

    Nid yw'n dderbyniol i rieni dalu am ail-sefyll arholiadau - dyw pawb ddim yn gallu gwneud hynny, meddai.

    Ychwanegodd nad yw'n atal sefyll arholiadau yn gynnar ond rhaid i hynny fod er lles y disgybl.

    Paul Davies
  16. Argymhellion Cymwysterau Cymru

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn cyhoeddi rheolau newydd i'r drefn o sefyll TGAU fel bod "lles disgyblion yn cael eu rhoi gyntaf".

    Daw hyn wedi argymhellion gan Cymwysterau Cymru a ddywedodd bod cofrestru disgyblion yn gynnar yn "risg sylweddol" i'w haddysg.

    Dyma fydd yn newid:

    • Y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur perfformiadau ysgol - felly dim ond gradd gyntaf disgybl fydd yn cyfri tuag at fesur perfformiad yr ysgol. Ar hyn o bryd mae ysgolion yn gallu cofnodi'r graddau gorau gan ddisgybl os ydyn nhw wedi sefyll yr arholiad sawl gwaith.
    • Rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau ynglŷn â Saesneg Iaith a Chymraeg Iaith sydd yn golygu bod myfyrwyr ond yn gallu ail sefyll yr arholiad ym mis Tachwedd. Mae'r rheoleiddiwr yn credu y bydd hyn yn golygu y bydd lles y disgyblion wedi eu hystyried cyn gofyn iddynt wneud yr arholiad TGAU yn gynnar ac yn lleihau'r amser paratoi ar gyfer yr arholiadau.
    • Mae'r corff hefyd yn amcangyfrif bod ysgolion wedi gwario mwy na £3.3m yn ystod y flwyddyn academaidd 2016-17 ar arholiadau cynnar.
    Kirsty Williams
  17. Sefyll TGAU yn gynnar

    Datganiad nesaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y wybodaeth ddiweddaraf am sefyll arholiadau TGAU yn gynnar.

    Ddoe roedd yna adroddiadau newyddion yn pryderu bod sefyll yr arholiadau yn gynnar yn gallu effeithio ar y canlyniadau.

    Roedd bron un o bob pump papur arholiad Saesneg Iaith, Cymraeg a Mathemateg yn yr haf gan ddisgyblion 15 oed.

    Yn ôl adroddiad gan Cymwysterau Cymru, y corff rheoleiddio, cofrestriadau cynnar oedd yn bennaf gyfrifol am ostyngiad yng nghanlyniadau TGAU eleni.

    Plant
  18. Deuparth y gwaith?

    Gareth Bennett o UKIP yn dweud: "Dwi ddim wedi darllen y memorandwm sy'n egluro'r cyfan chwaith, i fod yn onest dwi ddim wedi dechrau ei ddarllen."

    Gareth Bennett
  19. Cefnogi mewn egwyddor

    Y Ceidwadwr David Melding a Bethan Jenkins o Blaid Cymru yn cefnogi'r mesur mewn egwyddor gyda'r sicrwydd y bydd y manylion yn cael eu harchwilio pan ddaw'r mesur gerbron y pwyllgorau.

  20. 'Diogelu tai fforddiadwy da'

    Pwysleisiodd Carl Sargeant yr angen "i ddod o hyd i ateb a fydd yn galluogi'r Swyddfa Ystadegau i drosglwyddo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ôl i'r sector breifat cyn gynted â phosib", gan ychwanegu y byddai'r mesur yn gwneud y newidiadau sydd eu hangen i "ddiogelu y cyflenwad o dai da a fforddiadwy yng Nghymru".

    Carl Sargeant