a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
  3. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
  4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Mesur Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
  5. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  6. Cwestiynau Amserol
  7. Dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?
  8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Adrodddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol
  9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol
  10. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality
  11. Dadl Fer: Sepsis – y cameleon

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Ebrill 24.

Senedd
BBC

Achosion o sepsis

Mae nifer yr achosion o sepsis mewn ysbytai yng Nghymru wedi cynyddu 20% yn ystod y chwe blynedd hyd at ddiwedd Mawrth 2017.

Ond law yn llaw â hynny mae nifer y marwolaethau o sepsis mewn ysbytai wedi gostwng 13% dros yr un cyfnod.

Graff Sepsis
BBC

Dadl Fer ar Sepsis

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Angela Burns.

A'r pwnc: Sepsis - y cameleon.

Beth yw sepsis, sut yr ydym yn ei gydnabod, sut yr ydym yn ei drin, a beth y gallwn ei wneud i arbed mwy o fywydau?

Sepsis
BBC

Cynnig i geisio gorfodi cyhoeddi adroddiad o ryddhau gwybodaeth yn methu

Mewn pleidlais i geisio gorfodi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar a oedd gwybodaeth am ad-drefnu'r cabinet wedi cael ei rhyddhau cyn i Carl Sargeant gael ei ddiswyddo, fe wnaeth 26 bleidleisio o blaid cynnig y Ceidwadwyr, 1 AC yn ymatal a 29 yn pleidleisio yn erbyn.

Fe gafwyd hyd i Mr Sargeant yn farw ym mis Tachwedd y llynedd ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo fel yr ysgrifennydd cymunedau yn sgil honiadau am ei ymddygiad amhriodol tuag at fenywod..

Y gred yw iddo ladd ei hun.

Ni chafodd yr adroddiad terfynol ar ollwng gwybodaeth ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru oherwydd pryderon y gall unigolion gymrodd ran yn yr ymchwiliad gael eu hadnabod.

Fe wnaeth ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan ganfod "nad oedd gwybodaeth wedi ei rannu'n answyddogol o flaen llaw" am yr ad-drefnu, ond chafodd holl fanylion yr adroddiad mo'u cyhoeddi.

Pleidlais
BBC

Dim yn fater datganoledig

Mae Julie James yn ail ddweud nad yw "materion a phenderfyniadau ynghylch lansio gweithredu milwrol yn erbyn cenedl sofan arall yn fater datganoledig ac y dylai gael ei ddadlau yn Nhŷ'r Cyffredin".

'Dylai'r cynulliad gondemnio pob gweithred filwrol yn y Dwyrain Canol'

Mae David Rowlands yn dweud bod UKIP yn "llwyr gondemnio" y cyrchoedd awyr, gan ychwanegu y dylai'r cynulliad gondemnio pob gweithred filwrol yn y Dwyrain Canol.

Cefnogi 'ymateb pendant a chymesur' prif weinidog y DU

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud bod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn "llwyr gefnogi ymateb pendant a chymesur" prif weinidog y DU.

'Y llwybr tuag at heddwch fyth yn cael ei baratoi gan arfau rhyfel'

Mae Leanne Wood yn cyfeirio at dri mater canolog:

  • safiad prif weinidog Cymru ar y cyrchoedd awyr,
  • y gost ariannol,
  • dyblu ymdrechion i gynnig hafan ddiogel i'r rheini sy'n ceisio ymdopi gyda'r canlyniadau.

Mae'n dweud "dyw'r llwybr tuag at heddwch fyth yn cael ei baratoi gan arfau rhyfel".

Leanne Wood
BBC

Dadl Frys ar Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

Nesa yn y Siambr Dadl Frys gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ar Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria.

Brynhawn Llun fe wnaeth Prif Weinidog Prydain, Theresa May annerch Tŷ'r Cyffredin ynglŷn â'i phenderfyniad i ymuno â'r cyrchoedd heb gynnal pleidlais seneddol.

Dywedodd nad oedd amheuaeth mai llywodraeth Syria oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad cemegol wnaeth arwain at yr ymyrraeth.

Roedd y DU wedi methu â gweithredu ar lefel y Cenhedloedd Unedig oherwydd feto Rwsia, meddai wrth ASau, a doedd gweithredu'n ddiplomyddol yn unig ddim am weithio.

Ychwanegodd Mrs May fod y cyrch wedi ei gynnal gyda'r bwriad o "leihau dioddefaint dyngarol pobl Syria" yn y pen draw, ac y byddai hi'n cael ei dwyn i gyfrif yn Nhŷ'r Cyffredin am ei phenderfyniad.

Awyren yr Awyrlu
PA

'Diffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder'

Ar ran y llywodraeth mae Arweinydd y Tŷ, Julie James, yn gresynu at "ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt".

Ddylai menywod WASPI ddim 'dioddef yn eu blynyddoedd olaf'

"Mae rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'r cyfathrebu trwy'r broses hon," medd y Ceidwadwr Nick Ramsay, sy'n dweud y bydd yn cyfleu ei bryderon i lywodraeth y DU oherwydd na ddylai menywod WASPI "ddioddef yn eu blynyddoedd olaf".

'Rhowch eu haeddiant, eu gobaith a'u dyfodol yn ôl iddyn nhw'

Mae Vikki Howells, AC Llafur Cwm Cynon, yn dweud bod gan lywodraeth y DU "ddyletswydd i wneud newidiadau i roi trefniadau trawsnewidiol yn eu lle, y gwnaeth y genhedlaeth bresennol o fenywod weithio ar hyd eu bywyd amdanyn nhw, i roi eu haeddiant, eu gobaith a'u dyfodol yn ôl iddyn nhw".

Vikki Howells
BBC

Llywodraethau ar ôl ei gilydd wedi cyflwyno newidiadu yn 'rhy gyflym ac ar hap'

Mae Caroline Jones UKIP, sy'n dweud ei bod hi'n un o'r menywod sydd wedi ei heffeithio'n annheg, yn dweud y dylai'r newidiadau penswinfod wedi cael eu gwneud gyda "degawdau o rybudd".

Yn hytrach, meddai, mae llywodraethau ar ôl ei gilydd wedi cyflwyno newidiadu yn "rhy gyflym ac ar hap".

Caroline Jones
BBC

Beth yw WASPI?

Ymgyrch yw WASPI - neu Women Against State Pension Inequality - sy'n galw am iawndal i ferched gafodd eu heffeithio gan newidiadau i bensiynau yn 1995 a 2011.

Mae Deddf Pensiynau 2011 yn golygu mai 65 yw'r oed fydd merched yn cael y pensiwn gwladol o 2018 ymlaen - gyda'r oedran i gynyddu i 66 i ferched a dynion erbyn Hydref 2020.

Roedd yn golygu y byddai 300,000 o ferched ar draws y DU oedd yn nesau at oed pensiwn yn gorfod disgwyl 18 mis arall.

Dadl UKIP ar Ymgyrch WASPI

Am yr awr nesaf yn y Siambr mae yna ddadl gan Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, UKIP ar Ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality.

Mae UKIP yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i deddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:

a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;

b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;

c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a

d) iawndal i fuddiolwyr yr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.

Ymgyrch WASPI
Getty Images

'Denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru'

Wrth ymateb i'r ddadl mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn amlinellu gwaith Llywodraeth Cymru i "ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:

a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;

b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;

c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;

d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a

e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon".

Kirsty Williams
BBC

'50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli'

Ar ran Plaid Cymru mae Llyr Gruffydd yn cynnig ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1:

"Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf".

Dadl ar Gynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol

Pwnc ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig yw Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol.

Mae Paul Davies yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er mwyn:

a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor;

b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac

c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.

Dosbarth
Thinkstock

'Gorfodaeth'

Wrth gloi'r ddadl mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddweud wrth y llywydd i atal y ddadl.

"Ni all yr un ddemocratiaeth weithredu o dan y lefel yna o orfodaeth".

Gallai'r llywodraeth ofyn i'r llys ddehongli'r gyfraith

Anogodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles yr aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig, gan honni ei fod y tu allan i faes pwerau'r cynulliad, yn ymwneud ag adroddiad sy'n ymwneud yn unig â phwerau a arferwyd gan y prif weinidog yn unig.

Mae Mr Miles yn rhybuddio y gellid atal tystion rhag cydweithio ag ymchwiliadau yn y dyfodol. Yn absenoldeb cytundeb ar sut i fynd ymlaen dywed y gallai'r llywodraeth ofyn i'r llys ddehongli'r gyfraith.

'Dydw i ddim yn credu y byddai e yn ei swydd am yn llawer hirach'

Mae'r AC annibynnol Neil McEvoy yn condemnio Carwyn Jones am fygythiadau a heriau cyfreithiol i geisio mygu'r ddadl. Roedd hi'n well gan Lywodraeth Cymru i "wneud dim byd ar lobïwyr, ond yn hytrach ymyrryd i geisio atal llywodraeth agored.

"Petai pobl Cymru fyth yn gweld beth sy'n mynd ymlaen y tu ôl i ddrysau caeëdig, dydw i ddim yn credu y byddai e yn ei swydd am yn llawer hirach," ychwanega Mr McEvoy am y prif weinidog.

Neil McEvoy
BBC

'Safle breintiedig'

Mae Neil Hamilton yn annog cefnogaeth i'r cynnig, gan ddweud bod Deddf Llywodraeth Cymru yn ymddangos i roi'r prif weinidog mewn "safle hynod freintiedig" yn awgrymu ei fod wedi ei eithrio'n unigryw o arfer craffu'r cynulliad.

'Ailadroddiad anghyffredin o'r 1640au'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud bod y bygythiad o gamau cyfreithiol i atal y ddadl wedi bod yn "ailadroddiad anghyffredin o'r math o weithredu welon ni yn Nhŷ'r Cyffredin yn y 1640au", gan gyfeirio at ymgais Brenin Siarl 1af i arestio aelodau o'r senedd a oedd yn ei wrthwynebu fe yn ystod y Rhyfel Cartref, gan nodi i'r brenin gael ei ddienyddio yn ddiweddarach.

Neil Hamilton
BBC

'Trasiedi bersonol' wrth wraidd y ddadl

Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud bod yna "drasiedi bersonol" wrth wraidd y ddadl. Byddai hyd yn oed adroddiad wedi ei olygu yn caniatáu i ni gribinio mwy o wybodaeth na " y ddau baragraff byr hyn". Mae'n cyfeirio at egwyddorion llywodraeth agored ac atebolrwydd.

Adam Price
BBC

'Yn foesol gywir'

Fe allai chwip y llywodraeth ennill y bleidlais i atal y cynnig hwn, medd Andrew RT Davies, ond ni fyddai'n cyflawni yr hyn sy'n "foesol gywir" - y gallu i gael yr adroddiad hwn ochr yn ochr gyda rhai eraill.

Elin Jones - y cynnig 'mewn trefn'

Fe ddywedodd y Llywydd Elin Jones ar ddechrau'r ddadl bod y cynnig sy'n cael ei ddadlau - os y bydd yn cael ei basio, fyddai'n gorfodi cyhoeddi'r adroddiad i'r ymchwiliad gollwng gwybodaeth, os yn cael ei basio trwy bleidlais - "mewn trefn".

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei bod hi'n ymddwyn yn anghyfreithlon wrth dderbyn y cynnig.

Elin Jones
BBC

'Nid eredigaeth yw hyn'

Nid erledigaeth yw hyn yn erbyn y prif weinidog, medd Mr Davies. Mae'n nodi bod Llywodraeth Cymru yn teimlo'n abl i gyhoeddi adroddiad arall gan James Hamilton wnaeth glirio Carwyn Jones o gamarwain y cynulliad pan yn ymateb i gwestiynau ynghylch bwlio honedig.

'Cyfres unigryw o amgylchiadau'

Mae cyfres o amgylchiadau unigryw yn ymwneud gyda marwolaeth gweinidog, medd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies. Mae'n mynnu y gellir gosod amddiffynfeydd i ddiogelu enwi tystion.

Andrew RT Davies
BBC

Dadl y Ceidwadwyr ar Adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol

Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig.

A'r pwnc: Adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol.

Mae'r Ceidwadwyr yn defnyddio'r ddadl i geisio gorfodi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar a oedd gwybodaeth am ad-drefnu'r cabinet wedi cael ei rhyddhau cyn marwolaeth Carl Sargeant.

Fe gafwyd hyd i Mr Sargeant yn farw ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo fel yr ysgrifennydd cymunedau yn sgil honiadau am ei ymddygiad tuag at fenywod.

Y gred yw iddo ladd ei hun.

Ni chafodd yr adroddiad terfynol ar ollwng gwybodaeth ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru oherwydd pryderon y gall unigolion gymrodd ran yn yr ymchwiliad gael eu hadnabod.

Fe wnaeth ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan ganfod "nad oedd gwybodaeth wedi ei rannu'n answyddogol o flaen llaw" am yr ad-drefnu, ond chafodd holl fanylion yr adroddiad mo'u cyhoeddi.

Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw bedwar diwrnod wedi iddo gael ei sacio o'r cabinet.
BBC
Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw bedwar diwrnod wedi iddo gael ei sacio o'r cabinet.

Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyflwyno ymateb y llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion.

Bwletin Brexit y Gwasanaeth Ymchwil

7 o argymhellion

Mae cadeirydd y pwyllgor David Rees yn cyflwyno'r adroddiad, sy'n gwneud saith o argymhellion.

Yr argymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn "archwilio ar frys paramedrau tebygol gwahanol sefyllfaoedd Brexit, gan gynnwys “sefyllfa dim bargen”, ac adrodd ar gynnydd o fewn 6 mis".

David Rees
BBC

Paratoi ar gyfer Brexit

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?

Nesaf yn y Siambr dadl gynta'r prynhawn.

Mae'n ddadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?

Baneri yr UE a Chymru
BBC

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

'Coffadwriaeth i holl Dywysogion Cymru'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod yr Ail Bont Hafren yn ased i lywodraeth y DU, ac na wnaeth prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wrthwynebu'r cynnig i newid yr enw.

Mae'n dweud, er bod enw newydd y bont yn nodi Tywysog Charles yn cael y teitl 60 mlynedd yn ôl, a'r ffaith ei fod yn troi'n 70 eleni, "Dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na all gael ei dathlu fel pont goffa i holl Dywysogion Cymru yn y gorffennol".

Ken Skates
BBC

Cwestiynau Amserol

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

Cwestiwn Amserol: Ailenwi Ail Bont Hafren

Un cwestiwn amserol sydd yna - a hynny gan Neil McEvoy AC.

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru?

Mae dros 30,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r penderfyniad gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns i ailenwi'r bont yn bont Tywysog Cymru.

Ail Bont Hafren
Getty Images

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae'r aelodau nawr yn cael cyfle i holi cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad.

Mae Julie Morgan yn gofyn: Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran dileu eitemau plastig untro o ystâd y Cynulliad?

ACau yn pleidleisio o blaid dadl frys ar gyrchoedd y DU ar Syria

Mae Arweinydd y Tŷ, Julie James yn dweud mai Tŷ'r Cyffredin yw'r lle addas ar gyfer dadl o'r fath, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal yn y bleidlais.

Mae 27 ACau yn pleidleisio o blaid y ddadl, 15 yn ymatal a 9 yn erbyn, felly fe fydd y ddadl yn cael ei chynnal yn hwyrach y prynhawn yma.

Pleidlais
BBC