a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr
  6. Dadl Plaid Cymru - Ariannu ysgolion
  7. Dadl Fer: Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl fawr

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Mehefin 19.

View more on twitter

Dadl Fer: Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw, Dadl Fer gan Sian Gwenllian.

Y pwnc: Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad.

Mae'n awgrymu y byddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan.

View more on twitter

ACau yn gwrthod cynnig i benodi Neil Hamilton yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad

Mae ACau yn gwrthod cynnig bod y Cynulliad yn penodi Neil Hamilton UKIP yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Caroline Jones UKIP wnaeth ei ddisodli fel arweinydd y blaid yn y Cynulliad ym mis Mai.

Roedd UKIP wedi enwebu Neil Hamilton i gynrychioli'r blaid ar y corff sy'n goruchwylio'r cynulliad.

Ond fe bleidleisiodd 17 ACau o blaid, 3 yn ymatal a 31 yn erbyn.

Petai Mr Hamilton wedi bod yn llwyddiannus i fod yn un o gomisiynwyr y cynulliad byddai wedi elwa o £13.578 yn ychwanegol ar ben ei gyflog sylfaenol o £66,847 fel AC mainc gefn, gan ddod â chyfanswm ei gyflog i £80,425.

Roedd e wedi bod yn ennill £85,00 fel arweinydd UKIP.

Y pleidleisiau
BBC

'Y llywodraeth yn darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau babanod'

Ar ran y llywodraeth mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn dweud bod angen nodi "bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i gefnogi ysgolion a chodi safonau:

a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau babanod;

b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau ysgolion;

c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;

d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a

e) buddsoddi mwy na £90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru".

Kirsty Williams
BBC

'Symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir i awdurdodau lleol'

Ar ran UKIP mae Michelle Brown yn galw ar Lywodraeth Cymru "i ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried:

a) y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu; a

b) y ffyrdd y gellir symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir i awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion er mwyn lleihau biwrocratiaeth a defnyddio'r gyllideb addysgol gyffredinol yn fwy effeithiol".

Michelle Brown
BBC

'£1.20 o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Reckless yn dweud bod "y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20 o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr".

Mark Reckless
BBC

Ystyried modelau amgen ar gyfer ysgolion

Mae Llyr Gruffydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu amgen ar gyfer ysgolion;

b) sicrhau bod prosesau mor dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses o ariannu ysgolion; ac

c) sicrhau bod pob ysgol yn cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.

Llyr Gruffydd
BBC

'Argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru'

Am yr awr nesaf yn y Siambr Dadl gan Blaid Cymru ar Ariannu Ysgolion.

Mae'r blaid yn cynnig bod y Cynulliad yn cydnabod "yr argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru", ac yn nodi "ei effaith ar lwythi gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn cael effaith andwyol ar addysg plant".

Addysg
BBC

Dadl ar Ariannu ysgolion sydd nesaf

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, yn dweud bod angen "cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol".

Mae hefyd yn dweud bod angen "croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru".

Huw Irranca-Davies
BBC

'Mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi'

Ar ran UKIP mae Caroline Jones yn tanlinellu "bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall".

Caroline Jones
BBC

'Gosod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori gofalwyr ifanc'

Ar ran Plaid Cymru mae Bethan Sayed yn galw ar Lywodraeth Cymru "i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei gynnydd yn rheolaidd, ac i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth am bris gostyngol"

Mae'r blaid hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc".

Bethan Sayed
BBC

Torri: Leanne Wood i gamu lawr fel arweinydd Plaid Cymru os nad hi fydd yn Brif Weinidog wedi etholiad 2021

Faint o anghenion gofalwyr sydd wedi cael eu hasesu?

Ar ran y Ceidwadwyr mae Suzy Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru "i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser llawn a chyfleoedd hyfforddi".

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion hynny a asewyd sydd wedi'u diwallu".

Ac yn olaf mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt".

Suzy Davies
BBC

'Hanner y bobl yng Nghymru sy'n gofalu am aelod o'r teulu wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith'

Mae bron i hanner y bobl sy'n gofalu am aelod o'r teulu yng Nghymru wedi gorfod gadael eu swyddi, yn ôl ymchwil gan Carers Wales.

Yn ôl yr elusen fe wnaeth 47% o ofalwyr gafodd eu holi stopio gweithio yn gyfan gwbl y llynedd.

Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu fod 70% o'r rhai a gafodd eu holi yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, a 60% yn dweud bod eu hiechyd corfforol wedi gwaethygu'n sylweddol.

Mae'r elusen yn lansio cynllun newydd - sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru - sy'n rhoi cyngor i gyflogwyr sut y gallen nhw helpu'r 181,135 o bobl yng Nghymru sy'n gweithio a gofalu am aelodau o'r teulu.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Pwnc dadl y Ceidwadwyr heddiw yw gofalwyr.

Mehefin 11 - 17 yw Wythnos Gofalwyr 2018.

Gofalwyr
BBC

Llywodraeth Cymru yn gwrthod chwech o'r argymhellion

Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn cyflwyno ymateb y llywodraeth sydd yn gwrthod chwech o'r argymhellion, yn cynnwys hwn:

"ailsefydlu angen blaenoriaethol awtomatig am lety i’r rhai sy’n gadael y carchar".

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn "aros am ganlyniad yr asesiad annibynnol cyn ystyried unrhyw newid i’r dull gweithredu angen blaenoriaethol. Bydd ond yn bosibl gwneud penderfyniad pan fydd y goblygiadau llawn yn hysbys ac y gellir osgoi canlyniadau anfwriadol".

Rebecca Evans
BBC

'Dydw i ddim yn credu y dylai'r model presennol o angen blaenoriaethu newid'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud na wnaeth hi gefnogi nifer o argymhellion yr adroddiad am "nad oedd hi'n meddwl na ddylai y model presennol o angen blaenoriaethu o dan Ddeddf Tai 2014 newid".

'Dylai pobl sy’n cysgu ar y stryd gael blaenoriaeth am lety'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor John Griffiths yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 29 o argymhellion.

Y cyntaf o'r rheini yw bod Llywodraeth Cymru:

 cryfhau’r Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd ar unwaith i nodi disgwyliad clir y dylid pennu pobl sy’n cysgu ar y stryd fel pobl sydd ag angen blaenoriaethol am lety o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

 cyflwyno gorchymyn o dan adran 72 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i fanylu bod gan bobl sy’n cysgu ar y stryd angen blaenoriaethol am lety fel cam cyntaf mewn dull fesul cam i ddiddymu angen blaenoriaethol yn llwyr, a

 gweithio gydag awdurdodau lleol a’r sector digartrefedd i ddatblygu proses gadarn briodol a digonol i ddilysu pobl sy’n cysgu ar y stryd at ddibenion asesu angen blaenoriaethol am lety.

Wnaeth yr aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders ddim cefnogi'r argymhelliad uchod.

John Griffiths
BBC

'Rydw i wedi dangos gonestrwydd yn y ddwy flynedd ers dod yma'

Mae Neil Hamilton yn dweud roedd ei wrthwynebiad - ynghylch pryder y byddai ACau yn cael eu plismona yn eu bywyd preifat - yn cyfeirio at achos Michelle Brown.

"Os yw'r cynulliad yn cymeradwyo fy mhenodiad y prynhawn yma fe fyddai'n perfformio cyfrifoldebau comisiynydd i'r gorau o fy ngallu gyda proffesiynoldeb a gonestrwydd, y rydw i'n credu yr ydw i wedi eu dangos yn y ddwy flynedd yr ydw i wedi bod yma," meddai.

Wedi ymatal ar bleidlais ar daclo ymddygiad amhriodol

Mae'r aelod annibynnol Mandy Jones yn gwrthwynebu y cynnig "am nifer o resymau", ond yn arbennig oherwydd bod Neil Hamilton wedi ymatal ar bleidlais ynghylch taclo ymddygiad amhriodol yn y Senedd - y polisi Urddas a Pharch newydd.

"Dydw i ddim yn gweld sut y gall ei safbwynt e fod yn gydnaws gyda rôl comisiynydd y cynulliad", meddai.

Mandy Jones
BBC

Cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad

Nesaf, cynnig bod y Cynulliad yn penodi Neil Hamilton UKIP fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Caroline Jones UKIP wnaeth ei ddisodli fel arweinydd y blaid yn y Cynulliad ym mis Mai.

Mae’n ofynnol i’r Cynulliad, yn ôl y gyfraith, benodi Comisiynwyr y Cynulliad, sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen i’r Cynulliad gyflawni ei waith yn effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Caiff y Comisiwn ei gadeirio gan y Llywydd, ac mae’n cynnwys pedwar Aelod Cynulliad sydd wedi cael eu hethol gan y Cynulliad.

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Gofyn am adolygiad o effaith plismona yng Nghymru yn ystod streic y glowyr

Wrth ymateb i Mick Antoniw mae Alun Davies yn dweud y bydd yn siarad gyda'i gyfatebwr yn Llywodraeth yr Alban yr wythnos hon ac y bydd yn ysgrifennu eto at lywodraeth y DU i ofyn am adolygiad o effaith plismona yng Nghymru yn ystod streic y glowyr.

Mae'n dweud bod sawl cais gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth y DU wedi cael eu gwrthod.

Mick Antoniw
BBC

Tua 10,00 o streicwyr - gan gynnwys nifer o lowyr o Gymru - a 5,000 o heddlu mewn gwrthdaro

Mae Mick Antoniw yn cyfeirio'n arbennig at yr hyn elwir yn Frwydr Orgreave, ac yn dweud ei fod "yr agosa mae'r wlad hon wedi dod i fod yn wladwriaeth heddlu".

Roedd tua 10,00 o streicwyr - gan gynnwys nifer o lowyr o Gymru - a 5,000 o heddlu mewn gwrthdaro a chafodd nifer o lowyr eu harestio, er y cafodd y cyhuddiadau eu gollwng yn ddiweddarach.

Yn 2015 fe ddyfarnodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn erbyn cynnal ymchwiliad. Flwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref wrthod galwadau am ymchwiliad statudol nac adolygiad annibynnol i Orgreave.

View more on twitter

Adolygiad Llywodraeth yr Alban ar effaith plismona adeg streic y glowyr

Mae yna un Cwestiwn Amserol.

Mae Mick Antoniw (Pontypridd) yn gofyn:

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyn-lowyr a'u teuluoedd a chymunedau yng Nghymru sy'n deillio o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymchwiliad annibynnol ar effaith plismona yn ystod streic y glowyr?

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynnal ymchwiliad i "Frwydr Orgreave", lle bu gwrthdaro mewn golosgfa yn Ne Swydd Efrog yn 1984 - rhywbeth y mae Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban Michael Matheson wedi dweud wrth aelodau senedd yr Alban oedd yn "benderfyniad anghywir" ac a wnaeth ei berswadio fe nad "agwedd gwneud dim" oedd y ffordd ymlaen.

Fe fydd yr adolygiad yn yr Alban yn ymwneud ag astudiaeth o ffeiliau sydd wedi eu cadw yng Nghofnodion Cenedlaethol yr Alban a'r Archifau Cenedlaethol yn Llundain, yn ogystal â chasglu tystiolaeth gan y rheini oedd ynghlwm â'r digwyddiad.

Cafwyd gwrthdaro rhwng miloedd o lowyr a thua 6,000 o swyddogion yr heddlu yng ngolosgfa Orgreave ger Rotherham ym mis Mehefin 1984
PA
Cafwyd gwrthdaro rhwng miloedd o lowyr a thua 6,000 o swyddogion yr heddlu yng ngolosgfa Orgreave ger Rotherham ym mis Mehefin 1984

Cwestiynau Amserol

Symudwn ni ymlaen nawr at y Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

Pleidlais Drosglwyddadwy Sengl yn 'fwy democrataidd'

Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud y byddai newid yn y system bleidleisio ar gyfer llywodraeth leol, i ddull cyfrannol, sy'n cael ei alw y Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl, yn "fwy democrataidd".

Mae Alun Davies yn ymateb, " mae fy nghefnogaeth i gynrychiolaeth gyfrannol yn hynod wybyddus".

Ym mis Ionawr fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig pleidleisiau i bobl ifanc 16 - 17 oed mewn etholiadau cyngor fel rhan o becyn o ddiwygio llywodraeth leol.

Gareth Bennett
BBC

'Cynigion cythryblus a thrychinebus'

Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud bod cynghorau ar draws Cymru yn gwrthwynebu y diwygiadau i lywodraeth leol, ac yn galw ar ysgrifennydd y cabinet i ail feddwl y "cynigion cythryblus a thrychinebus".

Mae Alun Davies yn ei chyhuddo hi o "ddefnyddio llymder fel petai yr anrheg gorau y mae llywodraeth leol wedi ei dderbyn".

Janet Finch-Saunders
BBC

Faint fydd hi'n gostio i gwtogi nifer yr awdurdodau lleol?

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn gofyn faint fydd hi'n gostio i haneru nifer yr awdurdodau lleol.

Mae Alun Davies yn ymateb, " fe fydd y gost yn adlewyrchu y math o fframwaith y byddwn ni'n ei benderfynu arno".

Daeth ymgynghoriad i ben ddoe ar gynnig Llywodraeth Cymru i gwtogi nifer y cynghorau o 22 i 10.

Sian Gwenllian
BBC

'Cynnydd aruthrol wedi cael ei wneud'

Mae Alun Davies yn dweud bod "cynnydd aruthrol wedi cael ei wneud yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf" yn cefnogi'r lluoedd arfog.

Mae'n dweud bod y llywodraeth wedi "cyflawni ar feysydd allweddol" fel y gwelir yn ei ddatganiad ysgrifenedig.

Alun Davies
BBC

Cwestiynau i'r Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Nesaf yn y Siambr mae'r aelodau yn cael holi cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.

Mae Mohammad Ashgar yn gofyn pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i wella'r gefnogaeth i aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?

Lluoedd arfog
PA

Beth fyddai'n digwydd i'r £200m gafodd ei gynnig i'r morlun llanw?

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn cyfeirio at y £200m sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i helpu i gael y prosiect ynni morlun llanw ym Mae Abertawe i gael ei adeiladu.

Yn dilyn adroddiadau na fydd llywodraeth y DU yn cefnogi'r prosiect, mae Simon Thomas yn gofyn a oes unrhyw swm o'r arian hynny yn gallu cael ei roi i brosiectau ynni adnewyddol eraill yng Nghymru, yn ogystal ag i gwmni ynni sy'n berchen i'r cyhoedd, sy'n cael ei gynnig gan Blaid Cymru.

Mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd hi'n aros am benderfyniad gan lywodraeth y DU, "pa mor hir bynnag y daw hynny", gan bod y £200m yn "gynnig sylweddol iawn".

Simon Thomas
BBC

'Pryderus iawn ynghylch tollau'

Ar Brexit mae Lesley Griffiths yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn "bryderus iawn" ynghylch tollau, ac ynghylch materion gweithlu posib mewn lladd-dai a gwaith tymhorol.

'Posibiliadau aruthrol ar gyfer cyfnewid mewnforion'

Mae Neil Hamilton UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i "baratoi ffermwyr Cymru" ar gyfer senario dim cytundeb Brexit oherwydd bod yna "bosibiliadau aruthrol ar gyfer cyfnewid mewnforion... i gymryd lle allforion o'r UE i Brydain, yr ydyn ni'n cystadlu gyda nhw".

Neil Hamilton
BBC

Teyrnged i 'ddadleuwr brwd dros y sector coedwigaeth'

Mae Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn yn talu teyrnged i Martin Bishop, "dadleuwr brwd dros y sector coedwigaeth", fu farw pan blymiodd awyren fach yr oedd yn teithio ynddi i'r ddaear.

Hannah Blythyn
BBC

'Angen ymateb integredig i'r saith nod lles'

Mae'r Ceidwadwr David Melding yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau bod y cytundeb economaidd newydd yn cynnig ymateb integredig i'r saith nod lles" o'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

David Melding
BBC

Tair rownd arall o grantiau Glastir

Mae Lesley Griffiths yn dweud bod yna gynllun am dair rownd arall o grantiau Glastir, a bydd ymgynghori ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer y dyfodol dros y misoedd nesaf.

Annog cynlluniau amaeth-amgylcheddol

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Mark Isherwood.

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru?

Mark Isherwood
BBC