Waw - dwi'n credu fod pawb angen gorffwys ar ôl y gêm yna!
Tom Lawrence (6 munud), Gareth Bale (17 munud), Aaron Ramsey (38 munud) a Connor Roberts (55 munud) yn rhoi dechrau anhygoel i Gymru yng nghystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd.
Ymlaen at Aarhus lle bydd Cymru'n herio Denmarc nos Sul - fe fyddwn ni nôl, ac fe fyddai'n braf iawn cael eich cwmni.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch a hwyl fawr
BBC Cymru Fyw
Waw - dwi'n credu fod pawb angen gorffwys ar ôl y gêm yna!
Tom Lawrence (6 munud), Gareth Bale (17 munud), Aaron Ramsey (38 munud) a Connor Roberts (55 munud) yn rhoi dechrau anhygoel i Gymru yng nghystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd.
Ymlaen at Aarhus lle bydd Cymru'n herio Denmarc nos Sul - fe fyddwn ni nôl, ac fe fyddai'n braf iawn cael eich cwmni.
C'MON CYMRU!!!
Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon
Twitter
SGOR TERFYNOL: Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon
Cynghrair y Cenhedloedd
Dyna'r chwiban olaf, a buddugoliaeth wych i Gymru.
Pwyllo nawr a gorffwys cyn teithio i Aarhus i herio Denmarc nos Sul.
Anaf?
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
"Mae Joe Allen yn edrych fel bod o wedi tynnu llinyn y gar neu rhywbeth - diom yn edrych yn gyffyrddus!"
Newyddion drwg yn yr amser ychwanegol i Gymru?
Seren y gêm - mae yna anghytuno!
BBC Camp Lawn
Mae Iwan Roberts yn credu mai Tom Lawrence yw'r chwaraewr gorau, ond Kath Morgan yn dewis David Brooks.
I fod yn deg, roedd y penderfyniad yn un hynod anodd heno!
Pum munud a dweud y gwir....
BBC Camp Lawn
Rhai'n anodd eu plesio!
Twitter
Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon
Eilyddio
Nawr mae Ben Davies yn gadael, ac mae Paul Dummett yn dychwelyd i'r maes rhyngwladol.
Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon
Cynghrair y Cenhedloedd
Bron yn bump!
Tyler Roberts yn dechrau a gorffen symudiad da, a Randolph yn gorfod bod ar ei ore i arbed cynnig ymosodwr Leeds.
.......?
Twitter
Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon
Eilyddio
Ond Gareth Bale sy'n cael ei dynnu i ffwrdd gan Giggs, gan roi cyfle i'r ymosodwr ifanc Tyler Roberts.
Anaf i Davies?
Kath Morgan
"Mae'n edrych fel bod Ben Davies wedi cael anaf bach, a dwi'n credu bydd e'n gadael cyn hir."
Mae gan Gymru gêm bwysig arall nos Sul wrth gwrs, felly gobeithio nad yw'r anaf yn un drwg.
Ampadu'n gadael
Eilyddio
Mae'r llanc 17 oed wedi cael gêm wych, ond mae'n cael ei dynnu o'r maes am yr 20 munud olaf gyda Matthew Smith o Manchester City'n cymryd ei le.
Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon
Gôl!
Camgymeriad gan Aaron Ramsey, a gôl i Shaun Williams!
Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon
Twitter
Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon
Cynghrair y Cenhedloedd
Mae'r bêl yn y rhwyd eto....ond mae Gareth Bale yn camsefyll.
Piti mawr wrth i Ampadu ganfod Bale gyda phas ardderchog, ond er i Bale rwydo fydd hi ddim yn cyfri.
Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
"Mae hyn fel gwylio cath yn chwarae hefo llygoden ...jyst cyn ei lladd hi!"
Diolch am y darlun bach yna Iwan....
Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon
Cynghrair y Cenhedloedd
Pas gan Bale ar draws y cwrt cosbi - cefnwr ifanc Abertawe'n rheoli'n berffaith cyn taro foli i'r gornel.
Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon
Gôl!
CONNOR ROBERTS!!!!!
BOBL BACH!
Cymru 3-0 Gweriniaeth Iwerddon
Cerdyn Melyn
Ciaran Clark o Weriniaeth Iwerddon sy'n gweld cerdyn am dacl fler a hwyr ar Gareth Bale, ond mae Bale yn holliach.