a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Caffael cyhoeddus
  5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Michelle Brown AC
  6. Dadl Aelodau: Tlodi misglwyf a stigma
  7. Dadl Plaid Cymru – Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli
  8. Dadl Fer: Gwlad y gân: datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Gallwch weld holl ganlyniadau'r pleidleisiau yma.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Mai'r wythfed.

View more on twitter

'Lle cerddoriaeth yn ddiogel'

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud bod "lle cerddoriaeth yn ddiogel o fewn datblygiad ein cwricwlwm newydd".

Mae'n atgoffa ACau ei bod hi wedi cyhoeddi cyllid gwerth £1 miliwn i sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, "a fydd yn galluogi mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd cerddorol".

Kirsty Williams
BBC

'Mynediad bratiog i addysg a chyllid cerdd'

Mae Rhianon Passmore yn dweud "os yw Cymru i gadw ei henw da byd-eang fel gwlad y gân, yna mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol".

Mae'n dweud y dewis arall yw parhau gyda "mynediad bratiog i addysg a chyllid cerdd".

Rhianon Passmore
BBC

Dadl Fer: Datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Rhianon Passmore.

A'r pwnc dan sylw: Gwlad y gân - datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru.

Gwersi Cerdd
BBC

'Diogelu pwerau'r Cynulliad dros bolisïau datganoledig'

Ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud "bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad".

Mae'n ychwanegu y caiff "unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol".

Carwyn Jones
BBC

'Pobl Cymru fydd yn talu'r pris'

Dywed Llyr Gruffydd Plaid Cymru: "Chi'n gwbod pan bod UKIP a'r Ceidwadwyr yn ciwio fyny i'ch llongyfarch chi ar wneud rhywbeth, chi naill ai wedi cael eich twyllo neu chi wedi gwneud camgymeriad, a'r tristwch fan hyn yw mai pobl Cymru fydd yn talu'r pris."

'Wedi eu dal mewn siaced gaeth ideolegol'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn cyhuddo Plaid Cymru o fod "wedi'u dal mewn siaced gaeth ideolegol o amgyffred ffug a rhagfarn gynhennus".

Mae'n dweud y bydd cytundeb llywodraethau Cymru a'r DU ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn "amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau".

Mark Isherwood
BBC

'Dim baner wen o ildio'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod rhai pobl "wedi cyhuddo Plaid Cymru o fod yn genedlaetholwyr sy'n chwifio'n baner - o leia dyw'n baner ni ddim yn un wen o ildio".

Mae'n dweud bod y "cytundeb amheus" yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.

"Fe gethoch chi bryd seren Michelin, ac fe wnaethoch chi ei droi yn swper ci," meddai wrth Lywodraeth Cymru.

Y drafodaeth ar 'Adael yr UE' (Brexit)

Dadl ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli

Yr etiem nesaf yn y Siambr yw dadl gan Blaid Cymru ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli.

Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Mesur Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn afraid.

3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.

4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan "na ddylai ymadawiad y DU o'r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o'r fath yn cael ei gwrthwynebu'n gadarn gennym".

5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bathodynnau Cymru a'r UE
Thinkstock

Y cynnig ar dlodi misglwyf a stigma yn cael ei basio

Mae ACau yn pasio cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;

b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac

c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.

Cronfa gwerth £1m i daclo tlodi mislif

Mae Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, yn dweud y gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Mawrth gronfa gwerth £1m i daclo tlodi mislif ar draws Cymru.

Bydd nwyddau hylendid yn cael eu dosbarthu am ddim drwy grwpiau cymunedol, ysgolion a banciau bwyd.

Julie James
BBC

'Creu gwlad sy'n gyfartal'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud "fe ddylen ni fod yr un mor gyfforddus yn siarad am gynhyrchion misglwyf â phapur tŷ bach".

Mae'n dweud "mae gofal iechyd yn hawl ddynol" ac y byddai darparu mynediad rhydd i gynhyrchion misglwyf mewn sefydliadau addysg yn helpu i "greu gwlad sy'n gyfartal".

Dadl Aelodau: Tlodi Misglwyf a Stigma

Am yr awr nesa mae ganddon ni ddadl Aelodau ar Dlodi Misglwyf a Stigma.

Mae Jane Hutt a Jenny Rathbone yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.

2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.

3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;

b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac

c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.

Cynnyrch misglwyf
Getty Images

Michelle Brown wedi ei gwahardd o drafodion y Cynulliad am wythnos

Mae ACau yn cefnogi cynnig y Pwyllgor Safonau i wahardd Ms Brown o drafodion y Cynulliad am wythnos yn ddi-dâl. Fydd hi ddim felly yn cael bod yn rhan o weithgareddau'r Senedd tan ddydd Iau yr wythnos nesaf.

Roedd 38 o blaid, un yn ymatal, a thri yn erbyn.

Roedd disgrifiad Ms Brown o Chuka Umunna yn enghraifft o 'gam-drin hiliol' ac yn 'gwbl annerbyniol' ym marn aelodau'r pwyllgor safonau
Getty Images
Roedd disgrifiad Ms Brown o Chuka Umunna yn enghraifft o 'gam-drin hiliol' ac yn 'gwbl annerbyniol' ym marn aelodau'r pwyllgor safonau

'Deliwch gyda'r mater yn y blwch pleidleisio'

Mae Neil McEvoy - a gafodd ei ddiarddel o Blaid Cymru am 18 mis yn dilyn ymchwiliad gan y blaid i'w ymddygiad - yn dweud mai'r ffordd i ddelio gyda Michelle Brown yw yn y blwch pleidleisio, nid yn Siambr y Cynulliad.

'Ymyrraeth ddifrifol' yn hawliau'r etholwyr

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn honni y byddai eithrio AC yn "ymyrraeth ddifrifol" yn hawliau'r etholwyr.

Mae'n dweud ei fod yn ddatblygiad sinistr bod y cynulliad yn ceisio'r hawl i blismona bywydau preifat ACau.

Mae'n pwysleisio i sylwadau'r AC ar gyfer Gogledd Cymru ynghylch Chuka Umunna gael eu gwneud mewn sgwrs ffôn breifat.

Neil Hamilton
BBC

AC UKIP Michelle Brown yn wynebu gwaharddiad am sylw hiliol

Nesaf yn y Siambr dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-18.

Mae disgwyl i'r Aelod Cynulliad UKIP Michelle Brown gael ei gwahardd o'r Cynulliad am wythnos yn ddi-dâl ar ôl iddi wneud sylw hiliol am AS Llafur.

Daeth aelodau pwyllgor safonau'r Cynulliad i'r casgliad fod Michelle Brown wedi torri'r côd ymddygiad yn "ddifrifol" gan ddwyn anfri ar y sefydliad.

Mae Ms Brown wedi ymddiheuro am unrhyw niwed a gafodd ei achosi, ond mae'n dadlau nad oedd y sylw yn hiliol.

Dyma fyddai'r tro cyntaf i'r Cynulliad gosbi AC yn y modd yma.

Fe gafodd Ms Brown, un o aelodau rhanbarthol y gogledd, ei chyhuddo o ddisgrifio'r AS dros Streatham, Chuka Umunna, fel "cnau coco" - term sy'n cael ei ystyried yn ddilornus a hiliol - mewn galwad ffôn ym mis Mai 2016.

Methu wnaeth apêl Michelle Brown fis diwethaf yn erbyn dyfarniad y pwyllgor safonau i'w gwahardd dros dro
UKIP
Methu wnaeth apêl Michelle Brown fis diwethaf yn erbyn dyfarniad y pwyllgor safonau i'w gwahardd dros dro

Datganiad ar gaffael cyhoeddus

Symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay ar gaffael cyhoeddus.

Mae'n dweud bod y pwyllgor yn credu "bod llawer i'w ennill drwy wneud y mwyaf o botensial gwariant caffael blynyddol y sector cyhoeddus, sy'n werth £6 biliwn, a thrwy drawsnewid caffael cyhoeddus yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

"Mae'n amlwg i'r Pwyllgor fod y potensial hwn ymhell o gael ei wireddu'n llawn am nifer o resymau a bod angen gwneud gwaith datblygu sylweddol a gwella consensws i symud ymlaen mewn ffordd gydweithredol ac ymateb i rai o'r pryderon a godwyd ynghylch ymagwedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol hyd yn hyn".

Nick Ramsay
BBC

Dim Cwestiynau Amserol

Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

'Ddim yn 'ymddygiad priodol' gan Neil Hamilton

Mewn ymateb i owynt o drefn gan Mick Antoniw AC ynghylch taflen gafodd ei dosbarthu gan arweinydd UKIP Neil Hamilton, mae'r Dirpwy Lywydd, Ann Jones, yn dyfarnu nad oedd yn "ymddygiad priodol" gan Mr Hamilton.

Mae ACau wedi cael copïau o erthygl ynghylch Sajid Javid lle defnyddir yr un sarhad hiliol ag y defnyddiodd Michelle Brown ynghylch Chuka Umunna.

Mae Mr Antoniw yn dweud bod y deunydd yn "ymosodol" ac "amherthnasol".

'Mor nawddoglyd'

Mae Jeremy Miles yn dweud wrth Leanne Wood ei bod hi wedi camddeall effaith y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fesur yr UE (Ymadael).

"Mae hynny mor nawddoglyd", yw ymateb Leanne Wood.

Leanne Wood a Jeremy Miles
BBC

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Mae'r aelodau nawr yn cael holi cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Yn ei hunangofiant fe wnaeth Rhodri Morgan ysgrifennu am yr Ail Gynulliad rhwng 2003-2007, "roedd y rhan fwya o Weinidogion yn credu bod swydd y Cwnsler Cyffredinol wedi ei gor-bwysleisio mewn statws a theitl". O ganlyniad, "fe benderfynodd y Cabinet nad oedd angen safle ffuantus fel Cwnsler Cyffredinol, ac fe wnaethon ni heb un".

Roedd hynny cyn i'r Cynulliad gael pwerau deddfwriaethol mewn meysydd datganoledig.

Jeremy Miles
BBC

Galwad i roi cymhorthdal i gynlluniau meicro hydro i ffermwyr mynydd

Mae David Rowlands UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymhorthdal i gynlluniau meicro hydro i ffermwyr mynydd.

Mae Mr Skates yn ateb, "rydyn ni eisoes yn helpu ffermwyr ac eraill mewn ardaloedd gwledig i ddatblygu cynlluniau meicro hydro - yn ariannu cynlluniau ac yn cynnig cyngor".

David Rowlands
BBC

Cyfleusterau tai bach ar drenau Rheilffyrdd y Cymoedd

Mae Adam Price Plaid Cymru yn cyfeirio at adroddiad yng nghylchgrawn Modern Railways sy'n dweud na fydd trenau Rheilffyrdd y Cymoedd yn cynnig cyfleusterau tai bach i deithwyr yn y dyfodol.

Mae Ken Skates yn rhoi sicrwydd "na fydd drysau yn cael eu cloi ar drenau er mwyn osgoi rheoliadau".

Mae'n ychwanegu, "rydyn ni wedi gofyn i'r cynigwyr i ddangos sut y byddan nhw'n sicrhau eu bod yn darparu cyfleusterau tai bach ar drenau".

Adam Price
BBC

'Pobl yn rhwystredig gyda'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus'

Mewn ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, mae Ken Skates yn cydnabod bod "pobl yn rhwystredig, a'i bod yn iawn iddyn nhw deimlo hynny, gyda'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael , nid yn unig ar y rheilffyrdd, ond yn nhermau gwasanaethau bysus lleol".

Mae e wedyn yn siarad am rôl partneriaeth darparu'r metro yn cyflwyno trafnidiaeth integredig i Gaerdydd.

'Cynnydd da' ar y fframwaith diogelwch ffyrdd

Mae Ken Skates yn dweud bod yr adolygiad canol-dymor o'r fframwaith diogelwch ffyrdd yn dangos bod "cynnydd da yn cael ei wneud".

Ken Skates
BBC

Gwella diogelwch ar y ffyrdd

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan John Griffiths.

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru?

John Griffiths
BBC

Croeso nôl i Senedd Fyw

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Y Senedd
BBC

'Tsunami o ddiwygio cymwysterau'

Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn rhybuddio bod "tsunami o ddiwygio cymwysterau" o'n blaenau ac yn ceisio am sicrwydd "na fydd y sefyllfa yn gwaethygu yn hytrach na gwella".

Mae Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC, yn dweud yr allwedd i hyn yw pa wybodaeth a fydd ar gael yn Ebrill 2019 ynghylch y cwricwlwm newydd, er mwyn caniatáu paratoi adnoddau.

Fe fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei ddysgu o fis Medi 2022.

Ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth adolygiad annibynnol argymell cwricwlwm newydd fyddai'n rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion ac yn rhoi'r un pwyslais ar sgiliau cyfrifiadurol ac sydd ar rifedd a llythrennedd.

Yn hytrach na dod i rym ar yr un pryd, bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno i ysgolion cynradd a phlant ym mlwyddyn gyntaf ysgol uwchradd.

Llyr Gruffydd
BBC
Llyr Gruffydd

'Tair cyfres o ddiwygio cymwysterau'

Mae Gareth Pierce yn dweud bod yr oedi mewn darparu gwerslyfrau ers 2015 yn rhannol oherwydd "tair cyfres o ddiwygio cymwysterau".

Er nad yw CBAC yn gyhoeddwr, mae cenhadaeth CBAC yn cynnwys “cynhyrchu adnoddau a chyfleoedd datblygu o safon i fodloni gofynion gydol oes dysgwyr o bob gallu a'u hathrawon”.

'Llanast anferth sy'n achosi llawer o waith a phwysau ychwanegol'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn disgrifio diffyg gwerslyfrau fel "llanast anferth sy'n achosi llawer o waith a phwysau ychwanegol ar athrawon a dysgwyr".

Darren Millar
BBC

Gareth Pierce yn rhoi'r gorau iddi fis yma

Mae prif weithredwr presennol CBAC Gareth Pierce wedi bod yn y swydd ers 2004, ac mae'n rhoi'r gorau iddi y mis hwn.

Roderic Gillespie fydd yn ymuno gyda CBAC fel prif weithredwr newydd ym mis Mehefin. Mae e yn gweithio i Cambridge International ar hyn o bryd fel cyfarwyddwr asesu.

Fe fydd y pennaeth newydd - sy'n gosod arholiadau TGAU a Lefel A fydd yn cael eu sefyll gan ddisgyblion yng Nghymru - yn cael cyflog o hyd at £120,000 ac yn arwain sefydliad sydd â 400 o staff.

Gareth Pierce
BBC
Gareth Pierce

'Rydyn ni yn cydnabod bod yna oedi wedi bod gyda gwerslyfrau'

Mae Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, yn dweud "rydyn ni yn cydnabod bod yna oedi wedi bod gyda gwerslyfrau, yn bennaf yn gysylltiedig gydag amserlenni".

Philip Blaker
BBC

Cyhuddiad o 'fethu disgyblion'

Ym mis Chwefror fe gafodd bwrdd arholi CBAC eu cyhuddo o "fethu" disgyblion, gyda rhai yn dal i ddisgwyl am werslyfrau dri mis cyn eu harholiadau.

Mae'r oedi yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n astudio Athroniaeth a Moeseg, rhan o Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol.

Doedd CBAC ddim yn gallu cadarnhau faint o fyfyrwyr sy'n disgwyl am y gwerslyfrau, ond dywedodd bod yr oedi'n destun pryder a'u bod yn gweithio i'w cyhoeddi cyn gynted â phosib.

Sesiwn dystiolaeth

Nawr sesiwn dystiolaeth ar ddarparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion.

Y tystion yw:

Mike Ebbsworth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymorth Addysgol - CBAC

Gareth Pierce, Prif Weithredwr - CBAC

Philip Blaker, Prif Weithredwr - Cymwysterau Cymru

Emyr George, Cyfarwyddwr Cyswllt - Cymwysterau Cymru.

Tystion
BBC

Fideo: Cyfweliadau gyda phobl ifanc

Maen nhw'n dechrau trwy wylio fideo byr o gyfweliadau â phobl ifanc.

Fideo
BBC

Darparu gwerslyfrau

Mae'r aelodau yn ystyried darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion.

Gwerslyfrau
Getty Images

Bore da

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu Cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Y Senedd
BBC