a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
  3. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: cynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud polisi
  6. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar'
  7. Dadl Plaid Cymru: Catalonia
  8. Dadl Plaid Cymru: credyd cynhwysol
  9. Dadl Fer: diabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, 12 Rhagfyr.

    Senedd
  2. Dadl Fer: Sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1

    Mae Janet Finch-Saunders (Aberconwy) yn galw ar feddygon teulu i ymgymryd â sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc

  3. 'Gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen'

    Cynnig Plaid ar Gatalonia yn pasio.

    Roedd Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Chatalonia sy'n dyddio o'r 1930au yn ystod rhyfel cartref Sbaen.

    2. Yn nodi pleidlais Senedd Catalonia i gynnal refferendwm ar ymreolaeth.

    3. Yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a'i phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalonia yn y ddalfa.

    4. Yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion.

    Y bleidlais
  4. 'Arwain at ddisgwyliadau na ellir eu cyflawni'

    Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn dweud "pe bai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y Deyrnas Unedig, y byddai hyn yn faich ariannol newydd ar Lywodraeth Cymru ac y byddai’n arwain at ddisgwyliadau, na ellir eu cyflawni, y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr."

    Rebecca Evans
  5. 'Polisi diffygiol'

    Gareth Bennett ar ran UKIP yn dweud bod polisi credyd cynhwysol yn ddiffygiol ond nid yw'n credu ei fod yn fater y dylid ei ddatganoli.

    Mae'n beirniadu'r amser aros ac yn dweud na ddylai Iain Duncan-Smith fyth fod wedi cael y cyfrifoldeb am y system les yn 2010.

  6. 'Cefnogaeth i'r egwyddor y tu ôl i gredyd cynhwysol'

    Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr yn nodi "y cefnogir yr egwyddor tu ôl i gredyd cynhwysol yn eang, gan ddarparu'r cymorth cywir i geiswyr gwaith, ac wrth gwrs gan roi gofal priodol yn ei le ar gyfer pobl na allant weithio."

    Mae hefyd yn croesawu'r "pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y newid i gredyd cynhwysol".

    mark
  7. 'Diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol'

    Mae ail ddadl Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.

    2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol.

    3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn am yr un cyfrifoldeb gweinyddol dros nawdd cymdeithasol â'r hyn sydd gan Lywodraeth yr Alban.

    dyn trist
  8. 'Dim lle'r Llywodraeth yw penderfynu ar dynged cenedl arall'

    Arweinydd y Tŷ Julie James yn dweud y bydd "Llywodraeth Cymru yn ymatal ac yn rhoi cyfle i aelodau o'r meinciau cefn gael pleidlais rydd gan nad oes rôl i Lywodraeth Cymru benderfynu ar dynged cenedl arall".

  9. UKIP yn cefnogi'r cynnig

    Neil Hamilton yn dweud bod UKIP yn cefnogi cynnig Plaid Cymru gan "fod y drafodaeth hon am yr egwyddor syml o hunan-lywodraeth" ac ni ddylai pwyntiau 3 na 4 yn y cynnig "fod yn ddadleuol i unrhyw ddemocrat".

  10. 'Angen craffu'n ddwfn ar y pwnc hwn'

    David Melding ar ran y Ceidwadwyr yn dweud y byddan nhw yn gwrthwynebu'r cynnig gan "fod angen craffu'n ddwfn ar y pwnc hwn yn hytrach na thrafodaeth fer.

    "Ac y mae'n rhaid i ni wastad fod yn gymhedrol wrth basio barn ar dalaith arall".

  11. 'Neges o gefnogaeth yn bwysig'

    Adam Price yn dweud bod neges o "gefnogaeth mor bwysig o'r sefydliad hwn.

    "Ry'n yn ei wneud e, oherwydd fel cenedl fach, ni ddylem ganiatáu trawsfeddiannu grym anghyfreithlon gan dalaith ganolog",

    adam
  12. Perthynas Cymru â Chatalonia

    Mae dadl gyntaf Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Chatalonia sy'n dyddio o'r 1930au yn ystod rhyfel cartref Sbaen.

    2. Yn nodi pleidlais Senedd Catalonia i gynnal refferendwm ar ymreolaeth.

    3. Yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a'i phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalonia yn y ddalfa.

    4. Yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion.

    baner Catalonia
  13. 'Dim rhagdybiaeth o unrhyw ganlyniad'

    Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Alun Davies yn dweud "nad yw gweithrediadau Llywodraeth Cymru hyd yma yn rhagdybio unrhyw ganlyniad i'r broses".

    alun d
  14. 'Bydd yn dod â gwaith i'r ardal'

    Mae Caroline Jones ar ran UKIP yn byw ym Mhort Talbot ac mae'n dweud na all hi gefnogi y rhai sydd wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu ac mae'n ychwanegu bod yn rhaid rhoi nifer y rhai sydd wedi arwyddo yn ei gyd-destun gan bod 37,000 yn byw ym Mhort Talbot.

    Mae'n dweud "bydd fy ardal yn elwa o'r carchar newydd ac fe fydd yn dod â chyfleon gwaith i'r ardal - cyfleon sydd eu hangen yn fawr".

    Caroline Jones
  15. 'Dim croeso i'r carchar'

    Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru yn rhoi teyrnged i'r ymgyrchwyr gan nodi ei fod hi'n glir nad oes croeso i'r carchar yn y gymuned.

    Mae'n dweud nad ydynt yn dymuno, ac nad yw Cymru angen , carchar o'r maint hwn yn yr ardal.

    Bethan Jenkins
  16. Cynnig gwell adnoddau i garcharorion

    Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr yn dweud: "Mae gen i lai o wrthwynebiad i'r syniad o garchardai mawr ... a hynny am eu bod yn cynnig cyfleon adferiad gwell a gwell adnoddau i garcharorion ac ymwelwyr".

    Suzy Davies
    Image caption: Suzy Davies
  17. Dywedwch 'Na' wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder

    David Rees, AC Llafur Aberafan yn dweud bod y safle ym Maglan yn "gwbl anaddas" ar gyfer carchar.

    Ei neges i Lywodraeth Cymru yw pam mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn am brynu neu lesio tir yw "dwedwch na".

    Mae safle Baglan mewn parth menter
    Image caption: Mae safle Baglan mewn parth menter
  18. Deiseb yn erbyn carchar Port Talbot

    Mae David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar’ a gasglodd 8,791 o lofnodion.

    Ym mis Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Prydain gynlluniau i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot fel rhan o ymdrechion i foderneiddio a mynd i'r afael â diffyg lleoedd.

    Y bwriad yw adeiladu'r carchar newydd ar dir yn agos i hen ffatri Panasonic yn ardal Baglan, ger yr M4.

  19. 'Cynnig ddigon difyr'

    Arweinydd y Tŷ Julie James yn dweud bod Llywodraeth Cymru "yn rhannu dyhead cynnig David Melding".

    "Mae nifer o fodelau o gyfranogiad dinasyddion", mae'n ychwanegu, cyn rhestru nifer o faterion sydd angen ystyriaeth bellach.

  20. 'Ry'n ni, credwch neu beidio, yn wleidyddion proffesiynol'

    "Y gwahaniaeth rhyngddon ni yn yn siambr a'r cyhoedd yw ein bod ni, credwch neu beidio, yn wleidyddion proffesiynol," medd Gareth Bennett o UKIP.

    "Troedian'n ofalus", yw ei neges i David Melding.

    gareth bennett