a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Iolo Cheung

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni am heddiw o'r Siambr.

    Byddwn ni nôl fory gyda'r diweddaraf unwaith eto ar Senedd Fyw - tan hynny, hwyl fawr!

    Senedd
  2. Derbyn y cynnig

    Eto, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn heb wrthwynebiad a'r angen am bleidlais.

  3. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg

    Bydd y drafodaeth nesaf yn ymwneud â Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017.

    Mae'r fersiwn ddrafft sydd wedi ei lunio yn galw ar y Cyngor i ystyried rhagolygon y llywodraeth o'r galw am athrawon newydd gymhwyso, wrth iddyn nhw achredu cyrsiau neu raglenni astudio.

  4. Gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon

    Mae ACau nawr yn symud 'mlaen i drafod cynnig gan Jane Hutt i gymeradwyo fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Dyddodi Gwastraff heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017.

    Y bwriad yw diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i fewnosod adran 33ZB newydd.

    Byddai hynny'n galluogi awdurdodau casglu gwastraff Cymru i roi hysbysiadau cosb penodedig am droseddau tipio anghyfreithlon ar raddfa fach.

    Byddai'n rhaid i'r ddirwy fod o leiaf £150 ac yn ddim mwy na £400, gyda gostyngiad posib am dalu’n gynnar.

    Mae'r cynnig wedi ei dderbyn heb wrthwynebiad.

    Tipio anghyfreithlon
  5. 'Rhaid gwrando ar refferendwm 2011'

    Mewn ymateb i gwestiwn gan David Rees, mae Carwyn Jones yn dweud yr hoffai gael cyfarfodydd amlach o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogol, sydd yn cynnwys arweinwyr llywodraethau'r DU.

    Mae Dafydd Elis-Thomas yna'n galw ar y Cynulliad i beidio â cydsynio i unrhyw ddeddfwriaeth fyddai'n cymryd pwerau oddi wrth Gymru.

  6. 'Gwallgofrwydd' derbyn cytundeb ar unrhyw bris

    Mae Neil Hamilton yn mynnu mai bai'r UE yw hi nad yw trafodaethau'n symud yn eu blaen, a hynny am eu bod yn mynnu pridwerth o "unrhyw beth rhwng £60m a £100m".

    Byddai'n "wallgofrwydd llwyr", meddai, petai'r DU yn dweud eu bod yn fodlon cymryd "unrhyw gytundeb oedd ar gael" yn hytrach na cherdded i ffwrdd heb un.

    neil hamilton
  7. 'Ydy Llafur yn difaru cytuno i danio Erthygl 50?'

    Mae Leanne Wood yn dweud fod risg yn parhau fod San Steffan yn "cipio pŵer" yn dilyn Brexit.

    Dim ond "ymgynghori a'r gwledydd datganoledig" fyddai Llywodraeth y DU yn ei wneud yn y sefyllfa honno, meddai.

    Mae'n mynd 'mlaen i ofyn i'r Prif Weinidog a yw'n fodlon bellach fod ei gyd-aelodau Llafur wedi pleidleisio'n gynharach eleni dros danio Erthygl 50.

    "Ydyn ni mewn safle i argymell yn y Cynulliad y dylen ni wrthod y Mesur Ymadael fel mae'n sefyll? Nac ydyn," yw ymateb Mr Jones.

    leanne wood
  8. 'Yr Undeb Ewropeaidd yn fwy unedig na'r DU'

    Mae Carwyn Jones yn defnyddio ei ymateb i ddweud fod gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns "record wael o gydweithio" gyda Llywodraeth Cymru.

    Mae hefyd yn mynnu nad yw'r Undeb Ewropeaidd wedi rhoi'r "golau gwyrdd" eto ar gyfer symud ymlaen i gam nesaf y trafodaethau.

    "Y realiti yw bod yr UE yn llawer mwy unedig yn eu hamcanion na Llywodraeth y DU," meddai.

    Mae'n mynnu eto nad oedd y bleidlais i adael yr UE yn gyfiawnhad dros adael y Farchnad Sengl a'r undeb dollau.

    carwyn jones
  9. Brexit: Galw ar Carwyn Jones i fod yn fwy "positif"

    Mae Carwyn Jones yn dweud y gallai gadael yr UE heb gytundeb olygu nifer o drafferthion gan gynnwys o ran mewnforio triniaethau canser, a gallu cwmnïau awyr i hedfan.

    Yn ôl un broffwydoliaeth economaidd mae'n cyfeirio ato, gallai GDP y DU fod 18% yn is erbyn 2030 pe na bai cytundeb.

    Ond mae Mark Isherwood o'r Ceidwadwyr yn mynnu fod pethau'n edrych yn llawer mwy "positif" o ran cytundeb rhwng y DU a'r UE nag yr oedd y Prif Weinidog yn ei awgrymu.

    Mae'n ychwanegu mai "strategaeth drafod" yw'r sôn am beidio â chael cytundeb, a bod Mr Jones yn dangos agwedd "gwydr hollol wag" tuag at y mater.

    mark isherwood
  10. 'Dim cytundeb Brexit ddim yn opsiwn'

    Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones nawr yn gwneud datganiad ar y trafodaethau Brexit diweddaraf.

    Mae'n dweud y byddai methu â dod i gytundeb â'r UE yn "achosi anhrefn a niwed parhaus i economi'r DU a'i diogelwch yn y dyfodol".

    I'r perwyl hwnnw, mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i "sylwadau diofal" ynglŷn â dod i ganlyniad o'r fath.

    brexit cymru
  11. 'Byddwch yn fwy brwdfrydig am y cynllun'

    Cwestiwn gan Gareth Bennett o UKIP nesaf - oes unrhyw gamau mewn lle i atal costau'r datblygiadau hyn rhag mynd dros eu cyllideb?

    Mae hefyd yn holi beth fydd y llywodraeth yn ei wneud i hybu pobl unigol sydd eisiau codi tai arloesol o'r fath.

    Ymateb Mr Sargeant yw i ofyn iddo "gael rhywfaint o frwdfrydedd" ynglyn a'r cynllun, o ystyried fod y pleidiau eraill i gyd yn lled-gefnogol.

    gareth bennett
  12. 'Dwbl nifer y tai arloesol na'r disgwyl'

    Mae Sian Gwenllian o Blaid Cymru yn "croesawu'r datblygiad tai carbon isel" sydd yn y cynllun.

    Mae hefyd yn gofyn i'r gweinidog am ddiweddariad ar sut mae'r cynllun ehangach i adeiladu 20,000 o dai ar draws Cymru yn mynd yn ei flaen.

    Yn ei ymateb mae Mr Sargeant yn dweud y bydd angen iddo wirio ble mae'r llywodraeth arni ar y targed ehangach.

    Ond mae'r 276 o dai fydd yn cael eu hadeiladu dan y Rhaglen Tai Arloesol yn ddwbl y nifer oedd wedi'i fwriadu'n wreiddiol, meddai.

    sian gwenllian
  13. Croeso gan y Ceidwadwyr

    Mae'r Ceidwadwr David Melding ar y cyfan yn croesawu'r manylion sydd wedi eu cyhoeddi gan Mr Sargeant.

    Dywedodd fod ceisio cartrefi sydd hefyd yn cynhyrchu ynni fel ffordd o "ddarparu incwm i bobl" yn dangos "uchelgais".

    david melding
  14. Defnyddio cynwysyddion llongau fel llety dros dro

    Ymysg y prosiectau fydd yn elwa o'r cyllid mae:

    • cartrefi sydd hefyd yn cynhyrchu ynni;
    • datblygiad yn y canolbarth fydd yn defnyddio pren lleol i gynhyrchu cartrefi o ansawdd sy’n rhad-ar-ynni;
    • cartrefi wedi eu gwneud o ailgylchu cynwysyddion llongau fel ateb ‘dros dro’ i’r rheini sydd ei angen fwyaf;
    • prosiect gofal ychwanegol newydd sy’n ymwneud â chynnig 40 gwely i bobl hŷn yn y Cymoedd.

    Dywedodd Mr Sargeant ei fod wedi cynnyddu maint cyllideb y cynllun o £10m i £19m oherwydd safon y ceisiadau a gafwyd.

    carl sargeant
  15. 22 o brosiectau tai newydd

    Daw'r datganiad nesaf gan yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant ar y Rhaglen Tai Arloesol.

    Bydd Mr Sargeant yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â 22 o brosiectau tai fforddiadwy fydd yn cael eu datblygu fel rhan o'r cynllun.

    Fe fyddan nhw'n cyfrannu at y targed gafodd ei osod gan y llywodraeth llynedd i ddarparu 20,000 yn rhagor o dai fforddiadwy.

    tai
  16. Pryder am athrawon cyflenwi hir dymor

    Pryder sydd gan Michelle Brown o UKIP y gallai'r cynllun arwain at weld athrawon sydd newydd gymhwyso yn dod yn athrawon cyflenwi hir dymor.

    Mae Kirsty Williams yn dweud ei bod hi eisiau sicrhau fod yr athrawon hynny sydd yn chwilio am swydd lawn amser ddim yn sownd yn gwneud swyddi cyflenwi.

    michelle brown
  17. 'Dim bwriad i newid gofynion cymwysterau'

    Mae Kirsty Williams yn dweud nad oes unrhyw fwriad i ddiddymu'r angen i athrawon gael gradd B neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg.

    Ond un syniad mae hi'n awyddus i edrych arno ymhellach yw annog prifysgolion i sicrhau fod eu myfyrwyr yn cael y cyfle i gael blas ar ddysgu.

  18. Oes angen i bob athro gael B mewn TGAU Mathemateg?

    Yn ei sylwadau mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn gofyn sut mae cymell athrawon i ddod i ysgolion mewn ardaloedd gwledig.

    Mae hefyd yn cwestiynu'r angen i holl athrawon fod â gradd B neu uwch yn eu TGAU Mathemateg.

    Mae'n croesawu'r bwriad i sefydlu clystyrau ar gyfer athrawon cyflenwi, ond fel Mr Millar mae hefyd yn cwestiynu pam fod cyn lleied o ysgolion yn rhan o'r cynllun.

    llyr gruffydd
  19. 'Dim sôn am lwyth gwaith athrawon'

    Mae llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar yn dweud ei fod yn synnu nad oedd datganiad yr Ysgrifennydd Addysg wedi crybwyll llwyth gwaith athrawon.

    Mae'n rhaid cydnabod fod hynny yn un o'r pethau sydd yn gyrru athrawon i ffwrdd o'r proffesiwn, meddai.

    Mae hefyd yn cytuno â sylwadau Ms Williams fod angen hyfforddi rhagor o athrawon sydd yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg os am gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr.

    darren millar