a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (HASCAS) i’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan
  3. Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru
  4. Dyfodol rheoli tir
  5. Cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig
  6. Dadl Cyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

View more on twitter

Cymeradwyo Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Mae'r ACau yn pasio Cyfnod 4 - cam olaf - y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
BBC
Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Proses pedwar cyfnod

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

  • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

Dadl: Cyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Gyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy ddiwygio Deddfau presennol, gan gynnwys yn benodol Ddeddf Tai 1996.

Ym mis Medi 2016, fe gyhoeddodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylai cymdeithasau tai fod yn rhan o'r sector gyhoeddus yn hytrach na'r sector breifat.

Ond fe addawodd Llywodraeth Cymru gymryd "unrhyw gamau angenrheidiol" i newid y penderfyniad wedi pryderon y byddai cyfyngiad ar y nifer o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Arweiniodd penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol at bryderon na fyddai cymdeithasau tai bellach yn medru cael benthyg yr arian sydd ei angen ar gyfer darparu tai newydd.

Ar hyn o bryd ystyrir fod cymdeithasau tai yn perthyn i'r sector breifat a gallant fenthyg cymaint o arian ag y gallant fforddio o fewn rheoliadau arbennig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor cynulliad presennol.

Ty
Thinkstock

'Llywodraeth Cymru yn gorfod dal i fyny gyda'r farn gyhoeddus'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gorfod dal i fyny gyda'r farn gyhoeddus ar leihau ac ailgylchu gwastraff.

Mae'n dweud os yw Llywodraeth Cymru yn methu dod i gytundeb gyda'r Trysorlys, dylai treth plastig un-defnydd gael ei gyflwyno yng Nghymru.

Gweithio gyda llywodraeth y DU a gwenyddiaethau datganoledig eraill ar dreth plastig un-defnydd i'r DU

Mae'r Ceidwadwr David Melding yn croesawu ymrwymiad y gweinidog i weithio gyda llywodraeth y DU a gwenyddiaethau datganoledig eraill ar dreth plastig un-defnydd i'r DU, a'r posibilrwydd o gynllun dychwel blaen-dâl y DU ar gyfer cynhwyswyr diodydd.

Effaith cyfres Blue Planet y BBC

Mae Gareth Bennett UKIP yn cyfeirio at effaith cyfres Blue Planet y BBC ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o ailgylchu a lleihau gwastraff.

Tra'n croesawu gwaith i wella mynediad at ddŵr yfed mewn mannau cyhoeddus ar draws Cymru, mae'n codi pwysigrwydd mynediad i dai bach cyhoeddus.

Mae dros wyth miliwn o dunelli o blastig yn cyrraedd moroedd y byd bob blwyddyn
PA
Mae dros wyth miliwn o dunelli o blastig yn cyrraedd moroedd y byd bob blwyddyn

£15 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol

Mae Hannah Blythyn yn amlinellu ei huchelgais i sicrhau mai Cymru fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y byd.

Er mwyn sicrhau mai Cymru fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y DU, bydd gwaith yn dechrau i drefnu bod dŵr yfed ar gael yn fwy hwylus mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru.

Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ymgyrch i newid ymddygiad er mwyn helpu pobl i weld gwerth dŵr ac i sicrhau mai dŵr tap yw’r dewis cyntaf ar gyfer torri syched.

Mae hi'n cyhoeddi hefyd y bydd £15 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gael i "wella hyd yn oed mwy ar systemau a seilwaith casglu ac ailgylchu'r awdurdodau lleol, gan gynnwys y systemau sydd ganddynt ar gyfer plastigau".

Hannah Blythyn
BBC

Dewisiadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd

Comisiynwyd Eunomia Research & Consulting Ltd (Eunomia) gan Lywodraeth Cymru i nodi dewisiadau, yn unol ag egwyddorion Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR), i fynd i’r afael â nifer o faterion yn ymwneud â mathau allweddol o ddeunydd pacio bwyd a diod.

Bydd y gwaith hwn yn ôl adroddiad Eunomia Research & Consulting Ltd, yn "cyfrannu at y broses o ddatblygu dull gweithredu EPR ehangach yng Nghymru, yn unol â’r diwygiadau i Erthygl 8(a) o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

"Yn unol â hynny, dylai dulliau gweithredu o’r fath geisio adennill yr holl gostau net, ond yn gostwng i 80% mewn rhai amgylchiadau. Byddai symud costau oddi wrth ddinasyddion/trethdalwyr tuag at ddefnyddwyr/cynhyrchwyr yn cyd-fynd yn llwyr â rhaglen Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, sy’n pwysleisio economi gryfach a thecach.

"Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddealltwriaeth fanylach o gwmpas posibl math o EPR sy’n: lleihau gwastraff ac yn cynyddu lefelau ailddefnyddio, atgyweirio, ail-weithgynhyrchu ac ailgylchu, cymaint ag sy’n ymarferol bosibl Mae’r amcan hwn yn uchelgeisiol, ac mae’n cydnabod yr angen i ysgogi gwelliannau".

Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig

Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, sydd nawr yn gwneud datganiad ar Gyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig, yn dilyn ymchwil wnaeth ganolbwyntio ar leihau ac ailgylchu gwastraff ac ar leihau sbwriel a achosir gan chwe math penodol o ddeunyddiau pacio bwyd a diod.

Neil Hamilton yn cytuno gyda 'phob un gair'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud ei fod yn cytuno gyda "phob un gair" o ddatganiad Lesley Griffiths.

Beirniadu Llywodraeth Cymru am 'ildio'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn beirniadu Llywodraeth Cymru am "ildio" dros Fesur Ymadael yr UE, y mae e'n dweud fydd yn caniatáu i San Steffan a llywodraeth y DU i redeg materion rheoli tir ôl-Brexit, ac amddifadu cyfleuoedd ar gyfer arloesedd mewn ffermio yng Nghymru.

Simon Thomas
BBC

Cyllid i ffermwyr ar gyfer y dyfodol

Mae'r aelod Ceidwadol Paul Davies yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd y Cynllun Taliad Sylfaenol yn parhau am y flwyddyn gynllun 2019, ond yn galw ar Lesley Griffiths i "ymuno gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo cyllid i ffermwyr ar gyfer y dyfodol tan 2022".

Paul Davies
BBC

Ail-ddatgan pump o egwyddorion sylfaenol

Mae Lesley Griffiths yn dweud bod Brexit yn rhoi "siawns unwaith mewn cenhedlaeth i ail-gynllunio ein polisïau ni".

Mae'n ail-ddatgan pump o egwyddorion sylfaenol ar gyfer dyfodol ein tir a'r bobl fydd yn ei reoli.

Sef:

  • ·Rhaid inni gadw rheolwyr tir ar y tir;
  • ·Mae cynhyrchu bwyd yn hanfodol i'n cenedl;
  • ·Bydd y cymorth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu nwyddau cyhoeddus fydd yn darparu ar gyfer holl bobl Cymru; a
  • ·Dylai pob rheolwr tir gael y cyfle i elwa o'r cynlluniau newydd hyn.
  • ·Rydym angen sector amaethyddol llewyrchus a chadarn yng Nghymru, ar ba ffurf bynnag fydd Brexit.

Amserlen ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol wedi Brexit

Mae Lesley Griffiths wedi pennu amserlen ar gyfer dyfodol Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru wedi Brexit.Dywedodd wrth ACau y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau fel a gynlluniwyd ar gyfer 2018 ac ar gyfer 2019.

O 2020 meddai, pan fydd pwerau yn dychwelyd o Ewrop, "bydd pontio graddol dros sawl blwyddyn o'r cynlluniau presennol i rai newydd. Erbyn 2025 hoffai Ysgrifennydd y Cabinet i'r broses ddod i ben a bydd yn rhoi amlinelliad o'r manylion pellach ym mis Gorffennaf, fydd yn destun ymgynghoriad".

Rheoli ein tir gwledig yn dilyn Brexit

Dyfodol Rheoli Tir

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Dyfodol Rheoli Tir.

Tir
BBC

'Ymrwymiadau atyniadol llywodraeth y DU yn Lloegr'

Mae David Rowlands UKIP yn nodi "ymrwymiadau atyniadol" llywodraeth y DU yn Lloegr, fel y HS2, ac yn galw am ddadl lawn ar wariant llywodraeth y DU ar isadeileddau rheilffyrdd yng Nghymru.

David Rowlands
BBC

'Trwm ar siarad, ysgafn ar weithredu'

Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn dweud nad yw ymrwymiadau blaenorol wedi cael eu cyflawni, fel tocynnau integredig i wasanaethau bysys a threnau.

Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn "drwm ar siarad, ysgafn ar weithredu".

Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud y "diffyg amlwg" yn y datganiad oedd yr angen i "gysylltu Cymru".

Mae'n tanlinellu'r angen am "gyswllt gorllewinol cenedlaethol", fel bo pobl yn gallu symud o'r gogledd i'r de "heb orfod mynd trwy wlad arall".

Adam Price
BBC
Adam Price

Yr Athro Mark Barry i arwain dadansoddiad

Mae Ken Skates - sy'n gwisgo rhosyn gwyn heddiw i godi ymwybyddiaeth tuag at Ddiwrnod Canser yr Ofari y Byd - yn cyhoeddi ei fod wedi gofyn i'r Athro Mark Barry i arwain ar gynhyrchu "bras raglen strategaeth", un ar ogledd Cymru ac un ar dde Cymru, o fewn dau neu dri mis.

Ken Skates
BBC

Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheiffordd Great Western a'r Gogledd

Prif Linellau Rheilffordd Great Western a'r Gogledd

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru.

Great Western
GWR

Dewrder y menywod sydd wedi tanlinellu'r broblem

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn talu teyrnged i ddewrder y menywod sydd wedi tanlinellu'r broblem o ddioddef poen affwysol ers cael mewnblaniadau rhwyll yn y fagina.

Mae'n mynegi pryder ynghylch un o gasgliadau'r adroddiad, bod rhai unigolion meddygol wedi priodoli symptomau i boen ôl-driniaeth normal.

Yr adroddiad 'ddim yn cyfeirio at bryderon cleifion'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn mynegi pryder nad yw'r adroddiad yn cyfeirio at bryderon sydd wedi eu codi gan gleifion - nifer o'r rheini wedi galw am "wahardd y defnydd o'r rhwyll hwn".

Mae hi hefyd yn poeni y bydd yn rhaid i drigolion yn y gogledd "sydd â chymhlethdodau dyrys deithio i Fanceinion".

Janet Finch-Saunders
BBC

'Cyflwyno argymhellion yr adroddiad yn gyflym'

Mae Vaughan Gething yn dweud ei fod eisiau sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu cyflwyno yn gyflym.

Mae'n ychwanegu ei fod yn rhoi "hyd at £1 miliwn y flwyddyn o gyllid i gefnogi y gwelliannau sydd eu hangen", ac y bydd yna lawer a fydd yn gallu cael ei wneud o fewn adoddau sy'n bodoli'n barod drwy ail-gynllunio a newid o bosib gwasanaethau o ysbytai i gymunedau - i sicrhau bod gwasanaethau iechyd pelfig yn y gymuned yn eu lle ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru."

Mae'n disgwyl i "bob bwrdd iechyd ystyried casgliadau'r adroddiad a'u argymhellion i ystyried pa welliannau lleol ellir eu gwneud yn syth".

'Angen ffyrdd amgen o drin prolaps'

Mae angen defnyddio dulliau amgen o drin cleifion sy'n dioddef o brolaps neu anymataliaeth (incontinence), yn ôl grŵp sydd wedi cael sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae mewnblannu rhwyll yn y fagina (vaginal mesh) yn un o'r triniaethau sy'n cael eu cynnig, ond mae arbenigwyr yn dweud bod angen ystyried ffyrdd eraill o drin wrth i nifer o bryderon gael eu mynegi am y mewnblaniadau.

Cael llawdriniaeth ddylai fod yr opsiwn olaf, medd arbenigwyr.

Mae rhai mewnblaniadau rhwyll wedi achosi cymhlethdodau poenus i gleifion.

Yn ôl adroddiad y grŵp mae angen hybu mesurau a fyddai'n atal problemau fel prolaps.

Nodir hefyd bod angen i gleifion gael mwy o wybodaeth a bod angen gwell proses o gydsynio.

Adolygu'r Defnydd o Rwyllau Synthetig Gweiniol

Nawr datganiad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Y pwnc: Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu'r Defnydd o Rwyllau Synthetig Gweiniol.

Rhwyllau Synthetig Gweiniol
BBC

'Wynebu pryderon am wyngalch'

Mae Caroline Jones UKIP yn galw ar yr ysgrifennydd iechyd i "wynebu pryderon y teuluoedd" bod yr ymchwiliad diweddaraf gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) yn "wyngalch".

Mae hi hefyd yn mynegi pryder ynghylch y "datgysylltu" rhwng yr adroddiad hwn a'r adroddiad blaenorol gan Donna Ockenden.

Caroline Jones
BBC

'Anifeiliaid mewn sŵ'

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn cwestiynu sut y gall "yr adroddiad damniol... rhywsut ddod i'r casgliad nad oedd yna gamdrin sefydliadol", gan wrth-ddweud adroddiad blaenorol gan y swyddog iechyd Donna Ockenden, a oedd yn cynnwys honiad un teulu bod mynd i'r warden fel mynd i ymweld gydag "anifeiliaid mewn sŵ".

Fe wnaeth ei hymchwiliad hi ddisgrifio adroddiadau y cleifion mwyaf bregus, gan gynnwys cleifion oedrannus gyda dementia, yn cael eu gadael i orwedd yn noeth ar y llawr.

Rhun ap Iorwerth a Vaughan Gething
BBC

Pam bod yr adroddiadau ddim yn cyd-daro?

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn gofyn pam nad yw'r adroddiad newydd sy'n dweud nad oedd yna gamdrin sefydliadol yn ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd - yn cyd-daro gyda chasgliadau adroddiad gafodd ei wneud yn gyhoeddus yn 2015, a oedd yn dweud bod methiannau yn gyfystyr gyda "chamdrin sefydliadol".

Mark Isherwood
BBC

Ymddiheuro

Wrth gyfeirio at y methiannau sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn dweud ei fod yn hynod flin ganddo bod hyn wedi digwydd.

"Rydw i'n ymddiheuro am hyn", meddai.

'Dim tystiolaeth o gam-drin sefydliadol'

Fe ddaeth adroddiad cynhwysfawr a hir-ddisgwyliedig i honiadau difrifol o gam-drin cleifion oedrannus ar gyn-ward iechyd meddwl i'r casgliad nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol.

Fe gaeodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn Rhagfyr 2013yn sgil pryderon ynglŷn â'r gofal oedd yn cael ei ddarparu yno.

Mae rhai o berthnasau cyn-gleifion yn dweud bod y casgliadau wedi eu "gwylltio a'u llorio".

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd, Gary Doherty eu bod yn derbyn y canfyddiadau ac yn sefydlu tasglu i weithredu'r argymhellion "ar fyrder".

Daeth ymchwiliad annibynnol yn 2015 i'r casgliad fod camdriniaeth sefydliadol wedi bod yn Nhawel Fan ar ôl clywed adroddiadau fod ymweld â'r ward yn debyg i fod mewn "sŵ".

Ond ar ôl edrych i amgylchiadau 108 o gleifion dementia ers 2007, mae adroddiad dydd Iau gan HASCAS (Health and Social Care Advisory Service) yn dweud bod y dystiolaeth a roddwyd yn flaenorol yn anghyflawn, wedi ei chamddehongli a'i chymryd allan o gyd-destun, yn seiliedig ar wybodaeth gamarweiniol a chamddealltwriaeth.

Daw'r ymchwiliad i'r casgliad bod "y gofal a'r driniaeth gan feddygon a nyrsys ward Tawel Fan o safon dda yn gyffredinol".

Yr ymchwiliad

Cafodd yr ymchwiliad ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Awst 2015 fel rhan o'r broses Gweithio i Wella. Yn wreiddiol, gofynnwyd i'r ymchwiliad ystyried pryderon penodol a godwyd gan 23 o deuluoedd ynglŷn â'r gofal a'r driniaeth a gafodd eu hanwyliaid ar Ward Tawel Fan rhwng 2007 a mis Rhagfyr 2013, pan gafodd y ward ei chau. Gofynnwyd i'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd ymestyn ei ymchwiliad i ystyried archifau 3 phroses cysylltiedig arall i adnabod cleifion eraill nad oedd y gofal a'r driniaeth a dderbyniwyd ganddynt o bosibl yn cyrraedd y safonau derbyniol. Cafodd cyfanswm o 108 o gleifion a staff eu hystyried yn fanwl fel rhan o ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fe gaeodd ward Tawel Fan yn sydyn yn 2013 ac fe allai'r adeilad gael ei ddymchwel fel rhan o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau iechyd meddwl
BBC
Fe gaeodd ward Tawel Fan yn sydyn yn 2013 ac fe allai'r adeilad gael ei ddymchwel fel rhan o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau iechyd meddwl

Datganiad: Tawel Fan

Nawr datganiad cynta'r prynhawn.

Mae'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething ar Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan.

Vaughan Gething
BBC

Dim seiclo yng Nghaerdydd

Wrth ymateb i gwestiwn gan Simon Thomas Plaid Cymru ynghylch sylw wnaeth Carwyn Jones na fyddai'n seiclo yng Nghaerdydd, mae Lesley Griffiths yn dweud bod hynny'n cyfeirio fwy "at ei oedran yn hytrach na nad oedd hynny'n ddiogel".

Seiclo
Getty Images

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Lesley Griffiths sy'n amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau yn hytrach nag Arweinydd y Tŷ Julie James heddiw.

Lesley Griffiths
BBC

Cymharu arweinydd Plaid Cymru gyda Jacob Rees-Mogg

Mae Carwyn Jones yn dweud, ers 1999 mae Llywodraeth y DU wedi gallu deddfu mewn ardaloedd datganoledig, er y byddai'n well ganddo i'r DU ddod i gytundeb cyfansoddiadol.

Mae'n cymharu arweinydd Plaid Cymru gyda Jacob Rees-Mogg, yr AS Ceidwadol ac arweinydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, yn ei defnydd o iaith i feirniadu y cytundeb mesur Brexit.

"Ydych chi o ddifrif?!" gofynna Leanne Wood.

Carwyn Jones
BBC

'Adleisiau o gytundeb amheus'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn canolbwyntio ar y cytundeb ar Fesur yr UE Ymadael rhwng llywodraethau Cymru a'r DU.

Mae Carwyn Jones yn mynnu bod llywodraeth y DU wedi rhoi llawer o dir iddyn nhw.

Ond mae Leanne Wood yn dweud bod criw cyfreithiol y cynulliad wedi "cadarnhau yr adleisiau o gytundeb amheus", gan ddweud eu bod yn dangos bod San Steffan yn gallu "busnesa".

Leanne Wood
BBC

Pobl ifanc yn cael golwg gytbwys o'r byd?

Mae Neil Hamilton yn dweud bod deunyddiau ar gwrs y Bac Cymreig i gyd o safbwynt "canol-chwith".

Mae'r prif weinidog yn ateb, "Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn cael golwg gytbwys o'r byd.

"Mae'n well ganddon ni gydbwysedd, mae e eisiau adolygiadaeth asgell-dde".

'Ffydd yn ein hathrawon'

Mae Neil Hamilton yn cyfeirio at un rhan o'r Bac Cymreig sy'n edrych ar "amrywiaeth ddiwylliannol" a "masnach deg" ymhlith pynciau eraill. Mae'n rhybuddio eu bod yn "bynciau gwleidyddol sydd angen eu dysgu mewn ffordd gytbwys os nad yw addysg yn gostwng i brobaganda".

Mae Carwyn Jones yn dweud bod ganddo "ffydd yn ein hathrawon", ac yn ychwanegu "Dydw i ddim wedi gweld enghreifftiau o gwbl o unrhyw fath o ragfarn yn cael ei gyflwyno i'r cwricwlwm".

Neil Hamilton
BBC