a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Cwestiynau Amserol
  5. Enwebiad ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru
  6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Cwmnïau Rheoli Ystadau
  7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon
  8. Dadl Plaid Cymru - Pobl ifanc a chymunedau
  9. Dadl Fer: Pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar
  10. Dadl Fer: Bancio tir, treth ar dir gwag a rhai gwersi o Gwm Cynon

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth, Mawrth 20.

    View more on twitter
  2. 'Gall effaith bancio tir fod yn hynod negyddol'

    Mae Vikki Howells yn dweud y gall effaith bancio tir fod yn hynod negyddol yn nhermau peidio cwrdd â'r galw am dai, datblygiad economaidd, gwasanaethau cyhoeddus neu feysydd chwarae, yn ogystal â chael effaith ar fywydau y rheini sy'n byw gerllaw.

    Vikki Howells
  3. Dadl Fer: Bancio tir, treth ar dir gwag a rhai gwersi o Gwm Cynon

    Nawr dadl fer gan Vikki Howells.

    Y pwnc dan sylw: Bancio tir, treth ar dir gwag a rhai gwersi o Gwm Cynon.

  4. 'Tystiolaeth gref i danlinellu'r berthynas rhwng tlodi ac oedi iaith cynnar'

    Mae Llyr Gruffydd yn dweud "mae yna dystiolaeth gref i danlinellu'r berthynas rhwng tlodi ac oedi iaith cynnar, gyda phlant o'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o gael sgiliau iaith gwanach na'r rheini mewn grwpiau mwy breintiedig".

    Llyr Gruffydd
  5. Dadl Fer - Pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar

    Ac yn olaf heddiw dwy ddadl fer, gan i un gael ei gohirio ar Chwefror 28.

    Mae'r ddadl fer gyntaf gan Llyr Gruffydd.

    A'r pwnc: "Pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar: y camau gweithredu presennol ar y mater allweddol hwn a beth arall sydd angen ei wneud i sbarduno newid yng Nghymru".

  6. 'Wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da'

    Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca- Davies, yn cyflwyno gwelliant gan Lywodraeth Cymru sef dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le:

    Yn cydnabod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy:

    a) Twf Swyddi Cymru, sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da;

    b) prentisiaethau o ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn;

    c) mynediad at dai gan fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y Cynulliad hwn;

    d) helpu myfyrwyr â’u costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio;

    e) cynnal Bwrsariaeth y GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru;

    f) buddsoddi £100m i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

    Huw Irranca-Davies
  7. 'Strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Darren Millar yn cynnig dileu popeth a rhoi yn ei le:

    "Yn croesawu strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU sy'n nodi cynllun tymor hir i hybu cynhyrchiant a grym ennill pobl ifanc ledled Cymru a'r DU.

    2. Yn nodi'r ffigurau a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch sy'n dangos bod graddedigion Cymru yn ennill llai nag yn unman arall yn y DU.

    3. Yn gresynu bod Llywodraethau Llafur Cymru – gyda chefnogaeth pleidiau eraill – ers 1999, wedi methu â chynyddu ffyniant economaidd ac addysgol pobl ifanc yng Nghymru.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc a chymorth i fusnesau ac entrepreneuriaid drwy:

    a) diddymu ardrethi busnes i bob busnes bach (hyd at £15,000);

    b) cyflwyno cynllun teithio ar fysiau am ddim a chardiau disgownt rheilffordd ar gyfer pawb rhwng 16 a 24 oed; ac

    c) cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc i sicrhau cyllid ar gyfer busnesau newydd".

    Darren Millar
  8. Y cynnig yn 'eironig' gan Blaid Cymru

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud bod y cynnig yn eironig gan Blaid Cymru, oherwydd "compact Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur o 2016-2017 a chytundeb clymblaid Cymru'n Un â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur Cymru o 2007-2011."

    Mae UKIP yn credu "bod Llywodraeth bresennol Cymru a Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi methu â chreu cyfleoedd i bobl ifanc ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau".

    Michelle Brown
  9. 'Allwn ni ddim fforddio colli cynifer o bobl ifanc'

    Mae Simon Thomas Plaid Cymry yn dweud, yn ardaloedd awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, dros y ddegawd diwethaf mae dros 117,000 o bobl ifanc rhwng 15-29 wedi gadael yr ardaloedd.

    "Allwn ni ddim fforddio colli cynifer o bobl ifanc," meddai.

    Simon Thomas
  10. Dadl: Pobl Ifanc a chymunedau yng Nghymru

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw Dadl Plaid Cymru - Pobl Ifanc a chymunedau yng Nghymru.

    Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.

    2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau Cymru.

    3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u denu i'r ardaloedd hynny.

    4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru;

    b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt;

    c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd dan bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfon a'r cymoedd.

    d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith;

    e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau;

    f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.

  11. Llywodraeth Cymru yn gwrthod 2 o'r argymhellion

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn cyflwyno ymateb y llywodraeth, sy'n gwrthod dau o'r argymhellion sef:

    "y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried i ba raddau y mae’r safonau proffesiynol newydd yn cynnig llinell sylfaen ddigonol ar gyfer perfformiad athrawon, a diwygio’r safonau i gynnwys mesur i nodi’r safonau a ddisgwylir gan athrawon er mwyn ymgymryd â’u rolau’n effeithiol".

    "y dylid ymestyn cylch gorchwyl Cyngor y Gweithlu Addysg iddo fod yn gyfrifol am safonau proffesiynol".

    Kirsty Williams
  12. 25 o argymhellion

    Mae cadeirydd y pwyllgor Lynne Neagle yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sy'n gwneud 25 o argymhellion - a'r cyntaf o'r rheini:

    "Dylai Ysgrifennydd y Cabinet gynnal gwaith ar fyrder i sicrhau y paratoir y gweithlu cyfan ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i’r cwricwlwm, gan gynnwys datblygu cynllun gweithredu manwl".

    Lynne Neagle
  13. Dadl: Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon

    Mae'r ddadl nesaf yn y Siambr ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon.

    Addysg
  14. Rhydd-ddeiliaid yn gallu bod yn "analluog" i ddod o hyd i iawndal

    Mae AC Caerffili yn galw am ddeddfwriaeth newydd oherwydd bod rhydd-ddeiliaid yn gallu bod yn "analluog" i ddod o hyd i iawndal.

    Tra bo lesddeiliaid yn gallu mynd â chwmnïau rheoli ystadau i dribiwnlysoedd, dyw rhydd-ddeiliaid ddim yn gallu, meddai.

    Mae'n dweud bod rhai o'i etholwyr wedi cwyno wrtho ynghylch safon ychydig o'r gwaith y maen nhw wedi ei weld a bod gofyn i rydd-ddeiliaid arwyddo gweithred gyfamod i wneud taliadau rheolaidd gyda chwmnïau o'r fath, gan eu gadael ynghlwm wrth y cwmnïau.

  15. Dadl - Cwmnïau Rheoli Ystadau

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

    Mae'n ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Cwmnïau Rheoli Ystadau.

    Mae Hefin David yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Mesur ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau.

    2. Diben y Mesur hwn fyddai:

    a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau llesddeiliaid i rydd-ddeiliaid sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth;

    b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac

    c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU.

    Hefin David
  16. Enwebiad ar gyfer swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru

    Mae ACau yn cytuno i enwebu Adrian Crompton i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag.

    Mae ACau hefyd yn mynegi diolchgarwch am gyfraniad Huw Vaughan Thomas yn ystod ei dymor e yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Adrian Crompton
  17. Datganiadau 90 Eiliad

    Nesa y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

  18. 'Ffieiddio gyda'r ymgyrch erchyll yma'

    Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn dweud "rydyn ni'n sefyll gyda chymunedau Mwslemaidd yn ffieiddio gyda'r ymgyrch erchyll yma.

    "Rydyn ni wedi sefydlu strwythurau yng Nghymru i daclo pob ffurf o eithafiaeth a throsedd casineb".

    Julie James
  19. Angen trafod Islamoffobia

    Mae'r Comisiynydd Plant yn ddiweddar wedi annog mwy o athrawon i drafod Islamoffobia gyda'u disgyblion.

    Yn ôl Sally Holland mae'r ffordd y mae rhai mewn cymdeithas yn trin y boblogaeth Fwslemaidd yn broblem gynyddol.

    Mae Mwslimiaid ifanc yng Nghymru yn dweud bod pobl yn syllu arnynt yn gyson, mae eraill wedi cael eu galw yn "derfysgwyr" yn yr ysgol a mae rhai yn dweud bod dieithriaid wedi dweud wrthynt am dynnu eu sgarffiau pen.

    Bwriad y Comisiynydd yw canolbwyntio ar y niwed y gall troseddau casineb ei wneud.

    Un ffordd gadarnhaol, medd Sally Holland o ddelio â'r mater yw trafod y pwnc yn yr ystafell ddosbarth a herio Islamoffobia.

    Bellach mae cymorth ar gael i athrawon i wneud hynny ac mae adnoddau yn cael eu cynnig i holl ysgolion uwchradd Cymru.

    Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr wedi codi 29%.

    Mae troseddau casineb yn ymwneud â chrefydd wedi codi 35%.

    Yn y cyfamser mae un elusen gwrth-hiliaeth yn dweud bod athrawon o 16 awdurdod lleol yng Nghymru wedi sôn wrthynt am achosion o hiliaeth y llynedd.

    Sally Holland
    Image caption: Sally Holland