a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Mesur Cyllido Gofal Plant
  3. Diweddariad a chamau nesaf y Grant Datblygu Disgyblion
  4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Yr Amgylchedd yng Nghymru
  5. Adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o Wasanaethau Iechyd Rhywiol
  6. Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    Y Senedd
  2. Cymeradwyo Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018.

    Effaith adran 14(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yw bod y Ddeddf i ddarfod ar 30 Gorffennaf 2018, oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 14(2) sy’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith.

    Mae’r Gorchymyn hwn yn orchymyn o’r fath ac mae’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith.

  3. Galluogi cynnal erthyliad yn y cartref

    Mae Vaughan Gething yn dweud "Rydw i wedi dweud wrth swyddogion i ddechrau gwaith ar unwaith ar sut y gallwn ni ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol i ganiatáu i erthyliad allu cael ei gynnal yn y cartref yn unol gydag argymhelliad 7".

    Mae'n ychwanegu, "fe fydd fy swyddogion nawr yn gweithio gyda chyfranddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu wedi ei gostio'n llawn a chydag amserlen".

  4. 'Wedi cymryd camau enfawr ymlaen ond bod angen gwneud mwy'

    Mae Vaughan Gething yn dweud:

    "Rydyn ni wedi cymryd camau enfawr ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf yn gostwng beichiogrwydd ymysg pobl yn eu harddegau, ond mae baich heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i fod yn sylweddol, ac mae'n glir o'r adroddiad hwn bod angen gwneud mwy, yn arbennig o ran mynediad ac anghydraddoldeb".

    Mae'n ychwanegu mai ei "weledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol Cymru yw gwasanaeth modern sy'n diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr".

    Vaughan Gething
  5. 'Datblygu dealltwriaeth o anghenion y boblogaeth'

    Ymysg argymhellion yr adroddiad mae'r canlynol:

    • Byrddau iechyd i ddatblygu dealltwriaeth o anghenion y boblogaeth a chael system yn ei lle i ddarparu gwasanaethau i grwpiau agored i niwed;
    • Ystyried diwygio'r fframwaith cyfreithiol er mwyn caniatáu i gleifion gymryd meddyginiaeth i derfynu beichiogrwydd yn y cartref;
    • Ehangu rôl gofal sylfaenol a fferyllfeydd mewn darpariaeth iechyd rhywiol, er enghraifft darparu tabledi atal cenhedlu dros y cownter;
    • Byrddau iechyd i edrych ar gyfleoedd eraill i ymestyn darpariaeth Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC) mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.

    Dywedodd Dr Giri Shankar, Prif Feddyg Ymgynghorol Diogelu Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oruchwyliodd yr adolygiad ar ran y sefydliad:

    "Er bod cynnydd aruthrol wedi'i wneud i roi sylw i achosion o feichiogi ymysg pobl yn eu harddegau, mae llawer o waith i'w wneud o hyd ar hygyrchedd gwasanaethau, ymddygiadau peryglus, moderneiddio systemau casglu gwybodaeth, mynediad at wasanaethau erthylu a symud y gofal yn agosach at y cleifion".

  6. Datganiad:Gwasanaethau Iechyd Rhywiol

    Symudwn ni ymlaen nawr at y datganiad olaf yn y Siambr heddiw.

    Mae'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o Wasanaethau Iechyd Rhywiol.

  7. Llywodraeth Cymru yn 'ail-adrodd yr hyn maen nhw wedi ei ddweud sawl gwaith o'r blaen'

    Gan atseinio pryderon David Melding ynghylch cyffredinolrwydd y datganiad, mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud "o leiaf mae'r datganiad yn dangos ymrwymiad tuag at ailgylchu drwy ail-adrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud sawl gwaith o'r blaen".

    Ailgylchu
  8. 'Diffyg mesurau penodol i gwrdd â'r heriau amgylcheddol'

    Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn croesawu'r egwyddorion, ond yn beirniadu'r diffyg mesurau penodol i gwrdd â'r heriau amgylcheddol.

    Mae'n galw am fwy o uchelgais gan y llywodraeth, fel cynllundychwelyd ernes a Deddf Aer Glân.

    Simon Thomas
  9. 'Rydyn ni angen rhagor o fanylion ac awch'

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn disgrifio'r datganiad fel un cyffredinol iawn.

    Wrth ddyfynnu'r gweinidog yn "galw ar ein Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Neilltuol i fod yn enghraifft o reolaeth cynaliadwy o adnoddau naturiol, yn arbennig bioamrywiaeth, coed a choedwigoedd", mae'n ychwanegu "esgob, maen nhw mewn argyfwng os nad ydyn nhw'n gwneud hynny'n naturiol yn barod.

    "Rydyn ni angen rhagor o fanylion ac awch".

    David Melding
  10. Pum blaenoriaeth

    Mae Hannah Blythyn yn datgan ei phum blaenoriaeth:

    • gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth
    • gweithio gyda'r parciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Neilltuol
    • cynyddu nifer y coed a choedwigoedd
    • cyflymu gweithredu ar ansawdd aer
    • a dod y gorau yn y byd ar ailgylchu.
  11. Datganiad: Yr Amgylchedd yng Nghymru

    Nawr datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn ar yr Amgylchedd yng Nghymru.

    Hannah Blythyn
  12. 'Dyletswydd moesol i sicrhau bod yna gyfle teg i bob dysgwr'

    "Does dim cwestiwn yn fy marn i bod yn rhaid i ni barhau i flaenoriaethu lleihau'r bwlch cyrhaeddiad - mae ganddon ni ddyletswydd moesol i sicrhau bod yna gyfle teg i bob dysgwr i gyrraedd eu llawn botensial. Dyna ein her ac rydw i'n llwyr ymroddedig i hyn".

    Kirsty Williams
  13. 'Kirsty Williams wedi dangos sarhad tuag at y Cynulliad'

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud bod Kirsty Williams wedi dangos "sarhad" tuag at y Cynulliad drwy gyhoeddi y bydd y Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn codi o £600 i £700 ar gyfer pob disgybl cymwys, ychydig wythnosau cyn bod disgwyl cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar fater grantiau ysgol.

  14. 'Hynod siomedig' gydag amseriad y cyhoeddiad

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud ei fod yn "hynod siomedig" bod yr ysgrifennydd addysg wedi cyhoeddi'r cynnydd yn gyntaf yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn hytrach nag yn y Siambr.

  15. Y grant yn codi o £600 i £700 ar gyfer pob disgybl cymwys

    Bydd grant sydd wedi'i anelu at blant difreintiedig yn cynyddu.

    Fe fydd y Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn codi o £600 i £700 ar gyfer pob disgybl cymwys.

    Dywedodd Kirsty Williams y bydd y buddsoddiad ychwanegol o fudd i 15,000 o ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen.

  16. Diweddariad a chamau nesaf y Grant Datblygu Disgyblion

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: Diweddariad a chamau nesaf y Grant Datblygu Disgyblion.

    View more on twitter
  17. 'Dysgu o broblemau Technoleg Gwybodaeth' yn Lloegr

    Wrth ymateb i Michelle Brown UKIP mae Huw Irranca-Davies yn dweud bod ganddo hyder y gall Cyllid a Thollau ei Mawrhydi gymryd awennau gweinyddu'r cynllun yn effeithiol ar ran Llywodraeth Cymru, ac y byddan nhw'n dysgu o "broblemau Technoleg Gwybodaeth" yn Lloegr.

    Michelle Brown
  18. 'Y dystiolaeth yn awgrymu bod yr effaith yn gyfyngedig'

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud bod ffocws Llywodraeth Cymru ar rieni sy'n gweithio ond bod "llawer o dystiolaeth yn awgrymu bod yr effaith yn gyfyngedig yn y mater hwnnw".

    Mae'n gofyn am sicrwydd y bydd y "buddsoddiad £100 miliwn a throsodd" yn cael yr effaith angenrheidiol.

    Llyr Gruffydd
  19. 'Cyflawni un o'n hymrwymiadau maniffesto'

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud bod y "Cynnig Gofal Plant" hefyd yn "cyflawni un o'n hymrwymiadau maniffesto ni i ehangu gofal plant".

    Mae'n codi nifer o bryderon, fel capasiti o fewn y sector i gyflwyno'r cynnydd.

  20. 'Ysgafnhau rhywfaint o'r baich o ran amser a gweinyddiaeth'

    Mae Huw Irranca-Davies yn dweud y bydd y Mesur hwn "yn darparu ateb technegol i'r broblem o reoli a phrosesu ceisiadau am y Cynnig Gofal Plant, gan ysgafnhau rhywfaint o'r baich o ran amser a gweinyddiaeth ar rieni ac awdurdodau lleol".

    Huw Irranca-Davies