a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Datganiad Personol – Darren Millar
  4. Datganiad: Y Cynllun Gweithredu Economaidd
  5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel
  6. Datganiad: Cysylltu Cymru, agwedd strategol tuag at Drafnidiaeth
  7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-20
  8. Dadl: Cyfnod 4 y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Y Senedd
BBC

Cymeradwyo Cyfnod 4 y Mesur

Dyna gwblhau Cyfnod 4 o Fesur Angenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Addysg
BBC

Proses pedwar cyfnod

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Taith y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cafodd y mesur ei lansio gan y cyn weinidog Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ym mis Rhagfyr 2016, gyda'r nod o ddarparu ar gyfer fframwaith statudol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a sicrhau y byddai mwy o'r bobl ifanc hynny yn cael canlyniadau academaidd gwell. n

Ym mis Hydref 2017, daeth y mesur dan y chwyddwydr, pan ddaeth i'r amlwg fod cost llunio'r mesur wedi cynyddu.

Dywedodd pwyllgor cyllid y Cynulliad fod angen gwella'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n mesur beth maen nhw'n ei feddwl fydd cost deddfau newydd.

Dadl: Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg

Ac yn olaf heddiw dadl ar Gyfnod 4 y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Fe gafodd Cyfnod 3 y mesur ei basio gan ACau ar Dachwedd 21.

'Bydd ffocysu ar hawliau lleiafrifoedd yn cael effaith negyddol ar hawliau'r mwyafrif'

Mae Gareth Bennett UKIP yn corddi'r dyfroedd yn y Siambr.

Mae'n dweud "Dyw nifer ohonon ni yn UKIP ddim yn rhannu yr un brwdfrydedd ar gyfer yr hyn a elwir yn hawliau dynol â phobl mewn pleidiau eraill.

"Rydyn ni'n poeni'n benodol y bydd y ffocws cynyddol ar hawliau lleiafrifoedd yn y pendraw yn cael effaith negyddol ar hawliau y mwyafrif".

Mae'n ychwanegu, "does ond hyn â hyn o wyriad oddi wrth y norm y gall unrhyw gymdeithas ei gymryd".

Gareth Bennett
BBC

Pryder ynghylch y cynnydd mewn troseddau casineb

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn mynegi pryder ynghylch y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.

Mae'n dweud bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus " yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.

'Diffyg cynnydd'

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn dweud bod "nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn cael ei lesteirio gan y diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015."

Sian Gwenllian
BBC

'Cyfnod heb ei debyg o'r blaen'

Mae Arweinydd y Tŷ, Julie James, yn dweud bod "adolygiad blynyddol eleni yn cyfeirio at gyfnod heb ei debyg o'r blaen ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU.

"Mae ymadawiad ar ddod y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn dod ag ansicrwydd ynghylch nifer o bethau, gan gynnwys dyfodol cronfeydd cyllido Ewropeaidd".

Uchafbwyntiau

Mae’r Pwyllgor Cymru yn dweud bod yr adroddiad hwn yn "amlinellu ein llwyddiannau yng Nghymru dros y llynedd.

"Amlinellwyd yr uchafbwyntiau o dan chwe nod rhaglen waith Cymru ar gyfer 2016 i 2017:

  • darparu cyngor i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
  • gwella gweithleoedd
  • llywio penderfyniadau a pholisïau ar draws y sector cyhoeddus
  • gwella cyflenwad gwasanaeth cyhoeddus
  • hybu a diogelu hawliau dynol yng Nghymru
  • gwella mynediad i gyngor cyfreithiol a gwneud iawn am unrhyw gam."

Dadl ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol

At ddadl gynta'r prynhawn nawr ac mae'n ddadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-17.

View more on twitter

Rheoliadau Gofal cymdeithasol yn cael eu cymeradwyo

Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

Rheoliadau Gofal cymdeithasol

Mae ACau yn trafod fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

Fe wnaeth Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) gyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf Safonau Gofal”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darparu ar gyfer troseddau os bydd darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol yn methu â chydymffurfio â gofynion penodedig.

Gofal cymdeithasol
Thinkstock

Canllaw arfarniad newydd ar drafnidiaeth

Fe gafodd y strategaeth drafnidiaeth bresennol ei chynhyrchu yn 2008.

Mae Ken Skates yn dweud y bydd "canllaw arfarniad newydd ar drafnidiaeth Cymru" yn cael ei gyhoeddi yfory.

Bydd hwn meddai, yn galluogi cynllunwyr trafnidiaeth i ddatblygu a chyflawni ymyriadau yn well, fydd yn cwrdd yn well ag anghenion trafnidiaeth pobl sy'n byw yng Nghymru.

"Bydd y canllaw yn allweddol i lwyddiant y tair rhaglen metro, a chyflawni prosiectau trafnidiaeth allweddol fel ar yr M4 ac ar hyd coridor yr A55 a'r A40 yng ngorllewin Cymru."

Argraff artist o ffordd liniaru yr M4
Llywodraeth Cymru
Argraff artist o ffordd liniaru yr M4

'Cysylltu Cymru'

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

A'r pwnc: Cysylltu Cymru, agwedd strategol tuag at Drafnidiaeth.

'Tanddatganiad yn hytrach na datganiad'

Mae Bethan Jenkins Plaid Cymru yn dweud y dylid galw datganiad Mr Davies yn "danddatganiad gan ei fod yn amlwg yn tanddatgan y materion gafodd eu codi yn adolygiad yr archwilydd cyffredinol ac adolygiad Llywodraeth Cymru".

Bethan Jenkins
BBC

Rheolaeth effeithiol o berfformiad diogelwch cymunedol?

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn cwestiynu a fydd y cynllun yn gwella cynllunio strategol fel bod gwell cydgysylltu gweithgarwch ar gyfer diogelwch cymunedol, ac a fydd hyn yn sicrhau rheolaeth effeithiol o berfformiad diogelwch cymunedol.

Mark Isherwood
BBC

'Adolygiad cynhwysfawr ac eang'

Mae Alun Davies yn dweud "rydyn ni nawr wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr ac eang o waith diogelwch cymunedol yng Nghymru.

"Rydw i’n hyderus y bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ymhellach y nifer o lwyddiannau sydd wedi deillio o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru.

Mae'n ychwanegu "Mewn partneriaeth â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, rydyn ni wedi sicrhau gostyngiadau sylweddol a chyson yn nifer y bobl ifanc sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf.

"Rydyn ni wedi haneru nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu oherwydd tân. Rydyn ni hefyd wedi haneru nifer y tanau cael eu cynnau’n fwriadol, gan gynnwys tanau gwair.

"Mae heddluoedd Cymru wedi recriwtio 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, er bod sawl ardal yn Lloegr yn colli’r asedau cymunedol gwerthfawr hyn."

Alun Davies
BBC

Creu Cymunedau Mwy Diogel

Nawr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies: "Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel".

Ym mis Chwefror fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, y diweddar Carl Sargeant, gyhoeddi adolygiad i'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i greu cymunedau mwy diogel yng Nghymru.

Fe gafodd Grŵp Goruchwylio ei sefydlu i adolygu'r trefniadau presennol ac i ddatblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar y cyd er mwyn i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol.

Ar y pryd dywedodd Carl Sargeant "Mae bron i 20 mlynedd ers i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 gael ei chyflwyno, a oedd yn ddeddf arloesol ar y pryd. Ynddi, pennwyd gofyniad statudol i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth i wella diogelwch cymunedol. Nawr, mae gennym gyfle newydd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i bennu dull cynaliadwy o weithio mewn partneriaeth yng Nghymru, a fydd yn creu cymunedau mwy diogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Carl Sargeant
BBC
Carl Sargeant

Angen 'symud oddi wrth agwedd cwmniau lloeren'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "symud oddi wrth agwedd cwmniau lloeren" tuag at un sy'n annog y rheini sy'n sefydlu pencadlysoedd yng Nghymru.

David Rowlands
BBC

'Dim eglurdeb ynghylch pwy fydd yr actorion'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn croesawu "rhai agweddau" o'r cynllun gweithredu, fel y ffocws newydd ar yr economi sylfaenol a datgarboneiddio.

Ond mae'n dweud nad oes "eglurdeb ynghylch pwy fydd yr actorion" yn y cynllun.

Mae'n disgrifio'r penderfyniad i gael gwared â'r 48 o baneli cynghori fel "coelcerth fach o'r cwangos".

Adam Price
BBC

'Llai na bodlon' gyda'r cynllun gweithredu

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi, Russell George, yn dweud ei fod yn "llai na bodlon" gyda'r cynllun gweithredu, gan ychwanegu nad oedd sôn am y parthau menter blaenllaw ac ychydig iawn ar gaffael.

Mae'r dweud mai hon yw'r bedwaredd strategaeth economaidd fawr i Lafur ers datganoli, ac eto mae gwerth ychwanegol gros (GVA) wedi gostwng dros y cyfnod hwnnw.

Russell George
BBC

Manylion y cynllun

Y bore 'ma fe gafodd cynllun economaidd newydd ei gyhoeddi ar gyfer Cymru fydd yn para degawd.

Mae'r cynllun yn cynnwys symleiddio cymorth ariannol ar gyfer busnesau, lleihau'r nifer o sectorau sydd wedi eu blaenoriaethu a rhoi "mwy o rym" i' ranbarthau.

Bydd rhaid i'r cwmnïau sy'n gwneud cais am grantiau ymrwymo i leihau eu hôl troed carbon, profi eu bod yn cyflogi pobl yn deg a hyrwyddo iechyd ac addysg.

Mae'r cynllun yn cydnabod bod tŵf wedi bod yn anghyson dros Gymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates mai datblygu "perthynas newydd a dynamig" rhwng y llywodraeth a busnesau sydd wrth wraidd y cynllun.

Os bydd busnesau yn cyd-fynd a'r ymrwymiadau, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn busnes a "chefnogaeth busnes symlach, unedig a chystadleuol".

Prif nodweddion y cynllun:

  • Lleihau'r sectorau sydd wedi eu blaenoriaethu o naw i dri - uwch ddeunyddiau a gweithgynhyrchu, gwasanaethau masnach a'r sector ynni ac amgylchedd;
  • Pedwar sector sylfaen - twristiaeth, bwyd, gofal a manwerthu;
  • Bydd cyllid o £100m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru yn mynd i gronfa economaidd newydd, gyda busnesau yn gorfod cyflawni o leiaf un o'r gofynion o ran arloesi, ymchwil a datblygu ac allforio;
  • Bydd tri phrif swyddog yn gofalu am ddatblygiad economaidd yng ngogledd Cymru, de orllewin Cymru a'r canolbarth a de ddwyrain Cymru, drwy weithio gyda chytundebau twf busnes sy'n bodoli'n barod, cynghorau sir a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol.

Y Cynllun Gweithredu Economaidd

Nesa yn y Siambr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: Y Cynllun Gweithredu Economaidd.

Ken Skates
BBC

Honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014

Mae Darren Millar yn dweud ei fod yn gweud y datganiad ar ôl "archwilio'i enaid yn fawr".

Mae'n dweud ei fod wedi cyflwyno cwestiynau ynghylch honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, wedi i'r diweddar Carl Sargeant ofyn iddo wneud hynny.

Mae Mr Millar yn dweud mai'r rheswm yr oedd Carl Sargeant eisiau i'r materion hyn gael eu hystyried oedd oherwydd ei "deyrngarwch i'r llywodraeth ac i'r blaid yr oedd yn ei charu".

Darren Millar
BBC
View more on twitter

Datganiad Personol

Rydyn ni nawr yn cael Datganiad Personol, rhywbeth sy'n anarferol yn y Siambr.

Mae'n ddatganiad gan Darren Millar.

Ehangu'r Cynulliad - barn Vaughan

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

Julie James
BBC

Beth sy'n digwydd yng nghlwb rygbi Bedwas?

Am yr eildro mae'r prif weinidog yn dweud mai fe oedd y person cyntaf i siarad am Metro i Dde Cymru - yng nghlwb rygbi Bedwas yn 2009.

Rhan i Gymru ei chwarae yn lleihau nwyon tŷ gwydr?

Mae Carwyn Jones yn dweud bod gan Gymru ran i'w chwarae yn lleihau nwyon tŷ gwydr.

Mae Neil Hamilton yn awgrymu bod Cymru yn amherthnasol o ran gwneud hynny.

Nwyon tŷ gwydr
BBC

'Gwell amddiffyniad i'n tirlun' rhag tyrbinau gwynt

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn galw ar y prif weinidog i wneud mwy i amddiffyn ein tirlun rhag tyrbinau gwynt.

Mae'r prif weinidog yn dweud bod Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 yn darparu amddiffyniad.

Neil Hamilton
BBC

Pryderon am ymddygiad ymgynghorwr arbennig?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn:

" A oeddech chi ar unrhyw adeg ym mis Hydref 2014 yn ymwybodol - naill ai drwy weinidogion neu ymgynghorwyr arbennig - o bryderon ynghylch ymddygiad un o'ch ymgynghorwyr arbennig. Ac a wnaethoch chi ofyn i un o'ch ymgynghorwyr arbennig i edrych i mewn i'r pryderon hynny?"

Mae Carwyn Jones yn dweud ei fod yn credu y dylid gadael y mater yma i'r ymchwilydd annibynnol sy'n ystyried a wnaeth e gamarwain y cynulliad.

Andrew RT Davies
BBC

'Mae pobl yn marw ar y strydoedd'

"Rydyn ni fel llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth ar ddigartrefedd" medd Carwyn Jones.

Mae'n dweud bod £20m wedi cael eu clustnodi yn y gyllideb ddrafft ar gyfer gwasanaethau i'r digartref.

Mae Leanne Wood yn dweud "mae pobl yn marw ar y strydoedd. Mae pobl yn dal i lithro trwy'r bylchau".

Mae'n dweud ei bod hi wedi ei "syfrdanu" o glywed y prif weinidog yn awgrymu bod rhai pobl ar y strydoedd o ddewis.

Mae Mr Jones yn dweud ei fod e yntau wedi synnu i glywed hyn.

Dod â diwedd i'r cysyniad o 'ddigartrefedd bwriadol'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a fydd y prif weinidog yn dod â diwedd i brawf sydd mae hi'n ei awgrymu fyddai'n dod â diwedd i'r cysyniad o "ddigartrefedd bwriadol".

Leanne Wood
BBC

'Rhwydwaith go iawn' o lwybrau cerdded a seiclo

Mae'r prif weinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod yna "rwydwaith go iawn" o lwybrau cerdded a seiclo ar draws Cymru.

Carwyn Jones
BBC

'Cynghorau ddim yn ddigon uchelgeisiol'

Mae Lee Waters yn dweud mai maint y traffig yw un o brif bryderon ei etholwyr, ac nad yw cynghorau yn ddigon uchelgeisiol yn annog pobl i beidio defnyddio eu ceir.

Lee Waters
BBC

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Lee Waters:

Pa fesurau sydd ar waith i graffu ar y cynlluniau y mae awdurdodau lleol yn eu cyflwyno o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013?

Seiclo
Getty Images

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones. Hon yw ei sesiwn gwestiynau olaf cyn y Nadolig.

View more on twitter