a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Cynnydd ar Ein Cymoedd, Ein Dyfodol
  3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Mesur Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion)
  4. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19
  5. Dadl: Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Y Senedd
BBC

Cymeradwyo Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19

Mae ACau yn cymeradwyo Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19.

Roedd 30 o blaid, 23 yn ymatal a neb yn erbyn.

Mae cynnig Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy yn cael ei basio heb ei ddiwygio.

Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford
BBC
Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford

Dyfynnu o'r Adolygiad Annibynnol o Gyfraddau Adeiladu gan Syr Oliver Letwin

Mae AC Caerffili Hefin David yn dyfynnu o'r Adolygiad Annibynnol o Gyfraddau Adeiladu gan Syr Oliver Letwin AS:

"Mae'r ffaith bod adeiladwr tai mawr yn dal cyfanswm mawr o dir, yn cael ei egluro gan y ffaith bod yr adeiladwyr tai mwyaf angen cynnal busnes cynaliadwy ac yn ceisio gwneud hyn drwy sicrhau eu bod nhw, yn hytrach na'u cystadleuwyr, yn dal cymaint o dir y byddan nhw wedyn eisiau adeiladu â sy'n gydnaws gyda'u cyfyngiad cyfalaf. Gallai hyn olygu eu bod yn lleihau mynediad i'r farchnad".

Mae Mr David yn dweud bod hynny'n "nodweddiadol o gwmni mawr, ymddygiad oligarchiaeth, ac fel sosialydd mae hynny'n fy ffieiddio i".

Mae'r Ceidwadwr David Melding yn gweiddi, "fel cyfalafwr, mae'n fy ffieiddio i".

Hefin David
BBC

Galwad am gynllun tymor hir ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy

Ar ran Plaid Cymru mae Bethan Sayed yn cynnig:

Dileu 'uchelgeisiol' o bwynt 1.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i gael cynllun tymor hir ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y gellir cyflawni hyn mewn ffyrdd gwahanol".

Mae hefyd yn galw ar yr holl dai cymdeithasol a chyngor newydd, lle bo'n bosibl "i gael paneli solar wedi'u gosod i sicrhau bod tenantiaid yn gallu elwa ar filiau ynni is".

Mae Plaid Cymru meddai, yn gresynu bod nifer y cartrefi gwag yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru.

Mae'r blaid yn galw ar yr adolygiad o dai fforddiadwy "i ystyried y cyd-destun ehangach o ran mynediad i wasanaethau cyhoeddus mewn ystadau newydd, gan nodi y gall mynediad gwael i wasanaethau cyhoeddus arwain at gynnydd sylweddol yn y costau y mae pobl ar incwm isel sy'n byw mewn ystadau o'r fath yn eu hwynebu".

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar yr adolygiad "i gynnwys grwpiau tenantiaid a'r rhai sydd yn y sector rhentu preifat, fel y gallant lywio'r dirwedd tai cymdeithasol a thai rhent yn y dyfodol yng Nghymru".

Bethan Sayed
BBC

Galwad i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai modiwlar

Ar ran UKIP mae Gareth Bennett yn "gresynu bod llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu ym mhob un o'r chwe blynedd ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar eu cyfer".

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai modiwlar er mwyn darparu unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn gyflym".

'Dylai ein huchelgais fod yn gartrefi i bawb'

Ar ran y Ceidwadwyr mae David Melding yn dweud "dylai ein huchelgais fod yn gartrefi i bawb".

Mae'n cynnig dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.

2. Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.

3. Yn cydnabod cadernid amcanestyniad amgen y diweddar Athro Holman, 'Future Need and Demand for Housing in Wales', fel sail ar gyfer rhagweld yr angen am dai.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i efelychu uchelgais cymdeithasau tai Cymru sy'n anelu at ddyblu'r gyfradd bresennol o dai newydd a gaiff eu hadeiladu er mwyn cyflawni 75,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru erbyn 2036.

David Melding
BBC

Argymhellion erbyn diwedd Ebrill 2019

Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans yn siarad am adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru y disgwylir y bydd yn cyflwyno adroddiad ac yn gwneud argymhellion iddi hi erbyn diwedd Ebrill 2019.

Bydd yr adolygiad yn:

  • ystyried i ba raddau y gellir cynyddu arian cyfatebol er mwyn codi mwy o gartrefi fforddiadwy, er mwyn sicrhau bod cymaint o dai cymdeithasol â phosibl yn cael eu creu drwy gyfraniad Llywodraeth Cymru
  • adolygu'r trefniadau sy'n rheoli'r gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai
  • ystyried goblygiadau mynd ati i greu cartrefi di-garbon erbyn 2020, gan gynnwys rôl gweithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern
  • adolygu'r safonau sy'n rheoli tai fforddiadwy ac ystyried a oes angen eu diweddaru
  • gwneud argymhellion ynghylch polisi rhenti cynaliadwy a fydd yn caniatáu fforddiadwyedd hirdymor i denantiaid ac yn caniatáu hyfywedd datblygiadau tai presennol a newydd.
Rebecca Evans
BBC

Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy.

Mae'r llywodraeth yn cynnig bod y Cynulliad:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru; ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon – mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gosod sylfaen ar gyfer adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o ofynion o ran tai.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu amodau sy’n ysgogi arloesedd a gwelliannau o ran dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’r tai a ddarperir.

4. Yn nodi cwmpas yr adolygiad tai fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt.

View more on twitter

Y Ceidwadwyr i ymatal

Mae Nick Ramsay yn cadarnhau y bydd y Ceidwadwyr yn ymatal yn y bleidlais ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19 "gan na wnaethon ni gefnogi'r gyllideb wreiddiol, ac mae'r rhain yn welliannau iddi".

Nick Ramsay
BBC

'Byddai gwybodaeth ychwanegol yn ddefnyddiol ar adeg y gyllideb ddrafft'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Simon Thomas yn cyflwyno adroddiad craffu ar y Gyllideb Atodol.

Mae’r Pwyllgor wedi nodi meysydd lle y byddai gwybodaeth ychwanegol yn ddefnyddiol ar adeg y gyllideb ddrafft.

Simon Thomas
BBC

Manylion y Gyllideb

Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19

Am yr hanner awr nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19.

Mae'r gyllideb atodol hon yn diwygio Cyllideb Derfynol 2018-19.

Mae dogfennaeth y gyllideb atodol yn dangos nad oes dim newidiadau i drethi na benthyciadau, a bod ad-daliadau benthyciadau wedi gostwng £0.5 miliwn i adlewyrchu'r lefelau benthyca is na'r disgwyl yn 2017-18.

Arian
BBC

Cymeradwyo Cydsyniad Deddfwriaethol

Mae ACau yn cymeradwyo cynnig "y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

'Nid ffeministiaeth yw hynny, ond dyneiddiaeth'

Mae Caroline Jones, sy'n ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth UKIP, yn dweud "mae'n rhaid i ni ymladd casineb at wragedd, trais yn y cartref a herio stereoteip rhywiol.

"Nid ffeministiaeth yw hynny, ond dyneiddiaeth".

Galwad ar Lywodraeth Cymru i arwain trwy esiampl

Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain trwy esiampl fel cyflogwr a hefyd fel gwneuthurwr polisi i ysgogi newid parhaol.

Fel enghraifft, mae'n dweud nad yw cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn "addas i bwrpas".

Mae cynnig o 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed yn "rhy ychydig, rhy hwyr", yn ôl ymgyrchydd.

Yn ôl Anna Whitehouse mae mamau yn hytrach angen help i gael yn ôl i'r gwaith yn syth ar ôl cyfnod mamolaeth.

Mae Ms Whitehouse - sylfaenydd blog Mother Pukka - yn ymgyrchu am amodau gweithio hyblyg fel ffordd i gael gwared ar anffafriaeth yn y gweithle.

Gallai polisi gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru arwain at lai o blant yn dechrau addysg yn gynnar, yn ôl yr arolygiaeth ysgolion. Estyn.

Sian Gwenllian
BBC

'Nerfus o feirniadu polisi Llywodraeth Cymru'

Mae thema ola'r adroddiad, 'Craffu Allanol ac Atebolrwydd', yn dod i'r casgliad bod craffu allanol i'w groesawu a bod craffu effeithiol yn ysgogi newid ymddygiad.

Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies, sydd hefyd yn ymgeisydd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn cwestiynu a yw "rhai yn nerfus o feirniadu polisi Llywodraeth Cymru" rhag ofn eu bod yn llai tebygol o gael cefnogaeth y llywodraeth yn y dyfodol.

Suzy Davies
BBC

Newid ein ffordd o weithio

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi datblygu eu hamcanion cydraddoldeb er mwyn newid ein ffordd o weithio.

"Rydym am sicrhau bod ein dull ni o lywodraethu'n cael yr effaith orau o ran gwneud ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol.

"Trafodwyd gydag unigolion a sefydliadau wrth lunio ein hamcanion cydraddoldeb, er mwyn cadarnhau pa anghydraddoldebau sydd angen ceisio mynd i'r afael â nhw.

"Bydd ein hamcanion cydraddoldeb yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a chyflogaeth yn deg, yn hygyrch ac yn ymateb i anghenion pobl, a bod cymunedau'n gynhwysol. Rydym am i bawb deimlo'n ddiogel a chael cyfle i ffynnu yn yr ysgol ac yn y gwaith. Ni ddylai pobl fod dan anfantais oherwydd unrhyw un o'r canlynol (a elwir yn 'nodweddion gwarchodedig'):

  • rhyw
  • hil
  • crefydd neu gred
  • vyfeiriadedd rhywiol
  • oedran
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd.

Angen 'newid radical' i gael cydraddoleb rhwng y rhywiau

Mae angen newid radical i wireddu addewid i sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod, yn ôl adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y prif weinidog.

Mae'r adroddiad, gan yr elusen Chwarae Teg, yn galw ar weinyddiaeth Carwyn Jones i osod esiampl fel cyflogwr a phenodi mwy o uwch swyddogion benywaidd o fewn y gwasanaeth sifil.

Dywedodd Mr Jones bod deddfau a rheolau mewn grym ond bod "angen deall pam nad ydy hynny'n gweithio cyn gyflymed ag y bydden ni'n dymuno".

Mae'r adroddiad yn dilyn addewid gan y prif weinidog i arwain llywodraeth ffeministiaidd asicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf diogel yn Ewrop i fod yn ddynes.

Mewn rhai achosion, meddai adroddiad Chwarae Teg, "ticio blychau" mae cyrff cyhoeddus mewn cysylltiad â chydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Gan alw ar Lywodraeth Cymru i fod yn "feiddgar", dywedodd yr elusen: "I wireddu'r newid angenrheidiol er mwyn arloesi drwy'r byd o ran cydraddoldeb rhyw, bydd angen newid radical yn yr hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud."

Tua 42% o uwch swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n fenywod, meddai Mr Jones, sy'n dweud nad yw'r bwlch o 8% rhwng cyflogau dynion a merched yn "rhywbeth i ymfalchïo ynddo".

Er mwyn helpu mamau newydd i ddychwelyd i'w gwaith o fewn y llywodraeth, mae'r adroddiad yn galw am roi'r raddfa uwch o dâl mamolaeth pan fo tadau'n rhannu'r cyfnod o'r gwaith i ofalu am fabanod gyda'u partneriaid.

Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol

Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Arweinydd y Tŷ, Julie James: Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol.

'Llais y bobl leol'

Mae Gareth Bennett UKIP yn gofyn am sicrwydd y bydd "llais pobl leol yn cael ei gynrychioli yn y cynlluniau", ac y bydd eu llais yn arwain at "newid arwyddocaol".

Gareth Bennett
BBC

Tasglu'r Cymoedd 'ddim ar y raddfa sydd ei hangen i ddelio gyda'r heriau'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud nad yw tasglu'r cymoedd "ar y raddfa sydd ei hangen i ddelio gyda'r heriau" yn adfywio cymunedau'r Cymoedd.

Mae'n disgrifio'r tasglu fel rhywbeth sydd "heb gyllideb go iawn, ac â diffyg grym gwelidyddol" a heb y gallu i drawsnewid.

Mae'n cyferbynnu hyn gyda'r Dinas-ranbarthau "sydd ag arian ag ymrwymiad gwleidyddol".

Adam Price
BBC

Pryder am gasgliadau Sefydliad Bevan

Mae'r aelod Ceidwadol Mark Isherwood yn dyfynnu melin drafod polisi cymdeithasol sy'n dweud bod nad yw'r cynllun gweithredu yn cyrraedd y rheini sydd ei angen e fwya'.

Mae'n mynegi pryder bod Sefydliad Bevan wedi dod i'r casgliad ei fod "yn fwy o'r un peth".

Fe ddywedodd y Sefydliad nad oedd y buddsoddiad diweddar yn Ffynon Taf a Nantgarw mewn rhannau creiddiol o'r cymoedd.

Mark Isherwood
BBC

Mwy na 1,000 o bobl economaidd anweithgar wedi dechrau gweithio

Yn ôl Alun Davies, sy'n cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent yn y Cymoedd, yn ystod y 12 mis diwethaf, "mae mwy na 1,000 o bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn ardaloedd tasglu'r Cymoedd wedi dechrau gweithio gyda chymorth rhaglenni cyflogaeth o dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

"Mae dros 1,000 o bobl a busnesau bach wedi cael cyngor a chymorth busnes ac mae 100 o fentrau newydd ychwanegol wedi cael eu creu yn ardal tasglu'r Cymoedd."

Alun Davies
BBC

Targed i gael 7,000 o bobl mewn swyddi

Cyhoeddwyd y cynllun gweithredu Ein Cymoedd Ein Dyfodol flwyddyn yn ôl ac ynddo nodwyd y tair blaenoriaeth sydd wedi eu seilio ar adborth a gafwyd gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd.

Yn ôl y llywodraeth roedd y cynllun gweithredu yn amlinellu "cynllun uchelgeisiol ar gyfer sicrhau newid hirdymor ar draws Cymoedd De Cymru.

"Wrth wraidd y cynllun gweithredu a'r cynllun cyflawni, mae swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a fy nghymuned leol".

Mae targed i gael 7,000 o bobl mewn swyddi.

Mae'r rhaglen ar gyfer adfywio cymoedd y de wedi cael ei disgrifio gan felin drafod fel un sydd ddim yn cyrraedd y bobl sydd ei hangen fwyaf.

Yn ôl Sefydliad Bevan maen nhw ond wedi cynnig "mwy o'r un peth".

Adroddiad Cynnydd ar Ein Cymoedd, Ein Dyfodol

Nesaf yn y Siambr datganiad cynta'r prynhawn.

Mae'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies ar Adroddiad Cynnydd ar Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.

Cymoedd
SCOTT HORTOP/GETTY IMAGES

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

Julie James
BBC

Faint o blant allai elwa o olew canabis?

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a oes asesiad wedi cael ei wneud o faint o blant yng Nghymru sydd ag epilepsi difrifol ac y gallen nhw elwa o olew canabis.

Mae'r prif weinidog yn dweud y byddai angen i lywodraeth y DU gael gwared â chyfyngiadau cyn y gallai gael eu argymell yng Nghymru.

Olew canabis
BBC

'Pobl Caerdydd wedi cael eu camarwain ar y cynllun datblygu lleol'

Mae'r AC Annibynnol Neil McEvoy yn honni bod pobl yng Nghaerdydd wedi cael eu camarwain ar y cynllun datblygu lleol, gan feio Llafur.

"Dydw i ddim ac heb erioed fod yn arweinydd cyngor Caerdydd", yw ateb Carwyn Jones.

Neil McEvoy
BBC

Cefnogi pobl ifanc ag awtistiaeth

Mae Paul Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ei fesur awtistiaeth.

Mae Carwyn Jones yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth allan nhw i gefnogi pobl ifanc sydd ag awtistiaeth, ond nad oes rhaid i hynny gael ei wneud trwy fesur.

'Methu cyflawni cefnogaeth i blant gydag anableddau'

Mae arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies yn dweud bod adroddiad gan y comisiynydd plant yn bryderus iawn ac yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni cefnogaeth i blant gydag anableddau.

Mae'r prif weinidog yn ateb ei bod hi'n bwysig bod y llywodraeth yn rhoi ymateb priodol i'r adroddiad.

Paul Davies
BBC

Cadarnhau cytundeb Brexit

Dylai unrhyw gytundeb Brexit gael ei gadarnhau gan seneddau'r DU, ac os nad yw hynny'n digwydd, drwy etholiad neu refferedwm ar y cytundeb ei hunan, medd Carwyn Jones.

Carwyn Jones 'yn gwrthod derbyn realiti'

Mae Leanne Wood yn cyhuddo Carwyn Jones o wrthod derbyn realiti a ddim yn gwneud digon i amddiffyn Cymru rhag dim cytundeb Brexit.

Mae'n gofyn iddo gefnogi "pleidlais y bobl" ar y cytundeb terfynol.

'Dim lliniariad yn erbyn dim cytundeb Brexit

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a fydd Carwyn Jones yn ymrwymo i ddatblygu cynllun dim cytundeb Brexit i amddiffyn swyddi.

Mae Carwyn Jones yn dweud "nad oes lliniariad yn erbyn dim cytundeb Brexit.

"Y realiti yw fe fyddwn ni'n colli swyddi".

Leanne Wood
BBC

'Angen llywodraeth Lafur yn Whitehall'

Mae Carwyn Jones yn anghytuno gyda dadl Brexit Caroline Jones, ond yn dweud bod llywodraeth y DU, yn wir, mewn helynt.

"Dyna pam yr ydyn ni angen llywodraeth Lafur yn Whitehall", meddai.

'Stwnsh llwyr o Brexit'

Mae arweinydd grŵp UKIP Caroline Jones yn dweud bod llywodraeth y DU "mewn helynt ac yn ymddangos yn benderfynol i wneud cymaint o stwnsh llwyr o Brexit fel nad oes ganddon ni ddewis ond i aros yn yr UE", ac yn beirniadu'r cynigion gytunwyd arnyn nhw yn Chequers.

Caroline Jones
BBC

Y blaid Geidwadol 'yn hollol ranedig'

Mae'r blaid Geidwadol "yn hollol ranedig", medd y prif weinidog.

"Mae'n bryd iddyn nhw afael ynddi a dangos rhywfaint o arweinyddiaeth", meddai.

Amryw o grwpiau ymgynghorol a gweithredol yn helpu'r llywodraeth

Mae Carwyn Jones yn cyfeirio at amryw o grwpiau ymgynghorol a gweithredol sy'n helpu'r llywodraeth i ddeall "pa heriau" y mae'r sector yn eu hwynebu.

Carwyn Jones
BBC

Effaith Brexit ar addysg bellach ac uwch

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd.

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Brexit ar addysg bellach ac uwch?

Mae'n gofyn a yw'r llywodraeth yn cynllunio am y posibilrwydd o ddim cytundeb Brexit.

Myfyrwyr
PA

Croeso

Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

View more on twitter