a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  4. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyllido Addysg Bellach
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Creu'r Diwylliant Cywir
  6. Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig
  7. Dadl Fer: Trafnidiaeth Cymru: y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Tachwedd 27.

    Y Senedd
  2. Dadl Fer: Y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn

    Ac yn olaf yn y Siambr Dadl Fer gan Rhianon Passmore.

    A'r pwnc: Trafnidiaeth Cymru: y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn.

  3. 'Ni ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach '

    Mae cynnig

    Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)Sian Gwenllian (Arfon)Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

    bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.

    2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018.

    3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm.

    4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.

    Yn cael ei basio.

    Roedd 22 o blaid, 3 yn ymatal a 21 yn erbyn.

    pleidlais
  4. Rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn atgoffa ACau bod newidiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ers 1 Tachwedd yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

    Dros y misoedd diwethaf, mae ymgyrchwyr mewn rhai ardaloedd wedi cyhuddo cynghorau o geisio cyflymu'r broses o gau rhai ysgolion.

    Yn ôl Kirsty Williams, rhaid archwilio pob opsiwn posibl cyn penderfynu cau, gan gynnwys creu cyswllt gydag ysgolion eraill.

    Am y tro cyntaf, bydd 219 o ysgolion yn cael eu rhestru fel rhai gwledig o dan y drefn newydd.

  5. Ymgynghoriad ar Ysgol Gynradd Llancarfan

    Mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies yn tynnu sylw at y ffaith bod ymgynghoriad statudol mis o hyd ym Mro Morgannwg ar gynlluniau i symud disgyblion o Ysgol Gynradd Llancarfan i adeilad "ysgol fawr" gwerth £4m bum milltir i ffwrdd yn y Rhws - wedi dechrau.

    Mae ysgol wedi bod yn y pentref ers 1875 ac mae ychydig dros 100 o ddisgyblion ar y gofrestr ond mae'r cyngor yn amcangyfrif bydd y niferoedd yn gostwng ymhellach.

  6. Cynigion i gau dwy ysgol wledig wedi eu rhuthro drwodd?

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau David Rowlands yn atgoffa ACau bod Cyngor Sir Fôn wedi wynebu cyhuddiadau o ruthro i gau ysgolion cyn i reolau newydd ddod i rym sy'n rhoi ceisio diogelu ysgolion gwledig.

    Mae dwy ysgol wledig yn mynd i gau yn Sir Fôn, yn dilyn pleidlais yn y cyngor.

    Fe fydd disgyblion Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir yn ardal Llangefni yn symud i ysgol newydd gerllaw.

  7. Geiriad y ddeiseb

    Mae'r ddeiseb yn "galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau'r côd trefniadaeth ysgolion presennol a'r côd newydd (pan ddaw i rym) gan gynnwys gweithredu'n unol â'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig.

    "Derbyniwn nad yw hyn yn golygu na chaiff ysgol wledig byth ei chau, ond mae penderfyniad diweddar Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i gau ysgol Bodffordd yn dangos bod rhwydd hynt i awdurdodau lleol anwybyddu'r côd newydd (y maent i fod i weithredu yn unol â'i ysbryd) a chau hyd yn oed ysgolion poblogaidd a llawn".

  8. Gwahaniaeth rhwng y cynulliad a'r llywodraeth

    Mae Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru.

    Dylai'r prif weinidog barhau i ymchwilio i gwynion am ymddygiad ei weinidogion, meddai.

    Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus y gallai greu dryswch ynghylch y gwahaniaeth rhwng y cynulliad a'r llywodraeth.

    Mae'r llywodraeth yn credu y gallai gofyn i'r comisiynydd safonau - sy'n cael ei benodi gan, ac sydd yn atebol i'r cynulliad - i ymchwilio i gwynion am ymddygiad gweinidogion "greu dryswch ym meddyliau'r cyhoedd ynghylch lle y mae'r cyfrifoldeb am ymddygiad gweinidogion".

    Julie James
  9. Cynghorydd annibynnol ond wedi cael ei ddefnyddio unwaith

    Unwaith yn unig y mae cwyn am weinidog wedi cael ei gyfeirio at gynghorydd annibynnol, sef yr un yn erbyn y prif weinidog ei hun wedi honiadau o fwlio yn y senedd.

    Yn yr achos yna fe ddyfarnodd James Hamilton nad oedd Carwyn Jones wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

    James Hamilton
    Image caption: Dyfarnodd James Hamilton nad oedd Carwyn Jones wedi gwneud unrhyw beth o'i le
  10. 'Allai ddim mynegi pa mor siomedig yr ydw i'

    Mae Helen Mary Jones Plaid Cymru yn dweud "Allai ddim mynegi pa mor siomedig yr ydw i" gyda Llywodraeth Cymru am wrthod argymhelliad 12.

    Mae'n dweud y dylai fod yna ymateb unfrydol i adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

  11. Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwad i ddiwygio'r drefn o ddelio gyda chwynion am weinidogion

    Roedd y Pwyllgor Safonau wedi dweud y dylai cwynion yn erbyn gweinidogion gael eu rhoi gerbron y Comisiynydd Safonau yn hytrach na'r prif weinidog ei hun.

    Ar hyn o bryd, mae unrhyw gŵynion am Aelodau Cynulliad yn cael eu rhoi gerbron y Comisiynydd, Syr Roderick Evans, ond os ydynt yn weinidogion Llywodraeth Cymru yna Carwyn Jones ei hun sy'n dyfarnu.

    Yn ôl y drefn bresennol, gall y prif weinidog gyfeirio'r gŵyn at gynghorydd annibynnol, ond does dim rhaid iddo wneud hynny.

    Er y galw mae Carwyn Jones wedi gwrthod y cynnig am ddiwygio ac am barhau â'r drefn bresennol.

    Dywedodd y gallai newid y drefn achosi dryswch rhwng Llywodraeth Cymru a'r Senedd.

  12. 'Un rheol i aelodau cynulliad ac un arall i weinidogion'

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn mynegi ei "siomedigaeth" bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 12 "bod y Prif Weinidog yn gweithio gyda’r Comisiynydd Safonau i sefydlu protocol erbyn haf 2019 lle caiff pob cwyn ei chyfeirio at swyddfa’r Comisiynydd a bod y Comisiynydd wedi hynny yn llunio adroddiad ar gyfer y corff perthnasol".

    Mae Mr Davies yn dweud "mae hyn yn anfon y neges bod yna un rheol i aelodau cynulliad ac un arall i weinidogion".

    Paul Davies
  13. Arolwg urddas a pharch blynyddol

    Mae Cadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant, yn cyflwyno'r adroddiad sydd yn gwneud 21 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw bod "Comisiwn y Cynulliad yn cyhoeddi arolwg urddas a pharch blynyddol o Aelodau’r Cynulliad, staff cymorth a staff y Comisiwn ac yn cyflwyno’r canfyddiadau a chynllun gweithredu cysylltiedig i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad".

    Mae Jayne Bryant yn dweud na all "newid diwylliant ddigwydd dros nos".

    Jayne Bryant
  14. Dadl: Creu'r Diwylliant Cywir

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Creu'r Diwylliant Cywir.

  15. £8 miliwn yn ychwanegol o gyllid

    Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, sydd â chyfrifoldeb dros Addysg Bellach, yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy i sicrhau bod athrawon mewn colegau Addysg Bellach yn cael eu talu’r un faint ag athrawon chweched dosbarth mewn ysgolion sy’n gwneud yr un swydd.

    Mae'n dweud y bydd y swm ychwanegol o £8 miliwn yn cyfrannu hefyd at gynnydd yng nghyflog staff cymorth mewn colegau Addysg Bellach, llawer ohonynt yn byw ar gyflog byw.

    Eluned Morgan
  16. 'Tanwario difrifol'

    Mae'r Ceidwadwr Mohammad Asghar yn dweud "o dan Llywodraeth Lafur Cymru, mae'r sector addysg bellach wedi diodde tanwario difrifol".

  17. 'Dewis gwleidyddol wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru'

    Mae Bethan Sayed yn dweud "bod dewis gwleidyddol wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Mae Addysg Bellach ers amser wedi cael ei gweld fel is bartner ac un llai mawreddog nag Addysg Uwch.

    "Mewn rhai ffyrdd mae wedi bod yn darged haws na sectorau eraill ar gyfer cyfyngiadau gwariant".

    Bethan Sayed
  18. Dadl: Cyllido Addysg Bellach

    Ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

    Mae'n ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyllido Addysg Bellach.

    Mae

    Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru) Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Sian Gwenllian (Arfon) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

    yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.

    2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018.

    3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm.

    4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.

  19. Ethol Aelod i bwyllgor

    Mae ACau yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.