a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
  3. Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf
  5. Dadl: Setliad terfynol yr Heddlu 2018-19
  6. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Siwan Richards

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory.

    Senedd
  2. Cytuno i egwyddorion cyffredinol mesur

    ACau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

  3. Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

    Symudwn ymlaen at ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

    Ym mis Medi 2016, fe gyhoeddodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylai cymdeithasau tai fod yn rhan o'r sector gyhoeddus yn hytrach na'r sector breifat.

    Ond fe addawodd Llywodraeth Cymru gymryd "unrhyw gamau angenrheidiol" i newid y penderfyniad wedi pryderon y byddai cyfyngiad ar y nifer o dai fforddiadwy yng Nghymru.

    Arweiniodd penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol at bryderon na fyddai cymdeithasau tai bellach yn medru cael benthyg yr arian sydd ei angen ar gyfer darparu tai newydd.

    Ar hyn o bryd ystyrir fod cymdeithasau tai yn perthyn i'r sector breifat a gallant fenthyg cymaint o arian ag y gallant fforddio o fewn rheoliadau arbennig.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi addo darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor cynulliad presennol.

    Tai
  4. 'Angen brys i ddatganoli plismona i Gymru'

    Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn dweud bod sefyllfa ariannol yr heddlu yn gwaethygu a bod y setliad yma yn "pwysleisio'r angen brys i ddatganoli plismona i Gymru".

    Sian Gwenllian
  5. 'Anrhydeddu'r ymrwymiad a wnaed yn 2015'

    Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn dweud bod llywodraeth y DU yn anrhydeddu'r ymrwymiad a wnaed yn 2015 y bydd y swm o arian y bydd yr heddlu yn ei gael gan y llywodraeth yn cynyddu yn unol â chwyddiant am y pum mlynedd nesaf.

    Mark Isherwood
  6. Cyllid craidd ar yr un lefel â'r flwyddyn gyfredol

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, yn dweud y bydd y setliad "yn darparu cyllid canolog craidd ar yr un lefel â'r flwyddyn gyfredol".

    Mae'n cyhuddo'r llywodraeth Geidwadol o "symud oddi wrth eu cyfrifoldeb i ariannu gwasanaethau cyhoeddus".

    Alun Davies
  7. ‘Ynghanol argyfwng y gaeaf’

    Dywedodd Caroline Jones o UKIP, er bod gwanwyn ar y gorwel “mae’r gwasanaeth iechyd yng nghanol argyfwng y gaeaf”.

    “Pam fod y gwasanaeth iechyd yn ei chael hi mor anodd leni?”

    Carolyn Jones AC
  8. ‘Angen newid sylfaenol gan Lywodraeth Cymru’

    Wrth i oleuni’r senedd ddisgleirio ar Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, gofynnodd “pa newid sylfaenol allwn ni ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach i ddelio â phwysau’r gaeaf?”.

    Rhun ap Iorwerth
  9. ‘Ddim yn fêl i gyd’

    Dyw pethe “ddim yn fêl i gyd” yn y gwasanaeth iechyd ac mae “cwestiynau difrifol am y ffordd y gwnaeth y gwasanaethau gynllunio ar gyfer y gaeaf” yn ôl y Ceidwadwr Angela Burns.

    Angela Burns
  10. ‘Adegau pan fod pobl wedi aros yn hirach na sy’n dderbyniol’

    Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cydnabod “er bod paratoadau ar gyfer y gaeaf wedi golygu gwelliannau yn y system, mae 'na adegau pan fod pobl wedi gorfod aros yn hirach na sy’n dderbyniol”.

    Mae rhybuddio “dyw’r gaeaf ddim drosodd eto".

    "Ma na bwysau yn y system o hyd ac mae’n anochel y bydd diwrnodau anodd i ddod eto”.

  11. £10m ychwanegol i ddelio â phwysau'r gaeaf

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £10m yn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn i'r gwasanaethau cymdeithasol allu cefnogi pobl yn eu cartrefi a'u cymunedau.

    Wrth annerch y siambr dywedodd: "Mae gofal cymdeithasol yn rhan fawr o'r gwaith o ddarparu gofal mor agos at gartrefi pobl â phosibl. Rwy'n cydnabod y bu'r gwasanaethau hyn o dan bwysau sylweddol dros y misoedd diwethaf. Gan gydnabod y galw, rwyf wedi penderfynu rhoi £10m yn ychwanegol i awdurdodau lleol fel bod modd i'r gwasanaethau cymdeithasol gefnogi pobl yn eu cartrefi a'u cymunedau."

    Vaughan Gething AC
  12. ‘Bydd Cymru ddim yn dilyn esiampl Lloegr’

    Mark Drakeford yn cadarnhau na fydd Cymru yn dilyn esiampl Lloegr o gael gwared yn raddol o ariannu llywodraeth ganolog i gynghorau lleol wrth iddyn nhw godi’r cyllidebau i gyd trwy drethu.

    Mark Drakeford AC
  13. 'Y lleiaf niweidiol' o'r pedwar opsiwn

    Dywedodd arweinydd UKIP, Neil Hamilton, fod Llywodraeth Cymru wedi "dewis y lleiaf niweidiol" o'r pedwar opsiwn.

  14. Siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu treth plastig tafladwy

    Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn mynegi siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu treth plastig tafladwy, ond yn croesawu y bwriad i brofi pwerau Deddf Cymru 2014.

    Simon Thomas
  15. 'Synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd'

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud bod "synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd" gan na fydd y dreth twristiaeth yn cael ei defnyddio i brofi pwerau Deddf Cymru.

    Nick Ramsay
  16. Pedwar treth newydd i Gymru

    Ers cyhoeddi rhestr fer o bedwar syniad newydd am drethi wrth ochr y Gyllideb Ddrafft ym mis Hydref, bu Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr achos dros bob un ohonynt, dywedodd y gweinidog cyllid Mark Drakeford.

    Y pedwar syniad am drethi newydd oedd: ardoll gofal cymdeithasol; treth ar dir gwag; treth ar blastig untro a threth ar dwristiaeth.

    Er mai'r syniad am dreth ar dir gwag fydd yn cael ei ddefnyddio i brofi pwerau Deddf Cymru, bydd gwaith yn parhau hefyd ar y tri syniad arall.

    Daw'r penderfyniad i symud ymlaen â'r syniad am dreth ar dir gwag yn dilyn trafodaeth â sefydliadau rhanddeiliaid, y cyhoedd ac ar draws y llywodraeth.

    Arian
  17. Datganiad ar y Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018

    Mae’r gweinidog cyllid Mark Drakeford yn gwneud datganiad ar y Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018 sy’n cynnwys trethi newydd i Gymru.

  18. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes, gydag Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y Cynulliad ar gyfer y dyfodol agos ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

    Julie James
  19. ‘Gallai 112,000 o weithwyr golli eu swyddi'

    Roedd AC Llanelli Lee Waters am wybod pa asesiad roedd y prif weinidog wedi ei wneud o ddarogan Centre for Cities y gallai 112,000 o weithwyr golli eu swyddi yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd o ganlyniad i awtomeiddio.

    Esboniodd Mr Jones nad yw “darogan fel hyn byth yn syml".

    Lee Waters AC