Dyna oll gan y llif byw am heddiw. Bydd y newyddion diweddaraf ar y tywydd yn cael ei adlewyrchu yn y stori ar ein hafan nes yn hwyr heno, a bydd y llif byw yn ailddechrau yn y bore.
Mwynhewch yr eira, a byddwch yn ofalus!
Wales News ServiceCopyright: Wales News Service
Un o nifer...
Twitter
Mae Ysgol Glan Clwyd yn un o nifer fawr o ysgolion sydd wedi cyhoeddi eisoes na fyddan nhw'n agor yfory.
Cofiwch y bydd llif byw arall ar BBC Cymru Fyw yfory gyda'r diweddaraf am y tywydd yn ystod y dydd.
Mae dau glwb nos yng Nghasnewydd wedi agor eu drysau i'r digartref wrth i'r tywydd garw daro'r ardal.
Dywedodd perchennog clybiau'r Courtyard a'r Blind Tiger, Iftekahar Haris, ei fod eisiau gwneud ei ran i helpu yn ystod cyfnod anodd i'r rheiny sy'n cysgu ar y stryd.
Ychwanegodd y bydd y digartref hefyd yn cael pryd o fwyd am ddim yno.
BBCCopyright: BBC
1,400 heb drydan yn y de
Western Power Distribution
Mae Western Power Distribution yn dweud bod 1,437 o gartrefi heb gyflenwad trydan yn ne Cymru ar hyn o bryd.
Mae'r mwyafrif llethol o'r rhain yn ardal Brynaman, gyda rhai heb drydan hefyd yn Abertawe a Chaerfyrddin.
Na phoener ffans Cân i Gymru
Cân i Gymru
Mae Canolfan Pontio ym Mangor yn dweud bod rhaglen Songs of Praise wedi penderfynu gohirio ffilmio Young Choir of the Year yno dros y penwythnos.
Ond mae newyddion gwell i'r rheiny sy'n edrych ymlaen at Cân i Gymru heno, gyda dim cynlluniau i ohirio'r digwyddiad hwnnw.
Dywedodd y ganolfan bod gig Eden ac Elin Fflur yfory dal ymlaen ar hyn o bryd, ac y byddan nhw yn rhoi gwybod ar Twitter a Facebook pe bai hyn yn newid.
PontioCopyright: Pontio
Neb yn cadw'r sedd yn gynnes
BBC Cymru Fyw
Go brin fod unrhyw un wedi eistedd ar y fainc yma ym Mhenarth heddiw!
Lee JacksonCopyright: Lee Jackson
Bws Caerdydd yn gohirio gwasanaethau
Twitter
Mae cwmni Bws Caerdydd wedi dweud eu bod yn gohirio ei holl wasanaethau o nawr ymlaen, gan gynnwys bysiau nos.
Maen nhw'n annog teithwyr i ddisgwyl diweddariad am 06:00 yfory ar ba wasanaethau fydd yn rhedeg.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro!
BBC Cymru Fyw
Dyna oll gan y llif byw am heddiw. Bydd y newyddion diweddaraf ar y tywydd yn cael ei adlewyrchu yn y stori ar ein hafan nes yn hwyr heno, a bydd y llif byw yn ailddechrau yn y bore.
Mwynhewch yr eira, a byddwch yn ofalus!
Un o nifer...
Twitter
Mae Ysgol Glan Clwyd yn un o nifer fawr o ysgolion sydd wedi cyhoeddi eisoes na fyddan nhw'n agor yfory.
Cofiwch y bydd llif byw arall ar BBC Cymru Fyw yfory gyda'r diweddaraf am y tywydd yn ystod y dydd.
Sawl un heb drydan...
Twitter
Yr eira'n pentyrru ger y Bala
BBC Cymru Fyw
Dyma'r olygfa yng Ngwmtirmynach ger y Bala - dyna beth 'dych chi'n eu galw'n lluwchfeydd eira!
Pencampwr sgerbwd y dyfodol?
Twitter
Mae'n debyg bod Pencampwriaeth Sglefrio Sgerbwd Cymru wedi bod yn cael ei chynnal yng Nghaerffili'r prynhawn 'ma...
Noson segur ym Mhenllyn?
Cyngor Gwynedd
Cyngor gan ysgol ym Mlaenafon...
Twitter
Mae un o'r nifer o ysgolion fydd ar gau yfory wedi trydar neges bwysig i'r disgyblion.
Mae hwn yn ddigon i gynhesu calon rhywun ond dyw e?
Agor drysau i'r digartref yng Nghasnewydd
BBC Cymru Fyw
Mae dau glwb nos yng Nghasnewydd wedi agor eu drysau i'r digartref wrth i'r tywydd garw daro'r ardal.
Dywedodd perchennog clybiau'r Courtyard a'r Blind Tiger, Iftekahar Haris, ei fod eisiau gwneud ei ran i helpu yn ystod cyfnod anodd i'r rheiny sy'n cysgu ar y stryd.
Ychwanegodd y bydd y digartref hefyd yn cael pryd o fwyd am ddim yno.
1,400 heb drydan yn y de
Western Power Distribution
Mae Western Power Distribution yn dweud bod 1,437 o gartrefi heb gyflenwad trydan yn ne Cymru ar hyn o bryd.
Mae'r mwyafrif llethol o'r rhain yn ardal Brynaman, gyda rhai heb drydan hefyd yn Abertawe a Chaerfyrddin.
Na phoener ffans Cân i Gymru
Cân i Gymru
Mae Canolfan Pontio ym Mangor yn dweud bod rhaglen Songs of Praise wedi penderfynu gohirio ffilmio Young Choir of the Year yno dros y penwythnos.
Ond mae newyddion gwell i'r rheiny sy'n edrych ymlaen at Cân i Gymru heno, gyda dim cynlluniau i ohirio'r digwyddiad hwnnw.
Dywedodd y ganolfan bod gig Eden ac Elin Fflur yfory dal ymlaen ar hyn o bryd, ac y byddan nhw yn rhoi gwybod ar Twitter a Facebook pe bai hyn yn newid.
Neb yn cadw'r sedd yn gynnes
BBC Cymru Fyw
Go brin fod unrhyw un wedi eistedd ar y fainc yma ym Mhenarth heddiw!
Bws Caerdydd yn gohirio gwasanaethau
Twitter
Mae cwmni Bws Caerdydd wedi dweud eu bod yn gohirio ei holl wasanaethau o nawr ymlaen, gan gynnwys bysiau nos.
Maen nhw'n annog teithwyr i ddisgwyl diweddariad am 06:00 yfory ar ba wasanaethau fydd yn rhedeg.
Siawns am gêm?
BBC Cymru Fyw
Be' ydi'r tebygolrwydd y bydd yn rhai gohirio'r gêm sydd wedi'i hysbysebu yma rhwng Carno a'r Trallwng ddydd Sadwrn?
Problemau annisgwyl y tywydd!
Twitter
Teithio, cau ysgolion, canslo digwyddiadau... a nawr hyn!
Gohebydd oer ar yr A470 yn Nhongwynlais!
BBC Cymru Fyw
Mae Rhodri Llywelyn wedi bod ar yr A470 ar gyrion Caerdydd ers oriau, ac mae'n dweud ei bod wedi gwaethygu dros yr awr neu ddwy ddiwethaf.
"Mae'n wael, yn gwaethygu, a'r gwaethaf o bosib eto i ddod," meddai.
Y Fawddach wedi rhewi
Parc Cenedlaethol Eryri
Golygfa gyffredin yn siopau Cymru
BBC Cymru Fyw
Os 'dych chi'n bwriadu taro draw i Sainsbury's Pen-y-bont i nôl torth, yn anffodus 'dych chi 'chydig yn rhy hwyr!
Rhagor ar Post Prynhawn
Post Prynhawn
BBC Radio Cymru
Mae rhagor o newyddion am y tywydd garw ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru nawr.
Cliciwch yma i wrando ar y rhaglen yn fyw.
Clwb Pêl-droed AbRHEWtawe
Clwb Pêl-droed Abertawe
Mae'r Elyrch wedi bod yn brysur yn newid ychydig ar enwau rhai o'u chwaraewyr a chyn-chwaraewyr i gydfynd â thema eira.
Ein ffefryn ni? Leroy BRR!
Fedrwch chi feddwl am fwy o chwaraewyr gaeafol?
Lluwchio ger Bethesda
Heddlu Gogledd Cymru