a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Sgôr terfynol: Gleision Caerdydd 31-30 Caerloyw
  2. Ceisiau Tomos Williams, Garyn Smith a Blaine Scully, gôl gosb i Anscombe a 13 pwynt i Jarrod Evans i'r Gleision
  3. Ceisiau i Trinder, Atkinson a Hanson a 15 pwynt o droed Twelvetrees i Gaerloyw
  4. Ffeinal Cwpan Her Ewrop yn Stadiwm San Mames, Bilbao
  5. Y Gleision yn ennill y gystadleuaeth am yr ail waith

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

Llongyfarchiadau i'r Gleision!

Am gêm, am ail hanner, am ddiweddglo, a'r canlyniad perffaith i ddod â chyfnod Danny Wilson wrth y llyw i ben.

Os oeddech chi ddim yn gallu ei dilyn gyda ni heno, mae'r adroddiad i'w gweld yma.

Diolch am ymuno â ni ar ein llif byw, a llongyfarchiadau enfawr i'r Gleision -pencampwyr Cwpan Her Ewrop!

Gleision
Getty Images

A dyma'r gic oedd yn gyfrifol!

Gwych gan Gareth Anscombe i roi'r gic flaenorol allan o'i feddwl a chanolbwyntio ar fod yn gywir gyda'i ail ymdrech!

Anscombe
Getty Images

'Diweddglo perffaith i Wilson'

Cyflwynydd Clwb Rygbi ar Twitter

Twitter

Mae'n rhaid bod y geiriau hanner amser gan Danny Wilson wedi creu argraff ar y chwaraewyr!

25 pwynt yn yr ail hanner i'r Gleision, ac yn ei gêm olaf gyda'r rhanbarth mae'n cipio Cwpan Her Ewrop!

View more on twitter

Y chwiban olaf! Y Gleision wedi ennill!

Diweddglo anhygoel, ac mae'r Gleision wedi ennill!

O fod yn colli o 14 pwynt ar hanner amser, roedd hi'n ail hanner gwych gan y Cymry i ennill o bwynt yn unig!

Llongyfarchiadau i'r Gleision!

Gleision
Getty Images

Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 31-30 Caerloyw

Caerloyw yn troseddu ac mae cyfle arall i Anscombe!

Mae'n gywir y tro yma, ac mae'r Gleision ar y blaen gyda munud yn unig yn weddill!

Cais i'r Gleision! Gleision 28-30 Caerloyw

Blaine Scully sy'n croesi yn y gornel, er gwaethaf yr amddiffynwyr yn rhuthro draw ato.

Ond mae hi'n gic anodd, a gyda Jarrod Evans wedi mynd oddi ar y cae, Gareth Anscombe sy'n cicio, ac nid yw'n llwyddo gyda'r gic allweddol.

Tair munud sy'n weddill...

Cais
BBC

Cerdyn melyn i Gaerloyw: Gleision 23-30 Caerloyw

Y Gleision sy'n pwyso wrth iddyn nhw chwilio am y cais allai ei gwneud hi'n gyfartal gydag ychydig funudau'n weddill, ond mae amddiffyn Caerloyw yn aros yn gadarn.

Ond bydd y tîm o Loegr yn gorffen y gêm gyda 14 dyn, wedi i Lewis Ludlow weld cerdyn melyn.

All y Gleision gymryd mantais?

Caerloyw
Getty Images

Gôl gosb i Gaerloyw: Gleision 23-30 Caerloyw

Sgrym Caerloyw yn arwain at drosedd gan y Gleision, a Billy Twelvetrees yn ychwanegu tri phwynt arall i ymestyn eu mantais yn ôl i saith pwynt.

Cais i Gaerloyw! Gleision 23-27 Caerloyw

Caerloyw yn taro 'nôl yn syth, gyda sgarmes symudol bwerus yn gwthio'r blaenwyr dros y llinell gais, a James Hanson sy'n sgorio.

Twelvetrees yn parhau'n berffaith gyda'i gicio hyd yn hyn.

Hanson
Getty Images

Cais i'r Gleision! Gleision 23-20 Caerloyw

Mae'r Gleision ar y blaen!

Gwaith da gan yr olwyr a chic dda gan Jarrod Evans yn creu lle i Garyn Smith groesi am gais yn y gornel!

Evans yn gywir unwaith eto gyda'r gic, ac mae'r Cymry ar y blaen am y tro cyntaf ers y 10 munud cyntaf.

Smith
Getty Images

Anogaeth gan gyflwynydd Radio Cymru!

Twitter

Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 16-20 Caerloyw

Y Gleision yn parhau gyda'u dechreuad da i'r ail hanner, ac amddiffyn Caerloyw yn ildio dwy gic gosb yn olynol.

Jarrod Evans sy'n cymryd mantais, gan ddod â'r Cymry yn ôl o fewn pedwar pwynt.

Gleision
Getty Images

Cais i'r Gleision! Gleision 13-20 Caerloyw

Am ddechrau i'r ail hanner i'r Gleision - cais o fewn munud!

Dwy gic glyfar gan Gareth Anscombe, a'r mewnwr Tomos Williams yn dangos ei sgiliau pêl-droed i sgorio ger y pyst!

Jarrod Evans yn ei throsi hefyd i ddod â'r Gleision 'nôl o fewn saith pwynt.

Williams
Getty Images

Dechrau'r ail hanner: Gleision 6-20 Caerloyw

Y Gleision allan ar y cae ychydig funudau cyn eu gwrthwynebwyr ar gyfer yr ail hanner.

Byddan nhw'n awyddus i fod ar eu gorau yn yr ail hanner, sy'n dechrau gyda chic o droed Billy Burns.

Siomedig hyd yma i'r Gleision

Gêm olaf y dyn yma fel prif hyfforddwr y Gleision heno - mae hi wedi bod yn siomedig hyd yma, ond gall hi fod yn ddiddorol pe bai'r rhanbarth o Gymru yn cael cais cyntaf yr ail hanner.

Wilson
Getty Images

Hanner amser: Gleision 6-20 Caerloyw

A dyna gyffyrddiad olaf yr hanner cyntaf.

Mae gan y Gleision lawer i'w wneud i ddod yn ôl i'r gêm - felly angen i Danny Wilson eu hysbrydoli yn ystod hanner amser!

Caerloyw
Getty Images

Gôl gosb i Gaerloyw. Gleision 6-20 Caerloyw

Mae'r clwb o Loegr yn ymestyn eu mantais ymhellach, gyda Twelvetrees yn sgorio ei 10fed pwynt o'r hanner cyntaf.

Cais i Gaerloyw! Gleision 6-17 Caerloyw

Gwaith gwych gan olwyr Caerloyw wrth iddyn nhw dorri o'u hanner eu hunain, gyda Callum Braley yn creu lle i Mark Atkinson sgorio o dan y pyst.

Twelvetrees yn llwyddiannus gyda'r trosiad hefyd.

Atkinson
Getty Images

Hanner gwag ta hanner llawn?

Twitter

Mae amcangyfrif bod rhyw 30,000 o gefnogwyr yn y stadiwm heno, ond nid pawb sy'n meddwl bod hynny'n ddigon...

View more on twitter

Anaf arall i'r Gleision

Ail anaf i'r Gleision, a dim ond hanner awr o chwarae sydd wedi bod.

Y tro yma yr asgellwr Owen Lane sy'n gafael yn ei fraich, ac mae Garyn Smith ymlaen yn ei le.

Gôl gosb i Gaerloyw. Caerdydd 6-10 Caerloyw

Billy Twelvetrees yn manteisio yn dilyn trosedd gan y Gleision, ac mae mantais Caerloyw yn ôl i bedwar pwynt.

Am stadiwm!

Cyfle am seibiant i'r chwaraewyr (a'r gohebwyr) gyda chyfres o sgrymiau - mae hi wedi bod yn 20 munud di-stop!

Cyfle i werthfawrogi Stadiwm San Mames felly, sydd tua hanner llawn ar gyfer y gêm heno, ond bydd yn llawn dop ar gyfer ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yfory.

Stadiwm arall sydd â chefnogwyr ynddo ar y funud yw Parc yr Arfau yng Nghaerdydd, gyda dros 2,000 o gefnogwyr yno yn gwylio'r gêm ar sgrin fawr.

San Mames
Getty Images

Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 6-7 Caerloyw

Trosedd gan Gaerloyw yn rhoi cyfle hawdd i Jarrod Evans ddyblu sgôr y Gleision.

Maen nhw 'nôl o fewn pwynt i'w gwrthwynebwyr.

Dim cais! Gleision 3-7 Caerloyw

Mae'r Gleision yn taro 'nôl yn syth, gyda Blaine Scully yn croesi yn y gornel yn dilyn gwaith da gan yr olwyr.

Ond mae'r swyddog fideo yn cael golwg arall arni, ac mae Scully wedi cael ei dynnu oddi ar y maes chwarae cyn iddo roi'r bêl i lawr, a dyw hi ddim yn gais.

Y chwarae o un ochr i'r llall yn gyflym yn y chwarter awr agoriadol!

Scully
Getty Images

Cais i Gaerloyw! Gleision 3-7 Caerloyw

Rhagor o newyddion drwg i'r clwb o'r brifddinas!

Cic wych gan y maswr Billy Burns yn canfod yr asgellwr Henry Trinder, ac mae'n gorffen yn dda yn y gornel.

Billy Twelvetrees yn llwyddiannus gyda chic anodd o'r ystlys hefyd, ac mae'r Gleision ar ei hôl hi.

Cais
BBC

Navidi wedi'i anafu

Mae Josh Navidi, wnaeth serennu dros Gymru yn y Chwe Gwlad eleni, yn edrych fel petai wedi anafu ei ysgwydd.

Newyddion drwg i'r Gleision - dyw ddim yn iawn i barhau, ac mae Olly Robinson yn dod ymlaen yn ei le.

Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 3-0 Caerloyw

Yr wythwr Nick WIlliams yn ennill cic gosb i'r Gleision, yn syth o flaen y pyst.

Jarrod Evans yn llwyddiannus gyda'r gic o 43 metr, ac mae'r Cymry ar y blaen!

Evans
Getty Images

Y gêm wedi dechrau!

Mae'r ddau dîm ar y cae ac yn barod i fynd.

Mae Jerome Garces yn chwythu ei chwiban, a maswr y Gleision Jarrod Evans sy'n cicio tuag at eu gwrthwynebwyr i ddechrau'r gêm.

Y cefnogwyr yn hyderus

Mae'r bwcis yn rhagweld gêm agos heno, gyda'r mwyafrif yn rhoi Caerloyw yn ffefrynnau o ychydig.

Ond mae cefnogwyr y Gleision yn hyderus, fel wnaeth gohebydd Newyddion 9, Dafydd Gwynn, ddarganfod ar daith trwy Bilbao y prynhawn 'ma.

Cefnogwyr y Gleision yn hyderus

Gwrandewch ar sylwebaeth Camp Lawn

BBC Camp Lawn

Mae hi'n bosib gwrando ar sylwebaeth Radio Cymru o'r gêm heno heb fod angen gadael ein llif byw.

Cliciwch ar eicon Gleision Caerdydd v Caerloyw ar dop y llif i wrando'n fyw.

View more on twitter

Tîm Caerloyw

Mae Caerloyw yn ceisio ennill y gystadleuaeth yma am y trydydd tro, yn dilyn eu llwyddiant yn 2006 a 2015.

Maen nhw'n dychwelyd i'w tîm cyntaf arferol, gan wneud 11 newid i'r tîm gollodd i Saracens ddydd Sadwrn.

Un newid sydd i'w tîm o'r rownd gynderfynol, gyda Ruan Ackermann yn dechrau yn lle Ben Morgan fel wythwr.

Ruan Ackermann
Getty Images

Y tîm yn llawn:

Woodward; Marshall, Twelvetrees, Atkinson, Trinder; Burns, Braley; Hohneck, Hanson, Afoa, Slater (c), Galarza, Polledri, Ludlow, Ackermann.

Eilyddion: Matu'u, Rapava Ruskin, Balmain, Clarke, Morgan, Vellacott, Symons, Hudson.

Y Cymry'n mwynhau Bilbao

Dafydd Pritchard

Chwaraeon BBC Cymru yn Bilbao

Mae Bilbao yn ddinas ddiwylliannol dros ben, llawn amgueddfeydd ac orielau megis yr Amgueddfa Guggenheim.

Ac mae'n ymddangos bod chwaraewyr Gleision Caerdydd yn hoff o'r lle - roedd ambell un ohonyn nhw i'w gweld yn cerdded o gwmpas yr oriel yn gynharach.

Mae Bilbao hefyd yn enwog am fwyd, yn enwedig pintxos, sef darnau bychain o fwyd ar fara, tebyg i tapas, ond mae'n debyg bod chwaraewyr y Gleision yn rhy broffesiynol i drio'r bwyd - a'r gwin - lleol heddiw.

Guggenheim
BBC
Bilbao
BBC

Tîm y Gleision

Y blaenasgellwr Ellis Jenkins fydd capten y Gleision heno yn absenoldeb Gethin Jenkins.

Mae mwyafrif y tîm drechodd Pau yn y rownd gynderfynol wedi eu henwi, ond mae'r capten arferol yn colli allan drwy anaf.

Rhys Gill a Blaine Scully sy'n cymryd lle Jenkins ac Alex Cuthbert, tra bod y prop Taufa'ao Filise yn dechrau ei 255fed gêm, a'i olaf i'r rhanbarth.

Mae Jarrod Evans yn cadw crys y maswr, gyda Gareth Anscombe yn aros fel cefnwr.

Ellis Jenkins
Getty Images

Y tîm yn llawn:

Anscombe; Lane, Lee-Lo, Halaholo, Scully; Evans, Williams; Gill, Dacey, Filise, Davies, Turnbull, Navidi, Jenkins (c), Williams.

Eilyddion: Myhill, Thyer, Andrews, Welch, Robinson, Williams, Smith, Morgan.

'Y perfformiad yma i Wilson'

Twitter

Gêm heno fydd un olaf y prif hyfforddwr Danny Wilson a'r hyfforddwr ymosod Matt Sherratt gyda'r rhanbarth.

Bydd Wilson yn ymuno â Wasps fel is-hyfforddwr, tra bo Sherratt yn ymuno â chlwb arall yng Nghymru, y Gweilch.

Yn y gynhadledd i'r wasg cyn y gêm dywedodd blaenwr y Gleision, Josh Turnbull, y bydd y chwaraewyr yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod eu gêm olaf yn un i'w gofio.

View more on twitter

'Y Gleision yn ffefrynnau'

Gareth Charles

Gohebydd Rygbi BBC Cymru

Y prynhawn 'ma bu gohebwyr BBC Cymru, Cennydd Davies a Gareth Charles y tu allan i Stadiwm San Mames yn trafod gobeithion y Gleision.

Awgrym Gareth Charles yw, er bod Caerloyw yn gallu bod yn dda ar eu gorau, mai'r clwb o'r brifddinas yw'r ffefrynnau.

"Y Gleision yn ffefrynnau", medd Gareth Charles

Noson enfawr i'r Gleision

Croeso i'n llif byw arbennig wrth i'r Gleision geisio cipio Cwpan Her Ewrop am yr ail waith yn eu hanes.

Caerloyw, orffennodd yn seithfed yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma, yw'r gwrthwynebwyr yn Bilbao heno.

Stadiwm pêl-droed yw'r San Mames fel arfer, ond cefnogwyr rygbi fydd yn heidio yno y penwythnos yma ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Her a Chwpan Pencampwyr Ewrop.

Arhoswch gyda ni am yr holl gyffro!

San Mames
Getty Images