a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiwn Brys ar Carillion
  2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  4. Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  5. Dadl: Cyllideb Derfynol 2018-19
  6. Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol 2018-19

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

    Y Senedd
  2. Cymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 04/01/2018.

    Pleidleisiau
  3. Cyllideb Derfynol 2018-19 yn cael ei chymeradwyo

    Mae cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru gwerth £15 biliwn yn cael eu cymeradwyo.

    Y bleidlais
  4. Y Setliad yn 'llai niweidiol' na rhai blaenorol

    Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn dweud ei bod hi'n "hollol amlwg nad yw llymder yn gweithio".

    Mae'n dweud bod y setliad yn "llai niweidiol" na rhai blaenorol, ond dyw e dal ddim yn caniatáu i gynghorau gwrdd â nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

    Sian Gwenllian
  5. 'Angen adolygiad sylfaenol o'r fformiwla cyllido'

    Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn galw am "adolygiad sylfaenol o'r fformiwla cyllido", ac, er enghraifft, gwell ystyriaeth o faterion demograffig ac anghenion cymunedau gwledig.

    Janet Finch-Saunders
  6. Setliad Llywodraeth Leol 2018-19

    Ac yn olaf heddiw dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol 2018-19.

    Yn dilyn Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus beth oedd y setliad terfynol ar Ragfyr 20 2017.

    Bydd £20 miliwn yn fwy o gyllid yn setliad terfynol 2018-19, a hynny o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru.

    Mae'r setliad terfynol hefyd yn cynnwys £7 miliwn arall i'w ddefnyddio i helpu i gynyddu'r terfyn cyfalaf cyn dechrau codi tâl am ofal preswyl i £40,000, a fydd yn cael ei roi ar waith o fis Ebrill 2018.

    Mae'r newidiadau yn cynrychioli cynnydd bach mewn arian parod yn y setliad terfynol yn gyffredinol sydd gyfystyr â chynnydd o 0.2% ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau.

    Mae'r setliad hefyd yn rhoi £1.3m yn ychwanegol i awdurdodau lleol, er mwyn iddyn nhw ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i ddarparu rhyddhad wedi'i dargedu i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa fwyaf ar gymorth ychwanegol.

    Alun Davies
    Image caption: Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies
    View more on twitter
  7. 'Does dim agenda o lymder'

    Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud bod y "syniad bod y llywodraeth Geidwadol wedi dilyn agenda o lymder yn nonsens".

  8. 'Buddion gwirioneddol i fywydau pobl'

    Mae Adam Price yn dweud wrth ACau y bydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur ar y gyllideb yn dod â buddion gwirioneddol i fywydau pobl.

  9. Tôn hynod 'negyddol' yr ysgrifennydd cyllid

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn cyhuddo Mark Drakeford o fod â thôn hynod "negyddol", o gofio'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer Cymru gan lywodraeth y DU.

    Nick Ramsay
  10. Cefnogaeth Plaid Cymru i'r gyllideb

    Mae Plaid Cymru eisioes wedi cytuno i gefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

    Mae'r cytundeb, sydd werth £210m, yn cynnwys hwb o £40m i gyllid iechyd meddwl, a £40m o fuddsoddiad mewn addysg uwch ac addysg bellach rhwng 2018 a 2020.

    Mae'r cytundeb gyda Phlaid Cymru yn cynnwys £30m ar gyfer pŵerdy yng ngwaith dur Port Talbot, a £2m i dorri tollau Pont Cleddau erbyn 2020 - sy'n 75c ar gyfer ceir.

    Mae'r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:

    • £14m i ddatblygu hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;
    • £15m ar gyfer gwelliannau i'r A487 a'r A470 o 2019 ymlaen;
    • £3m ar gyfer dylunio a datblygu trydydd pont Menai;
    • £5m i amgueddfa gelf genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed gogledd Cymru o 2019 ymlaen;
    • Buddsoddiad o £10m yn yr iaith Gymraeg;
    • Dim toriadau i'r grant sy'n cefnogi pobl fregus i fyw'n annibynnol.
  11. Cyllideb Derfynol 2018-19

    Ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

    Am yr awr nesaf mae'r aelodau yn y Siambr yn cael dadl ar Gyllideb Derfynol 2018-19.

    Fe gafodd cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gwerth £15 biliwn eu cyhoeddi ar Hydref 3 2017.

    Ym mis Rhagfyr cyhoeddwyd y bydd £160m ychwanegol dros ddwy flynedd i iechyd ac awdurdodau lleol Cymru yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru.

    Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford mae arian ychwanegol i Gymru drwy Fformiwla Barnett wedi cynnydd mewn gwariant cyhoeddus yn Lloegr ar ôl cyllideb y canghellor yn San Steffan ym mis Tachwedd.

    Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn cael £50m yn ychwanegol y flwyddyn dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi gwasanaethau, gofal sylfaenol a'r Gronfa Gofal Integredig sy'n helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain.

    Gwasanaethau cyngor
  12. 'Lefel anghyffredin o dwyll' sy'n gysylltiedig â'r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd

    Mae Caroline Jones UKIP yn dweud bod yr adroddiad yn gosod yn blaen y gweithrediadau sydd eu hangen.

    "Allwn ni ddim parhau i gyflwyno gwasanaethau NHS fel yr oedden ni 70 mlynedd yn ôl," meddai.

    Mae'n crybwyll yr angen i daclo "y lefel anghyffredin o dwyll" sy'n gysylltiedig â'r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd.

    Caroline Jones
  13. 'Cyhuddiad' o reolaeth Llafur ar iechyd a gofal cymdeithasol

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud bod yr adroddiad yn dangos nad oes yna weledigaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sydd meddai yn "gyhuddiad" o reolaeth Llafur dros y dau ddegawd diwethaf.

    Mae'n gofyn am eglurdeb ar sut y bydd y llywodraeth yn mesur llwyddiant y cynllun hir-dymor newydd.

    Rhun ap Iorwerth
  14. 'Yr achos am newid yn rymus'

    Mae Angela Burns yn dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r adolygiad yn fawr a'i argymhellion, ac mae'n annog Llywodraeth Cymru i beidio oedi o ran gwneud y newidiadau y mae'r sectorau iechyd a gofal "yn daer eu hangen".

    "Mae'r achos am newid yn rymus," meddai.

    Angela Burns
  15. Cynllun hir-dymor newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y gwanwyn

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud y bydd e'n "ystyried yn ofalus" y casgliadau cyn cyhoeddi cynllun hir-dymor newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y gwanwyn.

    "Rwy'n credu bod yr hyn a welwyd heddiw gan y panel yn mynd i osod seiliau cadarn ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am nifer o flynyddoedd i ddod," meddai.

    Vaughan Gething
  16. 'Her enfawr i arweinyddiaeth... ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol'

    Mae naw arbenigwr blaenllaw wedi bod yn ystyried sut i roi sylfaen gadarnach i'r system iechyd a gofal cymdeithasol, dan arweiniad y cyn-swyddog meddygol Dr Ruth Hussey.

    Mae rhai o'r 10 argymhelliad yn cynnwys:

    • Symud adnoddau i ffwrdd o ysbytai mawr, buddsoddi mewn technoleg newydd a rhoi mwy o ddewis i gleifion ynglŷn â'r gofal yr hoffen nhw ei gael;
    • Gwneud mwy i ddiogelu lles rhai sy'n gweithio mewn iechyd a gofal;
    • "Dulliau mwy soffistigedig" o wrando ar gleifion gan rannu'r broses o wneud penderfyniadau gyda'r unigolion dan sylw;
    • Adeiladu ar welliannau ar lefel leol "gydag unigolion brwdfrydig sydd wedi eu hynysu o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth a chyfeiriad".

    Ond maen nhw'n rhybuddio fod gormod o ffocws yn cael ei roi ar dargedau cul ysbytai, yn hytrach nac ystyried y darlun cyflawn.

    Maen nhw eisiau cynllun trawsnewid cenedlaethol er mwyn cyflawni'r newidiadau.

    Ond mae'r panel yn rhybuddio "na fydd hi'n hawdd" a byddai'n cynnwys "her enfawr i arweinyddiaeth... ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol".

    Heb weithredu'n "gyflym" byddai mynediad at wasanaeth o safon yn gostwng o fewn y pum mlynedd nesaf, meddai'r panel.

    Dr Ruth Hussey
    Image caption: Dr Ruth Hussey
  17. Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

    Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

    Mae angen "chwyldro" brys ar y ffordd mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu yng Nghymru, yn ôl adolygiad.

    Fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o ddyfodol gwasanaethau mae'r arbenigwyr yn rhybyddio oni bai fod newidiadau sylweddol yn digwydd yn gyflym, fe allai gwasanaethau sydd eisioes yn cael trafferth ymdopi ddirywio ymhellach.

    Mae'n nhw'n dweud bod rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol gyd-weithio'n well gyda'i gilydd wrth ymateb i ofynion cleifion, ac i ddarparu gofal yn agosach at y cartref.

    GIG
  18. 'Sarhau yr holl bobl wnaeth frwydro mor galed i greu democratiaeth Gymreig'

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn cyfeirio at fethiant Llywodraeth Cymru i ennill tair pleidlais yn y cynulliad yr wythnos ddiwethaf.

    Mae'n dyfynnu ymateb ffynhonnell o fewn y llywodraeth i'r BBC:

    "Mae pleidleisiau diwrnod y gwrthbleidiau - mewn sawl ffordd - yn ddibwys.

    "Nid ydyn nhw'n rhwymo'r llywodraeth a does ganddyn nhw ddim dylanwad ar bolisi llywodraeth".

    Mae Mr Price yn dweud bod y sylwadau hynny yn "sarhau yr holl bobl wnaeth frwydro mor galed i greu democratiaeth Gymreig".

    Mae Julie James yn ateb "mae'n warth bod y ffordd gydsyniol y mae'r lle yma wastad wedi gweithredu... wedi torri i lawr".

    Adam Price