a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
  3. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
  4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Adroddiad ar y Tanwariant sy’n deillio o Benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau
  6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ansawdd Aer
  7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
  8. Dadl Fer: Dathlu diwrnod dyneiddiaeth y byd.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl fawr

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mehefin 26.

Y Senedd
BBC

'Dadl amserol yn ystod Wythnos Ffoaduriaid'

Mae Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, yn dweud bod y ddadl yn amserol yn ystod Wythnos Ffoaduriaid gan fod "yn rhaid i'r rheini o bob ffydd a chred ddod at ei gilydd a gweithio gyda'i gilydd dros fyd gwell".

'Gwerth ac urddas ac annibyniaeth yr unigolyn'

Mae Mick Antoniw yn dweud bod "dyneiddiaeth yn ganlyniad i draddodiad hir o feddwl yn rhydd sydd wedi ysbrydoli nifer o feddylwyr mawr y byd".

Mae'n dweud bod hyn "yn cadarnhau gwerth ac urddas ac annibyniaeth yr unigolyn a hawl pob bod dynol i'r rhyddid mwya' posib yn gydnaws gyda hawliau eraill."

Mick Antoniw
BBC

Dadl Fer: Dathlu diwrnod dyneiddiaeth y byd

Ac yn olaf yn y Siambr Dadl Fer gan Mick Antoniw.

A'r pwnc: Dathlu diwrnod dyneiddiaeth y byd.

Yn ôl Undeb Dyneiddiaeth a Moesegol y Byd, mae diwrnod dyneiddiaeth y byd, sy'n cael ei ddathlu bob blwyddyn ar Fehefin 21, "yn gyfle i ddyneiddwyr a mudiadau dyneiddiaeth i dynnu sylw at werthoedd positif Dyneiddiaeth ac i rannu pryderon rhyngwladol y mudiad Dyneiddiol, ac rydyn ni wedi bod yn dathlu'r diwrnod ers y 1980au."

Galw am fynd i'r afael â llygredd aer parhaus

Mae ACau yn pasio'r cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru "i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion".

Roedd 48 o blaid, neb yn ymatal a 3 yn erbyn.

Y bleidlais
BBC

'Mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel'

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething yn galw ar ACau i "groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol;

b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol".

Vaughan Gething
BBC

'Sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno'

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn galw "am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno".

Mae e hefyd yn galw "am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg".

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol'

Mae arweinydd grŵp UKIP Caroline Jones yn dweud "oherwydd methiant llywodraethau olynol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu digonol, fod gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol, yn enwedig nyrsio, ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg, radioleg ac endosgopi; a bod y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff presennol ac yn effeithio ar ofal cleifion".

Caroline Jones
BBC

'Gwneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr'

Ar ran y Ceidwadwyr mae Angela Burns yn galw ar Lywodraeth Cymru "i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig cynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal gymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol".

Mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd".

Angela Burns
BBC

Dadl ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Am yr awr nesaf dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig - Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Ceidwadwyr yn credu y bydd "gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol".

Nyrs
Getty Images

Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig, sydd meddai yn "destament i'r consensws sydd ganddon ni yn y lle yma ac yng Nghymru o'r angen i gymryd camau i leihau llygredd awyr".

Ymhlith y mesurau mae cronfa gwerth £20 miliwn i leihau allyriadau a gwella’r amgylchedd yng Nghymru. Bydd y Gronfa Ansawdd Aer, a fydd ar gael tan 2021, yn helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid a gwella ansawdd aer yn eu hardaloedd.

Hannah Blythyn
BBC

'Chwa o awyr iach ym mhob ffordd'

Mae Dai Lloyd Plaid Cymru yn dweud "mae'n rhaid i ni fel cynulliad chwarae ein rhan oherwydd mae iechyd ein pobol, iechyd ein plant yn arbennig, yn dibynnu ar y ffaith ein bod yn anadlu awyr glân.

"Chwa o awyr iach ym mhob ffordd."

Dai Lloyd
BBC

'Gan Gymru rai ardaloedd gyda'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU'

Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod gan Gymru "rai o'r ardaloedd gyda'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU, gyda Chaerdydd a Phort Talbot ill dau â lefelau o ddefnydd gronynnol uwch na Birmingham neu Fanceinion.

"Yn ogystal, ffordd yng Nghaerffili yw'r un mwyaf llygredig y tu allan i Lundain."

David Melding
BBC

'Dewisiadau amgen ar gyfer trafnidiaeth'

Mae Gareth Bennett yn dweud bod UKIP yn "cytuno gydag ysbryd y ddadl heddiw" ond bod "cyflwyno dewisiadau amgen ar gyfer trafnidiaeth a mynd i'r afael â llygredd diwydiannol" yn well na chyflwyno parthau aer glân.

Beth nesa' o ran y polisi ansawdd aer?

Dadl ar Ansawdd Aer

Nesaf yn y Siambr dadl gynta'r prynhawn.

Mae'n ddadl Aelodau ar Ansawdd Aer.

Mae

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

David Melding (Canol De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;

b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a

c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.

Llygredd
BBC

'Gall Comisiwn y Cynulliad ddim bod yn rhydd rhag llymder'

Mae'r AC Llafur Mike Hedges yn dweud "na all Comisiwn y Cynulliad hwn fod yn rhydd rhag y llymder y mae gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru yn eu wynebu".

Mike Hedges
BBC

Pryder ynghylch cynnydd posib yng nghyllideb y cynulliad

Mae Simon Thomas yn dod i'r casgliad hwn: "mae’r Comisiwn wedi dweud bod hyn yn debygol o arwain at gynnydd yn ei gyllideb “graidd”, i wneud iawn am y gwariant y byddai’r tanwariant wedi’i ariannu fel arall.

"Mae hyn yn mynd yn groes i argymhelliad blaenorol y Pwyllgor Cyllid y cytunodd y Comisiwn ag ef, sef na ddylai ei gyllideb gynyddu’r tu hwnt i unrhyw gynnydd yn Grant Bloc Cymru yn ystod gweddill oes y Cynulliad hwn.

"Er ein bod yn derbyn na fydd y Comisiwn yn defnyddio unrhyw danwariant o linell wariant y Penderfyniad, rydym yn pryderu y gallai’r gyllideb gynyddu.

"A ninnau mewn cyfnod o gynni ariannol, a bod gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn wynebu toriadau eang a pharhaus mewn termau real, rydym yn tynnu sylw at sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru fod rhai o brosiectau posibl y Comisiwn yn brosiectau y byddai’n braf eu rhoi ar waith, yn hytrach na’n brosiectau cwbl hanfodol, a byddem yn annog y Comisiwn i ystyried ei flaenoriaethau’n ofalus i sicrhau bod gwir angen rhoi prosiect ar waith er mwyn cyflawni strategaethau a nodau’r Comisiwn".

'Dylid nodi prosiectau craidd a’u hariannu ar wahân'

Mae Simon Thomas yn dweud bod y "bwriad i ariannu rhai prosiectau drwy ddefnyddio’r tanwariant, dros nifer o flynyddoedd, yn dal yn peri pryder i ni gan fod y Comisiwn, wedyn, yn dibynnu ar adnodd na ellir ei ragweld.

"Rydym yn credu y dylid nodi prosiectau craidd a’u hariannu ar wahân. Wedi iddo drafod ein hadroddiad a phenderfyniadau’r Bwrdd Taliadau i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn lwfansau’r Aelodau, mae’r Comisiwn wedi cadarnhau ei fod wedi adolygu’r modd y mae’n ariannu prosiectau ac y bydd prosiectau sydd wedi’u blaenoriaethu i’w cwblhau yn ystod 2019-20 yn cael eu nodi yn nogfen y gyllideb a bydd yn awr yn cael ei ariannu’n llawn o linell gwariant cyllideb graidd y Comisiwn.

"Rydym yn credu y bydd y penderfyniad hwn yn hwyluso’r gwaith craffu", meddai.

Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas: Adroddiad ar y Tanwariant sy’n deillio o Benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau.

Teyrnged i'r dramodydd Frank Vickery

Mae AC Llafur Cwm Cynon, Vikki Howells, yn defnyddio ei Datganiad 90 eiliad i dalu terynged i'r dramodydd Frank Vickery, fu farw wedi salwch byr, gan ei ddisgrifio fel "sylwedydd treiddgar ar gymeriadau a hiwmor cymoedd de Cymru".

Vikki Howells
BBC

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

Cyhoeddiad Barclays yn 'hynod siomedig'

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud bod y cyhoeddiad yn "hynod siomedig", ac y bydd e'n cwrdd gyda rheolwyr Barclays ddydd Gwener.

Ken Skates
BBC

Cwestiwn Amserol: canolfan alwadau Barclays

Un Cwestiwn Amserol sydd yna.

Mae Julie Morgan yn gofyn pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i'r 203 o swyddi a gollwyd yng nghanolfan alwadau Barclays ym Mhontprennau, Caerdydd?

Ddoe fe gafodd tua 170 aelod o staff yn adran dechnoleg a gwasanaethau gweithrediadau sydd wedi'i lleoli ym Mhentwyn, Caerdydd wybod fod eu gwaith yn cael ei drosglwyddo i safle yn Northampton, a bod 30 swydd yn symud i India.

Safle Barclays ym Mhentwyn
Google
Safle Barclays ym Mhentwyn

Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yn y Siambr yw'r Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

Llefydd cyfarfod ar Ystad y Cynulliad

Mae Bethan Sayed Plaid Cymru yn galw ar i ACau allu cynnal mwy na 10 digwyddiad ar Ystad y Cynulliad bob blwyddyn.

Mae'n dweid bod y polisi yn gwahaniaethu yn erbyn ACau sydd yn fwy gweithgar yn archebu ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau.

Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud bod y polisi yn sicrhau "cae chwarae cyfartal" a bod staff y comisiwn yn gweithredu'r polisi gafodd ei benderfynu gan Gomisiwn y Cynulliad.

Bethan Sayed
BBC

Cefnogi'r Cynulliad

Mae'r Llywydd Elin Jones yn rhestru nifer o weithrediadau a digwyddiadau, fel cynnydd mewn allbwn digidol, gwaith ar sefydlu Senedd Ieuenctid ac y bydd digwyddiad Senedd@Delyn yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.

Elin Jones
BBC

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Symudwn ni ymlaen nawr at Gwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad.

Comisiwn y Cynulliad yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol.

Mae'r aelod annibynnol Mandy Jones yn gofyn a wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am gynnydd yn erbyn yr uchelgais a nodir yn strategaeth gyfredol Comisiwn y Cynulliad i ymgysylltu â holl bobl Cymru a hyrwyddo'r Cynulliad?

Mandy Jones
BBC

Traean o weithwyr LGBT yng Nghymru yn cuddio eu hunaniaeth

Mae Julie James yn rhannu pryder Nick Ramsay bod ffigyrau diweddaraf Stonewall Cymru yn dangos bod dros draean o weithwyr LHDT (LGBT) yng Nghymru yn cuddio eu hunaniaeth oherwydd pryderon y byddan nhw'n cael eu trin yn anffafriol.

Mae'n dweud bod y cynllun gweithredu economaidd yn delio gyda'r mater o anffafriaeth, a bod canllawiau gwrth-bwlio yn cael eu diweddaru.

LHDT
AFP

'Angen llawer o waith i ddileu rhagfarn'

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn dweud bod rhywfaint o'r ymateb ar Twitter i'w haraith yn y Siambr ddoe ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn "profi faint o waith sydd angen ei wneud i ddileu rhagfarn a newid agweddau".

Sian Gwenllian
BBC

'Dod â diwedd i gaethwasiaeth o bob math'

Mae Julie James yn sicrhau David Rowlands UKIP bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i "ddod â diwedd i gaethwasiaeth o bob math yng Nghymru".

Julie James
BBC

'Gosod mesuryddion deallus yn amhosibl'

Mae Russell George yn dweud bod etholwyr mewn ardaloedd gwledig yn dweud "bod gosod mesuryddion deallus yn amhosibl oherwydd diffyg signal ffonau symudol, sydd ei angen er mwyn i fesuryddion clyfar i weithio".

Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Nesaf yn y Siambr cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James.

Mae Russell George yn gofyn:

Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gyda'r sector ynni wrth lunio'r cynllun gweithredu ffonau symudol?

Mae cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru "yn cydweithio â’r diwydiant ffonau symudol a’r rheoleiddiwr telathrebu, Ofcom, i ddarparu cysylltedd a fydd yn diwallu anghenion pobl a busnesau yng Nghymru".

Ffonau symudol
Reuters

Y Comisiwn Ewropeaidd 'yn rym mileinig'?

Mae Mark Drakeford yn dweud wrth Neil Hamilton nad yw e "erioed wedi rhannu barn [Mr Hamilton] o'r Comisiwn Ewropeaidd fel rhyw fath o rym mileinig sydd wastad eisiau ein tanseilio".

'Gwyriad o reoliadau'r UE ar ryddid i symud'

Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud y dylai "rhywun sydd mor wybodus a soffistigedig â'r ysgrifennydd cyllid wybod na allai'r Comisiwn Ewropeaidd fyth warantu i'r DU y math o wyriad o reoliadau yr UE ar ryddid i symud ag y mae'r blaid Lafur wedi bod yn sôn amdano".

Neil Hamilton
BBC

Alun Cairns yn 'methu ymwneud yn briodol a pharchus gyda'r cynulliad'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid, yn cyhuddo Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns o fethu ymwneud yn "briodol a pharchus" gyda'r cynulliad wedi iddo wrthod ymddangos gerbon y pwyllgor yn bersonol i roi tystiolaeth ynghylch cyllid yn lle cronfeydd yr UE wedi Brexit.

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer cyfnewid cyllid yr UE i Gymru wedi i'r DU adael y bloc 28-cenedl.

Mae Mark Drakeford yn cytuno ei bod hi'n annerbyniol i Ysgrifennydd Cymru i beidio rhoi tystiolaeth.

Simon Thomas
BBC

Pryderon am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn codi pryderon gafodd eu clywed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y mae e'n ei gadeirio, gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - ynghylch y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Mae Mark Drakeford yn dweud bod hwn yn ffordd arloesol o gyllido prosiectau cyfalaf ar adeg pan fo cyllid yn brin.

'Rhaid bod Theresa May yn hynod flin am honiad difidend Brexit'

Mae Mark Drakeford yn dweud bod yr honiad bod y cynydd yng nghyllid y GIG, "pan fyddwn ni yn y diwedd yn darganfod beth y mae hynny'n ei olygu, yn rhan o rhyw fath o ddifidend Brexit, wedi syrthio'n ddarnau mor gyflym, bod yn rhaid bod Theresa May yn hynod flin ei bod wedi cynnwys hynny yn ei chyhoeddiad".

'Twnel rheilffordd y Rhondda mewn cyflwr mor dda ac yr oedd pan gafodd ei agor'

Mae Gareth Bennett yn tynnu sylw at y ffaith bod Balfour Beatty yn dweud bod 95% o dwnel rheilffordd y Rhondda mewn cyflwr mor dda ac yr oedd pan gafodd ei agor, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cymryd drosodd ei berchnogaeth oddi ar Highways England.

'Cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi'

Mae Mark Drakeford yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau "uchelgeisiol" ar gyfer buddsoddi yn yr ardal, gan gynnwys datblygiad Metro De Cymru, canolfan ganser newydd Felindre a 43 o brosiectau o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Mark Drakeford
BBC