a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal
  6. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?
  7. Dadl Fer: Diogelu dyfodol y Prince Madog

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Hwyl fawr

Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Gorffennaf 17 am wythnos olaf y Cynulliad cyn toriad yr haf.

Y Senedd
BBC

'Sicrhau dyfodol y Prince Madog'

Ac yn olaf yn y Siambr y prynhawn 'ma Dadl Fer gan Rhun ap Iorwerth.

Y pwnc yw "Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru".

View more on twitter

Y Llywodraeth yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru, sy'n derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion.

'Methiant i ddatblygu strategaeth economaidd ofodol'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud bod yna "fethiant i ddatblygu strategaeth economaidd ofodol ar sail leol neu ranbarthol".

Beirniadaeth o'r llywodraeth

Fis Hydref y llynedd fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig feirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl i ffigyrau ddangos fod £221m o arian cyhoeddus wedi ei fuddsoddi mewn parthau menter ers 2012.

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ar y pryd, roedd yn golygu fod y trethdalwyr yn talu £20,656 am bob swydd sydd wedi ei chreu.

10 o argymhellion

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George, yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud deg o argymhellion.

Yn eu plith:

Dylai Llywodraeth Cymru wneud yn eglur beth yw ei blaenoriaethau ar gyfer yr Ardaloedd Menter, gan gyhoeddi targedau blynyddol clir, a dylai Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gyllido, rolau a chyfnod gweithredol yr Ardaloedd Menter yn y dyfodol.

Russell George
BBC

Dysgwch ragor am farn y pwyllgor

Wyth o Ardaloedd Menter

Mae wyth ardal:

  • Ynys Môn- a fydd yn canolbwyntio ar y sector ynni
  • Canol Caerdydd- a fydd yn canolbwyntio ar y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
  • Glannau Dyfrdwy- a fydd yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu uwch
  • Glynebwy- a fydd yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu
  • Dyfrffordd y Ddau Gleddau- a fydd yn canolbwyntio ar y sector ynni ac amgylchedd
  • Eryri- a fydd yn canolbwyntio ar y sectorau ynni, amgylchedd a TGCh
  • Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan- a fydd yn canolbwyntio ar y sector awyrofod
  • Glannau Port Talbot– sy’n canolbwyntio ar y sectorau gweithgynhyrchu uwch, ynni a’r amgylchedd, ac adeiladu.

Dadl: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?

Nawr dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r Ardaloedd Menter yn "cynnig cymhellion arbennig i ddenu busnesau newydd i leoliadau ardderchog yng Nghymru gan ddefnyddio dull Cymreig sy'n ffitio i'r dim.

"Nod yr Ardaloedd Menter yw:

  • meithrin twf yn yr economi leol a darparu swyddi newydd
  • bod yn gatalydd ar gyfer twf mewn ardaloedd eraill yng Nghymru
  • gwneud yr Ardaloedd Menter yn fwy atyniadol i fuddsoddwyr
  • gwneud economi Cymru yn fwy cystadleuol

Bydd pob lleoliad yn canolbwyntio ar un sector targed allweddol. Mae canolbwyntio ar sectorau'n rhan annatod o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i greu swyddi ac i ddatblygu twf cynaliadwy".

Llywodraeth Cymru yn gwrthod un argymhelliad

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru, sy'n derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor deg o'r argymhellion ond yn gwrthod hwn:

Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu dull ar gyfer asesu’r cyfuniad priodol o sgiliau sydd ei angen ar gyfer staff cartrefi gofal, a llunio canllawiau ar hyn i sicrhau bod lefelau staffio diogel a phriodol ym mhob cartref gofal, a bod gan staff yr amser i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Yn ôl y llywodraeth "Mae sicrhau bod cartrefi gofal wedi’u staffio’n briodol a bod gan y staff yr wybodaeth, y cymhwysedd, y sgiliau a’r cymwysterau gofynnol yn hanfodol i sicrhau gofal diogel o ansawdd uchel.

"Nid ystyrir bod angen mecanwaith ychwanegol".

Ymateb Llywodraeth Cymru 'ddim yn darparu sicrwydd'

Mae'r aelod Llafur Lynne Neagle yn dweud "y cwestiwn i mi heddiw yw a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn darparu y sicrwydd y mae'r pwyllgor yn edrych amdano, ein bod ni'n mynd i weld camau pendant i atal y defnydd anaddas o feddyginiaeth wrthseicotig".

"Mae'n rhaid i mi ddweud, gwaetha'r modd, i mi, dyw e ddim".

Lynne Neagle
BBC

'Meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio’n rheolaidd mewn ymateb i ymddygiad heriol'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Dai Lloyd, yn cyflwyno'r adroddiad.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio’n rheolaidd mewn ymateb i ymddygiad heriol, yn lle bod staff yn ceisio nodi gwir achos yr ymddygiad.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor, lle mae ymddygiad rhywun sydd â dementia yn heriol, yn aml, mae oherwydd angen nas diwallwyd na all yr unigolyn hwnnw ei fynegi. Mae’r adroddiad yn galw am asesiadau cynhwysfawr sy’n canolbwyntion ar yr unigolyn er mwyn nodi anghenion pobl a’u bodloni’n llawn.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw adolygiadau o feddyginiaethau yn digwydd yn ddigon aml ar gyfer pobl sydd â dementia, ac unwaith y bydd meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi (gan gynnwys meddyginiaethau gwrthseicotig) mae’n aml yn mynd rhagddi gyda phresgripsiynau amlroddadwy am gyfnodau hir heb fonitro effeithiol (er gwaethaf y ffaith bod defnydd estynedig yn cynyddu’r risgiau).

Dai Lloyd
BBC

Dadl: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Nesaf mae'r aelodau yn cael dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

Y llynedd fe ddywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar y pryd y dylai data ar y defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal gael ei fonitro yn agosach.

Dywedodd Sarah Rochira fod defnyddio'r cyffuriau i reoli "ymddygiad heriol" ymysg cleifion dementia yn "hollol annerbyniol".

Ychwanegodd fod angen cadw data manylach er mwyn gweld union faint y broblem, a gweld os yw'r cyffur yn cael ei ragnodi yn anaddas.

Meddyginiaeth wrthseicotig
Thinkstock

Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru sy'n dweud eu bod yn derbyn yr holl argymhellion.

Mae'n dweud "rydyn ni'n cydnabod bod yna wersi i'w dysgu o elfennau o'r modd y deliodd Llywodraeth Cymru gyda'r prosiect hwn. Rydyn ni wedi cyflwyno prosesau newydd".

Wrth ymateb i bryderon Adam Price y gallai fod yna gasino ar y safle fyddai wedi bod yn gartref i Gylchffordd Cymru, mae Ken Skates yn dweud "dydyn ni ddim yn agored o gwbl i bresenoldeb casino yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU".

Ken Skates
BBC

'Catalog arswydus o olwg byr gwleidyddol ac anallu gweinyddol'

Mae Neil Hamilton UKIP yn disgrifio gweithrediadau Llywodraeth Cymru fel "catalog arswydus o olwg byr gwleidyddol ac anallu gweinyddol, amharodrwydd i ateb a hyd yn oed dauwynebogrwydd".

'Cymru yn iard sbwriel o freuddwydion wedi'u chwalu'

Mae Adam Price Plaid Cymru yn disgrifio adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fel un "damniol" o weithrediad Llywodraeth Cymru ynghylch prosiect Cylchffordd Cymru.

Mae'n dweud "ar yr olwg gyntaf mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion, ond pan yr ydych chi'n tyrchu trwy'r manylion, mae yna amheuaeth o hyd a yw'r gwir y tu ôl i'r feirniadaeth wedi eu taro".

Mae'n ychwanegu bod "Cymru yn iard sbwriel o freuddwydion wedi'u chwalu".

Adam Price
BBC

13 o argymhellion

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Nick Ramsay, yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 13 o argymhellion.

Yn eu plith argymell bod Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei rheolaethau i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus mewn perthynas â:

 Hawliadau sy’n ymwneud â thaliadau am wasanaethau ar sail taliadau cadw, i sicrhau bod y gwasanaethau wedi cael eu darparu;

 Hawliadau am daliad sy’n ymwneud â chwmnïau neu unigolion sy’n bartïon cysylltiedig, p’un a ydynt yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar yr hawlydd ai peidio neu ar y ffordd y caiff y prosiect a ariennir ei gynnal.

 Hawliadau sy’n ymwneud â thaliadau am wasanaethau ar sail taliadau cadw, i sicrhau bod y gwasanaethau wedi cael eu darparu;

 Hawliadau am daliad sy’n ymwneud â chwmnïau neu unigolion sy’n bartïon cysylltiedig, p’un a ydynt yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar yr hawlydd ai peidio neu ar y ffordd y caiff y prosiect a ariennir ei gynnal.

Nick Ramsay
BBC

Prosiect Cylchffordd Cymru

Ymlaen nawr at ddadl gynta'r dydd.

Mae'n ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.

Mae'r pwyllgor yn dweud bod y cyhoedd wedi cael "eu camarwain".

Ym mis Chwefror eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud am y tro cyntaf y bydden nhw ond wedi bod yn fodlon gwarantu chwarter cost Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy.

Cafodd y cynllun terfynol ar gyfer y trac rasio, oedd yn gofyn i weinidogion warantu tua hanner cost y prosiect £433m,ei wrthod haf diwethaf.

Dywedodd prif was sifil Llywodraeth Cymru, yr ysgrifennydd parhaol Shan Morgan, wrth ACau'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus fod hynny'n uwch na'r lefel fyddai wedi bod yn dderbyniol.

Roedd datblygwyr y trac rasio wedi dweud y byddai'n creu hyd at 6,000 o swyddi ym Mlaenau Gwent.

Cylchffordd Cymru
Cylchffordd Cymru

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Mae ACau yn pasio cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Roedd yr adroddiad yn argymell diwygio Rheol Sefydlog 18 i sicrhau y gall y "Pwyllgor cyfrifol" gyflwyno Memorandwm Swyddog Cyfrifyddu i ddeiliad newydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Datganiadau 90 Eiliad

Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

'Delio gyda'r heriau sy'n wynebu'r gweithlu meddygol'

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud y bydd y cam yma yn delio gyda'r heriau sy'n wynebu'r gweithlu meddygol.

Mae Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes wedi dweud bod hyn yn "ddatblygiad cyffrous dros ben".

"Bydd y datblygiad hwn, fydd yn dechrau yn 2019, yn ein galluogi i fynd ati'n gyflym i ehangu'r addysg feddygol sy'n cael ei darparu ym Mangor ac i ddod â rhagor o fyfyrwyr meddygol i'r gogledd.

"Bydd hyn o fantais i gleifion ac i'r cyhoedd, yn ddiamau."

Dywed Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd: "Mae'n rhoi cyfle gwych i adeiladu ar y berthynas sy'n bodoli'n barod rhyngom a Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â'r byrddau iechyd prifysgol cysylltiedig.

"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu inni fwrw ymlaen â'r gwaith o ehangu mynediad at feddygaeth a chynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gan fynd i'r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth."

Vaughan Gething
BBC

Cwestiwn Amserol 2 - Ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yn y gogledd

Mae'r ail Gwestiwn Amserol gan Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon?

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio meddygaeth yn llwyr yng ngogledd Cymru yn y dyfodol ar ôl i'r Ysgrifennydd Iechyd gyhoeddi cynlluniau i ehangu addysg feddygol ledled Cymru.

Mae disgwyl i'r cynlluniau ddod i rym yn 2019 yn sgil cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Yn ogystal bydd arian yn cael ei roi i ddarparu 40 o leoedd newydd i fyfyrwyr meddygol o fis Medi ymlaen - 20 yn ysgol feddygol Caerdydd ac 20 yn ysgol feddygol Abertawe.

Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau mwy o gyfleoedd yn y gorllewin.

Meddygaeth
BBC

Y defnydd o rhwyll i gael ei gyfyngu yng Nghymru

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn dweud "Yng Nghymru fe fydd y defnydd o rhwyll yn cael ei gyfyngu ar yr un sail ag yn Lloegr, hyd nes bod amddiffyniad ychwanegol yn ei le".

rhwyll
BBC

Cwestiwn Amserol 1 - Llawdriniaethau sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG

Mae'r Cwestiwn Amserol cyntaf gan Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdrinaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y llawdriniaethau hyn yn Lloegr?

Mae angen defnyddio dulliau amgen o drin cleifion sy'n dioddef o brolaps neu anymataliaeth (incontinence), yn ôl grŵp sydd wedi cael sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae mewnblannu rhwyll yn y fagina (vaginal mesh) yn un o'r triniaethau sy'n cael eu cynnig, ond mae arbenigwyr yn dweud bod angen ystyried ffyrdd eraill o drin wrth i nifer o bryderon gael eu mynegi am y mewnblaniadau.

Cael llawdriniaeth ddylai fod yr opsiwn olaf, medd arbenigwyr.

Mae rhai mewnblaniadau rhwyll wedi achosi cymhlethdodau poenus i gleifion.

Yn ôl adroddiad y grŵp mae angen hybu mesurau a fyddai'n atal problemau fel prolaps.

Nodir hefyd bod angen i gleifion gael mwy o wybodaeth a bod angen gwell proses o gydsynio.

Jack Sargeant
BBC

Cwestiynau Amserol

Symudwn ni ymlaen nawr at y Cwestiynau Amserol.

Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

Cwestiynau
BBC

Taclo camdrin cyffuriau

Mae Bethan Sayed Plaid Cymru yn gofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddelio gyda chamdrin cyffuriau yng Nghymru ynghyd â'r hyn a elwir yn dêl cyffuriau a throsedd "county lines" yng Nghymru.

Mae Alun Davies yn dweud "dros yr haf rydwi 'n gobeithio cyflwyno strwythurau lle y byddwn ni'n ffurfioli'r gwaith yr ydyn ni'n ei wneud gyda lluoedd yr heddlu".

Bethan Sayed
BBC

Pryder ynghylch nifer y fflatiau myfyrwyr sy'n cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd

Mae Gareth Bennett UKIP yn mynegi pryder ynghylch nifer y fflatiau myfyrwyr sy'n cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd, tra, meddai, ar yr un adeg mae'n ymddangos bod "diffyg galw am y rheini sydd eisioes wedi eu hadeiladu".

Gareth Bennett
BBC

'Canolbwyntio ar y rhai mwya bregus mewn cymdeithas'

Mae Alun Davies yn ateb "bydd y grant integredig newydd yn cael ei ddiogelu i ganolbwyntio ar y rhai mwya bregus mewn cymdeithas".

Alun Davies
BBC

Pryder am Bartneriaeth Teulu

Mae David Melding yn mynegi pryder y bydd cynnig Llywodraeth Cymru i gyfuno nifer o ffrydiau cyllido yn cael effaith andwyol ar y cynllun "Partneriaeth Teulu".

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Nesaf yn y Siambr cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.

Mae David Melding yn gofyn a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grantiau a ddarperir gan lywodraeth leol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

Gwasanaethau cyhoeddus
BBC

Galwad i lonyddu anifeiliad cyn eu lladd

Mae Neil Hamilton UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anifeiliad yn cael eu llonyddu cyn eu lladd.

Mae Lesley Griffiths yn dweud ei bod hi'n ystyried y mater mewn manylder ar hyn o bryd.

Neil Hamilton
BBC

'Cynhyrchu bwyd yn hanfodol bwysig'

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn ateb "mae cynhyrchu bwyd yn hanfodol bwysig".

Fe fydd ad-drefnu cymorthdaliadau fferm wedi Brexit yn cymryd lle taliadau yn seiledig ar dir yr UE gyda dwy gronfa wahanol o dan gynigion gan Lywodraeth Cymru.

Lesley Griffiths
BBC

'Torri'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd iachusol a'r gefnogaeth barhaol gyda thaliadau'

Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "dorri'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd iachusol a'r gefnogaeth barhaol gyda thaliadau".

Mae'n gofyn "ydych chi'n dal i gredu bod bwyd o'r fath yn ei hunan yn fudd cyhoeddus neu yn ddim ond yn gysylltiedig gyda budd amgylcheddol?"

Simon Thomas
BBC

Diffiniad o 'reolwr tir'

Mae Andrew RT Davies, sydd bellach yn llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion gwledig, yn gofyn am eglurdeb ar ddiffiniad Llywodraeth Cymru o "reolwr tir" yn yr ymgynghoriad gafodd ei lansio ddoe.

Ar ôl croesawu'r "19 stôn o eidion Cymreig gorau" i'w rôl newydd, mae'n ateb "mae'r mwyafrif o reolwyr tir yn ffermwyr".

Mae hi'n gwadu y bydd y system arfaethedig newydd ar gyfer cyllido amaethyddiaeth yn agored i randiroedd.

Andrew RT Davies
BBC

'Wedi dychryn gan nifer y perthi sy'n cael eu torri yn ystod y prif dymor nythu'

Mae Joyce Watson yn dweud "bob haf rydw i wedi fy nychryn gan nifer y perthi sy'n cael eu torri yn ystod y prif dymor nythu".

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn dweud y bydd hi'n cwrdd gydag awdurdodau lleol i weld sut y maen nhw'n cyflawni Deddf Amgylchedd 2016.

Joyce Watson and Hannah Blythyn
BBC

Rheoli perthi yn yr haf

Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan Joyce Watson.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli perthi yn yr haf?

Perthi
BBC

Croeso nôl i Senedd Fyw

Mae'r Cyfarfod Llawn ar fin dechrau gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Nôl am 1.30pm

Mae'r aelodau bellach yn cwrdd yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw'n ôl am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Y Senedd
BBC

Strategaeth y Gweithlu newydd erbyn diwedd 2019

Mae'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, yn dweud erbyn diwedd 2019 byddan nhw yn datblygu Strategaeth y Gweithlu newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, sy’n cynnwys "cynllunio modelau gweithlu newydd, cryfhau sgiliau ataliol llesiant a chyffredinol, sgiliau yn y Gymraeg, datblygu partneriaethau addysg a hyfforddiant strategol, cefnogi datblygiad gydol gyrfa ac amrywiaeth ar draws y gweithlu ehangach".

Huw Irranca-Davies
BBC

'Pwysig iawn i bobl sydd angen gofal fedru ei dderbyn yn eu dewis iaith'