a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd fyw yn dychwelyd, wedi gwyliau hanner tymor yr hydref, ar ddydd Mawrth 7 Tachwedd.

    Golygfa hydrefol ym Mharc Bute, Caerdydd.
    Image caption: Golygfa hydrefol ym Mharc Bute, Caerdydd.
  2. Dadl fer: Gofal yn Llanidloes

    Y pwnc a ddewiswyd gan Russell George (Sir Drefaldwyn) ar gyfer y ddadl fer yw 'Darparu gofal sylfaenol yn Llanidloes: dull arloesol o leddfu'r pwysau ar feddygon teulu'.

  3. 'Effaith andwyol ar deuluoedd bregus'

    Mae'r gwelliant a basiwyd gan ACau (32 o blaid a 21 yn erbyn) yn nodi bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    • Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.
    • Yn nodi'r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy'n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol sy'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.
    • Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a'r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.
    • Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno'r credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r pryderon sylfaenol sy'n cael eu codi.
    Y bleidlais
  4. 'Angela Burns yn onest'

    Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn dweud bod Angela Burns wedi bod yn "onest ac yn gywir" yn yr e-bost.

    Mae'n dweud bod yn rhaid i lywodraeth San Steffan "ostwng yr amser aros ar gyfer y taliad cyntaf ar frys".

  5. 'Y rhai sy'n hawlio sy'n talu'

    Mae Jeremy Miles yn dweud bod y credyd cynhwysol yn ymwneud â'r "rhai sy'n ei hawlio yn talu yn hytrach na chyflogaeth".

    Jeremy Miles
  6. 'Hunllefus'

    Mae Gareth Bennett o UKIP yn dweud bod y credyd cynhwysol wedi'n gadael mewn "gwaeth sefyllfa na chynt".

    Mae'n dweud bod sancsiynau y credyd cynhwysol yn hunllefus ac yn adlewyrchu arddull yr awdur Franz Kafka.

  7. Poeni bod yr arian yn cael ei dalu i gyfrif ar y cyd

    Mae Eluned Morgan, AC Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn dweud wrth ACau y gallai cael swm enfawr o arian ar yr un pryd gael effaith andwyol ar y sawl sy'n gaeth i sylweddau ayb.

    Dyw hi ddim yn credu y dylai lles gael ei ddatganoli gan nad yw'n credu y byddai llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r arian angenrheidiol.

    Mae hi hefyd yn dweud ei bod yn poeni bod yr arian yn cael ei dalu i gyfrif ar y cyd - ac fe allai hynny fod yn beryglus mewn rhai perthnasau.

    Eluned Morgan
  8. 'Mwy o bobl yn wynebu caledi'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod y modd y gweithredir y credyd cynhwysol yn "achosi caledi cynyddol" ac o ganlyniad mae mwy o bobol yn wynebu "dyled, colli cartref a gorfodaeth i ddefnyddio'r banc bwyd".

    Mae'n galw am ddatganoli lles.

    Leanne Wood
  9. Amddiffyn yr egwyddorion

    Ar ran y Ceidwadwyr fe amddiffynnodd Mark Isherwood yr egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith.

    Nododd pan y rhagwelwyd credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuwyd fod y rhan fwyaf o bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad yw'n ysgogi cyflogaeth.

    Ychwanegodd ei bod yn beth da gweld aelodau o'r meinciau cefn yn gwneud eu gwaith "a bod y llywodraeth yn gwrando".

    Dywedodd hefyd bod 80% o'r rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol yn derbyn eu taliadau ar amser.

  10. Dyfynnu e-bost nad oedd fod i'w gyhoeddi

    Mae Bethan Jenkins o Blaid Cymru yn dyfynnu e-bost personol gan AC Ceidwadol a oedd yn dweud ei bod wedi'i siomi yn agwedd ei phlaid at y credyd cynhwysol.

    Mae Angela Burns yn dweud nad yw'n deall bod bwlch o fis i chwech wythnos cyn derbyn tâl yn cael ei "ystyried yn dderbyniol".

    Mewn e-bost dywedodd fod y fath "agwedd gafaliraidd tuag at y tlawd ar y gorau yn ddideimlad ond ar ei waethaf yn gwbl greulon".

  11. Dadl Plaid Cymru

    Symudwn ymlaen at ddadl Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol. Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    • Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.
    • Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â'r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadau yn mynd i unigolion nid cartrefi.

    Ganol y mis cafodd pobl sydd yn hawlio credyd cynhwysol gynnig i ddefnyddio ffonau Plaid Cymru am ddim er mwyn osgoi taliadau.

    View more on twitter
  12. 'Angen arwahanrwydd Cymreig'

    Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus bod 'na arwahanrwydd Cymreig yn bodoli wrth drafod trethi.

    Ychwanegodd ei fod wedi cyhoeddi ei fframwaith polisi trethi ym Mehefin.

    Mae’r Fforwm Trethi yn cynnig trafodaeth ddwy ffordd gyda gweithwyr proffesiynol ym maes trethi a swyddogion Llywodraeth Cymru am ddatblygiad polisi a deddfwriaeth ar drethi

    Mae yna hefyd Grŵp Cynghori Trethi - mae aelodaeth y grŵp yn cynrychioli ystod eang o safbwyntiau ac arbenigedd er mwyn sicrhau bod anghenion pobl Cymru yn cael eu cynrychioli ar y lefel uchaf. Cadeirydd y grŵp yw’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac mae’n cyfarfod tair gwaith y flwyddyn.

    mark drakeford
  13. UKIP yn gwrthod y dreth

    Mae Neil Hamilton yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr na ddylid cyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru.

    Mae'n dweud: "Rwy'n gyffredinol yn gwrthwynebu cyflwyno trethi newydd ac yn galw am ostwng y llwyth trethi presennol".

  14. Trethu plastig, medd Plaid Cymru

    May Steffan Lewis o Blaid Cymru yn dweud nad yw ei blaid yn cefnogi treth ar dwristiaeth - bydda'in well ganddo weld treth ar blastig y medrir ei daflu.

  15. 'Dim treth twristiaeth i Gymru'

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud y byddai treth ar dwristiaeth yn rhwystro twf twristiaeth yng Nghymru drwy beidio annog ymwelwyr i ddod yma - byddai hefyd yn niweidio busnesau bach.

    Nick Ramsay
  16. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr yn credu na ddylid gweithredu treth dwristiaeth yng Nghymru.

    Bydd Llywodraeth Cymru'n penderfynu yn 2018 a fyddan nhw'n gofyn i weinidogion y DU os allen nhw gyflwyno'r fath dreth - un o bedair posib sy'n cael eu hystyried.

    Mae rhai busnesau a chyrff o fewn y diwydiant wedi rhybuddio y gallai treth twristiaeth danseilio gwaith y rheiny sy'n ceisio denu ymwelwyr i Gymru.

    carafan
  17. Penderfyniad anodd

    Wrth ymateb mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn dweud nad oedd hi'n benderfyniad hawdd dod â rhaglen Cymunedau'n Gyntaf i ben.

    Mae ei ymateb llawn i'w weld fan hyn.

    Mae'n gwrthod dau argymhelliad.

    Carl Sargeant
  18. Cyllid yn dod i ben ym Mawrth 2018

    Mae cynllun Cymunedau'n Gyntaf yn cefnogi cynlluniau gwrth dlodi mewn 52 o ardaloedd gwahanol yng Nghymru, ac fe fydd cyllid ar gyfer y cynllun yn dod i ben ym Mawrth 2018.

    Nododd adroddiad gan y pwyllgor cydraddoldeb, llywodraeth leol a chymunedau bod "swm sylweddol o arian cyhoeddus wedi ei wario" a'i bod hi'n "anodd gwneud asesiad llawn o lwyddiant y cynllun."

    Dywedodd ei bod hi'n dasg "bron yn amhosib" i'r cynllun hwn leihau tlodi ac nad oedd hi'n bosib i un cynllun unigol wneud hynny.

    tlodi
  19. Asesu Cymunedau'n Gyntaf

    Nawr dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd.

    Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cytuno i gynnal tri ymchwiliad i dlodi yng Nghymru.

    Mae John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) sef Cadeirydd y pwyllgor yn cyflwyno adroddiad sy'n amlinellu cryfderau a gwendidau Cymunedau'n Gyntaf.

    Daeth yr Ysgrifennydd Cymunedau â'r cynllun gwrth-dlodi i ben ym mis Chwefror gan ddweud fod perfformiad y rhaglen wedi cael ymateb cymysg.

  20. Ffracio: 'Angen gwneud mwy'

    Mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Amgylchedd yn dweud: "Ry'n wedi dangos ein bod yn cydnabod y teimladau y tu ôl i'r cynnig ... ond rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy".

    Mae'n cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau yn gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn "cryfhau polisi cynllunio sy'n gysylltiedig ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol ar y tir".

    lesley griffiths