a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl gan Aelodau Unigol: y chwyldro mewn technoleg drafnidiaeth
  6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: teithiau bws a thrên i bobl rhwng 16 a 24 oed
  7. Dadl Plaid Cymru: economi gogledd Cymru
  8. Dadl Fer: Diogelu a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru - cynorthwyo'r dioddefwr

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mawrth 24 Hydref.

    Senedd
  2. 'Cefnogi'r dioddefwr'

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) ar gyfer y drafodaeth fer yw 'Diogelu a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru - cynorthwyo'r dioddefwr'.

    Mae'n canolbwyntio ar achos Kris Wade a gafodd ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Christine James yn ei chartref ym Mae Caerdydd.

    Cafodd ei ddiswyddo bedair blynedd yn ôl yn dilyn cwynion ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar dri chlaf mewn uned i bobl ag anableddau dysgu.

    Cafodd Kris Wade ei garcharu am oes am lofruddio Christine James
    Image caption: Cafodd Kris Wade ei garcharu am oes am lofruddio Christine James
  3. Pleidlais i bwyllgorau

    Mae'r aelodau yn pleidleisio o blaid ethol:

    • Neil McEvoy (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
    • Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
    • Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  4. 'Economi'r gogledd yn ffynnu ac yn llewyrchus'

    Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates AC yn dweud ei fod yn "hynod falch" o ogledd Cymru ac mae'n dweud bod economi'r gogledd "yn ffynnu ac yn llewyrchus"

    Mae'n tynnu sylw at raglen fuddsoddi "uchelgeisiol" o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494, £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch, £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain a chynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.

    Mae'n dweud fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.

    Dywed hefyd ei fod yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.

  5. "Y Gogledd mewn lle da i dderbyn cyfrifoldebau newydd"

    Mark Isherwood yn dweud bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod "gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.

    Mark Isherwood
  6. 'Angen buddsoddi yn y gogledd'

    Llyr Gruffydd yn dweud bod rhwystredigaeth nad oes buddsoddiad cyfatebol neu led-cyfatebol yn y gogledd i gymharu â Chaerdydd. "Y sefyllfa yn waeth nawr nac y bu," meddai.

    Mae'n dweud bod "isadeiledd y gogledd yn wael gan gynnwys ffordd yr A55, trafnidiaeth gyhoeddus a band llydan".

    Mae'n dweud bod yna ddigon o atyniadau twristaidd yn y gogledd ond nad yw'r ffordd o'u cyrraedd yn ddigon da.

    Llyr Gruffydd
  7. Dadl Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd Cymru.

    2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru.

    3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys:

    a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de;

    b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad dros y Fenai;

    c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru;

    d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru;

    e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;

    f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru;

    g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru.

  8. Pwysigrwydd helpu pobl ifanc

    Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn cynnig bod y Cynulliad yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.

    Mae'n nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu "cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau ac yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion".

    Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd "ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf".

    Cyfeiria hefyd at fwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol.

    Ken Skates
  9. 'Rhodd i bobl ifanc?'

    Rhianon Passmore, AC Llafur Islwyn, yn dweud "dychmygwch fy syndod wrth ganfod fod y drafodaeth hon gan y Ceidwadwyr yn cynnig rhodd i bobol ifanc - yr union blaid sy'n cefnogi llymder y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn ei orfodi ar bobl heb dosturi".

    rhianon passmore
  10. Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr

    Dai Lloyd yn dweud bod Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr ac yn dweud na ddylai Llywodraeth Cymru ddiystyru syniadau gan y gwrthbleidiau.

  11. 'Angen i bobl ifanc gael gwell profiad o deithio'

    Aelod Cynulliad Castell-nedd Jeremy Miles yn dweud bod "pobl ifanc angen bargen newydd - un sy'n cynnig iddynt ffordd o deithio am ddim neu'n rhad, ond un sydd hefyd yn gwella eu profiad o deithio."

    Jeremy Miles
  12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

    Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, mae Russell George yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a

    b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

    Russell George
  13. 'Rhaid i Gymru arwain y ffordd'

    Y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James yn dweud ei bod yn adfer hen geir Mini "i ymlacio".

    Mae'n dweud bod yn rhaid i Gymru arwain y ffordd yn y chwyldro technoleg trafnidiaeth.

    Y cynnig gan yr aelodau unigol yn cael ei basio.

    Julie James
  14. Gwarchod yr atmosffer

    Dai Lloyd yn galw ar aelodau'r cynulliad i gefnogi'r cynnig i "ddiogelu dyfnder bregus yr atmosffer am ein bod i gyd yn ddibynnol arno".

    Dai Lloyd
  15. 'Dim darpariaeth ar gyfer ceir trydan'

    Jenny Rathbone yn cwyno am brinder pwyntiau gwefru yng Nghymru ond mae'n croesawu'r addewid o £2m ar gyfer pwyntiau trydanol fel rhan o'r cytundeb cyllideb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

    car trydan
  16. Dadl gan Aelodau Unigol

    Mae dadl gyntaf y diwrnod gan aelodau unigol. Mae

    Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)David Melding (Canol De Cymru)Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

    yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg drafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol.

    2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i:

    a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a

    b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau trydanu ledled Cymru;

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

  17. Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Mesurau'r Cynulliad

    Aelodau yn cytuno ar gynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas ag Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Mesurau'r Cynulliad.

  18. Cyfnewid o fewn Plaid Cymru

    Aelodau yn cytuno i ethol:

    • Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru).
    • Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).
  19. Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

    Cynigion i ethol:

    • Neil McEvoy (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
    • Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
    • Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

    Paul Davies ar ran y Ceidwadwyr yn dweud y dylai'r Ceidwadwyr gael mwy o seddi pwyllgor i adlewyrchu mai nhw yw'r ail blaid fwyaf ac felly yn gwrthwynebu'r cynigion.

    Mae'n ychwanegu ei fod yn ddiwrnod trist i gyfansoddiad y cynulliad.

    Elin Jones, y llywydd yn dweud bod ei sylwadau i'w gweld yn yr adroddiad sy'n cydfynd â'r cynnig hwn a'i bod yn mynd i gyfeirio'r mater i'r bwyllgor busnes.

  20. Datganiadau 90 eiliad

    Neilltuir cyfanswm o bum munud i’r eitem hon ac, fel yr awgryma'r enw, ni chaiff yr un datganiad bara mwy na 90 eiliad. Mae hyn yn caniatáu i dri Aelod wneud datganiadau bob wythnos, a chaiff y rhain eu dewis ymlaen llaw gan y Llywydd.

    Gellir eu defnyddio i dynnu sylw at unrhyw bwnc sy’n destun pryder. Er enghraifft, gall Aelodau godi materion sy'n peri pryder mawr i'w hetholwyr, tynnu sylw at broblemau lleol, penblwyddi neu ddyddiadau arwyddocaol, neu dalu teyrnged i rywun.