a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  4. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Treth trafodiadau tir ar dir masnachol
  6. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Isafbris am alcohol
  7. Dadl Fer: Tai yn y cymoedd: treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Mai'r pymthegfed.

Y Senedd
BBC

Dadl Fer: Tai yn y cymoedd

Ac yn ola' yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan David Melding.

A'r pwnc: Tai yn y cymoedd: treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi.

Tai yn y Cymoedd
Matt Cardy/Getty Images

ACau yn gwrthod cynnig UKIP ar isafbris alcohol

Mae ACau yn gwrthod cynnig UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fesur Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol).

Gwelliant Llywodraeth Cymru

Ar ran y llywodraeth mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn cynnig:

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

  • Yn nodi Mesur Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.
  • Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.
  • Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
Vaughan Gething
BBC

Rhai ACau 'yn yfed gormod'

Mae'r AC Annibynnol Neil McEvoy, sy'n gwrthwynebu'r isafbris alcohol, yn dweud bod yna ACau sy'n "yfed gormod".

Mae Rhun ap Iorwerth yn torri ar ei draws, gan ddweud nad yw e'n yfed pan ei fod yn y cynulliad.

Neil McEvoy
BBC

Gwelliant Plaid Cymru

Ar ran Plaid Cymru mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig:

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

  • Yn nodi bod angen i fesurau iechyd y cyhoedd gael cefnogaeth y cyhoedd i fod yn llwyddiannus ac, er mwyn cyflawni hyn, bod angen pennu isafbris ar lefel a ategir gan ymchwil cadarn a all ddangos yr effaith y bydd yn ei chael ar iechyd y cyhoedd, ac yn cydnabod yr angen i osgoi cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol ar incwm is.
  • Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch gyfathrebu eang i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sy'n esbonio nodau a diben y ddeddfwriaeth, gan gynnwys camau y gall yfwyr cymedrol eu cymryd i leihau'r effaith ariannol ar eu hunain, er enghraifft drwy leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed yn gyffredinol neu ddewis diodydd gyda chynnwys alcohol is; byddai'r ddau yn arwain at fanteision iechyd.
  • Yn cydnabod manteision isafbris alcohol fesul uned ar gyfer tafarndai.
Alcohol
PA

Gwelliant y Ceidwadwyr

Ar ran y Ceidwadwyr mae Suzy Davies yn cynnig:

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

  • Yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Mesur Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
  • Yn gresynu at yr effaith niweidiol y gall y Mesur ei gael ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y gall arwain at droi at sylweddau anghyfreithlon yn lle alcohol.
  • Yn cefnogi diwygio'r Mesur, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, er mwyn paratoi adroddiad gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy gyfeirio at grŵp oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau cymorth a'r effaith ar fanwerthwyr alcohol.

Dadl ar isafbris am alcohol

Pwnc Dadl UKIP y prynhawn yma yw Isafbris am alcohol.

Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.

2. Yn credu:

a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a

b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fesur Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud bod "y cynnig hwn yn cael ei gyflwyno ar adeg pan bod y mwyafrif llethol o bobl yn yfed yn gymhedrol".

Mae'n ychwanegu bod y cynnig yn "ordd i fethu â chwalu cneuen".

Pe bai'r isaf bris yn 50c yr uned, byddai potel o fodca yn costio o leiaf £20
Llywodraeth Cymru
Pe bai'r isaf bris yn 50c yr uned, byddai potel o fodca yn costio o leiaf £20

Gwelliannau Llywodraeth Cymru

Ar ran Llywodraeth Llafur Cymru mae Mark Drakeford yn cynnig:

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.

b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno.

Mark Drakeford
BBC

'Yr ysgrifennydd cyllid wedi cynhyrchu system well na Lloegr'

Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn dweud "Rydw i yn cefnogi Llywodraeth Cymru ynghylch cyfraddau y dreth trafodiadau tir yn gyffredinol oherwydd bod beth y mae'r ysgrifennydd wedi ei gynhyrchu yn system well ar y cyfan na'r hyn sydd yna dros y ffin yn Lloegr".

Arian
BBC

Angen 'cyflymu'r gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo'

Ar ran Plaid Cymru mae Simon Thomas yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.

Ond mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo".

Mae'r Ceidwadwyr yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru.

Cynnig y Ceidwadwyr

Mae Mark Reckless ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer treth trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol uwch na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr (pump y cant) a'r Alban (4.5 y cant).

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r broses oddeutu £12 miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29 Mawrth 2018, gan felly osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan dri diwrnod a sicrhau bod y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp Llywodraeth y DU.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y sector, i ailystyried y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth trafodiadau tir newydd ar drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael effaith andwyol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.

Mark Reckless
BBC

Dadl: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol

Am yr awr nesaf yn y Siambr dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar Dreth trafodiadau tir ar dir masnachol.

Llywodraeth Cymru yn gwrthod 4 o'r argymhellion

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru sy'n gwrthod pedwar o'r argymhellion, gan gynnwys y dylai'r llywodraeth "roi mwy o gefnogaeth i gyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ymhlith ystod ehangach o bobl ifanc o fanteision prentisiaethau".

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "eisoes yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am y manteision a’r cyfleoedd i bobl ifanc drwy brentisiaethau".

Eluned Morgan
BBC

Ydy prentisiaethau'n gweithio?

'Taclo'r rhagfarnau a'r confensiynau ehangach'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George, yn cyflwyno'r adroddiad sydd â 14 o argymhellion.

Y cyntaf o'r rheini yw:

"Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw'r cymorth i fynd i'r afael â'r rhagfarnau a'r confensiynau ehangach ynghylch rhywedd a gyrfaoedd yn dirywio, er mwyn sicrhau bod y cyfle ehangaf ar gael i bawb".

Russell George
BBC

Dadl: Prentisiaethau yng Nghymru

Nesaf dadl gynta'r prynhawn.

Mae'n ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru.

Prentisiaethau
Getty Images

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

'Pryderon difrifol' am gynigion yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mewn ymateb i gwestiwn Hefin David, mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru "bryderon difrifol" am gynigion yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae Hefin David yn dweud y bydd cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghaerffili, lle mae 225 o staff yn gweithio ar hyn o bryd, yn cael "effaith niweidiol ar ganol y dref".

Mae'n dweud bod y penderfyniad yn "mynd yn groes" i strategaeth Ein Cymoedd Ein Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Hefin David
BBC

Cwestiwn Amserol 2 - Canoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol Trefforest

Mae'r ail Gwestiwn Amserol gan Hefin David i’r Gweinidog Tai ac Adfywio:

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cynnig arfaethedig i ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol Trefforest?

Bydd pump o swyddfeydd llywodraeth Prydain yn cau yn y de ddwyrain - gyda hyd at fil saith gant o staff yn cael eu hail-leoli ar un safle. Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, bydd eu swyddfa newydd yn Nhrefforest ger Pontypridd yn fwy cost-effeithiol. Bydd swyddfeydd Merthyr, Caerffili, Cwmbran, Casnewydd a Gabalfa yng Nghaerdydd yn cau. Ond yn ol Undeb y PCS, bydd dros 600 o bobl yn methu teithio i'r lleoliad newydd.

Llun artist o'r ganolfan newydd
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Llun artist o'r ganolfan newydd

'Newyddion hynod siomedig'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod penderfyniad Virgin Media yn "newyddion hynod siomedig".

Mae'n dweud ei fod wedi gofyn i'w swyddogion i sefydlu "tasglu i sichrau y canlyniad gorau posib i'r gweithwyr sydd wedi eu heffeithio".

Ken Skates
BBC

Y cwmni telegyfathrebu am ganoli eu canolfannau galw ym Manceinion

Mae cwmni Virgin Media yn bwriadu diswyddo 772 o'u staff yng Nghymru wrth iddyn nhw gau eu canolfan alwadau yn Llansamlet, Abertawe.

Fe ddaw'r penderfyniad wrth i'r cwmni telegyfathrebu ganoli eu canolfannau galw ym Manceinion.

Bydd 772 yn cael eu diswyddo yn Llansamlet. Mae 552 o'r swyddi yn rhai parhaol, gyda'r gweddill yn swyddi is-gontractwyr.

Virgin Media, Llansamlet
Google

Cwestiwn Amserol 1 - Penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe

Mae'r Cwestiwn Amserol cyntaf gan Suzy Davies i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi?

Suzy Davies
BBC

Cwestiynau Amserol

Symudwn ni ymlaen nawr at y Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

Adolygiad o dai cymdeithasol

Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans yn dweud bod rhent o fewn y sector tai cymdeithasol yn un o'r materion penodol y mae hi wedi gofyn i'r adolygiad o dai cymdeithasol i edrych arno.

Rebecca Evans
BBC

Rhent yn y sector tai cymdeithasol

Mae Gareth Bennett UKIP yn mynegi pryder bod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru, mewn rhai achosion, yn codi yn gynt na'r rheini yn y sector rhenti preifat.

Gareth Bennett
BBC

Alun Davies yn 'anniddig' gyda honiadau o fwlio o fewn Mind Cymru

Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn gofyn beth sy'n cael ei wneud yn dilyn honiadau o "ddiwylliant gwenwynig o fwlio" o fewn elusen iechyd meddwl.

Mae BBC Cymru wedi clywed nifer o honiadau gan unigolion oedd yn arfer gweithio ym mhencadlys sefydliad Mind Cymru yng Nghaerdydd sy'n honni bod bwlio yn systemig gyda staff yn cael eu "hynysu" a'u tanseilio.

Mae Alun Davies yn dweud ei fod "yn anniddig iawn gyda'r adroddiadau" ond eu bod yn rhywbeth i Mind Cymru eu datrys yn hytrach na'r llywodraeth.

Mark Isherwood
BBC

Tasglu'r Cymoedd yn 'fecanwaith ar gyfer siarad am faterion yn hytrach na chyflawni'

Mae Bethan Sayed Plaid Cymru yn dweud bod yna ddwy flynedd wedi mynd heibio ers sefydlu Tasglu'r Cymoedd, ac yn gofyn am enghraifft o beth sydd wedi newid.

Mae Alun Davies yn cyfeirio at y "saith datblygiad hyb strategol".

Mae Bethan Sayed yn dweud bod y tasglu yn "fecanwaith arall ar gyfer siarad am faterion yn hytrach na chyflawni".

Bethan Sayed
BBC

Beth sy'n ystyrlon?

Mae AC Llafur Aberafan David Rees yn gofyn sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu asesu a gynhaliwyd trafodaethau ystyrlon ar bolisi cyfiawnder gyda Llywdoraeth y DU, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 6 Ebrill 2018?

Mae Alun Davies yn ateb "Rydw i wedi cael rhai trafodaethau".

Cwestiynau i Alun Davies

Nesaf yn y Siambr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.

Alun Davies
BBC

'Sicrwydd' ar agwedd Llywodraeth Cymru tuag at daclo TB buchol

Mae'r Ceidwadwr Paul Davies yn gofyn faint o foch daear sydd â'r diciâu sydd wedi cael eu difa o gefn gwlad Cymru.

Does gan Lesley Griffiths ddim ffigwr wrth law.

Mae Mr Davies yn gofyn am warant na fydd ffermwyr gwartheg "yn cael eu heffeithio'n andwyol ôl-Brexit gan agwedd Llywodraeth Cymru tuag at daclo TB buchol".

"Allai yn bendant roi'r sicrwydd hwnnw," ymateba Lesley Griffiths.

Paul Davies
BBC

Llywodraeth Cymru wedi 'trosglwyddo ei hawliau i amddiffyn yr amgylchedd'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "trosglwyddo ei hawliau i amddiffyn yr amgylchedd" gyda'r cytundeb ynghylch Mesur Ymadael yr UE.

"Michael Gove fydd yn penderfynu pa reoliadau yr UE fydd yn cael eu trosglwyddo neu beidio yn fframwaith y DU", mae'n ychwanegu.

Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd Hannah Blythyn yn dweud ei bod hi'n "anghytuno'n sylfaenol gyda'r haeriad yna" a bod ganddi gyfarfod ddydd Llun gyda llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Simon Thomas
BBC

Gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw?

Mae Neil Hamilton UKIP yn galw ar ysgrifennydd y cabinet i fod â "meddwl agored" ynghylch mater cyflwyno gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw.

Mae Lesley Griffiths yn ateb, "Fe fyddai'n well gen i bod anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos â phosib i ble maen nhw".

Mae'n dweud ei bod hi'n ystyried y mater ynghyd â DEFRA.

Neil Hamilton
BBC

1 o bob 10 o dai ar Ynys Môn yn wag neu'n ail gartrefi

Mae Rhun ap Iorwerth yn tynnu sylw at y ffaith bod un o bob 10 o dai yn ei etholaeth ar Ynys Môn yn wag neu'n ail gartrefi.

Rhaid i'r llywodraeth ddatblygu system gynllunio sydd "wirioneddol yn gwarchod buddiannau ein cymunedau ni ac yn ateb gwir ofyniad tai" meddai.

Rhun ap Iorwerth
BBC

Ystyriaeth i'r farchnad leol wrth ganiatáu datblygiadau tai

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisi cynllunio yn rhoi ystyriaeth i'r farchnad leol wrth ganiatáu datblygiadau tai?

Tai
Getty Images

Croeso nôl i Senedd Fyw

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Lesley Griffiths, cyn ysgrifennydd meddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

Lesley Griffiths,
BBC

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Y Senedd
BBC

Pryderon am yr agenda cydraddoldeb

Mae Sarah Rochira yn dweud "Mae gen i bryderon am yr agenda cydraddoldeb".

Mae grwpiau penodol o bobl hŷn, meddai, a all fod ymhlith y mwyaf difreintiedig a'r rhai mwyaf di-rym. Gall pobl hŷn ag anableddau megis colli’r synhwyrau, pobl sy’n byw gyda dementia, menywod hŷn mewn grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, y rhai sy’n dioddef troseddu a phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, oherwydd effaith gronnol oedran a nodweddion ehangach, i gyd weld eu bod yn cael eu heithrio o’r gwelliannau sy’n cael eu gwneud.

Dementia
BBC
Dementia

'Byrddau iechyd dal yn aros am fersiwn wedi ei ddiweddaru o'r cynghorion diogelwch'

Ym mis Ebrill 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Y bwriad oedd trawsnewid y modd yr oedd gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn gweithredu.

Ond mae Sarah Rochira yn dweud wrth y pwyllgor ei bod hi'n bryderus bod "byrddau iechyd dal yn aros am fersiwn wedi ei ddiweddaru o'r cynghorion diogelwch - y cynghorion sydd y tu ôl i ddyletswyddau'r Ddeddf.

"Mae hyn ddwy flynedd wedi i'r Ddeddf ddod i rym".

Dim cyfnod trosglwyddo gyda'i holynydd

Mae Sarah Rochira yn dweud wrth Julie Morgan ei bod hi wedi gobeithio y byddai yna gyfnod trosglwyddo gyda'i holynydd, ond ei bod yn deall nad dyna fydd yn digwydd.

Ond mae'n ychwanegu y bydd hi'n ceisio sicrhau trosglwyddiad mor llyfn â phosib.

Julie Morgan
BBC