a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adnewyddu Trefol
  5. Dadl Plaid Cymru - Sefydlu cwmni ynni cyhoeddus
  6. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cyllid Prifysgolion
  7. Dadl Fer: Cymru sofran: adeiladu'r wlad falch, sofran ac unedig y gall Cymru fod ac y dylai fod.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl fawr

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Mehefin 12.

Y Senedd
BBC

'Does neb yn mynd i newid Cymru i ni'

Mae Neil McEvoy yn dweud "does neb yn mynd i newid Cymru i ni, mae'n rhaid i ni wneud hynny ein hunain".

Mae'n dweud, "mae'n rhaid i ni droi democratiaeth ar ei phen, er mwyn gwrando ar bobl ar lawr gwlad".

Neil McEvoy
BBC

Dadl Fer: Cymru sofran

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Neil McEvoy.

A'r pwnc: Cymru sofran: adeiladu'r wlad falch, sofran ac unedig y gall Cymru fod ac y dylai fod.

Baner Cymru
BBC

Cynnig Plaid Cymru yn cael ei drechu.

Mewn pleidlais ar ddadl Plaid Cymru mae ACau yn gwrthod yr alwad i sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd.

Roedd 10 o blaid, dau yn ymatal, a 40 yn erbyn.

pleidlais
BBC

Pecyn newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19

Ar ran y llywodraeth mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn amlinellu pecyn newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu, meddai:

a) y bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol – y cymorth mwyaf hael yn y DU;

b) y gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; ac

c) mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol i israddedigion amser llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.

Kirsty Williams
BBC

'Angen annog myfyrwyr i aros yng Nghymru i astudio neu ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio'

Ar ran Plaid Cymru mae Llyr Gruffydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion adolygiad Diamond ar gyfer Llywodraeth Cymru i annog myfyrwyr i aros yng Nghymru i astudio neu ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.

Llyr Gruffydd
BBC

Cymru yn 'profi draen dawn'

Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud bod Cymru "yn profi draen dawn, gyda mwy o raddedigion prifysgol yn gadael Cymru nag yn ymgartrefu yn y wlad".

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu mwy o gymhellion i raddedigion prifysgol ymgartrefu yng Nghymru unwaith y byddant wedi gorffen eu graddau;

b) annog mwy o ymgysylltu rhwng sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i hyrwyddo cadw talent; ac

c) hyrwyddo argaeledd mwy o raglenni prentisiaethau lefel 6+ yng Nghymru.

Darren Millar
BBC

Myfyrwyr chweched dosbarth yn derbyn 'ffigyrau sydd ddim yn gyfredol am enillion uwch i raddedigion'

Mae Michelle Brown UKIP yn dweud bod nifer o fyfyrwyr chweched dosbarth yng Nghymru yn "derbyn ffigyrau sydd ddim yn gyfredol am enillion uwch i raddedigion, er mwyn eu denu i gyrsiau gradd".

Michelle Brown
BBC

Dadl: Cyllid Prifysgolion

Pwnc dadl UKIP y prynhawn yma yw Cyllid Prifysgolion.

Maen nhw cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o gyllid prifysgolion a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2018.

2. Yn nodi'r adroddiadau gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu: 'Over-qualification and skills mismatch in the graduate labour market' a 'The graduate employment gap: expectations versus reality'.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyllid myfyrwyr yn y dyfodol;

b) diddymu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr STEM, meddygol a nyrsio; ac

c) ehangu cwmpas Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i adolygu cyrsiau gradd ar gyfer enillion disgwyliedig, a chyhoeddi'r adolygiadau hyn i bob darpar fyfyriwr.

Addysg Uwch
PA

'Ni ddylid mynd ar drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru gyfan'

Ar ran Llywodraeth Cymru mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn nodi bod "y gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid wedi dangos na ddylem fynd ar drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru gyfan, ond y dylem yn hytrach barhau i archwilio dulliau eraill o sicrhau manteision i Gymru yn unol â’r blaenoriaethau a’r targedau sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru".

Mae hefyd yn dweud bod angen "cydnabod cyfraniad rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis Cartrefi Cynnes, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o ran creu busnesau ynni dan berchnogaeth leol fel rhan o’r broses o droi at economi carbon isel".

Hannah Blythyn
BBC

'Rydyn ni'n blaid sy'n meddwl allan o'r bocs'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud ei fod e "yn bersonol yn cefnogi cynnig Plaid Cymru", ac fe fydd aelodau UKIP yn cael pleidlais rydd.

"Rydyn ni yn blaid sy'n meddwl allan o'r bocs ac yn rhydd ein barn" meddai, i sŵn chwerthin yn y Siambr.

Bocs
BBC

'Mwy o brisiau cystadleuol heb ymyrraeth llywodraeth'

Mae David Melding yn esbonio nad yw'r Ceidwadwyr yn cefnogi'r alwad am gwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd.

Mae'n dweud bod modd cyflawni "mwy o brisiau cystadleuol heb ymyrraeth llawdrwm gan y llywodraeth neu wladoli".

'Preifateiddio wedi bod yn drychineb llwyr'

Mae AC Llafur Pontypridd, Mick Antoniw, yn dweud "rydyn ni ar lwybr lle y byddwn ni yn anochel yn diweddu gydag ynni cymunedol a gwladoli perchnogaeth ynni a gwasanaethau cyhoeddus eraill".

Mae'n dweud bod preifateiddio wedi bod yn "drychineb llwyr".

Mick Antoniw
BBC

'Dwyn manteision amgylcheddol ac economaidd enfawr i bobl Cymru'

Mae Simon Thomas yn dweud bod gan Gymru y potensial i ddod yn hunangynhaliol mewn trydan o ffynonellau adnewyddol a bwrw ymlaen i arwain y byd gyda thechnoleg ynni’r llanw.

Mae'n credu y byddai rheoli ein hadnoddau naturiol ein hunain yn "dwyn manteision amgylcheddol ac economaidd enfawr i bobl Cymru".

Mae'n dweud "nad yw prosiect Morlun Llanw Bae Abertawe yn ormodol o ddrud".

Morlun Llanw Bae Abertawe
TLP
Morlun Llanw Bae Abertawe

Dadl: Sefydlu cwmni ynni cyhoeddus

Nesaf yn y Siambr, dadl gan Blaid Cymru ar sefydlu cwmni ynni cyhoeddus.

Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig hirsefydlog Plaid Cymru am sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd, Ynni Cymru.

2. Yn nodi ymrwymiad maniffesto Plaid Lafur Cymru 2017 i gefnogi "creu cwmnïau a chydweithfeydd ynni cyhoeddus, sy’n atebol yn lleol i gystadlu yn erbyn cyflenwyr ynni preifat presennol, gydag un o leiaf ym mhob rhanbarth".

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd.

Ynni
Getty Images

'Cefnogi twf cynhwysfawr a chreu cymunedau cydnerth'

Ar ran y llywodraeth mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans dweud eu bod yn credu bod "cefnogi twf cynhwysol a chreu cymunedau cydnerth y mae’n bosib byw ynddynt yn galw am ddull ar y cyd o fynd i’r afael ag ymyriadau allweddol, gan gynnwys datblygu economaidd, buddsoddiadau adfywio, trafnidiaeth, datblygu seilwaith, cynllunio a sgiliau".

Mae hi hefyd yn nodi bod "Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar Llywodraeth Cymru, Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Cynllun Gweithredu Tasglu’r Cymoedd ac ymgynghoriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn sail ar gyfer dull trawslywodraethol gwirioneddol i gefnogi twf cynhwysfawr a chreu cymunedau cydnerth, y mae’n bosibl byw ynddynt".

Rebecca Evans
BBC

'Fel cerddwr rydw i'n gwrthwynebu cael fy rhoi mewn peryg gan seiclwyr'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud ei fod yn cerdded am 50 munud i'r gwaith bob dydd, ar hyd llwybr sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel llwybr seiclo.

"Fel cerddwr rydw i'n gwrthwynebu cael fy rhoi mewn peryg gan seiclwyr sy'n mynd yn rhy gyflwym heb ddefnyddio clychau.

"Dydw i ddim eisiau rhannu llwybrau troed gyda seiclwyr".

Gareth Bennett
BBC

Galwad am Ddeddf aer glân

Ar ran Plaid Cymru mae Simon Thomas yn galw ar Lywodraeth Cymru "i gyflwyno Deddf aer glân i fynd i’r afael â lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer yn ninasoedd Cymru".

Simon Thomas
BBC

'Dinasoedd Byw'

Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • Yn nodi pwysigrwydd ardaloedd trefol yng Nghymru fel peiriannau o dwf economaidd, dysgu a chreadigrwydd.

  • Yn croesawu papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n ceisio adeiladu dinasoedd ac ardaloedd trefol sy'n gynhwysol yn gymdeithasol, yn gynaliadwy'n amgylcheddol, ac wedi’u seilio ar yr egwyddor o sicrhau iechyd a llesiant dinasyddion.
David Melding
BBC
David Melding

Dadl: Adnewyddu Trefol

Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

Mae'n ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar Adnewyddu Trefol.

Yn wahanol i'w datganiad nhw i'r wasg y bore 'ma, mae eu cynnig nhw yn eu gwneud yn eglur eu bod yn credu bod gofyn am strategaeth genedlaethol uchelgeisiol ar gyfer adfywio trefol yng Nghymru a fyddai'n helpu i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, nid yr 20fed ganrif.

View more on twitter

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Dim Cwestiynau Amserol

Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol heddiw.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

'Sylfaen gadarn ar gyfer ein perthynas waith yn y dyfodol'

Mae Bethan Sayed yn gofyn pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar unrhyw ymgyfreitha yn y dyfodol sy'n deillio o wrthdaro ynghylch awdurdodaeth, o ganlyniad i Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Mae Jeremy Miles yn ateb bod y "cytundeb rhyng-lywodraethol ar y mesur yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer ein perthynas waith yn y dyfodol".

Bethan Sayed a Jeremy Miles
BBC

Y cyfrifiadur yn ffafrio Dawn Bowden

Mae'n ymddangos bod heddiw'n ddiwrnod lwcus i Dawn Bowden, gan mai hi sydd eto yn cyflwyno'r cwestiwn cyntaf, y tro hwn i'r Cwnsler Cyffredinol.

Mae'n gofyn pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i annog bargeinio cyflog mewn gweithleoedd yng Nghymru?

Y drefn yn y Senedd o ran holi cwestiynau yw bod y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau.

Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

Nesaf yn y Siambr cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Jeremy Miles
BBC

Marwolaethau ar feiciau modur ar y ffyrdd yn y gogledd

Mae Ken Skates yn cydymdeimlo gyda theuluoedd y rheini sydd wedi marw ar feiciau modur ar y ffyrdd yn y gogledd yn yr wythnosau diwethaf.

'Y car sydd yn anniogel'

Mae Simon Thomas yn dweud bod cyfaddefiad y Prif Weinidog Carwyn Jones na fyddai'n seiclo yng Nghaerdydd yn anffodus gan ei fod yn ychwanegu at y chwedl bod seiclo yn anniogel.

"Y car sydd yn anniogel," medd Mr Thomas.

Strategaeth sydd 'yma heddiw, wedi mynd yfory'

"Safbwynt yr Unol Daleithiau yw: strategaeth sydd yma heddiw, wedi mynd yfory," medd Ken Skates.

'Nwy siâl wedi dod â chyfoeth anferth i'r Unol Daleithiau'

Mae nwy siâl wedi dod â chyfoeth anferth i'r Unol Daleithiau, medd David Rowlands, gan ychwanegu bod peryglon cloddio wedi cael eu gorliwio.

Mae'n rhestru nifer o fuddiannau canfyddedig o ffracio.

"Meddylia am yfory David," medd AC Llanelli Lee Waters.

Nwy siâl
BBC

Byddai Cymru'n 'elwa'n fawr o'r diwydiant nwy siâl'

Mae David Rowlands UKIP yn dweud y byddai Cymru'n elwa'n fawr o'r diwydiant nwy siâl.

Mae Ken Skates yn dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn newid ei safbwynt ar nwy siâl.

David Rowlands
BBC

10,000 o bwyntiau gwefru trydan erbyn 2030

Mae'r Ceidwadwr Russell George yn canmol cynigion papur gwyn y Ceidwadwyr Cymreig "Dinasoedd Byw", fel strategaeth i gyflawni 10,000 o bwyntiau gwefru trydan erbyn 2030 ac i greu canolfan ragoriaeth ac ymchwil mewn storio ynni a thrafnidiaeth yn Abertawe.

Mae Ken Skates yn ateb y byddai'n hapus i gwrdd i drafod y cynigion.

Russell George
BBC

'Mynediad i'r farchnad sengl'

Mae Ken Skates yn ateb, "Rydyn ni eisiau gweld mynediad i'r farchnad sengl yn parhau ac yn dymuno bod yn aelod o'r undeb tollau".

Aelodaeth o farchnad sengl yr UE

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud y byddai "buddiannau economi Cymru yn cael eu gwasanaethu'n well drwy aelodaeth o farchnad sengl yr UE".

Mae'n codi y posibilrwydd o ASau Llafur yn ymatal yn y bleidlais ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn y Mesur Brexit, gan gyhuddo Jeremy Corbyn o "wleidyddiaeth ffantasi".

Mae e hefyd yn dweud bod yr UE wedi rhybuddio cwmnïau rhag defnyddio cydrannau ceir o'r DU, ac yn mynegi pryder ynghylch y diwydiant yng Nghymru.

Rhun ap Iorwerth
BBC

Llongyfarch trefnwyr Gŵyl Terfysg Merthyr

Mae Ken Skates yn ymuno gyda Dawn Bowden yn llongyfarch trefnwyr Gŵyl Terfysg Merthyr yn ddiweddar.

Ken Skates
BBC

Cyllid ar gyfer gwyliau a digwyddiadau yng Nghymru

Mae cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Dawn Bowden.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyliau a digwyddiadau yng Nghymru?

Dawn Bowden
BBC

Croeso nôl i Senedd Fyw

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Y Senedd
BBC

'Fe ddylai ddod â chyfleoedd i bobl sydd â thalent sy'n dewis byw yng Nghymru'

Mae Equity yn dadlau "os yw cynhyrchiad i'w ffilmio yma yng Nghymru, fe ddylai ddod â chyfleoedd i bobl sydd â thalent sy'n dewis byw yng Nghymru, yn arbennig pan fo cynyrchiadau yn cael cyllid neu fenthyciadau gan Lywodraeth Cymru".

Mae Simon Curtis yn dweud y dylai cwmnïau, yn unol â thelerau'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, nid dim ond gwario cyfran o'u cyllideb cynhyrchu yma, ond hefyd drwy gyfarwyddwyr castio a chynhyrchwyr sy'n gweithio yng Nghymru, ymchwilio'n llawn i'r doniau sydd yma yng Nghymru.

Cyflwr cynhyrchu ffilm yn 'hynod iachus'

Mewn ymateb i Bethan Sayed, mae Simon Curtis yn disgrifio cyflwr cynhyrchu ffilm yng Nghymru a Phrydain fel un "hynod iachus".

Mae bron i 1,600 o aelodau Equity yn byw yng Nghymru, a mae Equity yn credu bod traean o'r rheini yn siaradwyr Cymraeg.

Tystiolaeth Equity

Mae'r aelodau nawr yn clywed gan Simon Curtis, Trefnydd Cenedlaethol a Rhanbarthol, Cymru a De Orllewin Lloegr, Equity.

Simon Curtis
BBC