a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Nodi 70 Mlynedd ers Sefydlu'r GIG
  3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeirnod y Goruchaf Lys: Mesur Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban)
  4. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Y Rhaglen Gwella Bywydau Anableddau Dysgu
  5. Dadl: Brexit a'r Diwydiant Pysgota

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Y Senedd
BBC

ACau yn pasio cynnig Llywodraeth Cymru

Mae ACau yn pasio cynnig Llywodraeth Cymru gyda gwelliannau Plaid Cymru.

pleidlais
BBC

'Angen sicrhau llais cryf ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau masnach yn sgil Brexit'

Ar ran Plaid Cymru mae Simon Thomas yn dweud er mai sector gweddol fychan yw pysgota yn yr economi Gymreig, mae'n rhan bwysig o fywoliaeth cymunedau arfordirol.

Mae'n cynnig gwelliannau sy'n ychwanegu i'r cynnig:

  • Yn credu bod angen sicrhau llais cryf ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau masnach yn sgil Brexit.
  • Yn nodi pwysigrwydd pysgota i fywoliaeth gynaliadwy cymunedau arfordirol Cymru.
  • Yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer pysgodfeydd a’r amgylchedd morol.
Simon Thomas
BBC

'Mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl'

Ar ran y Ceidwadwyr mae David Melding yn galw ar ACau i "groesawu bwriad Llywodraeth y DU i geisio'r mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl drwy gytundeb masnach rydd cynhwysfawr".

'Cyfleoedd' Brexit

Mae Neil Hamilton yn dweud na fydd UKIP yn cefnogi'r cynnig oherwydd ei fod yn cyfeirio at "heriau arwyddocaol ac amlwg" yn hytrach na'r "cyfleoedd" y mae Brexit yn ei gynng i ddiwydiant pysgota Cymru a'r amgylchedd morol.

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu parth economaidd unigryw o 200 milltir i roi mynediad unigryw i bysgotwyr y DU i foroedd o fewn 200 milltir o arfordir y DU.

Neil Hamilton
BBC

'Addasu i fyd ar ôl Brexit'

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn dweud "fel Llywodraeth, byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i helpu'r diwydiant baratoi i wynebu'r heriau a'i helpu i addasu ar gyfer byd ar ôl Brexit."

Mae wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi mwy na miliwn o bunnau ym Mhrosiect Datblygu'r Farchnad Bwyd Môr dros y pedair blynedd nesaf er mwyn helpu i farchnata bwyd môr o Gymru yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Lesley Griffiths
BBC

Dadl ar Brexit a'r Diwydiant Pysgota

Ac yn olaf heddiw dadl ar Brexit a'r Diwydiant Pysgota.

Mae Julie James yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Canolfan Poilisi Cyhoeddus Cymru o'r enw 'Implications of Brexit for Fishing opportunities in Wales'.

2. Yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sydd ynghlwm wrth Brexit o safbwynt diwydiant pysgota ac amgylchedd morol Cymru.

3. Yn cefnogi'r themâu allweddol canlynol a bennwyd gan yr is-grŵp moroedd ac arfordiroedd:

a) cynllunio i wneud y defnydd gorau o'n moroedd;

b) sicrhau stiwardiaeth effeithiol o'n hamgylchedd morol a'n hadnoddau naturiol;

c) parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol wrth reoli moroedd a physgodfeydd y DU;

d) sicrhau bargen fwy teg ar gyfer y diwydiant pysgota; a

e) bod yn annibynnol.

4. Yn ailddatgan ei gefnogaeth dros fynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE, gan gynnwys ar gyfer bwyd a physgodfeydd.

Cychod pysgota
BBC
View more on twitter

'Cyhyd i ddal i fyny' gyda llywodraeth y DU

Mae Michelle Brown UKIP yn cwestiynu "pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd i Lywodraeth Cymru i ddal i fyny" gyda llywodraeth y DU ar sut y gallai gwasanaethau i bobl gydag anableddau dygu i gael eu cryfhau.

Michelle Brown
BBC

'Angen i sectorau gwahanol i weithio gyda'u gilydd'

Mae Dai Lloyd Plaid Cymru yn pwysleisio'r angen i sectorau gwahanol i weithio gyda'u gilydd, "yn enwedig yn y cyfnod hwn o lymder".

Mae'n mynegi pryder ynghylch y "dirywiad yn nifer y nyrsys arbenigol".

Dai Lloyd
BBC

'Gormod o bobl yn gorfod ymladd'

Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn dweud bod yna "bocedi o ymarfer da ond bod gormod o bobl yn gorfod ymladd am y gefnogaeth a'r newidiadau i wasanaethau y maen nhw eu hangen i'w galluogi i gael bywyd cyffredin".

Mark Isherwood
BBC

Pum maes

Bydd y rhaglen Gwellau Bywydau yn canolbwyntio ar bum maes penodol, gyda'r bwriad o wella gwasanaethau o fewn y meysydd hynny.

Maen nhw'n cynnwys:

  • Lleihau profiadau niweidiol pobol gydag anableddau dysgu pan maen nhw'n blant;
  • Helpu ac annog pobol i gyrraedd eu potensial o fewn y byd addysg a rhoi'r cymorth i'w galluogi i fyw bywydau llwyddiannus;
  • Sicrhau bod pobol yn gallu byw mewn tai sy'n nes at eu teuluoedd a'i ffrindiau;
  • Sicrhau bod Gofal Cymdeithasol o safon ar gael sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn a gwneud addasiadau i wasanaethau iechyd pan bod angen.

Y Rhaglen Gwella Bywydau Anableddau Dysgu

Nesaf yn y Siambr datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies: Y Rhaglen Gwella Bywydau Anableddau Dysgu.

Y gred ydi bod hyd at 75,000 o oedolion gydag anableddau dysgu yng Nghymru, ond bod y Gwasanaethau Cymdeithasol ond yn ymwybodol o ryw 15,000 o'r rheiny.

Huw Irranca-Davies
BBC

'Cwestiynau sylfaenol ynglŷn â phob setliad datganoli yn y Deyrnas Unedig'

Mae Jeremy Miles yn dweud bod ei gais i’r Goruchaf Lys am ganiatâd i gymryd rhan yn Atgyfeiriad Mesur Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) wedi bod yn llwyddiannus.

Mae'n dweud bod rhai o’r cwestiynau a godwyd gan y Twrnai Cyffredinol a chan Adfocad Cyffredinol yr Alban yn yr Atgyfeiriad hwnnw yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â phob setliad datganoli yn y Deyrnas Unedig. Nid cwestiynau sy’n berthnasol i’r Mesur Albanaidd a setliad datganoli'r Alban yn unig mohonynt.

Mae'n ychwanegu y gall yr Atgyfeiriad godi cwestiynau am rôl ddeddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig ac am derfynau eu cymhwysedd deddfwriaethol. Gallai penderfyniad y llys felly gael effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y Deyrnas Unedig.

Jeremy Miles
BBC

Cytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU

Ym mis Ebrill fe wnaeth llywodraethau Cymru a'r DU ddod i gytundeb yn yr anghydfod am 'gipio pwerau' o Fae Caerdydd ar ôl Brexit.

Wedi misoedd o drafod rhwng gweinidogion y ddwy lywodraeth, fe wnaethon nhw gytuno ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE.

Ond mae Llywodraeth Yr Alban wedi gwrthod y cynnig diweddaraf gan ddweud y byddai'n "clymu dwylo" Senedd Yr Alban.

Roedd yr anghydfod yn ymwneud â beth fyddai'n digwydd yn y 64 o feysydd sydd wedi'u datganoli pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Senedd
Getty Images

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles: Cyfeirnod y Goruchaf Lys: Mesur Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban).

Brexit
Getty Images

'Heb y GIG fyddwn i ddim yma heddiw'

Mae arweinydd grŵp UKIP Caroline Jones yn dweud "heb y GIG fyddwn i ddim yma heddiw", wedi i ganser ar ei bron gael ei ddarganfod 11 mlynedd yn ôl a'i drin.

Mae'n dweud bod cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru yn "mynd yn y cyfeiriad cywir", ond mae'n galw ar y llywodraeth "i sicrhau bod y polisïau yn cael eu cyflawni ar lawr gwlad".

'Dydw i ddim yn ymddiheuro am ofyn cwestiynau'

Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud ei bod hi'n "gamp wych yn ei hun bod y GIG wedi para 70 mlynedd.

"Dydw i ddim yn ymddiheuro, 20 mlynedd ers i Lafur gymryd cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru, am ofyn cwestiynau ynghylch sut y gwnaethoch chi fethu delio gyda heriau'r gweithlu, pam bod yna dal ddiffyg integreiddio o ofal cymdeithasol, pam bod yna berfformiad gwael o amseroedd aros o gymharu gyda chenhedloedd eraill y DU".

Rhun ap Iorwerth
BBC

'Dysgu o arfer gorau'

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn dweud bod y GIG wedi achub ei bywyd hi dair blynedd yn ôl.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "ddysgu o arfer gorau" o sut y mae'r GIG yn cael ei redeg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fel enghraifft, mae'n cyfeirio at yr app symudol GIG newydd a fydd yn rhoi cleifion yn Lloegr mewn cysylltiad uniongyrchol gyda'u meddyg teulu.

Angela Burns
BBC

'Angen newid sylfaenol'

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn dweud bod hyn yn gyfle i ddathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni ers 1948 a hefyd i gofio egwyddorion craidd y gwasanaeth.

Y bwriad, meddai, yw "creu gofal hyd yn oed yn well yn lleol gyda chymorth a thriniaethau ar gael ar draws ystod o wasanaethau yn y gymuned.

"Mae angen newid sylfaenol i sicrhau dyfodol cynaliadwy ac i wneud yn siŵr bod y GIG yng Nghymru yn gallu cadw at yr egwyddor honno a sefydlwyd yng Nghymru 70 mlynedd yn ôl, sef darparu gofal iechyd am ddim i bawb."

Vaughan Gething
BBC

Dathlu'r 70

Daeth cannoedd o bobl ynghyd yn nhref enedigol Aneurin Bevan ddydd Sul i ddathlu 70 mlynedd ers iddo sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, a'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn ymhlith y bobl oedd yn bresennol ym Mharc Bedwellte yn Nhredegar, Blaenau Gwent.

Cafodd Aneurin Bevan, Gweinidog Iechyd Prydain ym 1948, ei eni a'i fagu yn y dref, a dechreuodd y dathliadau gyda gorymdaith faneri o'i gyn-gartref ar Stryd Charles.

Aneurin Bevan yn siarad â chlaf cynta'r gwasanaeth iechyd, Sylvia Diggory, mewn ysbyty ym Manceinion yn 1948
PA
Aneurin Bevan yn siarad â chlaf cynta'r gwasanaeth iechyd, Sylvia Diggory, mewn ysbyty ym Manceinion yn 1948

Datganiad: Nodi 70 Mlynedd ers Sefydlu'r GIG

Nesaf yn y Siambr datganiad cynta'r prynhawn.

Mae'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Nodi 70 Mlynedd ers Sefydlu'r GIG.

Nyrs
Getty Images

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

Julie James
BBC

Seremoni 'gudd' i ailenwi yr Ail Bont Hafren

Mae cyn AC Plaid Cymru Neil McEvoy yn dweud bod Carwyn Jones wedi mynychu seremoni "gudd" i ailenwi yr Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Mae'n gofyn dau gwestiwn hir yn ymosod ar Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.

Mae Carwyn Jones yn dweud na wnaeth e fynychu'r seremoni, ac yn ychwanegu bod Mr McEvoy wedi llwyddo i gythruddo pawb yn y Siambr.

Ailenwi yr Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
PA

'Rhoi ei het yn y ras' ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn gofyn pa ffigyrau fyddai'n perswadio Llywodraeth Cymru i gadw eu cefnogaeth arfaethedig tuag at forlun llanw Bae Abertawe.

Mae Carwyn Jones yn dweud bod Suzy Davies wedi "rhoi ei het yn y ras" ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.

Morlun llanw Bae Abertawe
TLP

'Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus fan hyn'

"Dylai pob prosiect sy'n cael ei gyllido gan arian cyhoeddus ddefnyddio dur y DU", meddai Caroline Jones.

"Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus fan hyn", rhybuddia'r prif weinidog, gan ddweud "os mai dim ond dur o Brydain sy'n cael ei ddefnyddio mewn prosiectau Prydeinig efallai y gwneith gwledydd eraill gymryd yr un agwedd".

'Rydyn ni wedi dod yn bell iawn'

Dyw llywodraeth y DU ddim wedi cynnig unrhyw gymorth i'r sector dur, medd Carwyn Jones.

Mae'n croesawu'r cytundeb: "Ddwy flynedd yn ôl roedd pethau'n llwm iawn... Rydyn ni wedi dod yn bell iawn ers hynny", meddai gan gymryd rhywfaint o'r bri am hynny.

Tata
BBC

'Y diwydiant dur yn dal i fod angen cymorth sylweddol'

Mae arweinydd grŵp UKIP Caroline Jones yn dweud bod pobl yn ei rhanbarth hi wedi mynegi arwydd o ryddhad tuag at y cytundeb rhwng Thyssenkrupp a chwmni dur Tata.

Ond mae'n canolbwyntio ar addewid i osgoi diswyddiadau gorfodol tan 2026 yn unig.

"Mae'n eglur bod y sector yn dal i angen cymorth sylweddol", meddai.

Caroline Jones
BBC

Troi at bwnc Brexit

Mae Leanne Wood wedyn yn troi at bwnc Brexit a'r peryg, meddai, mae'n ei osod ar y GIG.

Pa gynllunio sydd wedi bod yn y gwasanaeth iechyd yma ar gyfer dim cytundeb gyda'r UE?

Mae Carwyn Jones yn ateb na fyddai "unrhyw faint o gynllunio" yn helpu i recriwtio meddygon mewn sefyllfa o'r fath.

Mae arweinydd Pliad Cymru yn cyhuddo'r prif weinidog o beidio cael cynllun ar gyfer dim cytundeb Brexit.

Brexit
BBC

Galw am Wasanaeth Gofal Cenedlaethol

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn galw am Wasanaeth Gofal Cenedlaethol i adlewyrchu newid mewn demograffig yn y wlad.

Mae'r prif weinidog yn dweud dyw hi ddim yn eglur beth fyddai hynny'n ei wneud.

Leanne Wood
BBC

'Mwy bywiog nag y mae erioed wedi bod'

Mae Carwyn Jones yn dweud bod Paul Davies yn fwy bywiog nag y mae erioed wedi bod.

"Dyw e ddim angen clyweliad am y swydd. Does neb arall ei heisiau," medd yr arweinydd Llafur.

Mae'n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cael llai na'r £1.2bn sydd wedi ei addo gan lywodraeth y DU.

'Y Ceidwadwyr wedi gorfod clirio llanast Llafur'

Mae Paul Davies yn dweud bod y blaid Lafur wedi gadael diffyg ariannol yn 2010 a bod y Ceidwadwyr wedi gorfod clirio'r llanast.

"Mae effeithiau'r toriadau yn 2011" yn y GIG "yn dal i gael eu teimlo", meddai.

'Fydd yna fyth gerflun o Jeremy Hunt'

Mae Carwyn Jones yn talu teyrnged i'r cyn arweinydd Ceidwadol yn y Cynulliad Andrew RT Davies, cyn ychwanegu "er bod yna gerflun o Aneurin Bevan, fydd yna fyth un o Jeremy Hunt".

Cwestiwn cyntaf Paul Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad

Mae Paul Davies yn gofyn ei gwestiwn cyntaf i Carwyn Jones fel arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad. Fe yw'r arweinydd dros dro wedi i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd yr wythnos ddiwethaf.

Mae'n gofyn, ar benblwydd y GIG, a yw'r prif weinidog yn "cywilyddio mai fe yw'r unig arweinydd yn y DU i fod wedi torri cyllideb iechyd".

Paul Davies
BBC

Tenantiaid mewn blociau uchel preifat

Mae David Melding yn cyfeirio at sylwadau gan brif gynghorydd tân Cymru y gallai tenantiaid mewn blociau uchel preifat fyw gyda chladin anniogel am flynyddoedd.

Mae Mr Melding yn dweud mai'r flaenoriaeth ddylai fod cael gwared â chladin anniogel, gydag unrhyw gweryla ynghylch costau ac ateblorwydd yn dod wedyn.

David Melding
BBC

£3 miliwn i gael gwared â chladin o dri bloc uchel yn y sector cymdeithasol

Mae'r prif weinidog yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £3 miliwn i gael gwared â chladin o'r tri bloc uchel yn y sector cymdeithasol sydd wedi eu heffeithio.

Carwyn Jones
BBC

Diogelwch tân mewn blociau uchel yng Nghymru

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan David Melding.

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn blociau uchel yng Nghymru?

Gall tenantiaid mewn blociau o fflatiau uchel yng Nghymru aros am flynyddoedd cyn i gladin peryglus gael ei newid oherwydd dryswch am bwy sy'n gyfrifol am y gost.

Mae Prif Ymgynghorydd Tân ac Achub Llywodraeth Cymru, Des Tidbury, wedi dweud y gall trigolion wynebu blynyddoedd o ansicrwydd tra bod atebolrwydd yn cael ei gadarnhau.

Daeth y rhybudd bron i flwyddyn union ar ôl trychineb Tŵr Grenfell, lle bu farw 72 o bobl mewn tân.

Mae cyfanswm o 15 adeilad yng Nghymru wedi eu darganfod i fod â'r un math o gladin a Thŵr Grenfell - 12 yn y sector breifat a thri bloc o dai cymdeithasol.

Milton Court yng Nghasnewydd yw un o'r adeiladau i fethu'r profion diogelwch tân
Google
Milton Court yng Nghasnewydd yw un o'r adeiladau i fethu'r profion diogelwch tân

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Y Senedd
BBC