a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
  3. Y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau pontio Ewrop
  4. Diwygio Llywodraeth Leol - y camau nesaf
  5. Diweddariad ar Ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Masnachfreintiau Rheilffyrdd Eraill sy'n Gwasanaethu Cymru a Buddsoddiad yn Seilwaith y Rheilffyrdd
  6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden
  7. Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018
  8. Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

    View more on twitter
  2. Penderfyniad ariannol mewn perthynas â Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

    Mae AC yn cymeradwyo cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.

    Roedd 45 o blaid, neb yn ymatal ac un [Neil McEvoy] yn erbyn.

  3. Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

    Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018.

    Y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans
    Image caption: Y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans
  4. Sefyllfa 'ofidus a hollol gywilyddus'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud gan mai Llafur sydd wedi bod yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru ers 1999, "os yw hwn yn adroddiad anodd i fwrdd Betsi Cadwaladr, mae e hyd yn oed yn anoddach i chi".

    Mae'n disgrifio'r sefyllfa fel un "ofidus a hollol gywilyddus".

    Michelle Brown
  5. Ymateb 'siomedig' i adolygiad Donna Ockenden

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn yn disgrifio ymateb yr ysgrifennydd iechyd i'r adolygiad dan law Donna Ockenden fel "siomedig".

    Mae'n dweud bod y bwrdd iechyd wedi bod yn gamweithredol o'r cychwyn ac wedi anwybyddu materion a oedd wedi cael eu codi gan staff yn gyson.

    Rhun ap Iorwerth
  6. 'Syfrdanol' bod neb wedi cael y sac

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn galw ar Vaughan Gething i ymddiheuro am y "methiannau" ers i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.

    Mae'n dweud ei bod hi'n "syfrdanol" nad oes unrhyw un wedi cael y sac.

    Mae'n gofyn a fydd yr adroddiad 520 tudalen yn cael ei gyflwyno i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron "iddyn nhw allu ystyried a oes achos i'w ateb yn nhermau dynladdiad corfforaethol".

  7. 'Cyflymu a gweithredu gwelliannau'

    Mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn dweud ei fod wedi gwneud ei ddisgwyliadau yn eglur i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    "Mae'n rhaid i'r bwrdd ganolbwyntio ei sylw ar gyflymu a gweithredu gwelliannau," mae'n ychwanegu.

    Vaughan Gething
  8. Datganiad: Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden

    Nawr datganiad ola'r prynhawn.

    Mae'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Cyhoeddi Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden.

    Yn ei hadroddiad hi fe wnaeth hi feirniadu'r rheolaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, gan ei ddisgrifio fel gwasanaeth eilradd.

    Mae ei hadolygiad annibynnol yn dweud bod arweinyddiaeth yn "hollol amhriodol a hynod wallus" ers i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei greu yn 2009.

    Dywedodd yr adroddiad bod y bwrdd yn "brin o staff", a'u bod yn ddibynnol ar "ewyllys da" eu gweithwyr.

    Mae'r adolygiad diweddaraf, a ddaw yn dilyn problemau yn ward Tawel Fan, yn canolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth a llywodraethiant Betsi Cadwaladr.

    Cafodd y ward seiciatrig 17 gwely ei chau yn 2013, ond fe benderfynodd yr ymchwiliad annibynnol nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol yno.

    Dywedodd Dr Ockenden bod staffio yn parhau'n her a bod hynny'n cael "effaith sylweddol" ar safon gofal i gleifion ac ysbryd staff.

    Tawel Fan
    Image caption: Tawel Fan
  9. Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i HS2 yn 'eitha rhyfedd'

    Mae David Rowlands UKIP yn dweud ei fod yn teimlo bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i HS2 yn "eithaf rhyfedd o gofio y bydd yn llyncu o leiaf £50 biliwn o fuddsoddiad".

    David Rowlands
  10. 'Ddyylen ni yng Nghymru fod yn gandryll am y modd yr ydyn ni'n cael ein trin'

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn diolch i'r Athro Mark Barry am ddatgelu y dystiolaeth "gignoeth" bod Llwybr Cymru Network Rail, sy'n cynrychioli 11% o rwydwaith y DU, wedi derbyn ychydig yn fwy na 1% o gyfanswm gwariant ar welliannau.

    Mae'n dweud "fe ddylen ni yng Nghymru fod yn gandryll am y modd yr ydyn ni'n cael ein trin".

    Adam Price
  11. 'Dim consensws ar ddatganoli cyllid Network Rail'

    Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn atgoffa ysgrifennydd y cabinet bod "datganoli cyllid Network Rail wedi cael ei ystyried gan y Comisiwn Silk a'i drafod yn ystod proses Dydd Gŵyl Dewi, a ni chafwyd consenws".

    Russell George
  12. 'Canfyddiadau cychwynnol yn gwbl glir'

    Ym mis Mai, cyhoeddodd Ken Skates mai'r Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd fyddai’n arwain y gwaith ar yr achos o blaid buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a hynny wrth i Lywodraeth y DU fuddsoddi £50 biliwn yn HS2.

    Mae Ken Skates yn dweud wrth ACau:

    "Mae canfyddiadau cychwynnol y gwaith hwn yn gwbl glir. Dyw Cymru ddim wedi cael cyfran deg o'r buddsoddiad yn rheilffyrdd y DU ers amser maith, gan olygu nad ydyn ni'n gweld y manteision economaidd sydd i’w gweld mewn rhannau eraill o'r DU.

    "Mae rheilffyrdd Network Rail yng Nghymru yn 11% o'r rhwydwaith, ond dim ond ychydig dros 1% o'r cyfanswm a wariwyd yng Nghymru a Lloegr y mae'n rheilffyrdd ni wedi'i gael.

    "Mae hynny wedi arwain at sefyllfa lle nad oes gan drenau ddewis ond teithio'n araf ar Brif Reilffordd De Cymru, at gyfyngiadau ar gapasiti ac ar gyflymder ar hyd llinell Arfordir Gogledd Cymru, prinder gwasanaethau i gymudwyr yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, a gwasanaethau trawsffiniol annigonol yng Ngogledd ac yn Ne Cymru.

    "Dw i'n dal i gefnogi HS2, ond dw i hefyd yn galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i wneud y dewisiadau iawn er budd Gogledd Cymru, ac yn pwyso arnyn nhw i liniaru effeithiau tebygol HS2 ar economi De Cymru."

    HS2
  13. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

    Diweddariad ar "Ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Masnachfreintiau Rheilffyrdd Eraill sy'n Gwasanaethu Cymru a Buddsoddiad yn Seilwaith y Rheilffyrdd".

    Ken Skates
  14. 'Ydyn ni'n symud gydag unrhyw bwrpas o gwbl tuag at uno gwirioneddol?

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud "dyw hi ddim yn eglur a ydyn ni'n symud gydag unrhyw bwrpas o gwbl tuag at uno gwirioneddol".

    Gareth Bennett
  15. 'Ansicrwydd diangen'

    Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn cwestiynu pam y gwnaeth Alun Davies "roi'r gorau i gynllun ei ragflaenydd [Mark Drakeford] o gyd-weithio rhanbarthol, o'r herwydd yn creu ansicrwydd diangen".

    Mae hi hefyd yn gwneud y pwynt y dylai'r cyhoeddiad na fydd 22 o gynghorau lleol Cymru yn cael eu gorfodi i uno fod wedi cael ei wneud yn y Senedd, yn hytrach nag yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

    Sian Gwenllian
  16. 'Helbul, digalondid ac ansefydlogi'

    Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud wrth Alun Davies "rydych chi a'ch rhagflaenwyr, am y tair i bedair blynedd ddiwethaf, wedi bod yn chwarae gyda chalonau, meddyliau a bywydau nifer sy'n gweithio o fewn llywodraeth leol".

    Mae'n dweud, ym mis Mawrth, fe wnaeth y Papur Gwyrdd "wthio'r botwm helbul, digalondid ac ansefydlogi".

    Janet Finch-Saunders
  17. 'Gweithgor annibynnol i hybu dull gweithredu cyffredin'

    Mae Alun Davies yn dweud bod y llywodraeth wedi derbyn 177 o ymatebion i'r Papur Gwyrdd Ymgynghorol - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl.

    O'r rheini wnaeth fynegi barn ar yr egwyddor o greu llai o awdurdodau mawr, roedd 54% o blaid y cynigion o fewn y Papur Gwyrdd gyda 46 y cant yn gwrthwynebu.

    Mae Mr Davies yn cyhoeddi ei fod, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn "bwriadu sefydlu gweithgor annibynnol i hybu dull gweithredu cyffredin a fydd yn llywio dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru."

    Mae'n dweud bod Derek Vaughan wedi cytuno i arwain y gwaith hwn ac ef fydd cadeirydd y gweithgor. Bydd y gweithgor yn cynnwys aelodau o lywodraeth leol yn bennaf, gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a bydd yn ystyried yr ystod eang o safbwyntiau a syniadau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

  18. Ailystyried cynlluniau

    Ddiwedd mis Mehefin fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies wrth arweinwyr cynghorau Cymru ei fod yn "hapus" i ailystyried cynlluniau i uno awdurdodau lleol.

    Ym mis Tachwedd y llynedd rhybuddiodd Mr Davies fod rhaid i gynghorau newid, neu byddai'r llywodraeth yn eu gorfodi i newid.

    Yn dilyn hynny cyhoeddodd y gweinidog gynlluniau i gwtogi'r nifer i gyn lleied â 10, gan ddweud "fod yn rhaid i'r cam nesaf newid y gêm".

    Wrth siarad yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Llandudno ddydd Iau, dywedodd y gweinidog y hoffai weld cynghorau'n "cydweithio er mwyn creu partneriaeth gyfartal".

    Er hyn, roedd y gweinidog ac arweinwyr y cynghorau yn gytûn nad yw'r nifer presennol o 22 awdurdod lleol yn gynaliadwy.

    Alun Davies
  19. Lleihau nifer y cynghorau

    Yn y gwanwyn bydd mesur yn cael ei gynnig i leihau nifer y cynghorau o 22, a bydd hefyd yn rhoi'r bleidlais i'r rhai sy'n 16 ac yn 17 oed mewn etholiadau cyngor.

    Mae gweinidogion wedi bod yn ceisio annog neu orfodi cynghorau i uno ers 2014.

    Ni fydd y mesur newydd yn cynnwys map o ffiniau newydd y cynghorau, ond yn hytrach, mae gweinidogion yn gobeithio y bydd yr awdurdodau lleol yn ail-strwythuro yn wirfoddol.

    Bydd anogaeth, ond nid gorfodaeth, i gynghorau uno
    Image caption: Bydd anogaeth, ond nid gorfodaeth, i gynghorau uno
  20. Diwygio Llywodraeth Leol - y camau nesaf

    Nesaf yn y Siambr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies: Diwygio Llywodraeth Leol - y camau nesaf.

    Llywodraeth Leol