Mae hi wedi bod yn glos yn Llanelwedd hyd yma, ac wedi dweud ar rai... gan gynnwys y mochyn yma.
BBCCopyright: BBC
Gwledd o fwyd
Sioe Frenhinol Cymru
Mae'r Neuadd Fwyd yn le pwysig i unrhyw un sy'n hoffi cig, caws a phob math o fwydydd eraill... a'n baradwys i unrhyw un sydd â dant melys!
BBCCopyright: BBC
'Rhaid i Gymru golli dim ar ôl Brexit'
Llywodraeth Cymru
Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths, yn dweud iddi fynegi ei phryderon am Gymru'n colli arian yn sgil Brexit i'r person sy'n gwneud y rôl ar ran Llywodraeth y DU, MIchael Gove, ar y maes heddiw.
Bydd trafodaethau brys yn cael eu cynnal ar faes y sioe yfory yn ymwneud â ffermwyr yn ei chael yn anodd bwydo eu hanifeiliaid yn sgil y tywydd sych a phoeth.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cwrdd ag Undeb Amaethwyr Cymru amser cinio yfory.
Dywedodd cyfarwyddwr yr undeb, John Mercer, heddiw bod y tywydd "wedi achosi problemau enfawr i gymunedau ffermio ar draws Cymru ac ar draws pob sector".
BBCCopyright: BBC
Yn ei gynefin naturiol!
Sioe Frenhinol Cymru
Y Welsh Whisperer ar y llwyfan perfformio yn diddanu'r gynulleidfa gyda'i ganeuon amaethyddol.
BBCCopyright: BBC
Gwilym yn cysgu'n braf
Sioe Frenhinol Cymru
Un o'r ymwelwyr ieuangaf yn y sioe eleni; Tomos Gwilym o Dreharris ger Merthyr, sy'n bedair wythnos oed.
Yn ystod cyfarfod flynyddol y gymdeithas dywedodd y cadeirydd John T Davies mai maes y sioe yw eu "hased fwyaf gwerthfawr" a'u bod yn gobeithio gallu cynyddu nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar y safle.
Cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei denu i'r maes yn Llanelwedd am y tro cyntaf eleni.
Yn ystod ymweliad â maes y sioe, dywedodd Huw Irranca-Davies fod delio gyda'r broblem yn flaenoriaeth genedlaethol.
Fe wnaeth arolwg cenedlaethol yn 2016-17 awgrymu bod 17% o bobl yng Nghymru - tua 440,000 o bobl - yn teimlo'n unig, ac mae'r broblem yn gallu bod yn waeth mewn ardaloedd gwledig ble mae cymunedau'n fwy ynysig ac yn bellach o wasanaethau cyhoeddus.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn!
Dyna'r cyfan gennym ni o'r Sioe Frenhinol am heddiw.
Diolch yn fawr am ddilyn y llif byw, a mwynhewch eich noson!
Cofiwch eich eli haul yfory!
Tywydd
Y gwres yn ormod i rai...
Sioe Frenhinol Cymru
Mae hi wedi bod yn glos yn Llanelwedd hyd yma, ac wedi dweud ar rai... gan gynnwys y mochyn yma.
Gwledd o fwyd
Sioe Frenhinol Cymru
Mae'r Neuadd Fwyd yn le pwysig i unrhyw un sy'n hoffi cig, caws a phob math o fwydydd eraill... a'n baradwys i unrhyw un sydd â dant melys!
'Rhaid i Gymru golli dim ar ôl Brexit'
Llywodraeth Cymru
Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths, yn dweud iddi fynegi ei phryderon am Gymru'n colli arian yn sgil Brexit i'r person sy'n gwneud y rôl ar ran Llywodraeth y DU, MIchael Gove, ar y maes heddiw.
Alun Cairns a Michael Gove ar y maes
Twitter
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ac Ysgrifenydd yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU, Michael Gove, wedi bod ar y maes heddiw.
Ymysg y sefydliadau gafodd eu sylw y prynhawn 'ma roedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac elusenau anifeiliaid fel yr RSPB a Dogs Trust.
Y Sioe Fawr: Lluniau dydd Mawrth
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Oni bai am ambell i gawod o law, mae hi wedi bod yn ddiwrnod cynnes ar y cyfan yn Llanelwedd.
Dyma gasgliad o rai o'r golygfeydd o'r maes heddiw.
Gwyliwch y cyfan yn fyw ar S4C
S4C
Trafodaethau brys ar effaith y tywydd
BBC Cymru Fyw
Bydd trafodaethau brys yn cael eu cynnal ar faes y sioe yfory yn ymwneud â ffermwyr yn ei chael yn anodd bwydo eu hanifeiliaid yn sgil y tywydd sych a phoeth.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cwrdd ag Undeb Amaethwyr Cymru amser cinio yfory.
Dywedodd cyfarwyddwr yr undeb, John Mercer, heddiw bod y tywydd "wedi achosi problemau enfawr i gymunedau ffermio ar draws Cymru ac ar draws pob sector".
Yn ei gynefin naturiol!
Sioe Frenhinol Cymru
Y Welsh Whisperer ar y llwyfan perfformio yn diddanu'r gynulleidfa gyda'i ganeuon amaethyddol.
Gwilym yn cysgu'n braf
Sioe Frenhinol Cymru
Un o'r ymwelwyr ieuangaf yn y sioe eleni; Tomos Gwilym o Dreharris ger Merthyr, sy'n bedair wythnos oed.
Llwyfan y Ffermwyr Ifanc yn denu'r torfeydd
Twitter
Llysiau mawr a lliwgar!
Sioe Frenhinol Cymru
Mae'r Gymdeithas Lysiau Cenedlaethol yng Nghymru wedi creu arddangosfa o'r rhai o'r pencampwyr yn y cystadlaethau tyfu llysiau eleni.
Ffrae am frandio bwyd yn cael sylw Taro'r Post
Taro'r Post
BBC Radio Cymru
Ai'r Ddraig Goch ynteu Jac yr Undeb sy'n gweithio orau i gwmnïau bwyd wrth werthu eu cynnyrch?
Dyna mae Garry Owen yn ceisio ei ddarganfod ar Taro'r Post heddiw.
Gallwch wrando ar y rhaglen tra'n dilyn y llif byw trwy glicio ar yr eicon uchod.
Ceisio denu digwyddiadau i faes y sioe
BBC Cymru Fyw
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eisiau denu mwy o ddigwyddiadau amrywiol i faes y Sioe Frenhinol, yn ôl aelodau.
Yn ystod cyfarfod flynyddol y gymdeithas dywedodd y cadeirydd John T Davies mai maes y sioe yw eu "hased fwyaf gwerthfawr" a'u bod yn gobeithio gallu cynyddu nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar y safle.
Cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei denu i'r maes yn Llanelwedd am y tro cyntaf eleni.
Y glaw wedi clirio!
Tywydd
Unigrwydd gwledig yn 'broblem gynyddol'
BBC Cymru Fyw
Mae angen taclo'r "broblem gynyddol" o unigrwydd yng nghymunedau gwledig Cymru, yn ôl y gweinidog gofal cymdeithasol.
Yn ystod ymweliad â maes y sioe, dywedodd Huw Irranca-Davies fod delio gyda'r broblem yn flaenoriaeth genedlaethol.
Fe wnaeth arolwg cenedlaethol yn 2016-17 awgrymu bod 17% o bobl yng Nghymru - tua 440,000 o bobl - yn teimlo'n unig, ac mae'r broblem yn gallu bod yn waeth mewn ardaloedd gwledig ble mae cymunedau'n fwy ynysig ac yn bellach o wasanaethau cyhoeddus.
Y Charollais ar eu gorau
Sioe Frenhinol Cymru
Oen gwryw Charollais yn cael ei osod i'w le er mwyn ei arddangos i'r beirniaid.
Gohebwyr yn gweddïo am haul!
Gohebwyr Radio Cymru ar Twitter
Twitter
O'r negeseuon yma ry'n ni'n amau bod rhai o ohebwyr Radio Cymru ddim yn rhy hapus i weld glaw ar faes y sioe!
Dau efaill ar bedair olwyn
Sioe Frenhinol Cymru
Yr efeilliaid Aled a Dewi o Lanymddyfri yn mwynhau ar gefn beic cwad, ond efallai bod pump oed ychydig rhy ifanc i yrru un...