a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Carwyn Jones yn colli ei sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog olaf ond dwy. Arweinydd y Tŷ Julie James yn ateb cwestiynau ar ei ran.
  2. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf ar Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol
  3. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf ar Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
  4. Dadl: "Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac "Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru"
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Awdurdodau Lleol
  6. Dadl Plaid Cymru - Tlodi

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

    View more on twitter
  2. 'Ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi'

    Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn dweud "Allech chi feddwl o wrando ar y ddadl yma bod diwygio lles wedi bod yn llwyddiant ysgubol".

    Gwelliant Llywodraeth Cymru yw:

    "Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

    Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad:

    a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl;

    b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;

    c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a

    d) ei bod yn "warthus" bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

    Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol".

    Rebecca Evans
  3. 'Ditiad o 20 mlynedd o lywodraeth Lafur yng Nghymru'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y ffaith bod gan Gymru'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig yn "dditiad a 20 mlynedd o lywodraeth Lafur yng Nghymru".

    Neil Hamilton
  4. Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn cynnig:

    "Dileu popeth a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhoi credyd cynhwysol ar waith.

    2. Yn nodi, yn ôl canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’, fod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain, mai Cymru yw’r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, a bod enillion fesul awr canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi sy’n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith".

  5. Dadl ar Dlodi

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl gan Blaid Cymru ar Dlodi.

    Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1.Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig.

    2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r adroddiad:

    a) bod newidiadau i nawdd cymdeithasol wedi cael effaith anghymesur ar fenywod, plant a phobl anabl;

    b) bod gan Gymru'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;

    c) nad oes gan Lywodraeth Cymru ffocws strategol ar fynd i'r afael â thlodi, heb ddangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith;

    d) bod anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn gwaethygu'r achosion strwythurol sydd y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu allan a digartrefedd; a

    e) bod tlodi yn ddewis gwleidyddol.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) ceisio'r pwerau i gyflwyno hyblygrwydd o'r fath wrth weinyddu credyd cynhwysol; a

    b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.

  6. 'Pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol'

    Gwelliant Llywodraeth Cymru yw:

    "Dileu popeth ar ôl 2 a rhoi yn ei le:

    • Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU.
    • Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru.
    • Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol".
  7. 'Chwilio am ffyrdd i ddarparu rhagor o arian ar gyfer llywodraeth leol'

    Ar ran Plaid Cymru mae Dai Lloyd yn "gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU".

    Mae'n dweud bod angen "parhau i chwilio am ffyrdd i ddarparu rhagor o arian ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer 2019/20".

    Dai Lloyd
  8. Gweinidog yn cwyno am ei llywodraeth ei hun

    Mae Darren Millar yn atgoffa ACau bod Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn wedi cyd-arwyddo llythyr yn cwyno am y ffordd y mae ei llywodraeth hi ei hun wedi torri cyllid i'w chyngor lleol, Sir y Fflint.

    Mae Darren Millar yn dweud bod "loteri côd post" mewn cyllid i ysgolion a chyllid arall.

  9. Dadl: Awdurdodau Lleol

    Dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig sydd nesaf, hynny ar Awdurdodau Lleol.

    Mae Darren Millar yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

    2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) adolygu a chynyddu'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20; a

    b) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.

    Darren Millar
  10. 'Ar ba gost?'

    Mae'r AC Annibynnol Caroline Jones yn dweud na all hi gefnogi syniadau am "Guggenheim Cymreig" pan nad oes modd dod o hyd i arian i gynnal gwasanaethau cyhoeddus elfennol.

    Caroline Jones
  11. 'Yr adroddiad yn galw am ddewrder'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dweud mai'r astudiaeth dichonolrwydd i oriel gelf gyfoes yw'r archwiliad gorau o'r mater mewn degawdau. Mae'n dweud bod yr adroddiad yn galw am ddewrder, a bod y celfyddyau gweledol wedi bod yn "berthynas dlawd" yn niwylliant Cymru.

  12. 'Gallai adeiladau diwydiannol fod yn gartref i oriel celf cyfoes newydd'

    Mae AC Llafur Pontypridd, Mick Antoniw, yn dweud y gallai adeiladau diwydiannol gwag ar draws de Cymru fod yn gartref i oriel gelf gyfoes newydd.

    Mick Antoniw
  13. Ie i Wrecsam... er mod i'n gefnogwr Clwb pêl-droed Caerdydd

    Mae arweinydd grŵp UKIP Gareth Bennett yn dweud ei fod yn cytuno mai Wrecsam ddylai fod yn gartref i amgueddfa bêl-droed genedlaethol.

    Mae'n dweud y byddai'n "symudiad da" i ail-bwysleisio pwysigrwydd gogledd Cymru fel cartref pêl-droed, er gwaetha'r ffaith ei fod e'n gefnogwr Clwb pêl-droed Caerdydd.

    Mae'n ychwanegu "mae bywyd diwylliannol yn dechrau ffynnu" ym Mhort Talbot (mae ocheneidiau o rywle yn y Siambr) ac y byddai rhoi galeri genedlaethol yno yn gymorth i'r dre.

  14. Gwelliannau Plaid Cymru

    Ar ran Plaid Cymru mae Llyr Gruffydd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru".

    Mae Plaid Cymru hefyd yn "croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac yn galw ar Lywodraeth Cymru "ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam".

    Mae Llyr Gruffydd yn canolbwyntio ar y syniad o amgueddfa bêl-droed. Mae'n adweud ei fod yn croesawu'r syniadau i greu amgueddfa o'r fath yn Wrecsam, ac yn atgoffa ACau mai ymgyrch gan Blaid Cymru dair blynedd yn ôl wnaeth ddadlau dros hyn.

    Llyr Gruffydd
  15. 'Uchelgais i greu rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae David Melding yn cynnig y gwelliant yma:

    "Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

    "Yn cydnabod gwerth y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth;

    "Yn croesawu'r argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu.

    "Yn credu bod yn rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd".

    Ar y cynnig i greu amgueddfa bêl-droed genedlaethol, mae'n dweud byddai "chwaraeon yn gyffredinol" yn ffocws gwell ac na all e feddwl am le gwell na Wrecsam ar gyfer amgueddfa genedaethol yng ngogledd Cymru.

    David Melding
  16. 'Cymru yn wlad sy'n gyforiog o gelf a diwylliant'

    Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas, yn croesawu'r dadansoddiad a'r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â'r "cyfleoedd a'r heriau y maen nhw'n eu cyflwyno".

    Mae'n dweud bod angen gwaith pellach cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.

    Mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn dweud bod Cymru "yn wlad sy'n gyforiog o gelf a diwylliant; mae ein hanes a'n treftadaeth yn elfennau allweddol o'n cymeriad, ac mae sut y caiff y rhain eu mynegi trwy gelf a chwaraeon bob amser yn werth eu trafod a'u harchwilio ymhellach.

    "Mae hwn yn gyfle gwych inni ystyried ein llwyddiannau yn y ddau faes hwn, ac ystyried sut i fabwysiadu ateb o Gymru i ddathlu ein llwyddiant yn y byd chwaraeon a rhoi platfform i'n celf fodern. Mae'r astudiaethau hyn yn ddechrau taith o ddod o hyd i fodel cyffrous o Gymru fydd yn dathlu y gorau sydd gennym i'w gynnig a rhoi'r cyfle i gymaint o bobl â phosib weld y trysorau hyn.

    "Mae'n rhaid inni sicrhau y gall bawb weld, mwynhau a chymryd rhan yn ein celfyddyd a'n diwylliant cyfoethog a bywiog.

    Dafydd Elis-Thomas
  17. Ni ddylid defnyddio un adeilad penodol ar gyfer oriel o gelf cyfoes

    Mae adroddiad arall yn dweud ni ddylid defnyddio un adeilad penodol ar gyfer oriel o gelf cyfoes, ac yn hytrach dylid comisiynu 50 darn o waith celfyddyd fyddai'n cael eu gosod mewn safleoedd ledled Cymru.

    Yn ail ran y cynllun byddai'r galeri yn defnyddio rhwng chwech ac wyth o safleoedd presennol ar draws y wlad ar gyfer arddangosfeydd.

    Yn ôl yr adroddiad byddai'r brand - Oriel Genedlaethol o Gelf Cyfoes Cymru - yn cael ei ddefnyddio fel enw ar y sefydliadau sy'n cymryd rhan, yn hytrach nag un adeilad.

    Ychwanegodd, mewn amser, y dylid adeiladu pencadlys ar gyfer y galeri.

    Mae'r adroddiad yn amcangyfrif y byddai tair rhan y cynllun yn costio unrhyw le rhwng £50m a £180m.

  18. Argymhellion Astudiaethau Dichonoldeb

    Mae astudiaeth ddichonoldeb wedi awgrymu y dylid creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol newydd i Gymru yn Wrecsam.

    Ond mae adroddiad arall wedi dod i'r casgliad y dylai oriel genedlaethol o gelf cyfoes gael ei rhannu rhwng safleoedd presennol o amgylch y wlad.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau ddarn ymchwil, oedd yn ystyried yr achos ar gyfer amgueddfa chwaraeon a galeri newydd.

    Mae'r llywodraeth eto i benderfynu a fyddan nhw'n derbyn yr argymhellion.

    Cafodd yr astudiaethau dichonoldeb eu comisiynu fel amod o gefnogaeth Plaid Cymru i gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2017.

    Mae'r adroddiad yn amcangyfrif y byddai'n costio £4.4m i greu'r amgueddfa bêl-droed, a byddai hynny'n cynnwys ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam.

    Ar ben hynny byddai angen cyfraniad blynyddol o tua £144,500 gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau rhedeg yr amgueddfa.

    Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu creu panel o arbenigwyr i wella'r gydnabyddiaeth o hanes y Cymry ym myd chwaraeon.

    Wrecsam yw clwb proffesiynol hynaf Cymru
    Image caption: Wrecsam yw clwb proffesiynol hynaf Cymru
    View more on twitter
  19. 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'

    Ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

    A'r pwnc: "Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac "Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru".

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb”.

    2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.

    3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.

  20. 'Ddim yn flaenoriaeth'

    Mae Leanne Wood Plaid Cymru yn dweud bod y ffaith na fydd dysgu Addysg Perthnasau a Rhywioldeb - mewn ffordd wahanol i addysg rhyw traddodiadol - "yn cael ei gyflwyno cyn 2022, yn dweud wrtha i nad yw'r mater hwn yn flaenoriaeth".