a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Cynnig i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
  6. Dadl Aelodau: inswleiddio waliau ceudod
  7. Dadl y Ceidwadwyr: gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru
  8. Dadl Plaid Cymru: y gyllideb
  9. Dadl Fer: Problem anweledig Cymru - effaith gymdeithasol hapchwarae

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ddiwedd y trafodaethau yn y Senedd am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth 5 Rhagfyr.

    Senedd
  2. Dadl Fer: Hapchwarae

    Mae Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) am drafod

    'Problem anweledig Cymru - effaith gymdeithasol hapchwarae'

    gamble
  3. Cynnig y gwrthbleidiau wedi'i drechu

    Cynnig y Ceidwadwyr, a oedd yn cael ei gefnogi gan Plaid Cymru ac UKIP, i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog wedi'i drechu o 29 pleidlais i 27.

    Y bleidlais
  4. 20 Mehefin 2006: Pleidlais anghywir Gibbons

    Wrth inni gyrraedd y cyfnod pleidleisio, bydd y llywodraeth yn gobeithio nad yw hanes o 2006 yn cael ei ailadrodd.

    Bryd hynny fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Dr Brian Gibbons AC arwain dadl y llywodraeth yn erbyn cynnal ymchwiliad, ond fe wnaeth e gamgymryd wrth bleidleisio gan bleidleisio gyda'r wrthblaid am ymchwiliad.

  5. 'Yr economi yn wynebu cyfnod tywyll'

    Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud bod yr economi yn mynd "drwy gyfnod gwael - y gwaethaf yn ein hoes ni"

    Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap a osodwyd ganddi ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac ariannu codiad cyflog i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn llawn.

    Mae'n galw hefyd ar Lywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru i wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cefnogi economi Cymru.

    Mark Drakeford
  6. 'Dim cefnogaeth i'r morlyn yn siom'

    Caroline Jones o UKIP yn dweud "tra bod cyllid ychwanegol i Gymru yn cael ei groesawu, mae'n siomedig" nad yw cyllideb Llywodraeth y DU wedi addo unrhyw gefnogaeth i Forlyn Bae Abertawe.

    Caroline Jones
  7. Rhai pethau i'w nodi

    Y Ceidwadwr Nick Ramsay yn cyfeirio at "y cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb Cymru dros bedair blynedd o ganlyniad i symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU".

    Mae e hefyd nodi'r cynnydd o £67 miliwn yng nghyllideb Cymru o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol a drafodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac yn nodi'r ymrwymiad yng nghyllideb y DU i ddechrau trafodaethau ffurfiol ar gyfer bargen twf gogledd Cymru".

    nick ramsey
  8. Dadl Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi o ran cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar ei chyllideb:

    a) nad oedd yn cynnwys cyhoeddiadau newydd penodol i Gymru; a

    b) ei fod yn cynnwys adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd, cynhyrchiant a buddsoddiad mewn busnesau.

    2. Yn credu bod y newidiadau disgwyliedig i grant bloc Cymru yn adlewyrchu parhad mewn mesurau cyni aflwyddiannus yn hytrach nag adnoddau newydd.

    3. Yn gresynu nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gyllideb yn ymrwymo i roi unrhyw gefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus.

    5. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o bwerau i wneud penderfyniadau ar fuddsoddiad mewn seilwaith ac economi Cymru.

    TLP
    Image caption: Plaid Cymru yn gresynu nad oedd y gyllideb yn cefnogi Morlyn Abertawe
  9. Adroddiad annibynnol i gyllid Betsi Cadwaladr

    Yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud ei fod wedi comisiynu adolygiad ariannol annibynnol i fwrdd iechyd mwyaf Cymru.

    Mae'n dweud bod amserau aros Betsi Cadwladr yn "annerbyniol".

    Bellach mae gweinidogion yn credu mai £36m fydd diffyg ariannol Betsi Cadwaladr.

    vaughan gething
  10. 'Llafur ddim yn cyflawni'r gofynion'

    Michelle Brown ar ran UKIP yn dweud "nad yw'r blaid a sefydlodd y GIG yn ymddangos fel ei bod yn gallu cyflawni'r gofynion.

    "Mae Llafur wedi bod yn llywodraethu Cymru am ddau ddegawd ac fe gyrhaeddodd Betsi Cadwaladr y cyflwr presennol o dan eu goruchwyliaeth nhw."

    michelle brown
  11. Cynyddu'r gweithlu

    Mae Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) yn credu "y bydd angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol er mwyn datrys y materion a wynebir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n golygu y bydd angen cynyddu lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol".

    Rhun ap Iorwerth
  12. Dadl y Ceidwadwyr

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer eu dadl yw rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gafodd ei rhoi o dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru yn 2015.

    Mae'r Ceidwadwyr yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wrth iddi waethygu.

    ac maent yn galw ar Lywodraeth Cymru egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r ansicrwydd ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau.

    Fis diwethaf roedd adroddiad ar sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud y gallai eu gorwariant ddyblu dros y flwyddyn nesa.

    Roedd bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn rhagweld y byddai'n gorwario £26m eleni ond bellach mae'r rhagolwg wedi newid ac mae disgwyl i'r gorwariant terfynol ar gyfer eleni gyrraedd £50m.

    Mae hynny ddwywaith y nod gwreiddiol.

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  13. 'Gwneud iawn am fethiant yn hanfodol'

    Yr Ysgrifennydd Ynni Lesley Griffiths yn dweud "ers 1995, bod 330,498 gosodiad, wedi'u diogelu gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, yng Nghymru. Ac o'r rhain mae 4167 wedi cofnodi problem, sy'n cynrychioli 1.26% o bob gosodiad".

    Mae'n dweud "er bod y gyfradd yn fach, pan mae problemau yn digwydd mae'r canlyniadau yn gallu bod yn erchyll ac mae gwneud iawn am fethiant yn hanfodol."

  14. Pryderon insiwleiddio

    Ym mis Ebrill fe fynegodd Hywel Williams, AS Arfon bryderon am 'sgandal' insiwleiddio tai.

    Mae Alwyn a Delyth Williams o Benisarwaun ger Caernarfon ymhlith y rhai sy'n talu'r pris ar ôl insiwleiddio waliau eu cartref yn 2004.

    Ymhen cyfnod byr fe ddechreuodd y problemau, gyda phaent yn dod oddi ar y waliau mewn sawl stafell ac arogl tamprwydd.

    Alwyn a Delyth Williams
    Image caption: Mae Alwyn a Delyth Williams ymhlith y rhai sydd wedi dioddef
  15. Dadl Aelodau

    Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)David Melding (Canol De Cymru)Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

    yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.

    2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.

    3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.

  16. 'Craffu uwchlaw gwleidyddiaeth'

    Ar ran Llywodraeth Cymru, Arweinydd y Tŷ yn dweud bod angen "tynnu llinell o dan" yr honiadau a bod yn rhaid i'r broses o graffu fod uwchlaw gwleidyddiaeth.

    Mae'n dweud bod y llywodraeth wedi "cyflwyno yr ateb cyfansoddiadol cywir" ond mae'n derbyn y gellid fod wedi gwneud hynny ynghynt.

    julie james
  17. 'Nid dyma'r amser'

    Lee Waters, aelod Llafur dros Lanelli, yn dweud ei fod yn siomedig gyda natur y drafodaeth a hynny ddeuddydd cyn angladd Carl Sargeant.

    "Mae'n annerbyniol defnyddio'r ddadl i sgorio pwyntiau gwleidyddol," meddai.

    "Bydd modd craffu wedi i adroddiadau y ddau ymchwiliad gael eu cyhoeddi," ychwanegodd.

    Lee Waters
  18. Y lle gorau i graffu yw yn y cynulliad ei hun

    Neil Hamilton yn dweud mai'r lle gorau i graffu ar waith y prif weinidog yw yn y cynulliad ei hun.

    Mae'n dweud: "Rhaid cael proses graffu lawn, nid yn unig er mwyn y cyhoedd ond er mwyn teulu'r diweddar Carl Sargeant."

    Mae'n gofyn: "Ydi'r ymchwiliad y mae Carwyn Jones eisiau yn mynd i fod yn ddigonol?"

    Neil Hamilton
  19. Anorfod gweithredu

    Leanne Wood yn dweud bod rhain yn amgylchiadau anodd sy'n gwneud hi'n anorfod i weithredu.

    Mae hi'n dweud nad oes atebion wedi bod i'r cwestiynau "pa faterion a godwyd" a "sut y deliwyd â nhw".

    "A fu ymchwiliad swyddogol?", mae Adam Price yn gofyn.

    Leanne Wood yn gofyn a yw'n beth doeth bod y llywodraeth yn cael ei gweld fel ei bod yn osgoi "proses graffu lawn"?

  20. A fydd modd craffu ar y dystiolaeth?

    Paul Davies yn dweud mai y gwrthbleidiau sydd wedi arwain ar hyn a bod y prif weinidog wedi ymateb wedyn.

    "Mae nifer o gwestiynau," meddai, "sydd dal angen cael eu hateb".

    "A fydd modd craffu ar y dystiolaeth a fydd yn cael ei rhoi i'r ymchwiliad?," mae'n gofyn.

    Paul Davies