a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau gyda Chwestiwn Brys am y goblygiadau i Gymru o gael trefniadau pwrpasol i Ogledd Iwerddon o ran ei ffin
  2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  4. Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – Yr ymateb i'r ymgynghoriad
  5. Dadl: Cyfnod 4 Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
  6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19
  7. Dadl: Ansawdd Aer

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Y Senedd
BBC

Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu yn cael ei basio gan ACau

A dyna gwblhau Cyfnod 4 Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

Y bleidlais
BBC

Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus

Nesaf yn y Siambr fe fydd yr aelodau yn pleidleisio ar Gyfnod 4 Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

  • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Teithio llesol yn 'gyfle anferth'

Mae'r cyn-weinidog amgylchedd John Griffiths yn dweud bod trefi a dinasoedd yn wynebu heriau mawr yn nhermau ansawdd aer a bod teithio llesol yn gyfle anferth i Gymru i leihau'r defnydd o gerbydau.

John Griffiths
BBC

'Angen mwy o gysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU'

Mae David Melding ar ran y Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn "croesawu'r mesurau arloesol a hyrwyddir gan Lywodraeth y DU, fel cael gwared ar bob injan diesel a phetrol erbyn 2040 – ac yn galw am fwy o gysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi hwn, er mwyn sicrhau'r newid i drafnidiaeth ffordd dim allyriadau yn y DU a chyflwyno'r canlyniadau cysylltiedig i iechyd y cyhoedd".

Gwelliannau Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru:

  • i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd,
  • i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar lygredd aer,
  • i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer,
  • i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylid monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion ac ar lwybrau teithio llesol.
  • i gydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.

'Yr angen am gymryd camau brys'

Ar ran y llywodraeth mae Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn cydnabod yr angen am gymryd camau brys, gan gynnwys gweithio ar draws pob adran o Lywodraeth Cymru, i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael sy'n effeithio ar iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru.

2. Yn cefnogi datblygu cynllun aer glân i Gymru i sicrhau mwy o welliannau na'r lleiafswm cyfreithiol ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan gynnwys:

a) llunio fframwaith parth aer glân i sicrhau bod y parthau aer glân yn cael eu cynnal yn gyson ac effeithlon gan yr awdurdodau, lleol, lle'r bo'r angen;

b) gwella'r ffordd y mae'r awdurdodau lleol yn adrodd ar faterion sy'n ymwneud ag ansawdd aer yn eu rhanbarthau, a'r ffordd y maent yn mynd i'r afael â nhw;

c) sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru, ar gyfer cynghori llywodraethau lleol a chenedlaethol ar faint o ansawdd aer gwael sydd ac ar effeithiolrwydd camau gweithredu, nawr ac yn y dyfodol;

d) sefydlu ymgyrch barhaus sy'n ymwneud ag ansawdd aer ac ymyriadau eraill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael ac i newid ymddygiad.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i gael gwared ar geir a faniau diesel a phetrol erbyn 2040 drwy osod cerrig milltir penodol i'w cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw, gan gyflymu'r newid i system drafnidiaeth dim allyriadau yn y DU a chan sicrhau canlyniadau iechyd y cyhoedd yn gynharach.

llygredd
Getty Images

Dadl: Ansawdd Aer

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Ansawdd Aer.

View more on twitter

'Cyflawni ffyniant i bawb yn ystod y cyfnod anodd hwn'

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud bod y "cynlluniau gwario gerbron y cynulliad heddiw, ynghyd â'n cynlluniau trethi cynyddol, yn dangos ein hymrwymiad i Symud Cymru Ymlaen a chyflawni ffyniant i bawb yn ystod y cyfnod anodd hwn".

'Mae wastad arian ar gyfer cyfeillion Llafur yn y Bae'

"Mae wastad arian ar gael ar gyfer cyfeillion Llafur yn y Bae," medd Neil McEvoy, sy'n ychwanegu "Rydw i wedi cael llond bol o'r diwylliant o ddibyniaeth yng Nghymru".

Mae'n dweud er bod "Plaid Cymru wedi bod yn gysylltiedig â'r gyllideb ... mae 99% ohoni i gyd yn ymwneud â Llafur ac mae hynny'n hollol amlwg".

Fe gafodd Mr McEvoy ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Mawrth.

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd AC, yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sy'n gwneud 12 o argymhellion.

Mae'n dweud ei bod hi'n "siomedig bod pedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol wedi adrodd diffyg yn o leiaf un o'r tair blynedd flaenorol. Yn benodol, mae'n bryder bod Betsi Cadwaladr a Hywel Dda wedi nodi diffyg ym mhob un o'r blynyddoedd rhwng 2014-15 a 2016-17".

Dai Lloyd
BBC

Ar beth fyddai'r £500m wedi cael ei wario arno fel arall?

Wrth gyfeirio at honiad Steffan Lewis bod Plaid Cymru wedi sicrhau £500m ar gyfer ymrwymiadau ei maniffesto ers etholiad y Cynulliad fis Mai, mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud y byddai'n hoffi gwybod ar beth fyddai'r £500m wedi cael ei wario arno fel arall.

Mae e hefyd yn cymharu y ffigwr hwnnw yn anffafriol gyda'r fargen o £1 biliwn gafodd ei chytuno rhwng y Ceidwadwyr a phlaid y DUP.

'Ddim yn diwallu anghenion pobl Cymru yn ddigonol'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Nick Ramsay yn dweud "nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-2019 yn diwallu anghenion pobl Cymru yn ddigonol".

Mae'n beirniadu "toriadau i faterion gwledig, llywodraeth leol a'r economi".

Nick Ramsay
BBC

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Mae Simon Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor "Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19". sydd â naw argymhelliad.

'Darparu gwybodaeth yn y modd gwasgarog hwn yn anochel'

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud "Rydw i yn gwerthfawrogi y natur sy'n llai na boddhaol o ddarparu gwybodaeth yn y modd gwasgarog hwn sy'n anochel.

"Mae'n ganlyniad o'r rhyngweithiad rhwng amserlen ein cyllideb ag un llywodraeth y DU".

Mark Drakeford
BBC

Cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur

Mae Plaid Cymru wedi cytuno i gefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

Mae'r cytundeb, sydd werth £210m, yn cynnwys hwb o £40m i gyllid iechyd meddwl, a £40m o fuddsoddiad mewn addysg uwch ac addysg bellach rhwng 2018 a 2020.

Mae'r cytundeb gyda Phlaid Cymru yn cynnwys £30m ar gyfer pŵerdy yng ngwaith dur Port Talbot, a £2m i dorri tollau Pont Cleddau erbyn 2020 - sy'n 75c ar gyfer ceir.

Mae'r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:

  • £14m i ddatblygu hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;
  • £15m ar gyfer gwelliannau i'r A487 a'r A470 o 2019 ymlaen;
  • £3m ar gyfer dylunio a datblygu trydydd pont Menai;
  • £5m i amgueddfa gelf genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed gogledd Cymru o 2019 ymlaen;
  • Buddsoddiad o £10m yn yr iaith Gymraeg;
  • Dim toriadau i'r grant sy'n cefnogi pobl fregus i fyw'n annibynnol.

Cyllideb Ddrafft 2018-19

Nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar Gyllideb Ddrafft 2018-19.

Cyllideb Ddrafft
BBC/Getty Images

'Polisi gan Blaid Cymru ers degawdau'

Mae Sian Gwenllian yn dweud bod "diddymru yr Hawl i Brynu wedi bod yn bolisi gan Blaid Cymru ers degawdau".

Mae chwech o gynghorau sir Cymru - Ynys Môn, Caerdydd, Sir Gâr, Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Abertawe - eisoes wedi gohirio'r hawl i brynu yn eu hardaloedd.

Sian Gwenllian
BBC

Polisi 'eithriadol o lwyddiannus a phoblogaidd'

Mae David Melding AC, llefarydd tai a chynllunio'r Ceidwadwyr, yn disgrifio'r polisi Hawl i Brynu fel un "eithriadol o lwyddiannus a phoblogaidd".

Roedd ACau Ceidwadol wedi ceisio gohirio'r broses o ddiddymu'r cynllun gan ddadlau y dylai tenantiaid gael o leia' dwy flynedd i wneud cais i brynu eu tai wedi i'r ddeddf newydd ddod i rym, yn hytrach na'r 12 mis roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi'i gynllunio.

Ond cafodd yr holl welliannau i'r mesur eu gwrthod yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf.

David Melding
BBC

Maint y stoc o dai cymdeithasol wedi lleihau'n sylweddol

Mae Mesur y Llywodraeth yn nodi bod maint y stoc o dai cymdeithasol wedi lleihau'n sylweddol ers 1980 pan gafodd yr Hawl i Brynu ei chyflwyno.

Mae nifer y tai a gollwyd drwy'r Hawl i Brynu yn cyfateb i 45% o'r stoc o dai cymdeithasol ym 1981.

Noda'r Mesur "fel canlyniad i hynny, roedd y rheini yr oedd angen tai arnynt - a nifer yn eu plith yn agored i niwed - yn gorfod aros am gyfnodau hirach i gael cartref yr oeddent yn gallu ei fforddio".

Er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o'r ffaith bod yr Hawl i Brynu yn dod i ben, mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth, y mae'n rhaid i landlordiaid ei darparu i'r tenantiaid sy'n cael eu heffeithio, o fewn dau fis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.

Margaret Thatcher a'r tenantiaid cyntaf a fanteisiodd ar yr hawl i brynu
BBC
Margaret Thatcher a'r tenantiaid cyntaf a fanteisiodd ar yr hawl i brynu

Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu

Rydyn ni nawr yn symud ymlaen at ddadl ar Gyfnod 4 Mesur Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

Gallai hawliau tenantiaid i brynu eu tai cyngor eu hunain gael ei ddiddymu petai mesur arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn dod i rym.

Mae disgwyl i'r mesur, a gafodd ei addo gan Llafur yn ystod etholiad cyffredinol 2016, ddod i rym cyn yr etholiad nesaf yn 2021.

Tai
PA

'Dydw i ddim yn gweld unrhyw arwydd o chi'n taclo'r broblem'

Mae Michelle Brown UKIP yn dweud bod "ehangu mynediad i grwpiau sydd wedi eu tan-gynrychioli a diffyg cyfle ar gyfer astudio rhan amser, yn fater i'r atebwyr, ond mae'n ddrwg gen i, ysgrifennydd y cabinet, dydw i ddim yn gweld unrhyw arwydd o chi'n taclo'r broblem".

Michelle Brown
BBC

Gobeithio am ddiwygiadau 'rhesymegol a chynhwysfawr o'r sector'

Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn disgrifio'r diwygiadau fel "taith sy'n mynd i'r cyfeiriad iawn".

Mae'n gobeithio am ddiwygiadau "rhesymegol a chynhwysfawr o'r sector", ond yn rhybuddio bod yna "beryg os ydyn ni'n dechrau cael gwared ar elfennau y bydd hyn yn diweddu'n dameidiog".

Llyr Gruffydd
BBC

'Cyfle hollbwysig'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud "mae'r diwygiadau hyn yn rhoi cyfle hollbwysig i ni i greu y system addysg a hyfforddiant hyblyg a chwim yr ydyn ni i gyd eisiau ei gweld".

Darren Millar
BBC

Datganiad: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus - Yr ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar gynigion i ddiwygio’r Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yng Nghymru.

Lansiwyd yr ymgynghoriad gan Kirsty Williams ar 20 Mehefin, a datblygwyd y cynigion ar sail argymhellion allweddol yr Athro Hazelkorn.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Hydref a derbyniwyd 92 o ymatebion ysgrifenedig.

Addysg
BBC

'Dyw e ddim yn wir, dyw e ddim yn wir'

Pan fo Simon Thomas Plaid Cymru yn codi honiad y cyn-weinidog Leighton Andrews, iddo ddweud wrth y prif weinidog "wyneb yn wyneb" yn 2014 ei fod yn credu bod côd ymgynghorwyr arbennig wedi cael ei dorri, a bod Mr Jones wedi dweud wrtho y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal, mae Mr Jones yn cael ei glywed yn dweud: "Dyw e ddim yn wir, dyw e ddim yn wir".

Dyw ei ymateb ddim yn debygol o ymddangos yng Nghofnod y Trafodion oherwydd ei fod oddiar y meicroffon.

Simon Thomas
BBC
Simon Thomas

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes pan mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

Julie James
BBC

'Nifer yn gwybod pwy wnaeth gwyno am Carl Sargeant'

Mae Neil McEvoy yn dweud ei bod hi'n "ymddangos fel bod nifer o bobl yma yn gwybod pwy oedd y rhai wnaeth gwyno am Carl Sargeant a natur y cwynion hynny".

Neil McEvoy
BBC

Pwy sy'n dweud y gwir?

Mae Mr Davies yn gofyn: "Allwch chi egluro, pwy sy'n dweud y gwir, Leighton Andrews neu chi eich hun?"

Mae Carwyn Jones yn ymateb: "Rydw i newydd ateb eich cwestiwn. Doedd dim honiadau o fwlio".

Gofynnir i Mr Jones i roi rhagor o fanylion ynghylch beth oedd y materion y cyfeiriodd e atyn nhw fel rhai y deliwyd gyda nhw yn y gorffennol. Mae'r prif weinidog yn awgrymu bod yna wrthdaro wedi bod ynghylch "teitlau biliau".

Leighton Andrews
BBC
Leighton Andrews

Honiadau o fwlio

Wrth gael ei herio gan arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, mae'r prif weinidog unwaith eto yn gwadu bod y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, wedi codi honiadau o fwlio gydag e yn 2014.

Andrew RT Davies
BBC
View more on twitter

Llywodraeth Iwerddon yn 'rhannu ein pryderon'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn pa ddylanwad sydd gan y prif weinidog i "amddiffyn porthladd Caergybi rhag ffin galed newydd".

Mae Carwyn Jones yn dweud bod Llywodraeth Iwerddon yn "rhannu ein pryderon", gan ychwanegu, "y peth diwethaf maen nhw ei eisiau yw gweld ffin rhwng Cymru ac Iwerddon fel ffin forwrol".

Leanne Wood
BBC

Y prif weinidog yn 'gyfrifol am ymddygiad ymgynghorwyr arbennig'

Mewn ymateb i arweinydd UKIP Neil Hamilton, mae Carwyn Jones yn dweud mai fe sy'n gyfrifol am ymddygiad ymgynghorwyr arbennig, ond nid am eu cyflog a'u hamodau.

Neil Hamilton
BBC

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Rydyn ni nawr yn symud ymlaen at yr eitem nesaf, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw i Carwyn Jones gan Darren Millar AC Gorllewin Clwyd:

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau'r broses ar gyfer ymdrin â chwynion nad yw'r Prif Weinidog wedi cadw at gôd y gweinidogion?

Mae Mr Jones yn ateb y dylai unrhyw gwynion yn ymwneud gyda côd y gweinidogion gael eu cyflwyno iddo fe fel prif weinidog.

Mae'n ychwanegu y gall pob un ACau ddarparu tystiolaeth y maen nhw'n credu sydd ganddyn nhw.

'Goblygiadau difrifol iawn i borthladd Caergybi'

Mae Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, yn dweud y byddai "goblygiadau difrifol iawn i borthladd Caergybi petai yna ffin galed".

porthladd Caergyb
BBC

'Dim triniaeth fwy ffafriol i rai'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud na ddylai rhannau gwahanol o'r DU gael eu trin yn "fwy ffafriol nag eraill" mewn unrhyw gytundeb Brexit.

"Os yw un rhan o'r DU yn cael aros yn rhan o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, yna rydym ninnau hefyd yn llawn ddisgwyl cael yr un cynnig" meddai Carwyn Jones.

Carwyn Jones
BBC

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

Mae'r sesiwn heddiw yn dechrau gyda Chwestiwn Brys i Brif Weinidog Cymru. Fe gafodd y cwestiynau brys yma eu cyflwyno gan y Cynulliad ym mis Mai.

Mae deuddeg o gynigion blaenorol wedi eu gwrthod gan y Llywydd.

I ddechrau heddiw felly mae Mick Antoniw (Pontypridd)yn gofyn:

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o gael trefniadau pwrpasol i Ogledd Iwerddon o ran ei ffin?

Senedd
BBC