a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl a Nadolig Llawen

    Dyna ni o'r Siambr am y tro olaf yn 2017 gan y bydd y Cynulliad ar doriad y Nadolig yr wythnos nesaf.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Ionawr 9, 2018.

    Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

    Sion Corn
  2. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Mike Hedges.

    Dyma'r ddadl ola yn y Siambr yn 2017.

    A'r pwnc: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru.

    Adeiladu
  3. 'Gwaith cyffrous i ganfod atebion newydd a chreadigol'

    Ar ran y llywodraeth mae Rebecca Evans yn siarad am "waith cyffrous i ddod o hyd i atebion newydd a chreadigol":

    "a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;

    b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;

    c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;

    d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach".

  4. Cymhellion i nodi safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer datblygu

    Ar ran y Ceidwadwyr mae David Melding yn galw ar Lywodraeth Cymru i :

    "archwilio cymhellion i awdurdodau lleol ac asiantaethau cyhoeddus nodi safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer datblygu".

    David Melding
  5. 'O gofio'r sefyllfa ar hyn o bryd' ynghylch Gareth Bennett

    Mae David Rowlands yn egluro mai fe sy'n agor y ddadl ar ran UKIP "o gofio'r sefyllfa ar hyn o bryd" ynghylch Gareth Bennett.

    David Rowlands
  6. Dadl gan UKIP

    Cartrefi modiwlaidd yw pwnc dadl UKIP y prynhawn yma.

    Maen nhw'n credu "y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru".

    Mae UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolon sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd eu hunain;

    b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd tir llwyd ar sail eu gwerth defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol os oes angen, pa nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair blynedd neu fwy; a

    c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.

    Cartrefi modiwlaidd
  7. 'Seilwaith trafnidiaeth yn aml wedi adlewyrchu dynamig pŵer cyffredin'

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud mae'r duedd wedi bod i "drafnidiaeth yng Nghymru fod yn rhywbeth sy'n cael ei gwneud i ni nid ar ein cyfer ni.

    "Mae ein seilwaith trafnidiaeth yn aml wedi adlewyrchu dynamig pŵer y dydd".

  8. 'Tynnu'r llygaid oddiar y bêl drafnidiaeth'

    Mae'r aelod Ceidwadol Nick Ramsay yn dweud bod "cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus fodern i ysgafnhau'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru...yn ymddangos yn synnwyr cyffredin, ond pa mor amldros y degawdau diwethaf nad yw'r llygaid ar y bêl drafnidiaeth?"

    Nick Ramsay
  9. 'Nid prosiect yn unig ar gyfer peirianwyr i gael chwarae gyda bysus a threnau'

    Mae Lee Waters yn dweud "Nid prosiect yn unig yw hwn ar gyfer peirianwyr i gael chwarae gyda bysus a threnau, ac mae'n rhaid i weinidogion wneud yn sicr bod portffolios gwahanol yn dod at ei gilydd i ddal ar y cyfle yma".

    Lee Waters
  10. Dadl Aelodau ar drafnidiaeth gyhoeddus

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw Dadl Aelodau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Mae

    Lee Waters (Llanelli)

    Mick Antoniw (Pontypridd)

    David Melding (Canol De Cymru)

    Nick Ramsay (Mynwy)

    Hefin David (Caerffili)

    Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

    Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

    David Rees (Aberafan)

    Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

    Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

    yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru.

    2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio llesol - i ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio'r car.

    3. Yn croesawu'r ymrwymiad i'r camau cyntaf tuag at metro de Cymru.

    4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel cam nesaf.

    5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu - gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd fetro - er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro.

  11. 'Targed unigol yn annhebygol o fod o gymorth wrth ddatblygu ein polisïau'

    Mae Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn yn cyflwyno ymateb ar ran Llywodraeth Cymru.

    Mae un o argymhellion y Pwyllgor yn cael ei wrthod, sef:

    "Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau isafswm o 20% o orchudd canopi coed trefol, gan fynd i’r afael â hynny drwy Gynlluniau Llesiant Lleol a Datganiadau Ardal".

    A'r rheswm yn ôl y llywodraeth:

    "Mae targed unigol yn annhebygol o fod o gymorth wrth ddatblygu ein polisïau neu gyrraedd y nodau y mae'r Pwyllgor yn awyddus i'w cyflawni".

    Hannah Blythyn
  12. 13 o argymhellion

    Mae Cadeirydd y pwyllgor Mike Hedges yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 13 o argymhellion, a'r cyntaf o'r rheini:

    "Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, adnewyddu ei strategaeth coetir gyda’r nod o gynyddu’r cyfraddau plannu yn sylweddol. Rhaid i’r strategaeth ddiwygiedig gynnwys targedau tymor hir ar gyfer gorchudd coetir a rhaid iddi gynnwys coedwigaeth fasnachol".

    Coetir
  13. Sylwadau Gareth Bennett yn 'annerbyniol'

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn dyfarnu y dylai Gareth Bennett dynnu yn ôl ei sylw bod pobl drawsrywiol yn "gwyro oddi wrth y norm".

    Mae Mr Bennett yn gwrthod tynnu ei sylw yn yn ôl, ac yn cerdded allan o'r Siambr, pan fo'r Llywydd yn dweud na fydd yn cael ei alw i'r Siambr yn 2018 onibai ei fod yn gwneud hynny.

    Gareth Bennett
  14. Pwynt o drefn - Gareth Bennett wedi 'achosi cywilydd'

    Mae Joyce Watson yn honni yn y Siambr bod Gareth Bennett UKIP wedi "achosi cywilydd" gyda'i araith ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn y Cyfarfod Llawn ddoe.

    Yn ystod dadl ar y pwnc ddoe fe wnaeth Mr Bennett gorddi'r dyfroedd drwy ddweud y byddai "ffocysu ar hawliau lleiafrifoedd yn cael effaith negyddol ar hawliau'r mwyafrif".

    Fe ddywedodd, "Dyw nifer ohonon ni yn UKIP ddim yn rhannu yr un brwdfrydedd ar gyfer yr hyn a elwir yn hawliau dynol â phobl mewn pleidiau eraill.

    "Rydyn ni'n poeni'n benodol y bydd y ffocws cynyddol ar hawliau lleiafrifoedd yn y pendraw yn cael effaith negyddol ar hawliau y mwyafrif".

    Fe ychwanegodd, "does ond hyn â hyn o wyriad oddi wrth y norm y gall unrhyw gymdeithas ei gymryd".

    Joyce Watson
  15. Cwestiwn Amserol 3: Cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach

    Mae Adam Price yn gofyn: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach ar gyfer Cymru, yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw drwy ddatganiad ysgrifenedig?

    Bydd y cynllun newydd hwn yn cyfyngu ar nifer yr eiddo sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i ddau eiddo fesul busnes ym mhob awdurdod lleol.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd hyn yn "atal busnesau mwy a busnesau cadwyn cenedlaethol rhag elwa o'r cynllun".

    Mae Mr Price yn dweud "yn fy amcangyfrif i, mae cyfran y busnesau bach fydd yn elwa oddeutu 70%, nid yr holl fusnesau bach fel sy'n cael ei awgrymu yn eich addewid [etholiadol] chi".

    Adam Price
  16. Cwestiwn Amserol 2: Treth trafodiadau tir

    Mae Simon Thomas yn gofyn: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r rhesymau y bydd trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir yn codi ar gyfer prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018?

    Yng Nghymru, o fis Ebrill 2018, bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp y DU.

    Ni fydd pobl sy'n prynu tŷ sy'n werth llai na £180,000 yng Nghymru yn talu unrhyw dreth pan fydd fersiwn Cymru o'r dreth stamp yn cael ei chyflwyno ym mis Ebrill.

    Yn y cynllun gwreiddiol ar gyfer y Dreth Gweithrediadau Tir, ni fyddai treth ar gartrefi sy'n costio hyd at £150,000.

    Daeth y newid wedi i'r Canghellor, Phillip Hammond gyhoeddi na fyddai pobl sy'n prynu eu cartref cyntaf yn talu'r dreth ar eiddo sy'n werth hyd at £300,000 yn y Gyllideb fis diwethaf.

    Dyw'r newid yng Nghymru ddim ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn unig, ac fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn lleihau'r baich treth i tua 24,000 o brynwyr yma.

    Maen nhw hefyd yn dweud y bydd prynwr eiddo yng Nghymru yn talu oddeutu £500 yn llai o dreth nag y bydden nhw o dan yr hen dreth stamp, ac y bydd tua 80% o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu dim treth o gwbl - yr un canran a fydd yn elwa o newidiadau'r Canghellor i dreth stamp yn Lloegr.

  17. '10 mlynedd ers i'r llywodraeth yma gyflawni ei tharged'

    Mae'r Gweinidog ar gyfer Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn dweud "mae nifer y anheddau newydd gafodd eu dechrau yng Nghymru wedi cynyddu 2% yn 2017/17 o gymharu gyda'r flwyddyn flaenorol".

    Mae Mr Melding yn dweud "mae'n 10 mlynedd ers i'r llywodraeth yma gyflawni ei tharged".

    Rebecca Evans
  18. Cwestiwn Amserol 1: Nifer y tai newydd

    Mae David Melding yn gofyn: O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau?

    Tai